Ewch i ddarganfod!
Edrychwch ar ddeg o’r pethau gorau i’w gwneud...
Dewch i ddarganfod y lleoliadau gorau i weld lliwiau’r hydref yn ein dewis ni o’r llecynnau harddaf i fwynhau dawns y dail
Mae’r hydref yn dymor hardd i ryfeddu wrth i goed gyfnewid eu dillad haf gwyrdd ac ir am foethusrwydd coch, aur a brown cyfoethog, ac mae’r tir i gyd yn cael ei beintio’n enfys o liwiau bendigedig.
Mentrwch allan ar y llwybr pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron i edmygu’r dewis rhyfeddol o liwiau brown, coch a gwin, neu ewch i grwydro drwy ardd y goedwig ym Mharc Coed y Brenin, ble bydd dail yn newid lliw ar adegau gwahanol drwy gydol y tymor. Mae coed ffawydd yn rhoi un o’r sioeau gorau drwy gydol yr hydref, gyda newidiadau dros gyfnod hir a thrwy sawl lliw, ac mae’r llwybr ar lan yr afon drwy goedwig ffawydd Tan y Coed yn lle rhagorol i fynd i’w gweld.
Mwynhewch olygfeydd yn llawn o liwiau’r hydref ar hyd Llwybr y Grib yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yng nghanolbarth Cymru, neu syllwch allan dros wledd symudliw Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, wrth i chi gerdded drwy Goed Llangwyfan yng ngogledd Cymru.
Mae rhaeadrau hyd yn oed yn fwy trawiadol ar ôl tywydd gwlyb yr hydref felly dyma amser ardderchog i ymweld ag un. Dewiswch y llwybr i ben Dŵr Torri Gwddf yng Nghoedwig Maesyfed, sydd wedi bod yn boblogaidd ers Oes Fictoria, neu dewch i weld pedair rhaeadr ar yr un llwybr yn yr ardal a elwir yn Wlad y Rhaeadrau neu Wlad y Sgydau yn ne Cymru.
Os yw teyrnas unigryw’r ffyngau’n dwyn eich bryd, anelwch am Goedwig Mynwar ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu’r Warchodfa Natur Genedlaethol ym Morfa Dyffryn, ble mae’r twyni tywod yn enwog am eu clystyrau niferus o ffyngau tywod.
Gallwch lawrlwytho unrhyw rai o’r llwybrau hyn am ddim i’ch dyfais Apple neu Android o Viewranger. (Argymhellwn eich bod yn lawrlwytho llwybrau a mapiau cyn gadael eich cartref er mwyn i chi allu’u defnyddio heb orfod dibynnu ar gael signal symudol).
Mae’r ap PlacesToGo yn dangos i ble allwch chi fynd a’r hyn y gallwch ei wneud yn fforestydd cyhoeddus a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru. Mae ap PlaceTales yn cynnwys llwybrau sain a chwedlau i ddod â’r mannau hyn yn fyw. Dysgwch sut i lawrlwytho’r apiau rhad ac am ddim hyn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Traveline Cymru’n siop un stop ar gyfer gwybodaeth teithio ar fysiau lleol a mawr a’r trên yng Nghymru. Fe ddewch o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am drafnidiaeth gyhoeddus yn un lle ar wefan Traveline Cymru.
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn eich helpu i barchu, gwarchod a mwynhau cefn gwlad, gan eich galluogi i gael y pleser mwyaf o’ch ymweliad.
Mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol am:
Mentrwch allan ar y llwybr pren yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron i edmygu’r dewis rhyfeddol o liwiau brown, coch a gwin sydd i’w gweld yn y tirlun bendigedig hwn. Mae’r ardal eang hon o wlyptir yn cynnig golygfa ddramatig ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae’r lliwiau’n hoelio’r sylw yn yr hydref. Mae lliwiau rhwd y gyforgors, y gwely cyrs a’r glaswelltir yn wrthgyferbyniad trawiadol yn erbyn gwyrddni’r bryniau o gwmpas, ac ar ddechrau’r hydref bydd y grug yn dal yn ei flodau. Dyma le rhagorol i weld byd natur hefyd, ac ar ddyddiau ychydig yn gynhesach mae’n bosib y gwelwch chi was y neidr a’r fursen yn saethu ar draws wyneb y dŵr, neu hyd yn oed fadfall neu wiber yn torheulo ar y llwybr pren, yn gwneud y gorau o heulwen gynnes ola’r flwyddyn.
Dysgu mwy
Ble sy’n well i fynd â’r teulu i fwynhau lliwiau coch cyfoethog a chopr bendigedig yr hydref nag ar Lwybr Darganfod trwy ardd goedwig?
