Cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru 2021-2027

Cynlluniau rheoli basnau afonydd sy’n rhoi’r fframwaith cyffredinol ar gyfer rheoli dŵr, gan helpu i warchod a gwella ein hamgylchedd dŵr.

Mae ein hafonydd, ein llynnoedd, ein gwlypdiroedd, ein dyfroedd daear, ein haberoedd a’n dyfroedd arfordirol – gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwarchodedig – i gyd yn dod o dan y cynlluniau hyn.

Rydym yn diweddaru’r cynlluniau bob chwe blynedd. Drwy gyfrwng y broses hon, rydym yn datblygu’n dealltwriaeth o gyflwr yr amgylchedd dŵr, y pwysau arno a pha fesurau y mae eu hangen i’w wella a’i warchod drwy ddefnyddio’r dystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd.

Beth mae’r cynlluniau rheoli basnau afonydd yn ei gynnwys

Mae ein hadnoddau ar gyfer cynlluniau rheoli basnau afonydd yn cynnwys:

  • cynlluniau rheoli basnau afonydd: un ar gyfer Afon Dyfrdwy, un ar gyfer Gorllewin Cymru
  • tystiolaeth a data ynghylch cyrff dŵr yng Nghymru
  • penderfyniadau sgrinio asesiadau amgylcheddol strategol: un ar gyfer Afon Dyfrdwy, un ar gyfer Gorllewin Cymru
  • asesiad rheoliadau cynefinoedd
  • rhestr o ardaloedd gwarchodedig o fewn ardaloedd basnau afonydd

Cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru

Mae’r cynlluniau’n disgrifio:

  • cyflwr presennol yr amgylchedd dŵr
  • pwysau sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr
  • amcanion amgylcheddol ar gyfer gwarchod a gwella’r dyfroedd
  • y rhaglen o fesurau a chamau gweithredu y mae eu hangen i gyflawni’r amcanion
  • cynnydd ers cynllun 2015

Cynllun rheoli basn afonydd Gorllewin Cymru (2021-2027).

Cynllun rheoli basnafon Dyfrdwy (2021-2027).

Rhanbarth basn afon Dyfrdwy yn Lloegr

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n rheoli’r rhan o ardal basn afon Dyfrdwy sydd yn Lloegr.

Mae’r papur River basin planning process overview: Dee River Basin District in England (Planning Overview (Dee in England)) yn cyflwyno:

  • sut caiff yr amgylchedd dŵr ei ddiffinio a’i ddisgrifio
  • y broses a ddefnyddir ar gyfer diweddaru’r amcanion
  • y rhaglenni o fesurau yn Lloegr

Caiff yr ystod o fecanweithiau sydd ar gael ar gyfer gweithredu mesurau cynllunio basn yr afon yn Lloegr ei disgrifio yn y papur Dee River Basin District in England programmes of measures: mechanisms summary (Mechanisms Summary).
 

Penderfyniadau sgrinio asesiadau amgylcheddol strategol

Defnyddiwch y dogfennau hyn i ddeall sut rydym wedi ystyried effeithiau posib gweithredu cynlluniau rheoli basnau afonydd 2021-2027 ar bobl a’r amgylchedd ehangach, e.e. iechyd pobl, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd.

Penderfyniad sgrinio asesiad amgylcheddol strategol Gorllewin Cymru.

Penderfyniad sgrinio asesiad amgylcheddol strategol Afon Dyfrdwy.

Asesiadau rheoliadau cynefinoedd

Defnyddiwch y ddogfen hon i ddeall effeithiau posib gweithredu cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru ar safleoedd Ewropeaidd dynodedig.

Mae hefyd yn nodi ble mae angen mesurau lliniaru er mwyn atal effeithiau andwyol ar y safleoedd hyn.

Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: Gorllewin Cymru ac Afon Dyfrdwy.

Tystiolaeth a data am yr amgylchedd dŵr

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyflwr presennol yr amgylchedd dŵr yng Nghymru, mesurau ac amcanion ar gyfer ei wella, a dalgylchoedd cyfle ar wefan Arsylwi Dyfroedd Cymru.

Ardaloedd gwarchodedig mewn ardaloedd basnau afonydd

Chwiliwch y gofrestr o ardaloedd gwarchodedig yn ardaloedd basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru i gael gwybodaeth am:

  • ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed
  • dyfroedd pysgod cregyn
  • dyfroedd ymdrochi (hamdden)
  • safleoedd Ewropeaidd
  • ardaloedd sensitif o ran maethynnau

 

Sut datblygwyd y cynlluniau ar gyfer Cymru

Crynodeb o’r broses dechnegol, economaidd ac ymgysylltu a ddefnyddiwyd i ddatblygu cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru:

Atodiad trosolwg cynllunio (Cymru).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf