Yng Nghymru, mae 1 o bob 6 eiddo mewn perygl o lifogydd. Ydych chi'n gwybod a yw'ch eiddo chi mewn perygl?
Sut allaf i baratoi ar gyfer llifogydd?
Gwirio'r perygl trwy edrych ar ein map perygl llifogydd. Gallwch chi weld pa mor debygol yw llifogydd o afonydd neu'r môr trwy edrych ar ein map llifogydd. Yr wybodaeth ar y map yw'r un wybodaeth sydd ar gael i gwmnïau yswiriant.
Os ydych chi mewn perygl, mae sawl peth y gallwch chi eu gwneud i baratoi cyn i lifogydd ddigwydd.
- Paratoi cynllun llifogydd ar sail un o'r templedi isod
- Ymweld â'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol; mae Tudalennau Glas yn gyfeiriadur annibynnol sy’n rhestru nwyddau a gwasanaethau diogelu rhag llifogydd
- Deall ystyr codau llifogydd a beth i’w wneud os ydych chi’n derbyn un
- Edrych i weld pa rybuddion llifogydd sydd ar waith ar hyn o bryd
- Ymgofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim dros y ffôn, fel neges destun neu ar e-bost
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am lunio cynllun llifogydd anfonwch neges e-bost atom ni.
Ymwybyddiaeth llifogydd
Mae ein Rhaglen Ymwybyddiaeth Llifogydd yn ceisio sicrhau bod cymunedau mewn perygl o lifogydd yn gwybod sut mae paratoi ac ymateb cyn, yn ystod, ac wedi llifogydd.
Sut y gellwch chi gymryd rhan
Defnyddiwch y dolenni hyn i weld sut allwch chi ddatblygu cynllun llifogydd i'ch cymuned chi.
Cyngor Iechyd
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor os oes gennych lifogydd
Llifogydd ac anifeiliad anwes
Dod o hyd i wybodaeth am sut i gadw eich anifail anwes yn ddiogel - RSPCA a’r Groes Goch.
Cyngor i Fusnesau
Mae gan Grŵp Gwrthsefyll Argyfwng Busnes gyngor ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Cyngor Trydan a Nwy
Dewch o hyd i’ch cyflenwr a rhoi gwybod iddynt os oes angen gwasanaeth blaenoriaeth arnoch - Cyflenwyr ynni.
Cyfleoedd Ariannu
Canllawiau diweddaraf o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Yswiriant
Rydym wedi sefydlu ‘Flood Re’ er mwyn helpu teuluoedd mewn ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef o lifogydd i ddod o hyd i yswiriant cartref fforddiadwy.
Mae yna dri cham hawdd i’w dilyn er mwyn gweld ag ydych yn gymwys ar gyfer Flood Re:
- Siaradwch â’ch yswiriwr presennol a gofyn iddynt a yw eich cartref yn gymwys ar gyfer Cynllun Flood Re
- Byddwch yn barod i chwilio am y fargen orau
- Cofiwch, fod dod o hyd i’r cyngor a chynhyrchion cywir yn bwysig
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Flood Re: https://www.floodre.co.uk/
Hefyd mae gan Fforwm Llifogydd Cenedlaethol tudalennau Flood Re pwrpasol ar eu gwefan: https://nationalfloodforum.org.uk/about-flooding/insurance/flood-re/
Dywedwch wrth eich cwmni yswiriant am y perygl o lifogydd
Os yw’ch cwmni yswiriant yn gofyn am 'Gais yn Ymwneud ag Yswiriant' cysylltwch â’n Canolfan Gofal Cwsmeiriaid. Dylech chi gynnwys cyfeiriad llawn yr eiddo, rhif ffôn cyswllt, a map os yw’n bosibl. Bydd y tîm yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae'r Cais yn llythyr safonol sy’n helpu’ch cwmni yswiriant i benderfynu a yw am adnewyddu’ch yswiriant tŷ chi ynteu roi dyfynbris newydd ichi. Mae’n darparu gwybodaeth am:
- a yw’ch eiddo o fewn neu’r tu allan i’r ardal lle mae perygl o lifogydd
- a oes unrhyw amddiffynfeydd yn yr ardal, a’r safon o amddiffyniad y maen nhw’n ei darparu
- pa mor debygol yw llifogydd, o ystyried unrhyw fesurau rheoli risg fel rhwystrau amddiffyn rhag llifogydd yn yr ardal
- a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer mesurau i reoli perygl llifogydd yn yr ardal
Mae'r Cais ar gael am ddim i’r cyhoedd. Bydd ceisiadau gan gwmni megis cyfreithiwr neu ddatblygwr yn costio £50 (ynghyd â TAW).
Ymwybyddiaeth llifogydd trwy addysg
Rydym yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch sydd mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd i ddatblygu cynlluniau llifogydd a chodi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ymhlith cenedlaethau’r dyfodol.
Yn dod yn fuan - adnoddau addysg i’w defnyddio yn y dosbarth.