Parc Coedwig Coed y Brenin - Glasdir, ger Dollgelau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Glasdir ym Mharc Coedwig Coed y Brenin. 

Mae’r daith gerdded trwy hen chwarel gopr Glasdir yn cychwyn o faes parcio Glasdir. Ceir yno safle picnic a barbeciw ar lannau Afon Las.

Mae maes parcio ychwanegol ar gyfer deiliaid bathodyn glas yn unig i’w gael ym Mhont Llam yr ewig. Ceir yno fwrdd picnic hygyrch, ac mae llwybr hygyrch yn cychwyn oddi yno tuag at olygfan uwchben yr hen waith copr.

Llwybrau cerdded

Ceir arwyddion ar gyfer y daith gerdded gymedrol o barc Glasdir.

Ceir arwyddion ar gyfer y daith hygyrch o faes parcio Pont Llam yr Ewig. Sylwer dim ond deiliaid bathodyn glas all ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Arhoswch ar y llwybrau os gwelwch yn dda, gall hen weithiau ac adeiladau mwyngloddio fod yn beryglus, ac mae ymylon serth i’r ceunentydd. 

Llwybr Copr Glasdir (arwyddion coch o faes parcio Glasdir)

  • Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.
  • Pellter: 1¼ milltir, 2 cilomedr
  • Gradd: cymedrol
  • Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr coch yn aml yn llai na 1m o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Ceir sawl set o risiau ar y dringfeydd a disgynfeydd serth drwy’r hen weithfeydd.

Llwybr Hygyrch Glasdir (arwyddion glas o faes parcio Pont Llam yr Ewig ar gyfer deiliaid bathodyn)

  • Uchafbwyntiau: Dewch o hyd i hen waith copr yn cuddio mewn lleoliad heddychlon.
  • Pellter: ½ milltir, 800m 
  • Gradd: Hygyrch
  • Disgrifiad y llwybr: Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddbyst glas yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’n 1.5m o led, yn wastad a chanddo arwyneb da gyda mannau pasio bob 50m a mannau gorffwys bob 150m.

Llwybr sain

Dysgwch am hanes chwarel gopr Glasdir ar ein llwybr sain mp3.

Mae wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr Copr Glasdir ac mae'n dechrau o faes parcio Glasdir

Mae fersiwn fyrrach o'r llwybr ar gyfer Llwybr Hygyrch Glasdir yn dilyn traciau 2, 6, 7 ac 8 ac yn dechrau o'r maes parcio hygyrch.

Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.

Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.

I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae'r parc coedwig yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig.  Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma o faes parcio Glasdir, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd.  Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Pont Cae’n-y-coed – dechrau'r Llwybr Llosfygynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Gardd y Goedwig – dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu
  • Pont Ty'n-y-groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon hygyrch a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Cadwch at y llwybr hwn gan fod mwyngloddiau yn beryglus ac mae sawl dibyn yma.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Dim ond deiliaid bathodyn glas all ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Mae’r llwybr hygyrch tuag at yr olygfan uwchben y gwaith copr yn cychwyn o faes parcio Pont Llam yr Ewig.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Glasdir a maes parcio Pont Llam yr Ewig oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Map Arolwg Ordnans

Mae Glastir ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO maes parcio Glastir yw SH 737 225.

Cyfeirnod grid yr AO maes parcio Pont Llam yr Ewig yw SH 743 226.

Cyfarwyddiadau i faes parcio Glastir

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau.

Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.

Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.

Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau.

Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dŷ'n y Groes.

Dilynwch y ffordd darmac heibio i safle picnic Tŷ'n y Groes am ychydig dros gilomedr.

Mae maes parcio Glasdir ar y dde ac ar draws y ffordd mae safle picnic.

Cyfarwyddiadau i faes parcio Pont Llam yr Ewig

Dilynwch y cyfeiriadau i gyrraedd maes parcio Glasdir.

Pan gyrhaeddwch faes parcio Glasdir, parhewch ar hyd y ffordd darmac, trowch yn sydyn i'r chwith i fyny'r rhiw serth, trowch i'r dde wrth y groesffordd ar gopa'r bryn.

Bydd maes parcio Pont Llam yr Ewig i bobl anabl yn unig ar y dde dros y bont garreg.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn Y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Maes parcio

Dim ond deiliaid bathodyn glas all ddefnyddio maes parcio Pont Llam yr Ewig.

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

Ffôn: 01341 440747

E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf