Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Y man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ag arwyddbyst ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coedwig Crychan mewn cefn gwlad hynod dlws rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd y Cambrian.
Flynyddoedd yn ôl, cyn plannu'r coed, arferai porthmyn yrru eu gwartheg a’u defaid heibio o fynyddoedd canolbarth Cymru i Farchnad Smithfield yn Llundain.
Erbyn heddiw, y meysydd parcio ym Mrynffo, Esgair Fwyog a Fferm Cefn yw’r man cychwyn ar gyfer milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau ag arwyddbyst ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau.
Gall cerddwyr hefyd ddilyn y llwybrau ceffylau.
Mae maes parcio’r Halfway yng Nghoedwig Crychan hefyd yn fan cychwyn ar gyfer llwybr ceffylau, llwybr beicio a llwybr cerdded.
Cafodd y llwybrau eu creu mewn partneriaeth â Chymdeithas Coedwig Crychan.
Sylwch:
Mae mynediad agored i rai ar gefn ceffyl ar draws Coedwig Crychan, ar wahân i’r ardal hyfforddiant milwrol ar Fynydd Epynt ac o gwmpas Pontsenni lle rhaid i ymwelwyr dalu sylw i’r arwyddion perygl lleol.
Mae pob un o’r meysydd parcio ym Mrynffo, Esgair Fwyog a Fferm Cefn yn fan cychwyn ar gyfer llwybr ceffylau. Mae yma hefyd lwybr ceffyl a throl sy’n cychwyn o faes parcio Fferm Cefn.
Dyma’r cyfleusterau yn y tri maes parcio hyn:
Mae maes parcio sy’n addas ar gyfer bocsys ceffylau yn Halfway hefyd.
Mae gan y llwybrau ceffylau arwyddbyst ac maen nhw’n dilyn hen draciau lle bo hynny’n bosibl.
5.1 milltir, 8.2 km
Llwybr cylch yw Llwybr Cwm Crychan ac mae’n cychwyn o faes parcio Brynffo. Mae’n dilyn traciau troellog drwy’r goedwig i ben y golwg Cwm Crychan, gyda golygfeydd trawiadol dros Gwm Tywi isaf.
6.4 milltir, 10.3 km
Llwybr cylch yw Llwybr Cwm Dulais ac mae’n cychwyn o faes parcio Fferm Cefn. Mae ganddo olygfeydd gwych o ddyffryn coediog Cwm Dulais ac yn pasio dros dair rhyd. Gellir dilyn y llwybr yn ei flaen drwy gysylltu i Lwybr Cwar Cerrig (gweler isod).
3.8 milltir, 6.2 km – estyniad i Lwybr Cwm Dulais
Mae Llwybr Cwar Cerrig yn estyniad i lwybr Cwm Dulais. Mae’n dringo dros dir uwch gyda golygfeydd gwych cyn dod i lawr wrth y chwarel gerrig ac ailymuno â Llwybr Cwm Dulais i ddychwelyd i faes parcio Fferm Cefn.
3.8 milltir, 6.4 km
Llwybr cylch yw Llwybr Allt Cwmcrychan ac mae’n cychwyn o faes parcio Esgair Fwyog. Mae ganddo olygfeydd pell dros borfeydd agored cyn disgyn i lawr i Gwm Crychan. Mae yna’n dringo allan o’r cwm ar hyd y ffordd goedwigaeth ac yn ôl i’r maes parcio.
Mae mynediad agored i geffyl a throl ar hyd y ffyrdd coedwigaeth yng Nghoedwig Crychan.
Dyma’r cyfleusterau i yrwyr ceffyl a throl yng Nghoedwig Crychan:
Gallwch gychwyn ar hyd Llwybr Ceffyl a Throl Fferm Cefn o’r maes parcio yn Fferm Cefn ac ym Mrynffo.
13 milltir, 21 km
Mae Llwybr Ceffyl a Throl Fferm Cefn yn dilyn ffyrdd coedwigaeth rhwng maes parcio Fferm Cefn a maes parcio Brynffo. Ewch i wefan Cymdeithas Coedwig Crychan am fwy o fanylion.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Mae meysydd parcio Brynffo, Fferm Cefn ac Esgair Fwyog i gyd oddi ar yr A483 rhwng Llanymddyfri a Llanfair-ym-muallt.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddir mwy o fanylion a chyfarwyddiadau isod.
Gallwch barcio am ddim yn y tri maes parcio hyn.
Mae’r maes parcio hwn yn arbennig o addas ar gyfer bocsys ceffylau a cheffylau a throl.
Cymrwch yr A483 o Lanymddyfri am 4.2 milltir a throi i’r dde wrth Glanbran Arms, Cynghordy. Dilynwch y lôn fach i gyfeiriad Tirabad am 2.8 milltir. Mae’r fynedfa ar y dde.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 848 409.
Rhoddir mynediad i’r maes parcio hwn ar hyd lôn un trac heb lawer o lefydd pasio.
Cymrwch yr A483 o Lanymddyfri am 4.2 milltir. Trowch i’r dde wrth yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan cyn cyrraedd Cynghordy. Ar ôl 50 llath, cymrwch y troad i’r dde ar hyd y lôn un trac ac mae’r maes parcio ar y chwith ar ôl tua milltir.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 813 386.
Nid oes mynediad ceffyl a throl i’r maes parcio hwn.
Cymrwch yr A483 o Lanymddyfri am 4.2 milltir. Trowch i’r dde wrth yr arwydd brown a gwyn am Lwybrau Coedwig Crychan cyn cyrraedd Cynghordy. Dilynwch y lôn fach i gyfeiriad Tirabad ac mae’r fynedfa ar y dde ar ôl tua dwy filltir.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 837 412.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Llanymddyfri. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000