Ewch i ddarganfod!
Edrychwch ar ddeg o’r pethau gorau i’w gwneud...
Dewch i ddarganfod yr awyr agored ar rai o'n llwybrau gorau ar gyfer yr haf yn ein coetiroedd a'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Rydym wedi dewis deg llwybr i’ch helpu i wneud y gorau o ddiwrnodau hir yr haf.
Dihangwch rhag y torfeydd a chrwydro un o’r gerddi mwyaf anarferol yng Nghymru neu dilynwch olion traed twristiaid cynnar ar lwybr unigryw a gynlluniwyd yn y ddeunawfed ganrif.
Cadwch y rhai bach yn brysur gyda llwybr pos coetir neu ymlaciwch yn y man picnic heddychlon lle gallant fwynhau padlo yn yr afon.
Efallai fod yr ysgol wedi cau am yr haf ond gallwch fynd â phlant hŷn am wers hanes awyr agored mewn parc coedwig, neu ddilyn ôl traed Charles Darwin yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru.
Os ydych chi’n cychwyn ar daith i lan y môr, ewch i archwilio harddwch naturiol ein Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol arfordirol ar y Llwybrau Twyni yn Ynyslas ger Aberystwyth ac yn Oxwich ar Benrhyn Gŵyr.
Neu, os byddai’n well gennych fwrw am y mynyddoedd, gallwch fwynhau mynd am dro hamddenol yn yr haf yng ngodre mynydd Cadair Idris, un o fynyddoedd eiconig Parc Cenedlaethol Eryri, yna mwynhau’r danteithion cartref yn y ganolfan ymwelwyr.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad, ac yn eich galluogi i gael y mwyaf allan o’ch ymweliad.
Mae’n rhoi cyngor defnyddiol i chi am:
Cwm Idwal oedd y Warchodfa Natur Genedlaethol cyntaf yng Nghymru ac mae tymor yr Haf yn gyfnod gwych o’r flwyddyn i grwydro’r amffitheatr naturiol enfawr hon. Ewch am dro ar hyd y llwybr cerdded cyhoeddus i’r chwith o’r ganolfan ymwelwyr gan fwynhau un o’r llwybrau cerdded mwyaf dramatig yng Nghymru. Wrth i chi ddilyn y llwybrau cerdded ar lwybr cylchol o amgylch y llyn, byddwch yn dod wyneb yn wyneb ag etifeddiaeth Oes yr Iâ a’r rhewlif enfawr a oedd yn arfer bod yma. Cadwch lygad am y crognentydd, y clogfeini gloyw enfawr, y llethrau sgri enfawr a’r ffurfiadau craig garw ar y copa. Mae hyd yn oed y planhigion sydd yma wedi goroesi o’r oes pan oedd iâ yn teyrnasu. Haf yw’r amser gorau i weld lliwiau gogoneddus y planhigion arctig alpaidd prin sy’n ffynnu ar y siliau, y tu hwnt i gyrraedd geifr gwyllt. Mae’r llwybr cerdded hwn hefyd yn llawn hanes. Yma y gwnaeth Charles Darwin ei arsylwadau arloesol am brosesau daearegol, gan gynnwys effeithiau rhewlifiant, ac roedd Edmund Hillary ymhlith y mynyddwyr a ddefnyddiodd Rhiwiau Caws fel maes hyfforddi.
Rhagor o wybodaeth
Denwch y teulu allan i’r awyr agored wrth addo iddynt y cânt weld afon hiraf Prydain yn plymio dros ei rhaeadr gyntaf. Dŵr Torri Gwddf yw’r enw am y rhaeadr ble bydd afon Hafren yn tasgu i lawr ceunant wrth iddi fynd drwy Raeadr Hafren. Mae’r llwybr cerdded cylchynol byr hwn yn mynd ling-di-long drwy ddol yn llawn o fywyd gwyllt cyn mentro i’r goedwig ble ceir arogleuon sitrws y ffynidwydden gawraidd, y mwyaf o bob coeden binwydd, yn llenwi’r awyr. Man oedi olaf eich taith yw’r bont dros y rhaeadr ysgubol, ble gallwch syllu i lawr ar yr hyrddiadau gwyllt o ddŵr wrth iddo bistyllu i’r ceunant dwfn. Mae Coedwig Hafren yn gartref i dri llwybr cerdded ag arwyddbyst arall, ynghyd â llu o lwybrau cyhoeddus.
Dysgu mwy
Pan mae’r haul yn gwenu, mae’n demtasiwn i fynd yn syth i’r traeth yn Ynyslas ond beth am ddilyn y Llwybr Twyni a darganfod pam mae’r ardal hon wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol? Mae’r llwybr sydd wedi’i gyfeirbwyntio yn cynnwys tirwedd sy’n amrywio o gribau twyni a slaciau i draeth agored a llinell yr arfordir, ynghyd â golygfeydd panoramig gwefreiddiol ar hyd yr arfordir. Yn ystod yr haf, mae’r twyni wedi’u gorchuddio â charped amryliw o flodau gwyllt sy’n denu gloÿnnod byw a gwyfynod - edrychwch a allwch chi weld y glesyn cyffredin, y gwyfyn claergoch ag adenydd rhuddgoch a’r britheg werdd. Wrth i chi gerdded ar hyd y traeth, cadwch lygad am gregyn hardd ac adar sy’n mynd i’r dŵr ac, os ydych chi’n lwcus iawn, efallai gwelwch chi ddolffin allan yn y môr. Os hoffech gerdded llwybr hirach, ewch i gyfeiriad y goedwig suddedig sy’n agos at bentref Borth gerllaw lle gellir gweld gweddillion bonion coed hynafol ar y traeth ar lanw isel.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi’n edrych am syniadau i ddiddanu’r rhai bach yn ystod y gwyliau haf hir, dylai’r llwybr addysgol llawn hwyl hwn yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant fod ar eich rhestr fer. Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi’i lleoli yn y coetir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae arwyddbyst clir yn dangos sut i gyrraedd yno oddi ar yr A470 ac mae’n addas iawn ar gyfer ymwelwyr iau gyda lleoedd chwarae ac llwybrau beicio mynydd i blant iau. Casglwch daflen Llwybr Posau am ddim o’r ganolfan ymwelwyr ac yna dilynwch y cyfeirbwyntiau dros y bont ac i mewn i’r coetir. Mae’r daflen yn cynnwys map a chliwiau i’ch helpu i weld y cerfluniau anifeiliaid sydd wedi’u cuddio yn y coed ond bydd i angen i chi gadw llygad barcud hefyd! Mae’r llwybr byr hwn yn berffaith i’r teulu cyfan ac nid yw’n rhy flinedig i goesau bach. Mae digonedd o fyrddau picnic a standiau barbeciw o amgylch y maes parcio a chaffi yn y ganolfan ymwelwyr lle gallwch ymlacio a chael hoe ar ôl eich antur coetir.
Rhagor o wybodaeth
Mae morlin Gŵyr yn fan poblogaidd i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn ac, yn ystod misoedd yr haf, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn croesawu nifer o ymwelwyr ar ffurf adar a phryfed hefyd. Ychydig dros ddeg milltir o Abertawe, gwarchodfa fach yw Oxwich sydd â llawer i’w gynnig – traeth, twyni tywod, morfa heli, llynnoedd dŵr croyw, coetir a chlogwyni calchfaen – ac mae’r cynefinoedd gwahanol hyn yn cynnig amrywiaeth eang o rywogaethau. Wrth i chi ddilyn y Llwybr Twyni, cadwch lygad am y tegeirian lliwgar a phlanhigion eraill yn y slaciau (y pantiau llaith rhwng y twyni). Haf yw’r amser gorau o’r flwyddyn i weld crwynllys Cymreig a glesyn-y-gaeaf deilgrwn a phlanhigion prin eraill gan eu bod yn blodeuo yn ystod y misoedd cynhesaf. Mae’r byd adar yn enwedig o drawiadol yn yr haf, hefyd, gydag ymwelwyr prin fel Telorion Cetti a Thelorion Hesg. A chadwch lygad ble rydych chi’n cerdded gan fod Oxwich yn gartref i rywogaethau pryfed llai cyffredin fel Sioncwr y Tir Cepero a Chwilen Chwilotwr Glan Môr.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi’n chwilio am lwybr cerdded mwy heriol i wneud y gorau o ddiwrnodau hir yr haf, yna gallai Llwybr Cerdded y Bonheddwr fod yn addas ar eich cyfer chi. Cafodd Ystâd Hafod ei ddylunio ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac mae’n cael ei adnabod fel un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd “darluniadwy” yn Ewrop. Daeth yn gyrchfan hanfodol i’r twristiaid cynnar i Gymru a oedd yn mwynhau’r dilyniant o olygfeydd a nodweddion tirlun ar y ddau lwybr cylchol a ddatblygwyd gan Johnes. Y Llwybr Cerdded y Bonheddwr yw’r hiraf o’r ddau lwybr hyn ac mae’r llwybr sydd wedi’i gyfeirbwyntio yn rhoi cyfle i weld hen goed pinwydd mawr, rhaeadrau dramatig, cwymp dŵr syfrdanol o fewn ceudwll a nifer o bontydd anarferol. Mae’n llwybr anodd sydd â sawl dringfa a disgynfa serth ond cewch eich gwobrwyo â golygfeydd eang dros dir ffermio a mynyddoedd.
Rhagor o wybodaeth
Does dim rhaid i chi ddringo i’r copa i fwynhau Cadair Idris, un o fynyddoedd eiconig Parc Cenedlaethol Eryri, gan y gallwch fwynhau mynd am dro hamddenol yng ngodre’r mynydd dros yr haf. Mae’r llwybr hygyrch o giât y maes parcio yn mynd o amgylch Llyn Dôl Idris ac yna ar gylchdaith o’r parcdir, heibio ein Canolfan Ymwelwyr â’i harddangosfa am fywyd gwyllt, daeareg a chwedlau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad barcud am weision y neidr yn patrolio a gwrandewch yn astud am y triawd clasurol o adar y goedwig dderw –y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch – sy’n dychwelyd i Gymru dros fisoedd yr haf. Gallwch oedi ar feinciau picnic yn y parcdir neu ymlacio yn yr heulwen a mwynhau lluniaeth cartref ar deras caffi’r ganolfan ymwelwyr. O’r fan hon, mae rhwydwaith o lwybrau yn arwain at gopa’r mynydd ac o amgylch y Warchodfa.
Rhagor o wybodaeth
Mae picnics a’r haf yn mynd law yn llaw a bydd Llwybr Llyn Llywelyn yn eich tywys i le perffaith ar gyfer picnic mewn cornel dawel o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r llwybr yn cychwyn trwy’r coetir, gan fynd i gyfeiriad Llyn Llywelyn. Yma, gallwch ddadbacio eich danteithion, ymlacio ger y dŵr a mwynhau’r golygfeydd. Gwrandewch am y trenau stêm ar Reilffordd Eryri sy’n mynd trwy Goedwig Beddgelert ar eu ffordd i Gaernarfon neu Borthmadog. Os yw’n well gennych archwilio ar ddwy olwyn, mae yna ddau lwybr cylchol sy’n dilyn ffyrdd y goedwig. Mae’r ddau’n mynd heibio’r llyn, felly gallwch barhau i fwynhau picnic!
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ddianc rhag y torfeydd yr haf hwn, yna ewch am dro i’r ucheldir prydferth ac anghysbell uwchben y gronfa ddŵr Alwen. Mae Llwybr Alwen yn mynd drwy goetir heddychlon Coedwig Hiraethog a fyny i’r rhostir lle mae golygfeydd godidog o’r holl gefn gwlad o’ch cwmpas. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad am y bod tinwyn, ceiliog y mynydd a’r croesbig. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld gwiwer goch neu walch y pysgod, neu hyd yn oed glywed sŵn y gwcw. Cadwch lygad am feicwyr hefyd gan mai llwybr i gerddwyr a beicwyr yw hwn – beth am ddod yn ôl rywbryd eto a dilyn y llwybr ar ddwy olwyn?
Rhagor o wybodaeth
Mae un o’r systemau ogof mwyaf ym Mhrydain i’w chael dan eich traed yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu, ond mae digon i’w weld uwchben y ddaear hefyd. Dechrau’r haf yw’r amser gorau i weld y planhigion sy’n hoff o galchfaen, neu beth am fwynhau fflach o liw ddiwedd yr haf pan fydd y grug yn ei flodau ynghanol y llus, y cennau a’r mwsoglau ar y gweundir agored. Cadwch lygad am flodau’r gwynt, lili’r dyffrynnoedd a dugredyn coesddu yn agennau dwfn y calchbalmentydd, neu chwiliwch am y gorfanhadlen flewog brin, sef planhigyn â blodau melyn sy’n perthyn i eithin a banadl a welir mewn dau o lefydd eraill yn unig yng Nghymru. Ers talwm roedd yma bentref llewyrchus gyda chwarel a gwaith brics, ynghyd â swyddfa bost a thafarndy, a gallwch ddarganfod rhai o’r olion diwydiannol ar ein llwybr arwyddbyst.
Rhagor o wybodaeth
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.