Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Gorlifo ffermydd a thir amaeth

Dyma gyngor ymarferol ynghylch y camau y gallwch eu cymryd i leihau effaith llifogydd ar eich fferm

Wyddoch chi a yw eich fferm tan fygythiad llifogydd?

Mae rhagor na 10% o dir Cymru a Lloegr tan fygythiad llifogydd môr neu afon. Gall tir eich fferm chi fod tan fygythiad, hyd yn oed os nad yw’ch tŷ chi. 

Gallwch ganfod a yw eich tir tan fygythiad llifogydd trwy alw Floodline ar 0345 988 111 neu fynd at naturalresourceswales.gov.uk/alerts a chwilio o dan “Llifogydd”.

Os ydych ym mherygl llifogydd, efallai y gallwch ofyn am dderbyn rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim i’ch llinell dir neu’ch ffôn symudol chi. Gallwch gofrestru hyd at bum rhif cyswllt i dderbyn rhybudd, felly gellid rhybuddio’r teulu neu weithwyr yn ystod argyfwng llifogydd. Rhoddir rhybuddion hyd at 2 awr cyn llifogydd, sy’n ddigon o amser i chi wneud pethau elfennol fel symud anifeiliaid neu beiriannau i dir uwch, er mwyn eu diogelu.

Paratowch eich fferm at lifogydd

Mae llwyth o bethau mân, syml y gallwch eu gwneud i baratoi’ch fferm at lifogydd, a lleihau effaith llifogydd ar eich fferm.

Ydych chi wedi ystyried, er enghraifft, creu cynllun llifogydd ar gyfer y fferm? Mae’r cynllun yn ddogfen sy’n cynnwys yr holl wybodaeth bwysig y byddai arnoch ei hangen, a’r hyn a wnaech chi yn ystod llifogydd. O’i gwblhau, gallech ei rannu â holl weithwyr eich fferm, fel eu bod yn gyfarwydd ag ef. Yna gellid ei gadw’n ddiogel, lle byddai modd cael gafael arno’n hawdd pe bai angen.

Gall eich swyddog ymwybyddiaeth llifogydd lleol chi roi patrwm cynllun llifogydd i chi’i gwblhau.

Beth ddylai ffermwr ei gynnwys yn ei gynllun llifogydd?

  • I ba gaeau ar dir uwch y gellid symud anifeiliaid
  • Pa stoc/peiriannau/offer y gellid eu symud o’r fferm yn hawdd er mwyn osgoi colled neu ddifrod
  • Pa gemegolion/tanwydd ar y fferm allai lygru dŵr llifogydd, a sut y gellid eu symud i le diogel yn ystod llifogydd
  • Sut mae rhoi gwybod i weithwyr bod llifogydd ar ddod, a sut all hwythau eich helpu i baratoi
  • Cysylltu â chyflenwyr er mwyn sicrhau bod y busnes yn mynd ymlaen fel arfer, ac nad ydych chi’n colli enillion
  • Prynu stoc o ddeunyddiau y gellid eu defnyddio yn ystod llifogydd, sef bagiau tywod i atal dŵr rhag mynd i adeiladau, pren er mwyn cau ffenestri a phaletau er mwyn codi stoc ac offer uwch lefel y dŵr

Sut allai ffermwr leihau tebygolrwydd llifogydd ar ei fferm?

  • Ystyriwch greu pyllau goferu, neu atalwyr gwaddodion
  • Osgowch gyfeirio llifogydd dŵr tuag at ffyrdd, ffosydd neu afonydd
  • Gollyngwch ddŵr toeau i suddbantiau neu suddfannau o gwmpas y fferm, er mwyn arafu’r llifogydd ac ailgyflenwi dŵr daear
  • Llacio pridd er mwyn creu wyneb garw wedi’r cynhaeaf, fel y gall dŵr socian i’r tir yn hytrach na llifo oddi arno
  • Symud anifeiliaid, pan fo’r tir yn wlyb, o gaeau sy’n tueddu i fynd o dan ddŵr
  • Peidio â rhoi gormod o bwysedd awyr yn eich teiars, i osgoi gwasgu’r pridd yn galed

Paratoi’ch cartref chi at lifogydd

I lawer ohonom, nid bywoliaeth yn unig mo’r fferm, ond cartref, hefyd. Os yw eich fferm chi mewn ardal perygl llifogydd, bydd angen i chi ystyried diogelu’ch cartref yn ogystal â’ch busnes.

Ydych chi wedi ystyried paratoi pecyn argyfwng llifogydd, hefyd?

Byddai’n cynnwys yr holl bethau y byddai arnoch eu hangen pe bai gofyn i chi adael. 

Dylai gynnwys pethau fel copïau o ddogfennau yswiriant; fflachlamp droi; radio; dillad cynnes, diddos; dŵr potel ac unrhyw foddion neu ffisig sydd arnoch ei angen.

Sut mae diogelu’ch cartref adeg llifogydd?

  • Caewch y cyflenwadau nwy, dŵr a thrydan
  • Galwch Floodline (0345 988 1188) am yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer eich ardal chi
  • Symudwch bethau gwerthfawr gennych, a dodrefn y gellir ei symud yn hawdd, i fyny’r grisiau i le diogel
  • Er mwyn atal dod rhag dod i’ch cartref, rhoddwch y plygiau yn y sinciau, a phwysau am eu pennau; caewch bibellau cyflenwi dŵr â llieiniau neu gadachau, a datgysylltwch unrhyw offer sy’n defnyddio dŵr (peiriannau golchi, e.e.) rhag i’r dŵr lifo trwyddynt i’ch tŷ
  • Canfyddwch eich cynllun llifogydd, a symudwch eich teulu i fyny’r grisiau i le diogel, lle gallwch ddianc ohono
  • Ceisiwch beidio â chyffwrdd â dŵr llifogydd, rhag ei fod wedi’i lygru
  • Peidiwch â gadael eich cartref na mentro i ddŵr llifogydd onid yw’r gwasanaethau argyfwng yn dweud wrthych. Gall dŵr llifogydd fod yn beryglus iawn, a chuddio peryglon

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â diogelu’ch fferm chi rhag llifogydd, derbyn y gwasanaeth rhybuddion llifogydd neu gael copi o gynllun llifogydd, cysylltwch â ni: 

F: 0300 065 3000

E: floodawareness.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Gorlifo ffermydd a thir amaeth Mae’r daflen hon yn rhoi i chi beth cyngor ymarferol ar yr hyn y gallwch ei wneud i leihau effaith llifogydd ar eich fferm PDF [76.8 KB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.