Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful

Beth sydd yma

Bellach mae cyfleusterau ymwelwyr Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays ac maent yn dal ar agor i ymwelwyr dydd.

 

Croeso

Garwnant yw'r porth deheuol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae yn goedwig sy'n addas i deuluoedd ac mae’n hawdd ei ganfod, rhyw ychydig oddi ar yr A470 i'r gogledd o Ferthyr Tudful.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Forest Holidays yng Ngarwnant.

Cyfleusterau ymwelwyr

Mae cyfleusterau ymwelwyr yn cael eu rheoli gan Forest Holidays.

Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

  • llwybrau cerdded
  • ardal chwarae awyr agored i blant ger yr ardal picnic a pharc sgiliau beicio
  • ardal bicnic fawr o amgylch y maes parcio
  • meinciau picnic ar hyd y llwybrau cerdded
  • caffi
  • cabannau pren eco-sensitif

Am yr wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Forest Holidays. 

Gwybodaeth hygyrchedd

  • llwybr hygyrch sy'n addas i gadeiriau olwyn ac i gadeiriau gwthio
  • byrddau picnic â mynediad hawdd i gadeiriau olwyn a bygis trydan
  • toiled Changing Places (â chyfleuster newid ar gyfer babanod)
  • parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant 5 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful.

Mae’r safle hwn yn Sir Rhondda Cynon Taf.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant ar fap Explorer Arolwg Ordnans (OS) OL 12.

Cyfeirnod grid yr OS yw SO 002 131.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A470 o Ferthyr Tudful tuag at Aberhonddu a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i'r maes parcio.

Y cod post ar gyfer teclynnau llywio lloeren yw CF48 2HU.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Merthyr Tudful.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Cynlluniwch eich ymweliad

Mae cyfleusterau ymwelwyr Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays.

Am oriau agor a'r wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Forest Holidays neu cysylltwch â'r ganolfan ymwelwyr. 

Cysylltwch â'r ganolfan ymwelwyr 

01685 377371

GarwnantVC@forestholidays.co.uk

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf