Atodiad 4 – Ffeithlenni ar gyfer sensitifeddau na ddangosir ar fap cyfleoedd Creu Coetir Glastir

Cymdogion a chymunedau

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1, 2

Ble i ddod o hyd i wybodaeth

Siaradwch â'r tirfeddiannwr a gwiriwch fapiau i sicrhau eich bod wedi nodi'r holl anheddau a chymunedau cyfagos ac eraill â diddordeb. Dechreuwch gyda chymdogion uniongyrchol, yn arbennig unrhyw eiddo sy'n edrych dros yr ardal blannu arfaethedig. Ystyriwch ymgysylltu â chymunedau lleol, yn arbennig os bydd yr ardal blannu'n weledig ohonynt neu os ceir mynediad ati trwy hawliau tramwy cyhoeddus.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Gall gwrthwynebiadau lleol oedi cynllun yn sylweddol, a gallent hyd yn oed rwystro cynllun rhag mynd yn ei flaen.

Mae Safonau Coedwigaeth y DU yn mynnu yr ystyrir ymgysylltu cymunedol, hyd yn oed os nad yw'r ardal yn hygyrch i'r cyhoedd. Gall ymgysylltu cynnar leihau'r tebygolrwydd y bydd camddealltwriaeth yn arwain at adweithiau negyddol i'ch cynlluniau. Mae'n bwysig bod yn rhagweithiol; unwaith i chi golli ewyllys da lleol gall fod yn anodd ei adennill.

Os gallwch wella dealltwriaeth o'r weledigaeth ar gyfer y coetir newydd a'r buddion o greu coetir, gallai hyn arwain at lefelau uwch o gefnogaeth pan fo cyfleoedd yn codi, megis gwirfoddoli neu ddiwrnodau agored.

Os yw eich cynnig yn galw am gydsyniad o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2017, bydd gofynion penodol ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus yn rhan o'r broses.

Canllawiau

Nodwch bawb sydd â diddordeb yn y cynnig creu coetir, gan gynnwys cymdogion a phartïon eraill â diddordeb. Ar gyfer cynlluniau mwy o faint, efallai y bydd digwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn angenrheidiol.

  • Cadwch gofnodion o drafodaethau â rhanddeiliaid, yn ogystal â manylion yr hysbysiadau ac ymatebion a dderbynnir
  • Ystyriwch a fyddai diwygiadau i'ch cynllun yn cael gwared ag unrhyw bryderon lleol
  • Rhowch fanylion sut a phryd yr ymgynghorwyd â chymunedau lleol wrth gyflwyno eich cynllun

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hawliau tramwy cyhoeddus

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Phobl: Cyfreithiol 1, 2

Ble i ddod o hyd i wybodaeth

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn ffyrdd mawr yn union fel y rhwydwaith ffyrdd arferol ac maent yn derbyn yr un amddiffyniad cyfreithiol. Y ffynhonnell wybodaeth fwyaf dibynadwy ar leoliad a statws hawliau tramwy cyhoeddus yw'r map a'r datganiad swyddogol y mae'r awdurdod priffyrdd lleol yn meddu arnynt, ac mae rhai awdurdodau'n cyhoeddi fersiwn ar-lein. Peidiwch â dibynnu'n unig ar chwilio am arwyddion a chamfâu yn ystod ymweliadau safle, oherwydd mae'n bosibl na fydd arwydd o hawl dramwy gyhoeddus yn y fan a'r lle. Defnyddiwch fapiau Arolwg Ordnans â gofal – nid yw eu gwybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus yn gwbl ddibynadwy ac mae eu mapiau'n dwyn ymwadiad penodol i adlewyrchu hyn.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Byddwn yn gwirio am hawliau tramwy cyhoeddus pan fyddwn yn gwirio eich cynllun. Ni ddylai mannau plannu rwystro hawl dramwy gyhoeddus, a rhaid rhoi digon o le clir i ofalu nad yw planhigion sy'n tyfu yn dod yn broblem wrth iddynt ddatblygu. Efallai y dymunwch ymgynghori â swyddog hawliau tramwy eich awdurdod lleol os oes amheuaeth. Cewch godi camfâu neu giatiau newydd (a adwaenir fel 'cyfyngiadau') ar draws hawl dramwy gyhoeddus gydag awdurdod ffurfiol yr awdurdod priffyrdd yn unig, felly cadwch hyn mewn cof wrth gynllunio unrhyw ffensys arfaethedig.

