Bydd eiddo a thir glannau aber Hafren tan fwy o fygythiad llifogydd yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae angen inni gynllunio pa amddiffynfeydd y mae’u hangen yn y dyfodol, er mwyn diogelu cynifer o gartrefi a busnesau ag y bo modd. Wrth wneud hyn, mae angen inni ddiogelu amgylchedd naturiol yr ardal unigryw hon, hefyd. Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.
Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ddiwedd Gorffennaf 2013.