Mae casgliad rhyfeddol o goed o bob cwr o’r byd i’w gweld ar hyd y llwybr drwy’r goedwig hardd hon. Maen nhw’n newid lliw ar adegau gwahanol yn ystod yr hydref felly fe ddylai croeso lliwgar fod yn disgwyl amdanoch, pa bryd bynnag y dewch ar ymweliad. Mae gan lawer o’r coed labeli enwau a cheir pyst ar hyd y daith gydag arwyddion y gallwch eu tynnu allan sy’n rhoi ffeithiau diddorol i chi. Gall dod o hyd i’r labeli a darllen y ffeithiau am y coed fod yn gêm llawn hwyl ar gyfer cerddwyr iau, a gallwch barhau â sbort y goedwig gartref drwy gasglu dail sydd wedi disgyn i wneud gwaith celf.
Dysgu mwy
Bydd y wobr yn werth y dringo serth fydd angen i chi ei wneud ar hyd Llwybr y Grib, wrth i chi ryfeddu ar y golygfeydd ysblennydd yn llawn o liwiau’r hydref. Mae’r llwybr yn pasio drwy dirweddau gwahanol sy’n amrywio o’r gefnen rugog ar y bryn agored i goedwigoedd a sgeintiwyd gan goed aur a llystyfiant brown. Ar hyd y ffordd ceir golygfan garreg ble gallwch fwynhau golygfeydd ysgubol dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Mae’r hydref yn amser gwych i wylio’r barcutiaid yn cyrraedd y llyn i gael eu bwydo bob prynhawn. Mae tuedd i’w niferoedd gynyddu ychydig wrth i’r tywydd oeri, a’u bwyd naturiol yn prinhau. Os yw hi’n wlyb, mae caffi’r Ganolfan Ymwelwyr yn lle cysgodol i wylio’r olygfa ryfeddol hon, ac i fwynhau te a chacennau cartref.
Hyd: 3 milltir (5 km).
Tir dan draed: Ceir arwyddion i ddangos ble mae Llwybr y Grib o faes parcio’r Ganolfan Ymwelwyr, ac mae’n dilyn llwybrau clir. Ceir rhai dringfeydd a disgynfeydd hir a serth. Mae’r arwynebedd mewn cyflwr da yn gyffredinol, ond gallai fod darnau garw a gwlyb mewn mannau ac mae rhannau o’r llwybr yn agored iawn i’r tywydd.
Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth.
Dysgu mwy
Ewch am dro drwy goedwig heddychlon sy’n cynnig golygfeydd dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd. Mae’r llwybr arwyddbost hwn yn dringo’n gyson, a chewch eich gwobrwyo am eich ymdrech â golygfeydd ysgubol dros fryniau a choed ymhob lliw brown ac aur a gwinau y gallwch feddwl amdanynt. Mae’r llwybr cylchol yn dychwelyd heibio i ddewis o goed gwahanol gan gynnwys pinwydd Corsica aeddfed i griafol yn drymlwythog ag aeron coch ac oren.
Mae sawl llwybr arall yn cychwyn o’r maes parcio yn ogystal, ac mae llwybr hir Clawdd Offa’n mynd drwy ran uchaf Coed Llangwyfan hefyd.
Hyd: 2 filltir (3 km).
Tir dan draed: Dyma lwybr cymedrol sy’n disgyn yn raddol.
Dechrau a gorffen: Maes parcio Coed Llangwyfan, ger Dinbych.
Dysgu mwy
Os ewch chi i’r traeth i fwynhau diwrnodau cynnes olaf y flwyddyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archwilio’r twyni tywod diddorol sy’n arwain at y môr. Mae’r system twyni hon yn symud ac yn cael ei hailffurfio’n gyson gan y gwynt, a dyma gartref i blanhigion ac anifeiliaid arbenigol sy’n dibynnu ar y cynefin unigryw hwn am eu parhad. Yn ystod yr hydref cofiwch gadw llygad am blanhigion sy’n hwyr i flodeuo a’r clystyrau o ffyngau tywod sy’n gwneud Morfa Dyffryn mor nodedig. Mae’r llwybr yn torri drwy’r twyni i’r traeth ble cewch chi olygfeydd bendigedig o’r môr a Phen Llŷn. Byddwch yn cerdded ymlaen ar hyd y traeth gan ddychwelyd i’r maes parcio ar hyd llwybr pren ble ceir golygfan a mainc bicnic sy’n edrych dros y bae.
Dysgu mwy
Gall rhaeadrau fod ar eu mwyaf dramatig ar ôl tywydd gwlyb yn yr hydref felly dyma amser delfrydol o’r flwyddyn i ymweld ag un sydd wedi bod yn enwog ers Oes Fictoria. Lleolir y rhaeadr â’r enw brawychus, Dŵr Torri Gwddf, yn y rhan o Goedwig Maesyfed a elwir yn Goed Cwningar. Cyn i berchnogion yr ystâd Fictoraidd blannu coedwig ddarluniadol ffasiynol er budd ymwelwyr â’r rhaeadr, roedd y rhostir yma’n llawn o dyllau cwningod enfawr. Mae’r afon yn disgyn yn serth i lawr ceunant i’r rhaeadr ysblennydd hon ac mae’r microhinsawdd yn gartref i redynnau, mwsoglau a chennau. Mae’r llwybr cylchol hwn yn eich arwain drwy’r goedwig ac uwchlaw Dŵr Torri Gwddf, a dylech glywed rhu’r dŵr wrth iddo daranu dros y rhaeadr wrth i chi agosáu.
Dysgu mwy
Dilynwch yn ôl troed tywysog Cymreig hanesyddol ar lwybr mewn coedwig sydd â chysylltiadau brenhinol. Coedwig gonifferaidd yw Coedwig Caio, a enwyd ar ôl pentref genedigol Llywelyn ap Gruffydd, tywysog olaf Cymru annibynnol. Yn yr hydref bydd pinnau’r coed llarwydd collddail yn troi’n aur gan wrthgyferbynnu’n drawiadol â choed talgryf Ffynidwydd Douglas a Sbriws Norwy. Mae’r llwybr yn arwain drwy’r goedwig gan groesi pont dros nant ble ceir bwrdd picnic ar y ddôl. Ar ôl i chi fod am dro, ewch i weld y cerflun dur trawiadol o Llywelyn ap Gruffydd a geir yn nhiroedd adfeilion castell Llanymddyfri.
Dysgu mwy
Coedwig Mynwar yw’r lle i fynd dros yr hydref eleni os ydych chi eisiau gweld rhai o aelodau mwyaf trawiadol rhywogaeth y ffyngau. Dyma’r adeg orau o’r flwyddyn i chwilota am ffyngau o bob lliw a llun, sy’n wledd i’r llygaid ochr yn ochr â harddwch euraidd dail y coed. Lleolir y goedwig ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ger blaen y rhan o afon Cleddau Ddu ble mae’r llanw’n cyrraedd. Mae’r cyfuniad o ddŵr y môr a dŵr croyw’n darparu cynefin amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt – cofiwch chwilio am adar y glannau fel crëyr a glas y dorlan, pan fyddwch yn y lle picnic a’r olygfan uwch yr aber.
Dysgu mwy
Byddwch yn barod i fwynhau lliwiau gwefreiddiol y tymor ar hyd y llwybr byr hwn drwy goed ffawydd tal mewn coedwig heddychlon. Mae coed ffawydd yn creu arddangosfa am gyfnod hir dros yr hydref am fod eu dail yn araf droi o felyn golau i oren tywyll. Bydd y dail marw’n aros ar y coed am yn hirach yn aml hefyd, ond pan fyddan nhw’n disgyn, yn y gaeaf weithiau, maen nhw’n creu carped dwfn sy’n crensian ar lawr y goedwig, ac sy’n llawer o hwyl cerdded drwyddo. Mae’r llwybr yn mynd wrth ochr afon Cadian, sy’n lle delfrydol i wylio’r trochwyr bach, â’u henw perffaith, wrth iddyn nhw ymdrochi i gael gafael ar fwyd yn y dŵr llifeiriol. Yn y maes parcio, cymerwch daflen ar gyfer Llwybr Pos yr Anifeiliaid (sy’n dilyn yr un llwybr â llwybr Cwm Cadian) a rhowch her i’r plant i ddod o hyd i’r anifeiliaid ar hyd y ffordd. Dewch â phicnic i’w fwynhau ar un o’r byrddau picnic ar y llethrau glaswelltog o gwmpas y maes parcio.
Dysgu mwy
Cofiwch gadw llygad am fynedfa teyrnas y tylwyth teg, sydd ar hyd Llwybr Elidir yn rhywle, yn ôl pob sôn. Gelwir yr ardal hon yn Wlad y Rhaeadrau (neu Sgydau) am fod mwy o raeadrau syfrdanol yn yr ardal hon nag yn unman arall yng Nghymru. Fe fyddwch chi’n pasio pedair ohonynt ar y llwybr hwn wrth iddo fynd i lawr gyda’r afon i Bontneddfechan. Mae dwy ohonynt – Sgwd Ddwli Isaf a Sgwd Ddwli Uchaf – yn wirioneddol werth eu gweld ar ôl glaw trwm. Yn yr hydref, mae lliwiau aur a chopr y goedwig ac aeron coch llachar y coed criafol yn fframio’r rhaeadrau ac yn creu golygfeydd hudol. Daethpwyd o hyd i dros 600 planhigyn gwahanol yng Ngwlad y Rhaeadrau, felly hyd yn oed os na welwch chi un o’r tylwyth teg, fe fyddwch chi’n siŵr o weld digonedd o fwsoglau, rhedynnau a chennau ar hyd y ffordd.
Dysgu mwy
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.