Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae’r llwybr i Lefel Lampwll ar Rodfa'r Bonheddwr ar gau oherwydd difrod storm.
Mae ogof Lefel Lampwll ar gau oherwydd rhesymau diogelwch.
Mae gwyriadau ar rai llwybrau - dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a’r arwyddion dargyfeirio ar y safle.
Cynlluniwyd Ystâd yr Hafod ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac yn fuan daeth yn gyrchan hanfodol bwysig i ymwelwyr oedd yn teithio ar hyd Cymru yn chwilio am “natur gwyllt”.
Mae’r llwybrau cerdded yn ymlwybro ar hyd tirwedd hanesyddol sy’n amrywio’n eang o ran natur, o barcdir pori a gwahanol fathau o goetir i geunant yr Afon Ystwyth gyda’i bontydd a’i rhaeadrau.
Adeiladodd Johnes dŷ newydd yn y lleoliad anghysbell hwn a chynllunio gerddi yn y steil Pictiwrésg, oedd yn ffasiynol ar y pryd.
Cynlluniodd y llwybrau cerdded er mwyn i ymwelwyr fedru mwynhau’r tirlun fel cyfres o olygfeydd sy’n newid yn gyson.
Heddiw mae’r plasty wedi mynd, a Hafod yn gorwedd o fewn coedwig weithiol.
Ceir yna pum llwybr cerdded sy’n amrywio o ran hyd a graddfa ac sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio.
Maent yn cynnwys dau lwybr cylchol clasurol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod - Rhodfa’r Bonheddwr sy’n llafurus a Rhodfa’r Foneddiges sy’n rhwyddach.
Mae’r ddau lwybr hanesyddol hyn yn mynd â chi heibio i nodweddion Pictiwrésg fel Lefel Lampwll, Y Bont Wladaidd, Twnnel a Rhaeardr ‘Mossy Seat’.
Hefyd gallwch ymweld â’r eglwys, Eglwys Newydd, adeiladwyd gan Johnes yn 1803 a’r unig adeilad sylweddol sydd wedi goroesi o’r adeg hynny. Heddiw mae’n gartref i arddangosfa am hanes yr ystâd.
Mae mannau picnic yn y prif faes parcio ac wrth ymyl yr afon ar Rodfa’r Foneddiges, a thoiledau portaloo yn y prif faes parcio.
Mae’r llwybrau cerdded wedi’u harwyddo o brif maes parcio'r Hafod.
Darllenwch ddisgrifiadau o’r llwybrau i wneud siŵr eich bod yn dewis taith gerdded sy’n addas i chi.
Sylwer:
Uchafbwyntiau: Rhyfeddwch at y golygfeydd dros yr Hafod a thu hwnt o olygfan yr obelisg.
Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr
Lefel: Cymedrol
Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y daith gylchol hon yw’r byrraf a’r mwyaf hwylus, o’r maes parcio.
Mae’n gwneud cylchdaith o grib Cefn Creigiau ac yn osgoi’r ddisgynfa serth i waelod y dyffryn. Nid yw’n un o gylchdeithiau hanesyddol Johnes, ond mae’n arwain at gofgolofn a godwyd yn 1805 i goffáu'r pumed Dug Bedford.
Uchafbwyntiau: Edmygwch glychau’r gog a’r eilgorros yn y gwanwyn, a golygfeydd dros yr ystâd i’r bryniau tu hwnt.
Pellter: ¾ milltir/1.2 cilomedr un ffordd (1 ½/2.4 cilomedr milltir yno ac yn ôl ar hyd llwybr dychwelyd awgrymedig)
Lefel: Cymedrol
Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Llwybr cerdded cul (un ffordd) drwy’r goedwig . Mae angen i chi benderfynu ar lwybr dychwelyd drwy ddefnyddio llwybrau eraill neu lonydd eraill yr ystâd (mae llwybr dychwelyd awgrymedig wedi ei farcio ar y map).
Mae Taith Goed Hafod yn mynd trwy wahanol fathau o goetir sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Yn y gwanwyn mae’r coetiroedd yn lliwgar gyda chlychau’r gog a eilgorros melyn. Mae gan y llwybr raddiant cymharol hawdd a golygfeydd o’r afon, llyn a chaeau’r plasty, a’r bryniau yn y pellter.
Uchafbwyntiau: Profwch geunant trawiadol yr Afon Ystwyth o’r Bont Grog, yn enwedig ar ôl glaw trwm.
Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr (2 filltir/3.2 cilomedr cyfanswm pellter o’r maes parcio ac yn ôl ar hyd Rhodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)
Lefel: Cymedrol
Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Y ffordd gyflymaf i fynd ar Daith Ceunant Ystwyth yw dilyn Rhodfa’r Foneddiges gyda’r cloc, heibio i’r eglwys tuag at arwydd man cychwyn y daith.
Mae’r llwybr ysblennydd hwn yn eich arwain ar hyd dolen gul a hir i fyny un ochr ceunant Ystwyth ac i lawr y llall. Er pa mor ddramatig mae’r golygfeydd ar hyd y llwybr cerdded, mae’r graddiannau ar hyd rhan fwyaf o’r llwybr yn eithaf rhwydd, ond mae yna ddisgynfeydd serth wrth ochr y llwybr.