Canllawiau

  • Nodwch leoliad yr holl hawliau tramwy cyhoeddus yn eich cynllun, a sicrhewch na fyddant yn cael eu rhwystro gan y cynllun plannu arfaethedig
  • Wrth gyflwyno eich cynllun, darparwch dystiolaeth o awdurdodiad ar gyfer 'cyfyngiadau' newydd os yw eich cynnig yn cynnwys codi ffensys ar draws hawl dramwy gyhoeddus
  • Os yw'r ardal yn cynnwys llwybr hyrwyddedig megis Llwybr Cenedlaethol, yna cysylltwch â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor penodol

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ardaloedd tirwedd arbennig

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arfer Coedwigoedd – 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 7, 24

Ble i ddod o hyd i'r wybodaeth hon

Mae ardaloedd tirwedd arbennig yn ddynodiadau tirwedd lleol anstatudol a ddefnyddir gan y rhan awdurdodau, lleol fel Sir Gaerfyddin, cynllunio lleol i ddiffinio ardaloedd sy'n bwysig iawn o ran eu tirwedd, ond sydd y tu allan i ddynodiadau statudol megis parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Ychydig iawn o awdurdodau sy'n gofalu bod y wybodaeth ar gael ar eu gwefannau, ac nid yw wedi'i chofnodi ar wefan Lle. Gall fod yn anodd gwybod, felly, pan fo cynllun wedi'i effeithio.

Os yw arwynebedd eich cynllun yn fwy na 5ha, argymhellwn eich bod yn cysylltu â'r tîm Glastir ac yn gofyn i ni wirio a yw'n effeithio ar ardal tirwedd arbennig ac, os felly, gallwch gynnal ymgynghoriad cynnar.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Byddwn yn mynnu ymgynghoriad gan swyddog tirwedd yr awdurdod lleol neu ein cynghorydd tirwedd ranbarthol os yw cynllun Creu Coetir Glastir mewn ardal tirwedd arbennig a dros 5ha.

Bydd angen i chi ystyried unrhyw gyngor a ddarperir a'i gymryd i ystyriaeth yn eich cynllun.

Canllawiau

  • Os yw eich cynllun dros 5ha o faint, argymhellwn eich bod yn cysylltu â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk wrth lunio eich cynllun, a'ch bod yn gofyn i ni wirio a yw'n effeithio ar ardal tirwedd arbennig ac, os ydyw, eich bod yn cynnal ymgynghoriad cynnar
  • Ymgorfforwch unrhyw gyngor a ddarperir yn eich cynllun, a darparwch yr ymateb i'r ymgynghoriad wrth i chi ei gyflwyno i'w wirio

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae rhai awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth am eu hardaloedd tirwedd arbennig ar eu gwefannau.

Coed Hynafol (gan gynnwys hen goed, coed nodedig a choed treftadaeth)

Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) - Coedwigoedd a Bioamrywiaeth Canllawiau Coedwigaeth 23, 24; Coedwigoedd ac Amgylchedd Hanesyddol Arfer Gorau o ran Coedwigaeth 4; Canllawiau Coedwigaeth 6

Ble y gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon

Gallwch wirio a yw coeden hynafol wedi ei chofnodi yn y Rhestr Coed Hynafol er nad yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr.

Effaith ar gais Grant Creu Coetir (GWC)

Mae coed hynafol, hen, nodedig a threftadaeth yn cynnig gwerth eithriadol o ran diwylliant, hanes, tirwedd a chadwraeth natur oherwydd eu henaint, eu maint neu eu cyflwr. Dylid adnabod coed hynafol oddi mewn neu gerllaw i safle plannu arfaethedig trwy ymweld â'r safle a’u cofnodi ar y cynllun creu coetir. Dylai hyn gynnwys manylion sut y caiff y coed hyn eu diogelu.

Canllawiau

  • Ni ddylid plannu coed conwydd na pharatoi mecanyddol cyn plannu o fewn:-
    • naill ai 5m oddi wrth ymyl canopi coed hynafol
    • neu bellter o foncyff y goeden sydd 15 gwaith diamedr y goeden hynafol (diamedr y goeden ar uchder y frest) wedi’i fesur o foncyff y goeden
      pa un bynnag yw’r pellter mwyaf
  • Rhaid bod tir agored oddi mewn i byffer diffiniedig coeden hynafol

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cyrff dŵr

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Canllawiau Coedwigoedd 30, 31; Coedwigoedd a Phridd: Canllawiau Coedwigoedd 17; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 10; Arfer Da Coedwigoedd 5; Canllawiau Coedwigoedd 80, 81

Ble i ddod o hyd i wybodaeth

Dylai pob llyn, pwll, afon, nant a ffos ddraenio gael ei nodi gan ddefnyddio mapiau ac ymweliadau safle.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Wrth blannu o’r newydd dylid dilyn canllawiau Safon Goedwigaeth y DU ar goedwigoedd a dŵr, ac mae’n debygol y bydd angen trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 ar gyfer cynigion i blannu o fewn 8m i brif afon ddynodedig (a/neu strwythur amddiffyn rhag llifogydd).

Canllawiau

  • Dylai cynlluniau plannu newydd yn llain glustogi afonol cwrs dŵr ddilyn canllawiau Safonau Coedwigaeth y DU – plannwch 1,600 o goed brasddeiliog brodorol yr hectar i greu mwy o gysgod brith o fewn 10m i gyrsiau dŵr sy'n fwy na 2m o led ac o fewn 5m i gyrsiau dŵr sy'n llai na 2m o led
  • Gadewch 50m o dir agored neu byffer torlannol (coetir rhannol) o amgylch pwyntiau echdynnu dŵr ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus a phreifat
  • Peidiwch â phlannu o fewn 8m i strwythur amddiffyn rhag llifogydd oni bai bod gennych Drwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd

Gwybodaeth ddefnyddiol

Fforddfreintiau

Safonau Coedwigaeth y DU – Arferion Coedwigo Cyffredinol: Cyfreithiol 1

Ble i ddod o hyd i wybodaeth

Gall peiriannau fod uwchben y ddaear neu oddi dani, a gallant gynnwys trydan, nwy, telathrebu, dŵr a charthffosiaeth. Nid ydynt wedi'u nodi ar fap cyfleoedd Creu Coetir Glastir, felly mae angen i chi siarad â'r tirfeddiannwr, chwilio am dystiolaeth yn ystod ymweliadau safle, ac, os ydych yn dal i fod yn ansicr, yna ymgynghorwch â darparwyr gwasanaeth yn uniongyrchol neu defnyddiwch wasanaeth chwilio.

Wrth weithio, efallai y bydd angen defnyddio technegau osgoi ceblau os ydych yn gweithio ger gwasanaethau tanddaearol.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae angen i chi ymgynghori ag unrhyw ddarparwr cyfleustodau yr effeithir arno i gael cytundeb ganddo ar gyfer y gwaith plannu a chytuno ar unrhyw fesurau i osgoi effeithio ar ei beiriannau. Mae gan wahanol ddarparwyr gwahanol ofynion.

Canllawiau

  • Nodwch yr holl wasanaethau uwchddaearol a thanddaearol
  • Sicrhewch eich bod yn deall ac yn cymhwyso canllawiau'r darparwr gwasanaeth perthnasol
  • Darparwch dystiolaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cynllun i'w wirio

Gwybodaeth ddefnyddiol

Diweddarwyd ddiwethaf