Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Coedwig Brechfa – Abergorlech, ger Caerfyrddin

Llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac arboretwm go wahanol

Golygfa o safle picnic yr Ardd Goedwig

Beth sydd yma

Cŵn
Beicio mynydd
Parcio
Picnic
Ardal Chwarae
Toiledau
Llwybr cerdded

Croeso

Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.

Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.

Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.

Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.

Ymweld â Choedwig Brechfa

Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren.

Mae yma lwybrau cerdded a beicio mynydd drwy’r ddwy goedlan isod yng Nghoedwig Brechfa:

Hefyd mae llwybrau cerdded mewn llefydd eraill ym Mrechfa ac mae croeso i bobl fynd ar gefn ceffyl ar ffyrdd y goedwig.

Mae toiledau cludadwy yn y maes parcio.

Abergorlech, Coedwig Brechfa

Mae Abergorlech yn gartref i safle picnic a lle chwarae i blant mewn ardal goediog lle mae afonydd Gorlech a Chothi’n cwrdd.

Daethpwyd o hyd i gerrig siâp rhyfedd yn yr afon, ac fe welir enghreifftiau o’r Cerrig Gorlech hyn yng ngerddi ffrynt rhai o’r bythynnod yn y pentrefi.

Pob blwyddyn mae sewin (brithyll môr) ac eogiaid yn nofio i fyny afon Gorlech i fwrw grawn.

Mae tri llwybr arwyddbyst o Abergorlech, ac mae un yn mynd i Ardd Coedwig Brechfa.

Gardd Goedwig Brechfa

Cafodd yr ardd hon ei chreu gan staff y Comisiwn Coedwigaeth ar ddiwedd y 1950au a dechrau’r 1960au (gyda’r plannu mwyaf diweddar yn 2004).

Plannwyd amrywiaeth o goed, conwydd yn bennaf, i asesu pa mor addas oeddent i’w defnyddio i bwrpas coedwigaeth ym Mhrydain.

Mae llawer o’r coed hyn wedi aeddfedu erbyn heddiw a bellach yn creu arboretwm go wahanol oherwydd, yn lle un neu ddwy goeden o bob math, mae yma lwyni cyfan o goed o bob rhan o’r byd.

Maent yn cynnwys:

  • cochwydd cawraidd o Galiffornia
  • coed ewcalyptws o Awstralia; nothoffagws o Dde America
  • coed ffynidwydd o bob cyfandir
  • amrywiaeth o rywogaethau Ewropeaidd fel y dderwen ddigoes, y gneuen Ffrengig a choed sbriws

Gallwch gyrraedd Gardd Goedwig Brechfa ar Lwybr yr Ardd Goedwig.

Llwybrau cerdded

Mae gan y llwybrau cerdded arwyddbyst ac yn cychwyn o’r maes parcio.

Llwybr Glan yr Afon

1 milltir, 1.7 km, hawdd

Mae’r llwybr mwy neu lai gwastad hwn drwy’r coed yn mynd ar hyd glan hyfryd Afon Gorlech a thros bont fwa cyn dychwelyd ar hyd y ffordd goedwigaeth.

Llwybr Gorlech

3.5 milltir, 5.7 km, cymedrol

Mae’r llwybr braf hwn yn dilyn Afon Gorlech ar hyd ffyrdd coedwigaeth cyn croesi pont fechan i gyrraedd llwybr cyn dringo’n serth drwy goetiroedd aeddfed o goed llydanddail cymysg a chonwydd.

Llwybr yr Ardd Goedwig

5 milltir, 8.3 km, anodd

Mae’r llwybr hwn yn mynd i Ardd Goedwig Brechfa. Mae’r ardd goedwig yn cynnwys hanner y rhywogaethau coed sy’n gallu tyfu yn Ynysoedd Prydain. Cawsant eu plannu gan y Comisiwn Coedwigaeth yn y ganrif ddiwethaf i asesu pa mor dda oedden nhw’n tyfu ym Mhrydain.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Llwybr beicio mynydd

Mae gan y llwybr beicio mynydd arwyddbyst ac yn cychwyn o faes parcio coed Abergorlech (ewch i Sut i gyrraedd yma).

Mae maes parcio coed Sifigwm yn fan cychwyn arall ar gyfer y llwybr beicio mynydd.  Gallwch gyrraedd y maes parcio tawel ac anghysbell hwn o lôn fach oddi ar y B4337, hanner milltir o bentref Rhydcymerau (Cyfeirnod grid OS: SN 553 395).

Ewch i’n tudalen beicio mynydd am restr o’n holl lwybrau beicio mynydd a gwybodaeth am y gwahanol raddau i wneud yn siŵr eich bod yn dewis llwybr sy’n iawn i chi.

Gallwch hefyd ddarllen y wybodaeth sydd ar y safle cyn cychwyn ar eich taith feicio.

Llwybr Gorlech

19 km, gradd coch

Mae’r llwybr hwn yn llwybr caled, cyflym, pob tywydd sy’n dod yn fwyfwy cyffrous wrth i chi wella lefel eich sgil a’ch cyflymdra. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys llwybrau arglawdd wedi eu llunio’n berffaith, neidiau, troadau siarp a phonciau pen-bwrdd.

Amseroedd agor

Portalŵs yw’r toiledau, sy’n agored bob amser.

Sut i gyrraedd yma

Mae Abergorlech yn bentref bychan ar y B4310 i’r de o Lambed.

O’r A482 rhwng Llambed a Llanymddyfri, trowch ar y B4302 i gyfeiriad Llansawel. O Lansawel dilynwch yr arwyddion am Abergorlech.

Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.

Map Arolwg Ordnans

Mae Abergorlech ar fap Arolwg Ordnans (AR) 186.

Y cyfeirnod grid OS yw SN 586 337.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drên agosaf yng Nghaerfyrddin. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.