Uchafbwyntiau: Dilynwch y llwybr hanesyddol heibio i raeadr a nodweddion allweddol o ystâd Thomas Johnes.
Pellter: 2¼ milltir/3.6 cilomedr
Lefel: Cymedrol
Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Mae Rhodfa’r Foneddiges yn un o ddau lwybr cylchol clasurol cafwyd eu creu gan Thomas Johnes yn ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod, ac a ddisgrifiwyd gan nifer fawr o ymwelwyr cynnar.
Gwelir golygfeydd sy’n amrywio’n eang o ran cymeriad, gyda thir pori tonnog y parcdir yn cyferbynnu gyda dyffrynnoedd coediog cul a nentydd gwyllt. Ar hyd y llwybr, ceir dewis rhwng Taith y Gerddi - llwybr coetir cul ond eithaf gwastad sy’n mynd drwy’r ardd flodau - neu lwybr y ddôl sy’n mynd ar hyd glannau’r afon.
Uchafbwyntiau: Rhyfeddwch ar y nodweddion Pictiwrésg fel y Bont Wladaidd, Twnnel, a Rhaeadr ‘Mossy Seat’ ar y llwybr hanesyddol hwn. Sylwch bod ogof Lefel Lampwll ar gau oherwydd rhesymau diogelwch.
Pellter: 3¾ milltir/6 cilomedr (5¾ milltir/9 cilomedr i gyd, o’r maes parcio ac yn ôl drwy Rodfa’r Foneddiges i’r man cychwyn)
Gradd: Anodd
Disgrifiad o’r llwybr cerdded: Mae Rhodfa’r Bonheddwr, yr ail gylchdaith crëwyd gan Johnes, yn mynd trwy olygfeydd gwylltach a thir sy'n fwy serth na’r llwybrau cerdded eraill yn yr Hafod.
Bydd yn rhaid i chi ddilyn Rhodfa’r Foneddiges o chwith i gyrraedd y man cychwyn. Rhodfa’r Bonheddwr yw’r llwybr mwyaf anodd o lwybrau’r Hafod, a dylech fod yn weddol heini gydag esgidiau addas ar gyfer tir serth ac anwastad.
Sylwch: Mae ogof Lefel Lampwll ar gau am resymau diogelwch. Rydym yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth yr Hafod i ganfod sut y gallwn fynd ati yn ofalus i atgyweirio’r nodwedd hon a warchodir. Bydd yr ogof yn cael ei hailagor i’r cyhoedd unwaith y byddwn yn sicr ei bod yn ddiogel.
Mae taflen chanllaw i’r teithiau cerdded yn cynnwys map a disgrifiad o'r llwybrau i gyd.
Gallwch ddefnyddio rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar Ystâd yr Hafod. Gweler map 213 Archwiliwr Arolwg Ordnans, am fwy o wybodaeth.
Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau ag arwyddion yn cydgysylltu, ac felly gallwch greu eich llwybr eich hun neu fyrhau (neu ymestyn) rhai o’r llwybrau cerdded drwy ddilyn llwybrau a thraciau cyswllt.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn lawrlwytho canllaw cerdded gyda map o’r llwybrau cerdded i gyd neu casglwch gopi o’r peiriant yn y prif faes parcio cyn cychwyn ar eich taith.
Mae yna fannau parcio i’r anabl yng Ngardd Flodau Mrs Johnes.
O’r fan hon, gallwch fynd am dro bach rhwydd o amgylch yn ardd gyda golygfeydd dros yr Afon Ystwyth a safle picnic ar lan yr afon.
Mae yna doiled cludadwy hygyrch yn y prif faes parcio (ger yr eglwys).
Rydym yn rheoli’r ystâd gydag Ymddiriedolaeth yr Hafod i warchod ac adfer y dirwedd hanesyddol, a darparu mynediad i ymwelwyr.
Mae The Hafod Landscape: an illustrated history and guide gan Jennifer Macve ar gael o siopau lleol neu o wefan Ymddiriedolaeth yr Hafod.
Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys hanes yr ystâd, ei phwysigrwydd i’r steil Pictiwrésg, y gwaith adfer diweddar, a disgrifiadau manwl o’r llwybrau cerdded.
Manylion cyswllt Ymddiriedolaeth yr Hafod
gwefan Ymddiriedolaeth yr Hafod
Mae Ystad yr Hafod 16 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Mae yn Sir Ceredigion.
Ceir arwyddion brown i roi arweiniad i chi o Bontarfynach ar hyd y B4574 i brif faes parcio’r Hafod.
Mae Ystad yr Hafod ar fap 213 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod yr OS yw SN 768 736.
Ewch ar hyd y B4574 o Bontarfynach i Gwmystwyth. Ar ôl 2½ milltir trowch i’r dde yn y gyffordd triongl. Dilynwch y ffordd, gan fynd gyda’r ffordd i’r chwith am filltir arall. Mae’r maes parcio wedi’i leoli ar yr ochr dde, ar ôl pasio’r eglwys.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio ym maes parcio ger yr eglwys yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.