Atodiad 1 – Ffeithlenni ar gyfer mannau o ddiddordeb

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arferion Coedwigo 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 99,872ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardaloedd o ansawdd golygfaol uchel sy'n cael eu hamddiffyn yn statudol. Yng Nghymru, mae pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef Bryniau Clwyd, Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Gŵyr, a Dyffryn Gwy.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Cysylltwch â'r swyddog AHNE lleol ar gyfer pob cynllun dros ddau hectar, yn unol â Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) (diwygio) 2017.

Canllawiau

  • Cysylltwch â'r swyddfa AHNE leol am ymateb i'r ymgynghoriad ar gyfer unrhyw gynllun plannu newydd arfaethedig dros ddau hectar
  • Diwygiwch y cynllun Creu Coetir Glastir i gynnwys y cyngor a ddarparwyd gan y swyddog AHNE a rhowch ei ymateb wrth gyflwyno eich cynllun

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o ffiniau statudol y pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mawn dwfn (gan gynnwys mawn dwfn wedi'i addasu)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arferion Coedwigo Da 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12; Coedwigoedd a Newid Hinsawdd: Canllawiau 5; Coedwigoedd a Phridd: Canllawiau Coedwigoedd 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 116,214ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn deillio o allbynnau adroddiad 2012 Forest Research, sy'n nodi'r holl ardaloedd mawndir yng Nghymru. Cafodd setiau data gofodol o briddoedd, daeareg a llystyfiant eu hasesu a'u cyfuno i greu map o adnodd mawn.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae Safonau Coedwigaeth y DU yn mynnu ein bod yn "osgoi sefydlu coedwigoedd newydd ar briddoedd â mawn sy'n ddyfnach na 50cm ac ar safleoedd a fyddai'n peryglu hydroleg cynefinoedd cyfagos o gorsydd neu wlyptiroedd". Ni ddylid plannu ar safleoedd â mawn sy'n ddyfnach na 50cm. Efallai y gall ardaloedd mawn dwfn hefyd gael eu nodi'n gynefin â blaenoriaeth.

Canllawiau

  • Tynnwch ardaloedd mawn dwfn oddi ar eich cynllun
  • Os oes gennych le i gredu nad oes mawn dwfn yn yr ardal, cewch gomisiynu arolwg ecolegol ac asesiad dyfnder mawn (gweler ein canllawiau ar ddarparu tystiolaeth ychwanegol)
  • Os oes ansicrwydd ynghylch y dystiolaeth a ddarparwyd, bydd y swyddog Glastir yn gofyn i arbenigwr ymweld â'r safle am asesiad annibynnol

Nodiadau data

Efallai y bydd anghywirdebau yn y data mawn dwfn. Os oes gennych le i gredu nad yw'r tir yn fawn dwfn, cewch gomisiynu arolwg ecolegol, sy'n cynnwys asesiad dyfnder mawn, a byddwn yn ei ddefnyddio i ystyried a fyddai plannu'n dderbyniol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Nodwedd yr Amgylchedd Hanesyddol (NAH)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Canllawiau Coedwigoedd 10

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 95,143ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos nodweddion a nodwyd gan ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru ar ran Cadw. Maent yn nodweddion amgylcheddol a thirweddau hanesyddol sy'n cadw presenoldeb ffisegol, ond nid ydynt yn cael eu hamddiffyn gan ddynodiad statudol.

Dyma'r pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru:

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Bydd pob cynnig i greu coetir Glastir yn galw am asesiad gan yr ymddiriedolaeth archaeolegol berthnasol. Dylid dilyn unrhyw gyngor a ddarperir. Pan fo nodwedd amgylchedd hanesyddol yn bresennol, efallai y bydd gofyn i chi ddiwygio eich cynllun i osgoi niweidio'r nodwedd.

Canllawiau

  • Amlygwch bresenoldeb unrhyw nodwedd amgylchedd hanesyddol wrth gysylltu â'r ymddiriedolaeth archaeolegol berthnasol
  • Pe bai angen, diwygiwch eich cynllun yn unol â'r cyngor a ddarparwyd, a rhowch ymateb yr ymddiriedolaeth gyda'ch cynllun pan fyddwch yn ei gyflwyno i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r ardaloedd wedi'u tynnu o gofnodion amgylchedd hanesyddol rhanbarthol y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol. Pan fo dwy neu fwy o nodweddion yn gorgyffwrdd neu'n agos iawn at ei gilydd mewn ardal, mae'r rhain wedi cael eu cyfuno i ffurfio ardal reoli unigol sy'n cynnwys mwy nag un nodwedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Parc a/neu ardd hanesyddol

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Arfer Da Coedwigoedd 2–4; Canllawiau Coedwigoedd 10;

Coedwigoedd a Thirwedd: Arferion Coedwigo Da 1 a 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 8-12.

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 17,785ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn nodi safleoedd sydd wedi'u cofnodi yng nghofrestr parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru. Lluniwyd y gofrestr i gynorthwyo perchnogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr a chyrff statudol i fod yn wybodus ynghylch y gwaith o warchod parciau a gerddi hanesyddol. Daw'r gofrestr yn statudol yn 2021, a gellir ychwanegu neu dynnu safleoedd ar unrhyw bryd. Mae oddeutu 400 o safleoedd yn y gofrestr ar hyn o bryd.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Nod y gofrestr yw atal niwed i nodweddion pwysig y safleoedd, megis cynllun, strwythur, nodweddion adeiledig ac elfennau planedig hanesyddol. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried arwyddocâd y safle, ei gymeriad a’i osodiad hanesyddol, ei gynllun, a’i olygfeydd ac ati, er mwyn llywio’ch cynlluniau plannu. Bydd y canllaw o arferion da, “Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru”, gan Cadw yn eich helpu i gyflawni’r broses hon (gweler yr adran ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ isod). Yn gyffredinol, bydd Cadw’n cefnogi unrhyw waith plannu sy’n gwella cymeriad a gosodiad hanesyddol y safle. Mae mapiau hanesyddol ar gael o sawl ffynhonnell ar-lein (gweler isod).

Mae’n ofynnol  ymgynghori â Swyddog Parciau a Gerddi Cadw.

Canllawiau

  • Anfonwch e-bost at cadw@gov.wales (gan nodi ‘At sylw Lisa Fiddes’ yn y llinell bwnc) i ofyn i Cadw am sylwadau ar eich cynnig, ac ymgorfforwch unrhyw argymhellion mae'n eu gwneud.
  • Darparwch yr ymateb i'r ymgynghoriad a thystiolaeth o'r modd rydych wedi ei fodloni yn eich cynllun pan fyddwch yn ei gyflwyno i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r haen hon yn deillio o gofrestr parciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru Cadw / y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cynefin posibl ar gyfer brithion dros rhedyn

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Coedwigoedd a Phobl; Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Dŵr 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 18,545 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Ardaloedd o redyn o fewn ardaloedd y gwyddys eu bod yn cynnal poblogaethau gloÿnnod byw penodol. Mae ardaloedd y gloÿnnod byw yn deillio o gofnodion a gedwir gan y sefydliad Gwarchod Gloÿnnod Byw ar gyfer brithion brown, brithion perlog, a brithion perlog bach. Cafodd ardaloedd o redyn o fewn yr ardaloedd hyn eu nodi trwy ddefnyddio Arolwg Cynefin Cymru.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae'r rhain yn rhywogaethau Adran 7 ac mae angen eu diogelu o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Gallai plannu coed mewn ardaloedd lle ceir cynefinoedd sy’n addas ar gyfer brithion ddinistrio poblogaethau o’r rhywogaethau a warchodir hyn.

Mae'n annhebygol iawn y caiff cynlluniau plannu arfaethedig a fyddai’n dinistrio cynefin sy’n addas ar gyfer brithion eu cymeradwyo. Os oes amheuaeth o ran a yw tir a amlygwyd yn gynefin addas, bydd y sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw yn gallu rhoi barn. Gallwch anfon e-bost at wales@butterfly-conservation.org.

Canllawiau

  • Ar gyfer unrhyw dir a gofnodwyd ar yr haen hon, cysylltwch â'r sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw i gadarnhau a yw'r ardal yn debygol o fod yn gynefin sy’n addas ar gyfer brithion ac i geisio cyngor. Dylech ddarparu lluniau o’r safle, a gwybodaeth sylfaenol am y rhywogaethau o blanhigion sy’n tyfu yno a’r dull presennol o reoli’r safle er mwyn helpu’r sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw i roi’r cyngor gorau posibl.
  • Peidiwch â chynnwys yr ardaloedd hyn yn eich cynllun, oni bai fod y sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw yn cadarnhau nad yw’r tir yn debygol o fod yn gynefin sy’n addas ar gyfer brithion.
  • Dilynwch unrhyw argymhellion eraill, a rhowch yr ymateb wrth gyflwyno eich cais i'w wirio.

Nodiadau data

Bydd cynefin sy’n addas ar gyfer y brith brown, y brith perlog, a’r brith perlog bach fel arfer yn cynnwys rhedyn ar lethrau sy'n wynebu'r de islaw 300 metr (er y gall ardaloedd sy'n wynebu'r dwyrain a'r gorllewin fod yn addas hefyd). Os yw’r sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw yn fodlon nad yw'r ardal yn gynefin addas i frithion fridio ynddi, rhowch dystiolaeth o hyn ac ni fyddwn yn ei hystyried fel cyfyngiad ar eich cynllun.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cynefin posibl ar gyfer ffyngau glaswelltir

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 16,422 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardaloedd y nodwyd eu bod yn debygol o ddarparu cynefin ar gyfer casgliadau o ffyngau glaswelltir, ac ar gyfer rhywogaethau unigol sydd wedi'u cynnwys ar restrau a baratowyd o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, neu ar Restr Goch rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol, sy'n fregus neu sy'n agos at fod dan fygythiad.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Gall fod yn anodd arolygu ffyngau glaswelltir. Mae ffrwythgyrff dim ond yn weladwy am oddeutu un mis y flwyddyn, felly gall y sawl sy'n asesu addasrwydd safle ar gyfer plannu coed eu colli'n rhwydd.

Os nodir bod yr ardal yn laswelltir heb ei drin, mae'n debygol iawn o gynnal ffyngau glaswelltir ac ni ddylid plannu yno. Os nad yw'n ymddangos bod yr ardal yn laswelltir heb ei drin, gallwch gyflwyno tystiolaeth ffotograffig (a dynnwyd yn ddelfrydol rhwng mis Mai a mis Hydref) i Cyfoeth Naturiol Cymru a gofyn am iddi gael ei hadolygu.

Canllawiau

  • Peidiwch â chynnwys yr ardal yn eich cynllun plannu, oni bai nad yw'n laswelltir heb ei drin
  • Os nad yw'r ardal yn laswelltir heb ei drin, cyflwynwch dystiolaeth ffotograffig gan ddefnyddio'r canllawiau i glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Bydd arbenigwr yn adolygu'r dystiolaeth a byddwn yn cadarnhau a ellir cynnal plannu newydd

Nodiadau data

Mae'r set ddata hon yn dangos sgwariau grid 1km yng Nghymru y cofnodwyd eu bod yn cynnwys naill ai o leiaf un rhywogaeth o ffwng glaswelltir sy'n 'nodedig' o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; a/neu o leiaf un rhywogaeth sydd wedi'i chynnwys ar Restr Goch rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol, sydd mewn perygl, sy'n fregus neu sy'n agos at fod dan fygythiad; neu gyfanswm o ddeg neu fwy o rywogaethau unigol. Mae rhai sgwariau'n cynnwys y ddwy set ddata.

Er bod data'r arolwg yn gymharol hen, mae cryn hyder y bydd ffyngau'n dal i fod yn bresennol yn yr ardaloedd hyn lle mae cynefin addas yn bodoli o hyd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cynefin posibl ar gyfer y fadfall ddŵr gribog

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Coedwigoedd a Phobl; Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Dŵr 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 49,994 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardaloedd lle gallai creu coetir effeithio ar gynefin y fadfall ddŵr gribog.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Dylai cynlluniau plannu yn yr ardaloedd hyn gael eu teilwra i ddarparu amodau ffafriol ar gyfer madfallod dŵr cribog. Gan eu bod yn rhywogaeth a warchodir, efallai y bydd angen trwydded ar gyfer rhywfaint o waith (gweler y ddolen isod).

