Stormydd difrifol ac argymhellion
Comisiynwyd yr asesiad cynhwysfawr hwn gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, yn dilyn y stormydd arfordirol a gafwyd yn Rhagfyr 2013 / Ionawr 2014. Y stormydd hyn oedd y mwyaf difrifol a welwyd yng Nghymru ers degawdau. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud 47 o argymhellion i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol yn y dyfodol.
Asesu difrod y stormydd
Mewn adroddiad a ryddhawyd yn gynharach eleni i asesu’r difrod a achoswyd gan y stormydd, dangoswyd bod yr amddiffynfeydd a’r ffordd yr ymatebwyd i’r argyfwng wedi gweithio’n dda ar hyd mwyafrif llethol arfordir Cymru.
Risgiau o ganlyniad i dywydd mwy eithafol
Fodd bynnag, mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn nodi bod stormydd Rhagfyr 2013 a dechrau Ionawr 2014 wedi bod yn brawf enfawr i’r amddiffynfeydd, yn ogystal ag i’r ffordd yr ymatebwyd i’r argyfwng i’r stormydd ac i allu ardaloedd arfordirol Cymru i wrthsefyll stormydd. Gall stormydd o’r fath effeithio’n arw ar Gymru ac mae’r rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn dangos y bydd y risg yn cynyddu oherwydd y tywydd mwy eithafol a ddaw yn y dyfodol.
Canolbwyntio ar y gwaith y mae angen ei wneud
Er mwyn delio â’r heriau a ddaw yn sgil y risg gynyddol hon, mae’r asesiad yn canolbwyntio ar y gwaith pwysig y mae angen ei wneud i wella ymhellach gallu Cymru i wrthsefyll stormydd o’r fath.
Meysydd sy’n flaenoriaeth
Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn, a luniwyd ar y cyd â holl Awdurdodau Lleol arfordirol Cymru, wedi’u rhannu’n chwe maes blaenoriaeth: buddsoddi, gwybodaeth, egluro swyddogaethau, asesu sgiliau, cymorth i gymunedau a datblygu cynlluniau lleol.
Atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd
Ers stormydd y gaeaf, mae gweithwyr CNC wedi bod yn atgyweirio amddiffynfeydd pwysig rhag llifogydd mewn lleoedd fel Porthcawl, Amroth a Niwgwl. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys atgyweirio bwlch 50m mewn amddiffynfeydd yn Llanbedr yn y Gogledd. Mae’r gwaith atgyweirio hwn wedi’i gwblhau yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.
Gweithredu mewn chwe maes
Mae’r adroddiad yn argymell gweithredu mewn chwe maes penodol, fel a ganlyn:
Buddsoddi’n barhaus mewn rheoli risg arfordirol
Buddsoddi mewn darogan llifogydd, rhybuddion, ymwybyddiaeth, ffyrdd o ymateb a ffyrdd o adfer; buddsoddi mewn amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd a chynnal a chadw’r rhai presennol; galw am well sicrwydd ynglŷn â’r cyllidebau sydd ar gael ar gyfer rheoli risg llifogydd dros gyfnod mwy hirdymor.
Gwell gwybodaeth am systemau amddiffyn rhag llifogydd arfordirol
Gwybodaeth fwy cyflawn a chyson am amddiffynfeydd o bob math; gwybodaeth am eu cyflwr, yr ardaloedd y maen nhw’n eu hamddiffyn a’r gwaith o’u cynnal a’u cadw. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am amddiffynfeydd artiffisial a naturiol, a strwythurau lle mai eilbeth yn unig yw amddiffyn rhag llifogydd, ee promenadau.
Gwell eglurhad o swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau
Eglurhad gwell i bobl a chymunedau o bwy sy’n gwneud beth, gan arwain at gyflawni’n fwy effeithlon ac effeithiol er budd cymunedau.
Asesu sgiliau a gallu
Darganfod a oes bylchau i’w cael mewn awdurdodau rheoli risg, ac ymhle – er enghraifft awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, gwasanaethau sy’n ymateb i argyfwng ac ati – er mwyn gwella’r modd y caiff risgiau llifogydd ac erydu arfordirol eu rheoli.
Mwy o gymorth i gymunedau, er mwyn eu helpu i wrthsefyll llifogydd yn well
Mae’r adroddiad yn nodi angen am gymunedau mwy ‘hunangynhaliol’ yn y dyfodol, er mwyn galluogi cymunedau i ymateb i rybuddion llifogydd, a galluogi cymunedau i reoli eu risgiau llifogydd yn y dyfodol gyda chymorth gan asiantaethau perthnasol.
Cyflwyno cynlluniau a ddatblygir yn lleol ar gyfer cymunedau arfordirol
Gwell dealltwriaeth o risgiau llifogydd; galluogi cymunedau i addasu’n well i’r risg gynyddol yn sgil newid hinsawdd; bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cefnogi’n genedlaethol ac yn gorwedd ochr yn ochr â chynlluniau rheoli traethlin.