Lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth De Ebwy yn ymestyn dros 974 ha ac yn cynnwys 11 coetir yng Nghaerffili, Casnewydd, Torfaen ac ardaloedd llywodraeth leol Caerdydd, i’r gogledd o briffordd M4.

Mae’r tir lle ceir y coetiroedd yn gymysgedd o dir ffermio wedi’i wella, gwrychoedd, a choetiroedd llydanddail eraill, yn ogystal â rhywfaint o dir comin heb ei wella ger Coedwig Caerffili.

Mae’r coetiroedd yn agos at ardaloedd mawr trefol gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd a Chaerffili, ac o ganlyniad maent yn cynnig lefelau amrywiol o hamdden anffurfiol.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

Cyflwr, Amrywiaeth a Gwydnwch y Coetir

  • Amrywiaethu cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig i gynyddu gwydnwch yn erbyn plâu a chlefydau, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy fesurau rheoli Coedamaeth Bach eu Heffaith, ac adfywio naturiol, lle y bo'n briodol, ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw lwyrgwympo, gan osgoi cwympo llennyrch cyfagos.
  • Cynnal a gwella ardaloedd o goetiroedd lled-naturiol hynafol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol drwy gael gwared ar goed conwydd yn raddol dros amser, gan ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a rheoli gwaith teneuo lle y bo'n bosibl, yn unol â'r Cynllun Rheoli Coetiroedd Hynafol. Tynnu clystyrau hemlog y gorllewin a’r gedrwydden goch lle maent yn cael effaith negyddol ar adfer Coetiroedd Hynafol.
  • Cynyddu'r ardaloedd a nodir ar gyfer teneuo o fewn y cynllun teneuo 5 mlynedd i alluogi gwaith rheoli LISS a gwaith adfer PAWS.
  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwigoedd i ddarparu gwell mynediad i ganiatáu ar gyfer presgripsiynau rheoli mwy amrywiol o fewn y safleoedd Coetir Hynafol hyn yn y dyfodol.
  • Cynyddu nifer y coed marw sefydlog a choed marw sydd wedi cwympo ar draws yr ardal drwy arferion rheoli priodol yn ystod gweithrediadau cwympo coed a rheolaeth barhaus yn unol â’r Cynllun Rheoli Coed Marw ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
  • Cynllunio ar gyfer dileu unrhyw ardaloedd sy'n weddill o goed llarwydd sylweddol o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.
  • Lle mae llarwydd wedi'i gynaeafu, hwyluso'r gwaith o adfer coetiroedd hynafol. Mae ailstocio'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth allweddol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled net o ran gorchudd coedwig.
  • Cynllunio maint ac amseriad cwympo llennyrch ac ailstocio er mwyn osgoi effeithiau negyddol ar gyflenwadau dŵr yfed a chyflwr dŵr croyw ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Cynhyrchu Pren yn Gynaliadwy

  • Nodi cyfleoedd lleol i gynnal cyflenwad cynaliadwy o goed, conwydd a llydanddail, drwy gynllunio gwaith cwympo coed a dewis o rywogaethau ailstocio lle nad adfer Coetiroedd Hynafol yw'r brif flaenoriaeth reoli.

Bioamrywiaeth

  • Defnyddio a gwella'r rhwydwaith ffyrdd, rhodfeydd a glannau presennol er budd bioamrywiaeth drwy greu cysylltiadau â chynefin agored ac agor yr ardaloedd hyn i gynyddu faint o le agored sydd yn y coetiroedd. Tynnu coed conwydd ar hyd glannau afonydd lle maent yn gordyfu a gorgysgodi a chynnal a chadw rhodfeydd.
  • Defnyddio cyfleoedd i gysylltu coetir llydanddail â chynefinoedd gwrychoedd a choetiroedd cyfagos er mwyn gwella gwydnwch a chysylltedd.
  • Sicrhau nad yw gweithrediadau coetiroedd yn cael effaith negyddol ar y rhywogaethau adran 7 sy'n bresennol yn y blociau Cynlluniau Adnoddau Coedwig a nodi cyfleoedd i wella eu cynefinoedd.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth ymgymryd â gweithgareddau gweithredol drwy ddilyn arferion gorau fel yr amlinellir yn 'Safon Coedwigaeth y DU - Canllawiau Coedwigoedd a Dŵr' i ddiogelu ansawdd dŵr ac ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig. Mae cynnal a gwella ansawdd dŵr hefyd yn hanfodol er mwyn gwarchod a diogelu ecosystemau safleoedd dynodedig 'Natura 2000' i lawr yr afon, yn enwedig ACA Afon Wysg.

Cymdeithasol a Diwylliannol

  • Ymgynghori ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent cyn unrhyw weithrediadau yn y 6 man o ddiddordeb archeolegol a nodwyd, fel y’u nodir gan yr Ymddiriedolaeth. Rhaid i bob gweithrediad gydymffurfio â chanllawiau amgylchedd hanesyddol UKFS ac UKWAS. Yn ogystal â'r chwe man o ddiddordeb, dylid nodi a marcio pob nodwedd arall o ddiddordeb a gofnodir, a dylid cadw o leiaf 10m oddi wrthynt yng nghwrs unrhyw weithgareddau wedi’u cynllunio.
  • Cynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd ddefnyddio rhodfeydd a ffyrdd ar gyfer hamdden yn ogystal ag asedau sy'n bodoli eisoes.
  • Lleihau unrhyw effaith bosibl ar lifogydd drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arferion coedwigaeth da, yn unol â The UK Forestry Standard: The government’s approach to sustainable forestry (2017); Canllaw Ymarfer 25 UKFS a’r Comisiwn Coedwigaeth: Managing Forest Operations to Protect the Water Environment. Bydd gwaith llwyrgwympo uwchben ardal Caerffili yn The Warren yn gofyn am ymwneud ag adran Rheoli Perygl Llifogydd CNC.
  • Archwilio camau gweithredu gyda'n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu ymyriadau cydweithredol, ataliol effeithiol sy'n lleihau'r bygythiad o weithgarwch anghyfreithlon gan gynnwys troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein hystâd
  • Gweithio gyda'n partneriaid ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i nodi sut a ble y gall adnodd ein hystad ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur i anghydraddoldebau iechyd

Newid yn yr Hinsawdd

  • Nodi cyfleoedd i ymgymryd â chamau ymaddasu i'r newid yn yr hinsawdd yn ystod gweithrediadau rheoli.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Ar gael ar yr Hwb Ymgynghori o 9 Rhagfyr i 13 Ionawr 2020.

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk