Stormydd arfordirol Cymru, Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014 – asesiad o newid amgylcheddol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau ei archwiliad amgylcheddol o effaith stormydd gaeaf y llynedd ar safleoedd cadwraeth bywyd gwyllt ac arfordirol
Mae effeithiau stormydd y gaeaf i’w gweld o hyd. Mae caeau clogfeini mawr, a dadorchuddiwyd gan y stormydd, ag algâu drostynt i gyd, fel y gwelir yn y llun hwn a dynnwyd yn rhan o arolwg MarClim.
Problemau arfordirol
Yn Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014, achosodd ymchwyddiadau storm sylweddol a thonnau eithaf pwerus, ynghyd â’r llanw uchel, broblemau sylweddol ar hyd arfordir Cymru.
Ar ôl y stormydd, gynhalion ni archwiliad amgylcheddol o effaith y stormydd ar safleoedd cadwraeth bywyd gwyllt ac arfordirol.
Dysgu gwersi
Mae’r adroddiad hwn yn gofnod o faint y newid amgylcheddol cysylltiedig o ran yr amgylchedd ei hun a’r bywyd gwyllt.
O hwn gallwn ddysgu gwersi o’r stormydd ac ystyried y goblygiadau o ran rheoli’r amgylched a chadwraeth yn y dyfodol yng Nghymru.
Casglu cofnodion newid amgylcheddol ar ôl y stormydd
Gweithion ni’n gyflym gydag eraill i gasglu’r cofnodion newid oedd ar gael. Cyflwynwyd dros 80 o gofnodion ar gyfer yr archwiliad cychwynnol ddiwedd Ionawr 2014.
Tanlinellodd hyn, fodd bynnag, yr angen am ffordd o weithio fwy cynhwysfawr yn y dyfodol, a fydd yn gofyn am gynllunio a chydweithredu.
Cyfleoedd
Mae hyn yn darparu cyfleoedd posibl, o ran gwyddoniaeth dinasyddion, defnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol a datblygu cryfderau presennol gwaith partneriaeth.
Deall bregusrwydd a gwydnwch
Yn sgil y potensial am stormydd mwy ac amlach oherwydd newid hinsawdd, fe fydd yn gynyddol bwysig deall bregusrwydd a gwydnwch ein cynefinoedd, rhywogaethau a buddiannau geogadwraeth arfordirol.
Mae llawer o’r ystyriaethau hyn yn ddynodedig iawn ac fe fyddant yn ein galluogi i wneud cynlluniau manwl priodol ar gyfer dyfodol y safleoedd hyn.
Cynllunio a darparu ar gyfer y dyfodol
Gan adeiladu ar y broses Cynllunio Rheoli Traethlin Strategol, bydd angen i gynlluniau darparu lleol ar gyfer ardaloedd arfordirol ystyried yr amgylchedd ehangach a’r ystod lawn o wasanaethau ecosystem, er mwyn sicrhau newidiadau lle y bo’n briodol, gwella cynaliadwyedd a datblygu’r gallu i wrthsefyll newid hinsawdd.
Y camau nesaf
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r gwaith ychwanegol y mae ei angen i wella ein hymateb i effeithiau stormydd arfordirol a’n dealltwriaeth o’r effeithiau hyn ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn ystyried y camau nesaf, ochr yn ochr â’n partneriaid, yn rhan o’r cynllun cyflawni adolygiad lifogydd arfordirol ehangach. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ffordd fwy integredig o weithio er mwyn rheoli’r arfordir yn y dyfodol.
Bodloni argymhellion
Mae’r adroddiad hwn hefyd yn bodloni Argymhelliad 36 o Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru (Adnoddau Naturiol Cymru 2014) – i gwblhau diweddariadau parhaus i asesiad ‘cyflym’ Cam 1 o’r newidiadau amgylcheddol a welwyd yn ystod stormydd Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014.