Canllawiau

  • Mae angen ymateb gan ein harbenigwr amffibiaid i'r ymgynghoriad ar gyfer yr holl gynlluniau plannu newydd arfaethedig sy'n effeithio ar dir o fewn yr haen hon. E-bostiwch glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Sicrhewch eich bod yn cynnwys ei argymhellion yn y cynllun plannu newydd arfaethedig
  • Fel rhan o'r broses wirio, byddwn yn cadarnhau a yw trwydded madfallod dŵr cribog yn ofynnol
  • Fel canllaw, dylech fod yn barod i adael llain glustogi o 15m o leiaf heb ei phlannu, yn arbennig ar ochr ddeheuol y pwll, ystyried planhigion sywaith, a sicrhau bod rhodfeydd/llwybrau wedi'u cynllunio i alluogi mynediad priodol at byllau i'w cynnal a'u cadw

Nodiadau data

Mae'r set ddata hon yn dangos dosbarthiad cofnodion madfallod dŵr cribog a gasglwyd o arolygon, adroddiadau monitro, ffurflenni trwyddedau ac arolygon cynigion datblygu. Mae'r set ddata hon yn dangos pwyntiau lleoliad gyda llain glustogi 1km, gyda rhywfaint o fodelu ychwanegol (gweler y ddolen isod) i gynnwys coridorau bywyd gwyllt.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Haen Wirfoddol – Madfallod Dŵr Cribog - Arferion gorau

Nid yw hon yn haen ymgynghori orfodol. Nid oes rhaid glynu wrth yr ardaloedd a ddangosir yn yr haen hon a'r canllawiau cysylltiedig yma fel rhan o gynnig creu coetir ac ni fyddant yn effeithio ar ddilysiad eich cynllun. Fodd bynnag, byddai cynnwys yr argymhellion canlynol yn eich cynllun creu coetir o fudd i fadfallod dŵr cribog a llawer o amffibiaid eraill a allai fod yn bresennol.  

Mae'r haen hon o’r map yn dangos ardaloedd lle credwn fod potensial da fel cynefin ar gyfer y Fadfall Ddŵr Gribog ond lle nad yw eu presenoldeb wedi'i gofnodi'n ffurfiol.  Mae hyn yn seiliedig ar waith modelu cynefinoedd a dosbarthiad rhywogaethau, gwybodaeth am gynefin hysbys Madfallod Dŵr Cribog, ac ymchwil yng Nghymru gan CNC a'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Gall coedwigo sensitif fod o fudd i gynefinoedd llawer o amffibiaid, a bydd y canllawiau hyn yn cynnal cynefin a bioamrywiaeth mewn ardaloedd yr effeithir arnynt. Mae madfallod dŵr cribog, a rhywogaethau eraill o amffibiaid, yn gofyn am amrywiaeth o gynefinoedd llaith sy'n darparu mannau gorffwys ac yn cefnogi’r ysglyfaethau di-asgwrn-cefn maen nhw’n bwydo arnynt. Mae’n ymddangos bod madfallod dŵr yn arbennig o hoff o goetir.

  • Dyluniwch y cynllun plannu i gynnwys ardaloedd o byllau sy'n cysylltu cynefinoedd, ond gadewch barth clustogi o 15 metr o leiaf (o amgylch pyllau) heb eu plannu. Bydd llai o waith rheoli safleoedd yn y dyfodol os bydd ymylon pyllau yn cael eu gadael heb eu plannu.
  • Lle bo'n bosibl, ystyriwch ddarparu coed marw sydd wedi cwympo fel cysgod.
  • Ceisiwch osgoi sefydlu gorchudd prysgwydd a choed lle byddai effaith ar gyflenwad dŵr ar gyfer pyllau dŵr.
  • Os oes unrhyw byllau newydd yn cael eu creu, cyfeiriwch at y llawlyfr cadwraeth amffibiaid
  • Dylai mesurau bioddiogelwch fod ar waith wrth weithio mewn pyllau neu o'u hamgylch neu i atal rhywogaethau estron goresgynnol neu glefydau amffibiaid fel chytrid. Argymhellir bod gwaith yn cael ei wneud yn unol ag asesiadau risg bioddiogelwch. Mae rhagor o wybodaeth am fioddiogelwch ar gael yn nonnativespecies.org

Cynefin posibl ar gyfer adar sy'n ddibynnol ar dir agored

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Coedwigoedd a Phobl; Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Dŵr 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 100,214 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn nodi'r ardaloedd lle mae coedwigo'n debygol o effeithio ar rywogaethau adar sy'n ddibynnol ar dir agored i nythu neu fwydo. Mae'r haen yn defnyddio lleoliadau cynefin y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi'u cysoni â'u sgwariau grid 1km cyfatebol yn yr Arolwg Ordnans. Mae'r rhywogaethau'n cynnwys cornicyllod, cwtiaid aur, brain coesgoch a gylfinirod, ond nid yw'r haen gyhoeddedig yn manylu'r rhywogaethau a nodwyd.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae'r rhywogaethau hyn yn mynnu cynefin agored, ac maent yn agored i ysglyfaethu gan rywogaethau sy'n defnyddio coetir fel cuddfan. Ni fydd angen diwygio pob cynnig o fewn yr ardal glustogi, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen teilwra eich cynllun. Os yw eich safle'n cynnwys y nodwedd hon, bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ceisio cyngor gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ac wedi gweithredu yn ei ôl.

Canllawiau

  • Cysylltwch â'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (Jonathan.Cryer@rspb.org.uk), a gofynnwch am unrhyw argymhellion ar gyfer eich cynllun arfaethedig
  • Ymgorfforwch unrhyw argymhellion yn eich cynllun a darparwch ymateb y gymdeithas pan fyddwch yn ei gyflwyno i'w wirio

Nodiadau data

Mae cryn hyder yn gysylltiedig â'r data pwynt, ond rhoddir llain glustogi ragofalus iddo, felly mae angen asesu effeithiau a mesurau lliniaru posibl fesul achos. Yn gyffredinol, byddwn yn derbyn argymhellion y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, ac ni fyddwn yn gwireddu cynlluniau sy'n methu â rhoi sylw iddynt.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cynefinoedd â blaenoriaeth

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 248,084ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae cynefinoedd â blaenoriaeth yn fathau lled-naturiol, megis y rheini sydd wedi'u cynnwys yn y rhestrau a gychwynnwyd o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnwys parcdir, glaswelltir calaminaidd, glaswelltir iseldir (asidig, niwtral, corstir), rhostir iseldir, rhostir ucheldir, cynefinoedd arfordirol, glaswelltir calchaidd iseldir, glaswelltir calchaidd ucheldir, a chynefinoedd gwlyptir (cors a ffen ucheldir/iseldir).

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae cynlluniau sy'n cynnig plannu ar gynefinoedd â blaenoriaeth yn annhebygol o gael eu gwireddu. Fodd bynnag, os oes gennych le rhesymol i gredu bod y tir wedi'i gofnodi'n anghywir, gallwch gyflwyno tystiolaeth ffotograffig a gofyn am adolygiad. Rhaid eithrio’r ardaloedd hyn fel arall. Mae’r haen ar gyfer cynefinoedd â blaenoriaeth sy’n destun ymgynghoriad yn cynnwys clytweithiau o gynefinoedd ucheldirol sy’n cynnwys glaswelltir asidaidd ucheldirol / glaswelltir corsiog ucheldirol y gellir plannu arno. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o haenau data ar gyfer sensitifeddau eraill, megis llygod y dŵr neu ffyngau glaswelltir, yn gorgyffwrdd â’r haen ar gyfer cynefinoedd â blaenoriaeth. Yn achosion fel hyn, ni ddylid cynnwys ardal y cynefin â blaenoriaeth yn y cynnig plannu, ac ni fydd angen unrhyw waith ymgynghori ynghylch yr ardal honno mewn perthynas â sensitifeddau eraill, oni bai fod rhan ohoni y tu allan i ardal y cynefin â blaenoriaeth. Lle mae’r cynefin â blaenoriaeth wedi’i herio’n llwyddiannus, gan arwain at ei gynnwys yn y cynnig plannu, rhaid mynd i’r afael â phob sensitifedd arall yn yr ardal honno yn unol â thudalennau perthnasol y ddogfen hon.

Canllawiau

  • Gwiriwch yr haen data fanwl ar gyfer y cynefin â blaenoriaeth er mwyn gweld categori’r cynefin â blaenoriaeth sy’n destun ymgynghoriad.
  • Edrychwch ar y lluniau o’r awyr er mwyn asesu graddfa’r blociau o laswelltir asidaidd ucheldirol / glaswelltir corsiog ucheldirol y byddai’n bosibl plannu arnynt. Cadarnhewch yr ardaloedd hyn, a’u graddfa, yn ystod yr ymweliad â’r safle. Bydd angen cytuno ag CNC, cyn y cam gwirio, ar b’un a ddylid eu cynnwys mewn cynigion (gweler isod).
  • Os oes gennych le i gredu bod yr ardal wedi'i chofnodi'n anghywir, neu bod yr ardal arfaethedig yn eithriad fel a restrir uchod, defnyddiwch ein nodyn cyfarwyddyd Darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi ceisiadau Creu Coetir Glastir (NC009), sy'n egluro sut i gyflwyno tystiolaeth ffotograffig i ategu eich honiad. Ar gyfer cynefinoedd â blaenoriaeth sy’n destun ymgynghoriad, dylech gynnwys graddfa’r ardaloedd o laswelltir asidaidd ucheldirol / glaswelltir corsiog ucheldirol ar ffurf map. Anfonwch y dystiolaeth ffotograffig at glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylech wneud hyn yn gynnar yn y broses.
  • Bydd arbenigwr cynefinoedd yn adolygu unrhyw dystiolaeth a gyflwynir, a byddwn yn cadarnhau p'un a ellir bwrw ymlaen â'r gwaith plannu.

Nodiadau data

Roedd yr haen hon wedi'i labelu ynghynt fel 'Cynefinoedd sensitif Cyfoeth Naturiol Cymru', ac mae'n gyfuniad o ddata o Arolwg Cynefinoedd Cymru Cam 1 yn ogystal ag arolygon eraill a gynhaliwyd gan ein hecolegwyr.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cynefinoedd â Blaenoriaeth – Sensitifrwydd Uchel

Safon Coedwigaeth y DUCoedwigoedd a Bioamrywiaeth - Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr - Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 287,397 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae cynefinoedd â blaenoriaeth yn fathau lled-naturiol sydd wedi'u cynnwys yn y rhestrau a sefydlwyd o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnwys parcdir, glaswelltir calaminaidd, glaswelltir iseldir (asidig, niwtral, corstir), rhostir iseldir, rhostir ucheldir, cynefinoedd arfordirol, glaswelltir calchaidd iseldir, glaswelltir calchaidd ucheldir, porfeydd coediog, perllannau a chynefinoedd gwlyptir (cors a ffen ucheldir/iseldir). Yn gyffredinol, bydd plannu coed yn yr ardaloedd hyn yn dinistrio'r cynefin.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae cynlluniau sy'n cynnig plannu ar ardaloedd “Cynefin â Blaenoriaeth – Sensitifrwydd Uchel” yn annhebygol o gael eu dilysu; dylai’r ardaloedd hyn gael eu heithrio o gynigion plannu. Fodd bynnag, os oes gennych le rhesymol i gredu bod y tir wedi'i gofnodi'n anghywir, gallwch gyflwyno tystiolaeth ffotograffig a gofyn am adolygiad.

Efallai y bydd rhai o'r haenau data eraill sy’n dynodi sensitifrwydd, er enghraifft llygod pengrwn y dŵr neu ffyngau glaswelltir, yn gorgyffwrdd â'r haen Cynefin â Blaenoriaethol - Sensitifrwydd Uchel. Os yw hyn yn wir, dylid eithrio'r ardal Cynefin â Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel o'r cynnig plannu ac ni fydd angen ymgynghori ymhellach ar yr ardal honno ar gyfer y meysydd sensitifrwydd eraill. Fodd bynnag, os yw rhan o'r haen sensitifrwydd arall y tu allan i ardal y cynefin â blaenoriaeth, bydd angen ymgynghori â'r corff perthnasol o hyd.

Lle mae Cynefin â Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel wedi cael ei herio'n llwyddiannus gan arwain at ei gynnwys yn y cynnig plannu, rhaid mynd i'r afael â phob math arall o sensitifrwydd yn yr ardal honno yn unol â thudalennau perthnasol y ddogfen hon.

Bydd rhai ardaloedd Cynefinoedd â Blaenoriaeth hefyd yn cael eu cofnodi gan yr awdurdod lleol fel Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) - gweler taflen ffeithiau SINC i gael mwy o wybodaeth.

Canllawiau

  • Tynnwch unrhyw ardaloedd “Cynefin â Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel” allan o’ch cynnig plannu.
  • Os oes gennych reswm dros gredu bod ardal “Cynefin â Blaenoriaeth - Sensitifrwydd Uchel” wedi'i chofnodi'n anghywir, defnyddiwch GN009 – Darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi ceisiadau Creu Coetir Glastir.
  • Anfonwch yr holl dystiolaeth gan gynnwys mapiau sy’n dangos yr ardaloedd o dan sylw at glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylech wneud hyn yn gynnar yn y broses.
  • Bydd arbenigwr cynefinoedd yn adolygu unrhyw dystiolaeth a gyflwynir, a byddwn yn cadarnhau p’un a fyddai plannu’n briodol ai peidio.

Nodiadau data

Nododd CNC feysydd o gynefin â blaenoriaeth o ddata digidol Cam 1 Arolwg Cynefinoedd CCGC Cymru; data digidol Cam 2 Arolwg Glaswelltir Iseldir Cymru; data Nodweddion Cam 2 Arolwg Mawndir Iseldir Cymru; Map cynefinoedd Glaswelltir Calaminaraidd Atodiad 1; Map Porfeydd Coediog ar gyfer Cymru; Map Parcdir ar gyfer Cymru a'r Map Perllannau Traddodiadol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a rhestrau adran 7:

https://www.biodiversitywales.org.uk/Deddf-yr-Amgylchedd-Cymru

Mosaigau Cynefinoedd â Blaenoriaeth – Angen Ymchwilio

Safon Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth - Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr - Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 71,417ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae cynefinoedd â blaenoriaeth yn fathau lled-naturiol sydd wedi'u cynnwys yn y rhestrau a sefydlwyd o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnwys parcdir, glaswelltir calaminaidd, glaswelltir iseldir (asidig, niwtral, corstir), rhostir iseldir, rhostir ucheldir, cynefinoedd arfordirol, glaswelltir calchaidd iseldir, glaswelltir calchaidd ucheldir, porfeydd coediog, perllannau a chynefinoedd gwlyptir (cors a ffen ucheldir/iseldir). Yn gyffredinol, bydd plannu coed yn yr ardaloedd hyn yn dinistrio'r cynefin. Fodd bynnag, mae rhai o ardaloedd yr ucheldir yn cynnwys cynefin â blaenoriaeth wedi'i gymysgu ag eangderau ar wahân o laswelltir asidig yr ucheldir a glaswelltir corsiog yr ucheldir a allai fod yn briodol ar gyfer creu coetir newydd.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae'r haen ddata “Mosaigau Cynefinoedd â Blaenoriaeth - Angen Ymchwilio” yn nodi ardaloedd lle credir bod darnau o laswelltir asidig yr ucheldir a / neu laswelltir corsiog yr ucheldir yn bresennol mewn mosaig gyda chynefinoedd â blaenoriaeth. Lle mae'r ardaloedd hyn o laswelltir asidig yr ucheldir / glaswelltir corsiog yr ucheldir yn helaeth mae ganddynt y potensial i gael eu plannu ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno ymhell ymlaen llaw gyda CNC cyn ei ddilysu. O fewn y Map Cyfle Coetir, pan fyddwch yn clicio ar leoliad, bydd yr haen hon yn nodi'r prif fathau o gynefin â blaenoriaeth sy'n bresennol yn y mosaig i helpu i’w hadnabod ar y safle, er y gallai fod ardaloedd llai o gynefin â blaenoriaeth arall y dylid osgoi plannu ynddynt hefyd.

Dylid archwilio ardaloedd plannu posib hefyd ar gyfer mathau eraill o sensitifrwydd, er enghraifft llygod pengrwn y dŵr, a chynnal y broses ymgynghori berthnasol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw ardaloedd o gynefin â blaenoriaeth sydd wedi cael eu herio'n llwyddiannus trwy ganllawiau GN009.

Efallai y bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cofnodi rhai ardaloedd Cynefinoedd â Blaenoriaeth fel Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) - gweler taflen ffeithiau SINC i gael mwy o wybodaeth.

Canllawiau

  • O fewn y Map Cyfle Coetir, cliciwch y llygoden yn y lleoliad plannu arfaethedig i ddod o hyd i restr o gynefinoedd â blaenoriaeth sy'n bresennol yn y blwch gwybodaeth am nodweddion. Mae'r rhain yn dynodi cynefin a allai fod yn bresennol yn y polygon mosaigau a dylid ei eithrio o'ch cynigion plannu.
  • Edrychwch ar y lluniau o’r awyr sydd i’w cael ar y map sylfaen i asesu maint y blociau o laswelltir asidig yr ucheldir / glaswelltir corsiog yr ucheldir y gellir plannu arno (neu borfa goediog lle bo hynny'n briodol).
  • Ewch ar ymweliad â’r safle, a chadarnhau a mapio ardaloedd helaeth o laswelltir asidig yr ucheldir / glaswelltir corsiog yr ucheldir (neu borfa goediog) y gellir plannu arno yn y categori “Brithwaith Cynefinoedd â Blaenoriaeth - Angen Ymchwilio” ac eithrio ardaloedd o gynefin â blaenoriaeth. Cymerwch dystiolaeth ffotograffig yn unol â GN009 - Darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi ceisiadau Creu Coetir Glastir (GN009) sy'n esbonio sut i gyflwyno tystiolaeth ffotograffig i gefnogi'ch cynnig.
  • Efallai y bydd plannu dwysedd isel gyda choed llydanddail yn briodol mewn ardaloedd o borfa goediog.
  • Os oes gennych reswm dros gredu bod ardal o gynefin â blaenoriaeth wedi'i chofnodi'n anghywir, defnyddiwch GN009 fel uchod.
  • Anfonwch yr holl dystiolaeth gan gynnwys mapiau sy’n dangos yr ardaloedd o dan sylw at glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylech wneud hyn yn gynnar iawn yn y broses i osgoi cael eich siomi.
  • Bydd arbenigwr cynefinoedd yn adolygu unrhyw dystiolaeth a gyflwynir, a bydd yn cadarnhau p'un a fyddai’n briodol plannu ai peidio.

Nodiadau data

Nododd CNC feysydd o gynefin â blaenoriaeth o ddata digidol Cam 1 Arolwg Cynefinoedd CCGC Cymru; data digidol Cam 2 Arolwg Glaswelltir Iseldir Cymru; data Nodweddion Cam 2 Arolwg Mawndir Iseldir Cymru; Map cynefinoedd Glaswelltir Calaminaraidd Atodiad 1; Map Porfeydd Coediog ar gyfer Cymru; Map Parcdir ar gyfer Cymru a'r Map Perllannau Traddodiadol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) a rhestrau adran 7

https://www.biodiversitywales.org.uk/Deddf-yr-Amgylchedd-Cymru

Safle Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arfer Coedwigoedd 1-2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 4,820 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol yn ddynodiadau lleol anstatudol sy'n cynnwys y lleoedd pwysicaf ar gyfer daeareg, geomorffoleg a phriddoedd y tu hwnt i'r rhwydwaith o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gydnabyddir yn genedlaethol.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Bydd graddau'r effaith y gallai plannu ei chael, os o gwbl, yn dibynnu ar natur y nodwedd, felly mae ymgynghori'n gynnar â daearegwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn allweddol i sicrhau y gall cynlluniau yn yr ardaloedd hyn gael eu gwireddu.

Canllawiau

  • Ymgynghorwch â daearegwr Cyfoeth Naturiol Cymru trwy glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
  • Dilynwch unrhyw argymhellion neu gyngor wrth lunio eich cynllun, a darparwch yr ymateb i'r ymgynghoriad wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o ddata GeoConservation UK, cronfa ddata berthynol ar gyfer storio'r holl wybodaeth berthnasol am Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol a safleoedd daearegol eraill.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Henebion Cofrestredig

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 10, 11, 20, 27

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 6,228 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ffiniau Cofadeilau Cofrestredig, sy’n safleoedd a ddiogelir yn gyfreithiol rhag niwed neu aflonyddwch o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016). Mae’r rhain yn safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol am eu bod yn nodweddu cyfnod neu gategori yn hanes Cymru, a rhoddir ystyriaeth i brinder, dogfennau da, gwerth grŵp, goroesiad/cyflwr, breuder/bregusrwydd, amrywiaeth a photensial. Mae mwy na 4,000 o Henebion Cofrestredig yng Nghymru, ac mae Cadw’n cynnal yr atodlen ar ran Gweinidogion Cymru.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Bydd hyn yn dibynnu ar natur y safle a natur y cynnig, a bydd angen i Cadw ystyried pob cynnig yn ôl ei rinweddau. Mae'r safleoedd hyn wedi'u hamddiffyn yn gyfreithiol, a bydd y rhan fwyaf o weithrediadau arnynt yn mynnu cydsyniad Heneb Gofrestredig. Nodwch fod rhagdybiaeth yn erbyn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw waith a allai achosi niwed i gofadail cofrestredig neu ei aflonyddu.

Canllawiau

  • Cysylltwch â Cadw cadw@gov.wales am ymateb i'r ymgynghoriad os yw'r cynllun plannu newydd yn effeithio ar dir o fewn yr haen hon
  • Diwygiwch eich cynllun i gynnwys ymateb Cadw i'r ymgynghoriad, a darparwch yr ymateb wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio
  • Sicrhewch fod unrhyw gydsyniadau angenrheidiol wedi cael eu nodi a'u bod ar waith

Nodiadau data

Mae Cadw’n diweddaru’r rhestr o Gofadeilau Cofrestredig yn rheolaidd, a darperir y wybodaeth hon ar gyfer Llywodraeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n gyfnodol ar Map Cyfle Coetir.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Henebion Cofrestredig â llain glustogi o 50m

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 10, 11, 20, 27

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 11,431 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos llain glustogi o 50 metr o gwmpas Henebion Cofrestredig, sy’n safleoedd a ddiogelir yn gyfreithiol rhag neu aflonyddwch o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016). Mae Henebion Cofrestredig yn safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol sy'n nodweddu cyfnod neu gategori yn hanes Cymru, a rhoddir ystyriaeth i brinder, dogfennau da, gwerth grŵp, goroesiad/cyflwr, breuder/bregusrwydd, amrywiaeth a photensial.

Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth gan Cadw ar gyfer unrhyw waith plannu, neu waith Creu Coetir Glastir o fewn llain glustogi o 50 metr i Heneb Gofrestredig. Mae angen y gymeradwyaeth hon er mwyn rhoi cyfle i Cadw asesu’r effaith y gallai’r cynigion plannu ei chael ar leoliad yr heneb, ei golygfeydd arwyddocaol, neu’r graddau y gellir ei gweld gydag elfennau allweddol eraill yn y dirwedd, neu’r amgylchedd hanesyddol ehangach.

Fodd bynnag, dylid nodi y gall lleoliad heneb ymestyn y tu hwnt i’r llain o 50 metr, ac mae Cadw wedi llunio canllaw ar sut i asesu effeithiau ar leoliad (gweler y ddolen isod). Mae Cadw felly’n cadw’r hawl i wneud sylwadau ar yr effeithiau a geir ar leoliad y tu hwnt i’r llain o 50 metr, lle bo hynny’n berthnasol.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Bydd hyn yn dibynnu ar natur y safle a natur y cynnig, a bydd angen i Cadw ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau.

Canllawiau

  • Cysylltwch â Cadw cadw@gov.wales am ymateb i'r ymgynghoriad os yw'r cynllun plannu newydd o fewn yr haen hon
  • Diwygiwch y cynllun Creu Coetir Glastir i gynnwys ymateb Cadw i'r ymgynghoriad, a darparwch yr ymateb wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Mae Cadw’n diweddaru’r rhestr o Gofadeilau Cofrestredig yn rheolaidd, a darperir y wybodaeth hon ar gyfer Llywodraeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n gyfnodol ar Map Cyfle Coetir.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Cofnodion planhigion tir âr sensitif (ers 1995)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 2,967 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos parseli tir lle cofnodwyd planhigion tir âr prin.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae cynlluniau sy'n cynnig plannu ar ardaloedd sydd â chofnodion planhigion tir âr sensitif yn annhebygol o gael eu gwireddu.

Canllawiau

Peidiwch â chynnwys tir a gofnodwyd ar yr haen hon yn eich cynlluniau plannu

Os oes gennych le cryf i gredu bod y tir wedi'i gofnodi trwy gamgymeriad (megis tystiolaeth nad yw wedi bod yn destun amaethu âr), cysylltwch â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor pellach

Nodiadau data

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar gofnodion pwynt o blanhigion tir âr prin rhwng 2000 a 2017 sydd wedi’u trefnu yn ôl y cae lle maent yn tyfu. Mae'r cofnodion hyn yn ddiweddar, ac ystyrir eu bod yn gywir gyda graddau uchel o hyder.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Darllenwch gyhoeddiad Plantlife Planhigion tir âr yng Nghymru: Cyngor ar reolaeth am ragor o wybodaeth am y rhywogaethau pwysig hyn

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 220,294 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn ardal a ddiogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei bod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearegol neu dir sydd o bwys arbennig. Mae mwy na 1,000 SoDdGA yng Nghymru sy'n gorchuddio oddeutu 12% o arwynebedd y wlad. Caiff SoDdGAoedd eu dewis yn ôl meini prawf gwyddonol (a gyhoeddir gan Gyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y DU).

