Coedwig Cwm Carn, ger Casnewydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Beth sydd yma

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Mae Coedwig Cwm Carn, sydd yng nghanol cymoedd De Cymru, yn hawdd i'w chyrraedd o'r M4.

Mae 8 milltir o gyffordd 28 ar yr M4.

Mae’r maes parcio, ganolfan ymwelwyr, rhodfa’r goedwig a’r rhan fwyaf o gyfleusterau i ymwelwyr yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Choedwig Cwm Carn ewch i wefan Coedwig Cwm Carn neu'r ganolfan ymwelwyr wrth gyrraedd.

Rhodfa Goedwig Cwm Carn

Yn dilyn buddsoddiad a gwaith ailddatblygu sylweddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ail-agorodd rhodfa’r goedwig ym mis Mehefin 2021.

Mae’r rhodfa sy’n ymestyn am saith milltir yn cynnwys wyth o arosfannau lle ceir amrywiaeth o gyfleusterau newydd i ymwelwyr gan gynnwys ardaloedd chwarae, llwybrau hygyrch, twneli synhwyraidd a llwybr cerfluniau pren.

Hefyd ceir ardaloedd picnic, cyfleusterau barbeciw a thoiledau mewn rhai o’r arosfannau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n gofalu am rodfa’r goedwig drwy gytundeb partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Er mwyn cael gwybodaeth am ymweld â Rhodfa Goedwig Cwm Carn ewch i wefan Coedwig Cwm Carn.

Llwybrau beicio mynydd

Mae pum llwybr beicio mynydd yng Nghwm Carn:

  • Pwca: gradd glas (cymedrol)
  • Cafall: gradd coch (anodd)
  • Twrch: gradd coch (anodd)
  • Pedalhounds: gradd du (anodd iawn)
  • Y Mynydd: gradd du dwbl (eithafol)

Mae nodwyr llwybr arnynt o'r panel gwybodaeth ym maes parcio'r ganolfan ymwelwyr.

Mae gwybodaeth am ystyr graddau’r llwybrau ar Graddau llwybrau beicio mynydd.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf