Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Llwybrau beicio mynydd o'r radd flaenaf, llwybrau...
O lwybrau retro, creigiog a chlasurol i lwybrau cyfoes modern mae rhywbeth at ddant pawb!
Coed y Brenin oedd y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf yn y DU a hi yw'r mwyaf o hyd.
Heddiw, mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin yn gartref i wyth llwybr beicio mynydd, ardal sgiliau a siop llogi beiciau a manwerthu.
Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau beicio mynydd ac maent yn dechrau o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr.
Caiff y llwybrau beicio mynydd ym Mharc Coed y Brenin eu graddio er mwyn rhoi syniad i chi o ba mor anodd ydynt.
Er mwyn sicrhau eich bod yn dewis llwybr beicio mynydd y gallwch ymdopi ag ef:
Sylwch:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth o’r Diweddariad i'r Llwybr Beicio Mynydd.
10.8 cilomedr, ffyrdd coedwig
Mae llwybr Yr Afon yn mynd heibio i rai o rannau prydferthaf afon Mawddach. Aiff heibio i waith aur Gwynfynydd ac ar hyd dyffryn yr afon i'r rhaeadrau.
Mae'n llwybr cymharol isel ar ffyrdd coedwig heb unrhyw rannau un trac, ond ceir rhan fer o drac adeiledig sy'n arwain o'r ganolfan ymwelwyr.
Er ei fod yn llwybr hyfryd i'r teulu, ceir rhan hirach o ffordd breifat â llawer o dyllau ac ambell i ddringfa fer eithaf serth. Byddwch yn ofalus wrth ddychwelyd oherwydd ceir disgyniad ffordd goedwig serth felly bydd angen i chi reoli eich cyflymder.
4.8 cilomedr, gradd las
Mae llwybr y MinorTaur yn gyflwyniad gwych i feicio mynydd i bob oedran a dyma'r llwybr mwyaf poblogaidd ym Mharc Coed y Brenin.
Mae'r llwybr wedi'i adeiladu mewn tair dolen, sy'n mynd yn hirach, felly gallwch ddewis y pellter rydych am ei wneud. Ceir digon o nodweddion difyr, yn cynnwys grisiau cerrig, pennau bwrdd ac ysgafellau troellog gwych
Byddwch yn ofalus y tro cyntaf ac yna ewch ati i ymarfer pob rhan er mwyn gwella eich sgiliau. Cafodd y llwybr hwn ei adeiladu fel rhan o Brosiect Canolfan Ragoriaeth Eryri, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Cydgyfeirio'r UE drwy Lywodraeth Cymru.
31.1 cilomedr, gradd goch
Mae llwybr Dragon's Back yn llwybr beicio mynydd trawsgwlad clasurol sydd wedi aeddfedu'n dda ac wedi gwella wrth i nodweddion gwych gael eu hychwanegu ato dros y blynyddoedd.
Mae nodweddion fel dringfeydd heriol, trac unigol tynn a disgyniadau hir a chyflym wedi gwneud y llwybr hwn yn un o'r goreuon yn Ewrop.
12.6 cilomedr, gradd goch
Mae llwybr Cyflym Coch yn ddelfrydol i'r rhai sydd wedi meistroli'r MinorTaur ac am godi i'r radd nesaf.
Mae'r llwybr yn dwyn ynghyd rai o'r rhannau cyflym gorau yn y parc, gyda dringfeydd cymharol fyr.
8.7 cilomedr, gradd goch
Mae llwybr Temtiwr yn un byr ond technegol sy'n rhoi syniad o'r hyn i'w ddisgwyl gan lwybrau eraill ym Mharc Coed y Brenin.
Mae'n cynnwys pum rhan o drac unigol, o dafliadau craig hynod dechnegol i droeon cyflym drwy'r coed a rhai dringfeydd hir.
38.2 cilomedr, gradd ddu
Llwybr Beast yw'r un y mae pawb yn anelu ato.
Mae'n gyfuniad o lwybrau Dragon's Back ac MBR ac yn cynnig llwybr hir a heriol â dringfeydd creigiog rhydd, disgyniadau dieflig, hediadau carreg, ysgafellau, pennau bwrdd a chluniadau.
20.2 cilomedr, gradd ddu
Hwn oedd y llwybr gwreiddiol a adeiladwyd yng Nghoed y Brenin ond dyma'r llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf yn y DU, a'r byd fwy na thebyg!
Mae'n llwybr clasurol sy'n dal i fod yn well o lawer na'r cynigion mwy modern mewn mannau eraill. Mae'n greigiog, yn retro, yn droellog, yn dechnegol, yn gyflym a bydd yn profi eich sgiliau a'ch ffitrwydd heb os.
18.4 cilomedr, gradd ddu
Mae llwybr MBR yn ffefryn go iawn; mae'n cynnwys cymysgedd gwych o natur greigiog ddieflig Coed y Brenin a thrac unigol cyflym sy'n llifo. Hefyd mae ganddo nodweddion newydd a chyfoes a rhannau sy'n cyflwyno ffyrdd modern o feicio.
Byddwch yn mynd dros graigwelyau, yn delio â dringfeydd a disgyniadau creigiog rhydd, yn ysgafellu, yn canfod rhythm dros rolyddion enfawr, yn hedfan i lawr grisiau, yn disgyn i'r 'Twll' ac yn dod allan yr ochr arall yn y ffordd orau bosibl!
Gyferbyn â maes parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin, mae gan y Ffowndri ardaloedd hyfforddi fel y gall dechreuwyr ddysgu a datblygu technegau beicio.
Mae ganddo hefyd enghreifftiau o'r mathau o nodweddion y dylech ddisgwyl eu gweld ar unrhyw lefel o lwybr beicio mynydd wedi'i radio. I'r rhai mwy profiadol, mae'n lle gwych i gynhesu neu ymlacio wedyn.
Cafodd yr ardal sgiliau ei hadeiladu fel rhan o Brosiect Canolfan Ragoriaeth Eryri, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Cydgyfeirio'r UE drwy Lywodraeth Cymru.
Ceir pedwar parth yn yr ardal sgiliau:
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod neu lawrlwythwch Y Ffowndri.
Parth Hyfforddi
Os ydych yn dechrau arni neu am ddysgu'r technegau oddi ar y ffordd hanfodol hynny, dyma'r man cychwyn.
Gydag wyth gorsaf yn cwmpasu sgil wahanol, gallwch roi cynnig arni nes i chi ennyn hyder. Os hoffech ddod o hyd i hyfforddwr cymwysedig, cysylltwch â Beics Brenin.
Parth Trac Unigol
Os ydych yn newydd i Goed y Brenin ac nad ydych yn siŵr pa radd sy'n iawn i chi, ewch yma'n gyntaf i weld beth y gallwch ei wneud.
Ceir pedair gradd, o hawdd (gwyrdd) i ddifrifol (du). Dechreuwch ar lefel hawdd a datblygu i lefel sy'n iawn i chi.
Parth Rhydd
Mae hwn yn llwybr naid/pwmp i feiciau mynydd sydd ag wyth tro ysgafell a nodweddion rhedeg rhyngddynt.
Ceir rholyddion, cluniadau, dwbledi, pennau bwrdd, camau i fyny ac i lawr a mwy!
Parth Gollwng
Mae'r parth hwn yn cynnwys y 'Lemmingstone', sef darn o garreg naturiol lle gellir dilyn sawl llinell.
Bydd angen i chi feistroli'r trac coch unigol cyn rhoi cynnig ar hwn!
Lleolir siop feiciau Beics Brenin yn rhan isaf Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin.
Mae'r siop feiciau yn cynnig y canlynol
Am oriau agor a rhagor o wybodaeth gweler gwefan Beics Brenin.
Mae Dreigiau Coed y Brenin yn cwrdd bob dydd Sadwrn rhwng 9.30am a 11.30am yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin. Mae'r clwb yn cynnig sesiynau sgiliau, llwybrau beicio a gweithgareddau grŵp i'r teulu cyfan.
Bydd angen beic mynydd o safon dda a helmed arnoch.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: info@dreigiaucoedybrenindragons.co.uk
Gyda mwy na 30 o lwybrau trac unigol, mae coedwigoedd Cymru yn cynnig popeth y gallai fod ei angen ar feicwyr mynydd.
Gweler ein tudalen beicio mynydd am ragor o wybodaeth.
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.