Cynllun Adnoddau Coedwigoedd Llanfor a Chelyn

Lleoliad a safle

Mae ardal Cynllun Adnoddau Coedwigoedd Llanfor a Chelyn yn ymestyn dros ardal o 409 hectar. Rhennir yr ardal hon yn ddau brif safle sy'n weladwy iawn o dref y Bala a'r prif gefnffyrdd.

Lleolir yr hyn a elwir yn Goedwig Llanfor i'r gogledd-ddwyrain o dref y Bala ar hyd yr A494 ac mae wedi’i rhannu hefyd yn sawl bloc llai, sef Coed Penmaen Mawr, Coed Bryn Banon, Coed Foel-dryll a Choed Creigiau.

Lleolir Coedwig Celyn i'r gogledd-orllewin o'r Bala ar hyd yr A4212 ar ochr ogleddol cronfa ddŵr Llyn Celyn.

Mae'r cynefinoedd cyfagos yn cynnwys rhos yr ucheldir, tir ffermio ac ardaloedd eraill o goetir. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Migneint-Arenig-Dduallt yn gyfagos i Goedwig Celyn.

Lleolir Coedwig Celyn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. 

Mae dwy ardal Cynllun Adnoddau Coedwigoedd Llanfor a Chelyn o fewn ffin Cyngor Gwynedd.

Crynodeb o’r amcanion

Mae’r amcanion isod wedi’u rhannu’n rhai cyffredinol, sy’n cwmpasu’r bloc coedwig cyfan, a rhai Celyn a Llanfor, yn y drefn honno, sydd ag amcanion sy’n berthnasol i’r safleoedd hynny yn unig.

Cyffredinol

  • Cynnal cynhyrchiant pren, drwy fwy o reolaeth Coedwigaeth Gorchudd Di-dor (Coed Penmaen Mawr, Coed Foel Emoel). Bydd rhai ardaloedd yn parhau i fod yn safleoedd llwyrgwympo er mwyn ategu’r troellwr mawr ac oherwydd yr amlygiad a nodweddion gwael y pridd.

  • Gwella amrywiaeth rhywogaethau drwy ailstocio llennyrch llarwydd a gliriwyd â dewis eang o rywogaethau.

  • Parhau i ddatblygu ardaloedd glannau afon, er mwyn gwella neu gynnal statws ecolegol cyrsiau dŵr.

  • Gwella mynediad o ran y rhwydwaith ffyrdd coedwig a llwybrau, fel y gellir teneuo, rheoli o safbwynt coedwigaeth gorchudd di-dor, a thynnu llarwydd.

  • Datblygu trefn deneuo i sicrhau bod gwaith teneuo'n cael ei gyflawni’n brydlon, ac i greu cyfleoedd o ran coedwigaeth gorchudd di-dor.

  • Cael gwared ar goed llarwydd hŷn ac sydd wedi'u heintio, gan ystyried y dirwedd ac ardaloedd cwympo coed cyfagos; bydd llarwydd iau (dan 20 oed) yn cael eu gadael i dyfu hyd nes y gellir cynaeafu cnwd gwerthfawr.

  • Cynnal y dull gweithredu o ran y dirwedd o'r cynlluniau dylunio blaenorol, a sicrhau y bydd problemau tynnu coed llarwydd yn cael eu lliniaru.

  • Gweithio tuag at lefelau targed pren marw.

  • Gwarchod nodweddion diwylliannol a threftadaeth er mwyn cynnal cyflwr.

  • Cynllunio seilwaith ceirw, fel y gellir rheoli ceirw.

Celyn

  • Bydd gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar wifrau trydan, drwy gynllunio llennyrch yn ofalus.

  • Symud tuag at goetir llydanddail cymysg mewn ardal Allt y Gelli trwy gael gwared ar adfywiad Pyrwydd Sitka.

  • Parhau i ysgafnhau ymylon ar ochr y ffordd ar hyd Coedwig Celyn.

  • Parhau i gynnal llain glustogi goetir olynol ar hyd yr ymylon sydd gyfagos i Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt. Bydd hyn hefyd yn helpu i ysgafnhau'r ymylon o safbwynt y dirwedd fel y nodwyd ar y cynllun dylunio coedwig blaenorol.

Llanfor

  • Parhau i adfer ardaloedd coetir hynafol drwy deneuo coedwigoedd conwydd (Coed Bryn Banon a Choed Foel-dryll).

  • Bydd rhywfaint o waith adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) yn cael ei wneud drwy lwyrgwympo oherwydd cyfagosrwydd i briffordd fawr, ac oherwydd bod coed llarwydd yn cael eu symud oddi yno.

  • Rheoli rhododendronau, yn enwedig mewn safleoedd coetir hynafol, ac amseru hyn cyn tynnu llarwydd; mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghoed Bryn Banon.

  • Ailsefydlu coetir hynafol drwy lwyrgwympo yng nghoed Nurse Bryn Pader, gadael coed llarwydd ifanc tan eu bod yn 20-25 oed os nad ydynt wedi’u heintio â Phytophthora, i greu rhywfaint o werth o'r cnwd.

  • Ochr y llyn i'w rheoli'n bennaf ar gyfer buddion ecolegol a chaiff ei rhoi o dan reolaeth gwarchodfa naturiol.

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus i annog mwy o ddefnydd hamdden lleol.

Mapiau

Adborth

Ar gael ar ganolbwynt ymgynghori o'r 18eg o Dachwedd tan y 16eg o Ragfyr