Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Golygfa o'r twyni tywod yng Nghwningar Niwbwrch

Beth sydd yma

Cyfleusterau hygyrch
Newid babanod
Barbeciw
Cŵn
Natur
Parcio (codir tâl)
Toiledau
Llwybr cerdded

Rhagarweiniad

Crëwyd y twyni yn Niwbwrch yn yr Oesoedd Canol yn sgil stormydd, llanw a thywod symudol.

Gallwch olrhain hanes hyd yn oed cynharach yma hefyd. Mae’r creigiau ar Ynys Llanddwyn ac o fewn y goedwig ymhlith y rhai hynaf yng Nghymru, gan gynnwys y cerrig brig amlwg o lafa clustog ar y traeth.

Yn ystod misoedd yr haf, fe welwch filoedd o flodau lliwgar yn gorchuddio’r twyni, sy’n cynnwys tegeirianau prin ac maen nhw’n fwrlwm o bryfed ac adar.

Mae’r aberoedd yn lleoedd da i weld adar hirgoes, hwyaid a gwyddau mudol yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

Y twyni

Mae’r twyni uchel a’r pantiau twyni sy’n gorlifo’n dymhorol (a adwaenir fel llaciau) fan hyn o ganlyniad i’r dirwedd sy’n gyson ddatblygu a ffurfiwyd gan filoedd o flynyddoedd o stormydd, llanwau a natur.

Mae’r twyni a arferai symud wedi “sefydlogi” yn ystod y degawdau diwethaf ac wedi’u gorchuddio â phlanhigion o ganlyniad i lygredd aer byd eang, patrymau tywydd newidiol a llai o gwningod yn pori.

Golyga hyn ostyngiad enfawr yn  y tywod noeth a geir yma, sef cynefin sy’n hanfodol i oroesiad rhai o’n planhigion a’n pryfed prinnaf, fel llysiau’r afu petalog a gwenynen durio’r gwanwyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi dechrau ail-greu ardaloedd o dywod symudol ar hyd y morlin gan ddefnyddio peiriannau mawrion. Mae’r gwaith arloesol hwn wedi diogelu rhai o’r rhywogaethau dan fygythiad sydd i’w canfod yn Niwbwrch.

Mae merlod a gwartheg yn pori cryn dipyn o’r twyni er mwyn cadw llystyfiant y twyni’n fyr ac yn gyfoethog mewn blodau gwyllt. Diben hyn yw gwneud iawn am y dirywiad sylweddol mewn cwningod a arferai wneud hyn hyd nes i fycsomatosis daro yn y 1950au.

Cymysgedd cyfoethog o gynefinoedd a bywyd gwyllt

Mae’r twyni tywod yn gymysgedd cyfoethog o dwyni symudol, pantiau llaith, glaswelltir aeddfed a choetir twyni ifanc o helyg a bedw.

Yn ystod yr haf, mae’r twyni wedi’u gorchuddio â blodau ac mae’r coetir agored yn atseinio i ganu’r llwydfronnau, clochdar y cerrig a’r llinosiaid.

Ar y morfa heli a’r foryd, mae pibyddion coesgoch a chorgwtiaid yn ymuno ag adar gwyllt mudol y gaeaf fel gwyddau du, hwyaid yr eithin a chwiwellau.

Cynigia’r foryd noddfa i blanhigion ac adar ac mae’r gwastadeddau llaid yn denu poblogaethau gaeafu pwysig o hwyaid lostfain, chwiwellau, corhwyaid, pibyddion coesgoch a phibyddion y mawn.

Ffynna planhigion wedi’u haddasu’n arbennig fel llyrlys, lafant y môr a brwyn arfor ar y morfeydd heli a’r foryd.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Ynghyd ag Ynys Llanddwyn, mae’r twyni a’r traeth yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr o forfa heli a gwastadeddau tywod arfordirol.

Mae’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn safleoedd sy’n cynnwys rhai o’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol ym Mhrydain.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld â Chwningar Niwbwrch

Dechreuwch eich ymweliad â Chwningar Niwbwrch o Faes Parcio Braint neu faes parcio Llyn Rhos Ddu.

Gweler y map ar ein tudalen cynllunio’ch ymweliad.

Gallwch gerdded yn unrhyw le ar y traethau ac ar y rhwydwaith o lwybrau traed neu gallwch ddilyn Taith Gerdded y Twyni wedi’u cyfeirbwyntio i fwynhau blas rhagorol o’r cynefinoedd yma.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.