Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Deg llwybr cerdded ar gyfer y gaeaf

Lapiwch yn gynnes rhag yr oerfel ar gyfer antur aeafol

Dynion yn cerdded yn yr eira

Dewis eich llwybr

Rydym wedi dewis deg llwybr cerdded i’ch helpu i fwynhau’r awyr agored y gaeaf hwn yn ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Dringwch i’r entrychion i gael cip ar fynyddoedd dan eira neu darganfyddwch chwedl Sant Ffolant Cymru ar lan y môr.

Mwynhewch sŵn afon ar ein llwybr hygyrch drwy goetiroedd conwydd â’u sbriws persawrus.

Ewch allan ar y bont gadwyn sigledig yn Ystâd Hafod - tipyn mwy cyffrous yn ystod y gaeaf, pan fydd yr afon yn llifo’n wyllt islaw.

Gwnewch adduned i ymweld â’r unig lyn tymhorol ym Mhrydain, sy’n swatio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin neu ewch am dro egnïol drwy’r coetir i ddianc rhag y syrthni tymhorol.

I’ch helpu i ddewis llwybr yn agos i chi, rydym wedi rhestru llwybrau cerdded yn y Gogledd yn gyntaf, yn y Canolbarth, ac yna yn y De.

Cylch Tŵr Jiwbilî, Coed Moel Famau, Gogledd Ddwyrain Cymru

Tŵr Jiwbili

Cynheswch drwy ddringo llwybr serth ond cyson i ben Moel Famau a Thŵr y Jiwbilî. Mae’r golygfeydd o’r copa ar draws gogledd Cymru’n arbennig o drawiadol yn y gaeaf, yn enwedig ar ôl ychydig o eira neu rew. Mae’r llwybr a farciwyd yn dychwelyd i’r maes parcio trwy gefn gwlad agored ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa. Moel Famau yw’r copa uchaf yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Dysgwch ragor am yr ardal ym Mharc Gwledig Loggerheads, sydd gerllaw.

  • Hyd: 3½ milltir/5.8 cilometr
  • Tir dan draed: Ceir rhai rhannau serth ar y llwybr (gradd cymedrol)
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Coed Moel Famau. Codir tâl am barcio

Dysgu mwy

Llwybr Saint, Tywod a Môr, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Gogledd Orllewin Cymru

Ynys Llanddwyn

Dysgwch am chwedl Sant Ffolant Cymru ar lwybr rhamantus yn Ynys Môn. Mae’r Llwybr Sant, Traeth a Thonnau’n dilyn llwybrau drwy goedwig cyn anelu am Ynys Llanddwyn enwog, rhan o system twyni arfordirol ysblennydd Cwningar Niwbwrch a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Llanddwyn. Dywedir i Dwynwen, santes cariadon Cymru, encilio yma yn y bumed ganrif i fyw bywyd meudwy ar ôl iddi gwympo mewn cariad, er bod ei thad wedi trefnu iddi briodi rhywun arall.

  • Hyd: 4½ milltir/7.1 cilometr
  • Tir dan draed: Gall Ynys Llanddwyn gael ei gwahanu o’r tir mawr ar lanw uchel (dilynwch yr arwydd dargyfeirio yn ystod llanw uchel) ac mae’r tir dan draed yn greigiog gyda glaswelltir anwastad. Mae gweddill y llwybr cymedrol ar hyd llwybrau yn y goedwig a thwyni tywod medal. Gellir cael mynediad i rai rhannau gyda bygis a chadeiriau olwyn cryf
  • Dechrau a gorffen: maes parcio traeth Niwbwrch. Codir tâl am barcio

Dysgu mwy

Llwybr Mwynwyr Hafna, Parc Coedwig Gwydir, Gogledd Orllewin Cymru

Dau gerddwr yn Hafna

Mae pentref tlws Betws-y-Coed ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr heddiw ond, yn ôl ar ddiwedd y 19eg ganrif, y gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal. Ceisiwch ymweld â’r ardal yn ystod misoedd tawelach y gaeaf a darganfod hanes y dirwedd ddiwydiannol hon. Wrth iddo ddolennu drwy Goedwig Gwydir mae Llwybr y Mwynwyr yn eich tywys drwy sawl gwahanol bwll, pob un â’i stori ei hun. Byddwch yn mynd heibio sianeli, siafftiau caeedig a mynedfeydd twneli yn ogystal ag olion hen felinau a fu’n segur ers blynyddoedd. Ar ôl ichi gael eich siâr o hanes, mae digon o gaffis a thafarndai ym Metws-y-Coed i gael paned i gynhesu’r gallon. 

  • Hyd: 2¼ milltir/3.6 cilometr
  • Tir dan draed: Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr hwn yn dilyn ffyrdd y goedwig a llwybrau cul a geirwon, gyda rhywfaint o rannau serth, grisiau ac un gamfa
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Hafna, ger Llanrwst 

Dysgu mwy

Llwybr Mynydd Penrhos, Parc Coedwig Coed y Brenin, Gogledd Orllewin Cymru

Merch a chi ar Lwybr Penrhos

Dilynwch y marcwyr llwybr gwyrdd drwy’r goedwig ac i fyny’r bryn i gyrraedd copa grugog ac eithinog mynydd Penrhos. Eich gwobr am y gwaith caled o ddringo i’r pen fydd golygfeydd godidog ar draws copaon gwynion Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r llwybr cylchol hwn yn dychwelyd i’r maes parcio sydd yn siwrnai fer mewn car o Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ble gallwch gynhesu yn y caffi gyda phaned a chacen.

  • Hyd: 3¼ milltir/5.3 cilometr
  • Tir dan draed: Dyma lwybr caled sy’n dilyn sawl llwybr serth ar arwyneb garw ac anwastad
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Ty’n y Groes, Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Aberystwyth

Dysgu mwy

Llwybr Pen y Bryn, Coedwig Dyfi, Canolbarth Cymru

Merch yn cerdded ar  Lwybr Pen y Bryn

Os mai eich adduned Blwyddyn Newydd yw cerdded mwy i fod yn fwy heini, bydd y daith gerdded fer ond serth hon yng Nghoedwig Dyfi yn ddechreuad da i’r flwyddyn. Mae’n cychwyn ym maes parcio ac ardal picnic Moel Friog sy’n hawdd dod o hyd iddo o’r A487 rhwng Machynlleth a Dolgellau. Mae’r llwybr cylchol yn mynd â chi i fyny drwy’r coed anferth i olygfan gyda golygfeydd eang. Mae’r daith lwybr yn ôl yn mynd trwy goetir derw hynafol ac ar hyd dyffryn yr afon.

  • Hyd: 2 filltir/3.2 cilometr
  • Tir dan draed: Taith gerdded galed gyda disgyniad ac esgyniad serth sy’n dringo i 680troedfedd/220m. Ceir arwyddion ar y llwybr
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Moel Friog, ger Machynlleth

Dysgu mwy

Llwybr Afon Irfon, Coedwig Irfon, Canolbarth Cymru

Coedwig Irfon

Mae’r llwybr penodedig, gwastad, hwn yn dilyn taith Afon Irfon ar ran o’i thaith o Fynyddoedd Cambria i ymuno ag Afon Gwy yn Llanfair-ym-muallt. Gallwch ymarfer mwy nag un o’ch synhwyrau yma: bydd y golygfeydd hyfryd yn llenwi eich llygaid i bob cyfeiriad; bydd tincial yr afon yn llenwi eich clustiau ar hyd y llwybr mynediad hawdd hwn; a bydd eich trwyn yn llawn o arogl sbriws y coedwigoedd pinwydd sydd o’ch cwmpas. Dim ond ychydig filltiroedd o Lanwrtyd y mae’r llwybr, tref sy’n honni mai hi yw’r lleiaf ym Mhrydain, ond ceir yma ddigon o dafarndai a chaffis i gynhesu ar ôl eich taith.

  • Hyd: 1¼  milltir/1.9 cilometr (yno ac yn ôl)
  • Tir dan draed: Mae Llwybr Afon Irfon yn llwybr hawdd, gwastad heb ddim grisiau. Mae nifer o feini mawr wedi’u gosod ar hyd y llwybr er mwyn i chi eistedd a gor­wys am ychydig a mwynhau golygfeydd a synau’r afon. Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r maes parcio ar hyd yr un llwybr.
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Pont Wen, ger Llanwrtyd

Dysgu mwy

Taith Ceunant Ystwyth, Ystâd Hafod, Canolbarth Cymru

Pobl ac afon

Dilynwch ôl troed y twristiaid cynnar oedd yn chwilio am ‘natur wyllt’ ar Ystâd Hafod, sydd wedi’i chuddio mewn cwm diarffordd ger Aberystwyth. Mae Llwybr Ceunant Ystwyth yn daith syfrdanol o hardd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae hi’n dipyn mwy cyffrous croesi’r bont gadwyn sigledig yn ystod y gaeaf, pan fydd yr afon yn ei llif. Os hoffech archwilio mwy ar y dirwedd hanesyddol hon, dewiswch un o’r pedwar llwybr arall a farciwyd yn yr ardal, sy’n cynnwys rhaeadrau, pontydd unigryw a golygfeydd syfrdanol.

  • Hyd: 1 milltir/1.6 cilomedr (2 filltir/3.2 cilomedr cyfanswm pellter o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd Rhodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)
  • Tir dan draed: Mae'r llwybr yn gymedrol. Mae'n cynnwys llawer o ddringo a disgyn ar hyd y ffordd a cheir pontydd i’w croesi. Marciwyd y llwybrau a cheir gwybodaeth ym maes parcio.
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Ystâd Hafod, ger Aberystwyth

Dysgu mwy

Llwybr Cilgwyn, Coed Cilgwyn, De Orllewin Cymru

Dyn gyda chi mewn coetir

Dewch i’r llecyn tawel hwn ychydig filltiroedd o Lanymddyfri i fynd am dro ar lwybr coetir byr a chael ennyd o lonyddwch. Mae’r gylchdaith hon yn hawdd i’w dilyn ac yn berffaith i’r teulu. Mae’n dringo’n raddol drwy goed conwydd urddasol i bwll bach ac yn dychwelyd drwy lwyn o ffawydd. Mae ambell fainc ar hyd y ffordd ichi gael seibiant, felly peidiwch ag anghofio eich fflasg!

  • Hyd: 2 filltir/3.2 cilomedr
  • Tir dan draed: Llwybr gradd gymedrol yw hwn sy’n dringo 500 metr yn raddol ar y cychwyn, ac mae’n cynnwys rhai rhannau serth wrth ddychwelyd. Mae’n dechrau ar ffordd goedwig ac yna’n dilyn llwybrau cul drwy’r coetir.
  • Dechrau a gorffen: ardal barcio fach ger mynedfa Coed Cilgwyn, ger Llanymddyfri

Dysgu mwy

Llwybr y Chwarel, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, De Orllewin Cymru

Pant y Llyn

Gwnewch adduned i ymweld â’r unig lyn tymhorol ym Mhrydain, ynghudd yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Caiff y man unigryw hwn, o’r enw Pant y Llyn, ei fwydo gan ddŵr daear yn unig o’r calchfaen gwaelodol, a dim ond yn y gaeaf y bydd yn llenwi. Dilynwch y llwybr cylchol byr drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Carmel i frig y chwarel, lle gallwch fwynhau’r olygfa cyn mynd drwy’r coetir i’r llyn diflanedig.

  • Hyd: 1 filltir/1.8 cilomedr
  • Tir dan draed: Gradd ‘anodd’ a nodir i’r daith gerdded hon gan ei bod yn cynnwys dringfa serth o 265 troedfedd/80 metr. Mae’r llwybrau’n serth ac mae wyneb o gerrig rhydd arnynt.
  • Dechrau a gorffen: y maes parcio, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel, ger Llandeilo

Dysgu mwy

Llwybr Sgydau Sychryd, Craig Dinas, De Ddwyrain Cymru

Pobl a rhaeadr

Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu’n gwthio bygi babi, dyma lwybr ardderchog er mwyn mwynhau golygfeydd trawiadol. Mae’r llwybr yn nadreddu drwy geunant coediog ar lan yr afon hyd at raeadrau Sgydau Sychryd sy’n taranu o ddŵr yn ystod misoedd y gaeaf. Ceir golygfeydd pellach ar draws yr afon i gyfeiriad ffurfiant carreg galch rhyfeddol o’r enw Bwa Maen. Mae’r llwybr ynghanol Gwlad y Rhaeadrau a does unman arall yng Nghymru ble cewch chi gynifer o raeadrau syfrdanol mewn ardal mor fach.

  • Hyd: ½ milltir/0.6 cilometr (yno ac yn ôl)
  • Tir dan draed: Mae'r llwybr yn hygyrch ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis cryf. Graean a phridd wedi’u gwasgu yw’r llwybr yn bennaf, a gall fod yn fwdlyd
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Craig Dinas, ger Neath. Gall y maes parcio fod yn brysur iawn weithiau, am fod hon yn ardal boblogaidd gan ganolfannau awyr-agored

Dysgu mwy

Cynlluniwch eich taith a mwynhewch eich ymweliad!

Ewch i wefan Traveline Cymru i gael gwybodaeth am deithio ar fws, coets a thrên yng Nghymru.

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor defnyddiol i chi ar sut i baratoi eich taith, gofalu eich bod chi ac eraill yn ddiogel a sut i helpu i sicrhau bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.

Ydych chi’n chwilio am rywle arall i fynd iddo?  Ewch i’n tudalen Lleoedd i ymweld â hwy.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map Llwybr Pen y Bryn PDF [5.2 MB]
Map Llwybr Afon Irfon PDF [5.0 MB]
Map Llwybr Cilgwyn PDF [4.7 MB]
Map Llwybr y Chwarel PDF [6.1 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.