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Yn dibynnu ar natur y nodweddion pwysig, efallai y bydd rhai SoDdGAoedd yn elwa ar greu coetir priodol o dan y cynllun hwn, ond ni all cynlluniau plannu newydd o fewn SoDdGA fynd rhagddynt oni cheir ymateb cadarnhaol gan swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y safle.

Canllawiau

Os yw'r cynlluniau plannu newydd arfaethedig o fewn SoDdGA, cysylltwch â swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru trwy lastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am gyngor cyn i chi baratoi cynllun Creu Coetir Glastir

Dylech barhau â'ch cais dim ond os yw swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi'r cynnig, a rhaid i chi gynnwys unrhyw argymhellion a wneir yn y cynllun

Bydd y swyddog cadwraeth yn rhoi gwybodaeth i chi os oes angen Hysbysiad o Fwriad SoDdGA ar gyfer y gwaith o dan Adran 28E(1) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Os yw Hysbysiad o Fwriad SoDdGA ar gyfer y cynlluniau plannu newydd arfaethedig yn ofynnol, sicrhewch ei fod yn cael ei lofnodi fel rhan o'r contract Creu Coetir Glastir

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o'r ffiniau hysbysiad SoDdGA statudol. Er bod bron pob Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn SoDdGA, mae eithriadau. O'r herwydd, dylech wirio a yw eich cynnig ar gyfer plannu o fewn neu gerllaw ACA. Os yw eich cynllun plannu newydd arfaethedig o fewn neu gerllaw ACA ond nid yw wedi'i dangos fel SoDdGA neu lain glustogi SoDdGA, bydd rhaid i chi gael ymateb i'r ymgynghoriad gan y swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru perthnasol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwybodaeth am SoDdGAoedd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

SoDdGAoedd (biolegol) â llain glustogi o 300m

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 205,073 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos llain glustogi o 300m o gwmpas yr holl SoDdGAoedd a nodwyd oherwydd nodweddion biolegol. Mae'r haen yn dangos y llain glustogi'n unig; nid yw'r SoDdGAoedd eu hunain wedi'u cynnwys. Mae SoDdGA yn ardal a ddiogelir o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei bod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearegol neu dir sydd o bwys arbennig.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae peryglon plannu coed yn agos at neu gerllaw SoDdGA yn cynnwys newidiadau i hydroleg, perygl o hadu conifferau, a pherygl cynyddol o gysgodi. Nid ydym yn cynnwys gofynion penodol ar gyfer yr haen hon, ond mae gan y tîm Glastir y rhyddid i ymgynghori â swyddog cadwraeth pan fo cynigion plannu o fewn llain glustogi 300m y SoDdGA. Mae cynlluniau mawr, cynlluniau â chanran uchel o gonifferau, a'r cynlluniau sydd agosaf at ffin y SoDdGA yn fwyaf tebygol o fod yn destun ymgynghoriad pellach.

Canllawiau

Cyflwynwch eich cynllun i'w wirio fel arfer

Bydd y Cynghorydd Coetir yn ystyried eich cynllun ac efallai y bydd yn ymgynghori â swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y swyddog Glastir yn cysylltu â chi os bydd angen i chi newid y cynllun o ganlyniad i ymateb y swyddog cadwraeth

Nodiadau data

Mae'r llain glustogi wedi'i hychwanegu at ffiniau statudol SoDdGAoedd biolegol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwybodaeth am SoDdGAoedd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yr ucheldir

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 74,285 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAoedd) wedi'u dylunio'n benodol i warchod adar gwyllt sydd wedi'u rhestru'n brin a bregus, yn unol ag Erthygl 4 y Gyfarwyddeb Adar a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae pob AGA hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys AGAoedd yr ucheldir yn unig am nad yw AGAoedd yr iseldir yn debygol o gael eu peryglu gan greu coetir. Mae tair AGA ucheldir yng Nghymru – Elenydd–Mallaen yn y canolbarth, a Berwyn a Migneint–Arenig–Dduallt yn y Gogledd.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Prif risg plannu ar neu gerllaw AGAoedd yr ucheldir yw ei fod yn lleihau'r heldir ar gyfer adar ysglyfaethus ac yn cynyddu gorchudd coetir ar gyfer ysglyfaethwyr sy'n ysglyfaethu rhywogaethau adar bregus. Mae'r holl gynigion o fewn AGA yn mynnu ymateb gan swyddog cadwraeth, a fydd yn ystyried ffactorau megis maint y cynllun a chanran y conifferau yn y cymysgedd rhywogaethau.

Canllawiau

Cysylltwch â glastirqueries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofynnwch am ymateb gan swyddog cadwraeth cyn i chi baratoi cynllun Creu Coetir Glastir

Ymgorfforwch unrhyw gyngor a dderbyniwch yn y cynllun, a darparwch yr ymateb i'r ymgynghoriad wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o'r ffiniau dynodi statudol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Safleoedd sydd wedi'u diogelu gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yr ucheldir â llain glustogi o 500m

Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 4; Coedwigoedd a Dŵr: Cyfreithiol 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 35,061 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r llain glustogi o 500m yn adlewyrchu anghenion adar ysglyfaethus sy'n hela y tu hwnt i AGA yr ucheldir, am eu bod hefyd yn defnyddio cwr a ffridd yr ucheldir i hela. Mae'r haen hon yn dangos y llain glustogi yn unig, ac nid yr AGA ei hun.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae plannu'n agos at neu gerllaw AGA yn mentro lleihau'r heldir ar gyfer adar ysglyfaethus yr ucheldir a chynyddu gorchudd ar gyfer ysglyfaethwyr sy'n ysglyfaethu rhywogaethau adar bregus. Mae'r holl gynigion Creu Coetir Glastir o fewn llain glustogi AGA o 500m yn mynnu ymateb gan swyddog cadwraeth. Bydd y swyddog cadwraeth yn archwilio maint y cynllun, canran y conifferau, a pha mor agos mae'r cynllun plannu newydd arfaethedig at ffin yr AGA wrth ystyried p'un a oes angen mesurau pellach.

Canllawiau

Cyflwynwch eich cynllun fel arfer trwy'r system Taliadau Gwledig Cymru ar-lein

Os bydd y swyddog cadwraeth yn argymell unrhyw fesurau ychwanegol, byddwn yn cysylltu â chi

Nodiadau data

Mae'r haen yn darparu llain glustogi o 500m o gwmpas ffiniau pob un o'r safleoedd dynodedig hyn. Nid yw'r AGAoedd eu hunain wedi'u cynnwys yn yr haen hon.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Safleoedd sydd wedi'u diogelu gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol

Safleoedd Treftadaeth y Byd

Arfer Da Coedwigoedd 4; Canllawiau Coedwigoedd 10, 11, 20, 27

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 10,829 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yw’r safleoedd treftadaeth ddiwylliannol hynny sy’n adlewyrchu gwerth cyffredinol eithriadol, sydd mor bwysig fel eu bod yn mynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Mae'n ofynnol i wledydd â Safleoedd Treftadaeth y Byd roi'r lefel uchaf o amddiffyniad i'r mannau hyn, sy'n golygu nid yn unig gofalu am y safleoedd eu hunain, ond hefyd eu lleoliadau. Mae tri Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru:

  • Cestyll Edward I yng Ngwynedd (Biwmares, Conwy, Caernarfon, Harlech, a'r caerau o gwmpas trefi Conwy a Chaernarfon)
  • Dyfrbont Pontcysyllte, ger Llangollen
  • Tirwedd Blaenafon.
  • Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gafodd ei henwebu fel yr eiddo yn y DU ar gyfer 2021 ar gyfer dod yn Safle Treftadaeth y Byd. Disgwylir y daw Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn safle arysgrifedig ym mis Gorffennaf pan gaiff 44ain sesiwn Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO ei chynnal yn Fuzhou.
  • Mae polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn rhoi’r un pwys ar eiddo enwebedig ag i Safleoedd Treftadaeth y Byd arysgrifedig. Mae llawer o awdurdodau lleol hefyd yn defnyddio canllawiau cynllunio ategol i lywio’u penderfyniadau.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Gall creu unrhyw goetir ar safle UNESCO gael effaith ar werth cyffredinol eithriadol Safle Trefdadaeth y Byd / eiddo enwebedig. Gall cynigion ar gyfer ardaloedd sydd y tu allan i Safleoedd Treftadaeth y Byd gael effaith o hyd ar leoliad y safle. O fewn Safle Treftadaeth y Byd, rhaid ymgynghori â Cadw ynghylch effeithiau posibl ar Safleoedd treftadaeth y Byd.

Canllawiau

Cysylltwch â swyddog cynllunio'r awdurdod lleol ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad

Diwygiwch eich cynllun i gynnwys ymateb swyddog yr awdurdod lleol i'r ymgynghoriad

Rhowch ymateb y swyddog gyda'ch cynllun pan fyddwch yn ei gyflwyno i'w wirio

Nodiadau data

Darperir y data a ddefnyddir ar gyfer yr haen hon gan Cadw.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwefan UNESCO

Canllaw Cadw ar leoliadau

Gwybodaeth Cadw am Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Rhestr Coetiroedd Hynafol

Safon Coedwigaeth y DU – Bioamrywiaeth

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru -

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae Coetiroedd Hynafol yn safleoedd sydd wedi bod â gorchudd coetir parhaus ers rhai canrifoedd. Mae astudiaethau'n dangos bod y coetiroedd hyn fel arfer yn fwy amrywiol yn ecolegol ac o werth uwch o ran cadwraeth natur na'r rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar neu'r rhai lle mae gorchudd coetir ar y safle wedi bod yn ysbeidiol. Gall y coetiroedd hyn hefyd fod yn bwysig yn ddiwylliannol. Yn hanesyddol, byddai coetiroedd brodorol wedi bod yn rhan annatod o'r rhan fwyaf o ffermydd yng Nghymru, wedi’u rheoli’n ofalus i ddarparu pren a thanwydd. Byddai coed unigol a gwrychoedd hefyd wedi bod yn bwysig.  

Mae'r haen ddata’n dangos cyfuniad o bedwar categori gwahanol y Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) fel y'i diwygiwyd yn 2021.  Mae’r rhain yn cynnwys

  • Coetir Lled-Naturiol Hynafol (ASNW) – coetir llydanddail brodorol yn bennaf y credir ei fod wedi bod mewn bodolaeth ers dros 400 mlynedd.
  • Planhigfa ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) – safleoedd sydd ar hyn o bryd â gorchudd canopi y mae mwy na 50 y cant ohono’n rhywogaethau conwydd anfrodorol
  • Safleoedd Coetir Hynafol wedi'u Hadfer (RAWS) – safleoedd yr arferai mwy na 50% ohonynt fod yn rhywogaethau conwydd anfrodorol ond sydd bellach wedi'u hadfer fel bod mwy na 50% yn goed llydanddail
  • Safle Coetir Hynafol Categori Anhysbys (AWSU) – safleoedd sy’n newid - 'llwyni', 'coed ifanc', 'coed wedi’u cwympo' neu 'dir a baratowyd ar gyfer plannu' ond gall fod yn ASNW, RAWS neu PAWS.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Gellir creu coetiroedd brodorol newydd i wella ac ymestyn cysylltedd ecolegol a lleihau faint mae coetir hynafol yn cael ei ddarnio, gan gyfrannu at eu maint a'u gwydnwch fel cynefin ar gyfer nifer o rywogaethau coetir. Gall coetir newydd hefyd weithredu fel parth clustogi rhwng coetir hynafol a rhywogaethau coetir anfrodorol neu ddal llygredd gwasgaredig neu lygredd aer a fyddai fel arall yn niweidiol i'r fflora hirsefydlog sy'n gysylltiedig â choetir o'r fath.

Canllawiau

Dylai cynigion ystyried:-

  • Dethol rhywogaethau sensitif
  • Ystyried parth clustogi pan fo coed hynafol ar y ffin
  • Tarddiad lleol y rhywogaethau coed a ddewisir
  • Darparu tystiolaeth o gydymffurfiad wrth gyflwyno'ch cynllun i'w ddilysu

Nodiadau data

Data wedi’i gymryd o'r Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI2021) a reolir gan CNC.

Gwybodaeth ddefnyddiol

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae CNC yn nodi ac yn mapio coetiroedd hynafol, a sut y gallwch gael mynediad at y data, gweler

https://naturalresources.wales/evidence-and-data/research-and-reports/ancient-woodland-inventory/?lang=cy

Diweddarwyd ddiwethaf