Ein rôl ym maes rheoleiddio niwclear

Ein rôl ym maes rheoleiddio niwclear

Mae ein gwaith rheoleiddio amgylcheddol ar safleoedd niwclear yn cwmpasu'r cylch bywyd llawn, o adeiladu, gweithredu a datgomisiynu, i lanhau'r safle yn derfynol mewn partneriaeth agos â'n partner, sef y Swyddfa Reoleiddio Niwclear, sy'n rheoleiddio diogelwch a diogeledd niwclear.  Yn ogystal â’r gwaith rheoleiddio amgylcheddol rydym yn ei wneud mewn perthynas â safleoedd niwclear penodol yng Nghymru, rydym hefyd yn gwneud llawer o waith gyda’n partneriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar faterion sy’n berthnasol ar draws y sector niwclear cyfan yn y DU.

Rydym yn gweithio gyda chynllunwyr, gweithredwyr, datblygwyr, partneriaid rheoleiddio ac adrannau’r llywodraeth (Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru) ar draws llu o fframweithiau polisi, strategaeth a deddfwriaeth.  Mae hyn yn cynnwys pennu a chynllunio ar gyfer newidiadau i ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop ac ystyried sut y gallai hynny effeithio ar reoleiddio’r sector niwclear yng Nghymru.  Mae’r pynciau’n cynnwys gwaith sy’n ymwneud â’r strategaethau presennol a'r rhai i'r dyfodol ar gyfer storio a gwaredu gwastraff ymbelydrol yn y DU, y defnydd o ynni niwclear a meddygaeth niwclear yn y dyfodol, ymchwil a datblygu ym maes niwclear, ac agweddau allweddol eraill ar y sector niwclear y mae angen eu hystyried a'u rheoleiddio. 

Safleoedd Niwclear Trwyddedig Presennol

Mae CNC yn gyfrifol am roi, rheoleiddio a gorfodi caniatadau amgylcheddol i weithredwyr safleoedd niwclear presennol yng Nghymru a rheoleiddio cydymffurfedd â'r terfynau a’r amodau a nodir yn eu trwyddedau.

Mae dau safle niwclear trwyddedig yng Nghymru ar hyn o bryd.  Mae’r ddau safle, sef Trawsfynydd a’r Wylfa, yng Ngogledd Cymru, ac yn hanesyddol cynhyrchwyd trydan o ynni niwclear yno.  Mae’r ddau safle gwaddol hyn yn cael eu datgomisiynu gan y gweithredwr, Magnox Ltd, sef is-gwmni i Awdurdod Datgomisiynu Niwclear y DU, ac rydym ni’n rheoleiddio cydymffurfedd â’r trwyddedau amgylcheddol a roddwyd iddynt.  Mae gan CNC berthynas gref â’i bartneriaid rheoleiddio, sef y Swyddfa Reoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd, er mwyn cynnal gwaith craffu rheoleiddiol priodol ac effeithiol ar ein safleoedd niwclear yng Nghymru. 

Mae’r dull amlasiantaeth hwn wedi’i amlygu drwy’r gwaith rheoleiddio a dad-drwyddedu llwyddiannus a wnaed ar hen safle niwclear cynhyrchu radiofferyllol GE Healthcare Caerdydd yn Ne Cymru.  Yn 2019, tynnwyd gwastraff ymbelydrol o’r safle, a chafodd y safle ei lanhau’n derfynol gyda CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear yn gwneud y gwaith craffu rheoleiddiol.  Ar ddiwedd 2019, ar ôl adolygiad manwl, rhoddodd tîm trwyddedu CNC, gyda chymorth Asiantaeth yr Amgylchedd, hysbysiad ildio trwydded amgylcheddol ar gyfer y safle ar y sail bod yr holl weithgareddau gwaredu gwastraff ymbelydrol wedi dod i ben a bod cyflwr y safle yn darparu lefel briodol o ddiogelwch i bobl a’r amgylchedd.  Yn ogystal, cafodd y safle ei ddad-drwyddedu gan y Swyddfa Reoleiddio Niwclear ar y sail nad oedd unrhyw berygl o ymbelydredd ïoneiddio mwyach yn unol â'r gofyniad dim perygl o dan Ddeddf Gosodiadau Niwclear y DU.  Llwyddwyd felly i ddod â'r gwaith o reoleiddio sylweddau ymbelydrol ar y safle i ben ar ôl 40 mlynedd.  

Gosodiadau Niwclear Newydd

Trwyddedu a Chynllunio Amgylcheddol

Ni sy’n gyfrifol am y caniatadau amgylcheddol sy’n ymwneud ag adeiladu a gweithredu unrhyw osodiadau niwclear newydd yng Nghymru.  Bydd angen i unrhyw gwmni sy'n dymuno adeiladu a gweithredu gosodiad o'r fath wneud cais i ni am ystod o ganiatadau amgylcheddol a allai gynnwys trwyddedau a chaniatadau amgylcheddol.  Gall y caniatadau hyn hefyd fod yn berthnasol i ddatblygiadau cysylltiedig perthnasol megis llety i weithwyr a chyfleusterau parcio a theithio i gefnogi'r gwaith adeiladu.

Byddwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr cyn iddynt wneud cais am ganiatadau. Ar ôl i’r ceisiadau gael eu cyflwyno i ni, byddwn yn cynnal rhaglen asesu fanwl ac yn penderfynu a ddylid rhoi caniatadau a pha amodau penodol y dylid eu gosod. 

Mae awdurdodau cynllunio a datblygwyr yn ymgynghori â ni er mwyn cael ein cyngor arbenigol ar yr effeithiau amgylcheddol tebygol a allai ddeillio o gynigion datblygu.  Rydym hefyd yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol sy'n paratoi cynlluniau datblygu lleol.  Byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar ein gwaith yn ystod asesiad dylunio generig o gynllun adweithydd niwclear, ac unrhyw raglen sy'n benodol i'r safle.  Byddwn yn cyhoeddi cynllun ymgysylltu i roi gwybod i bobl sut y byddwn yn cyfathrebu ac yn ymgynghori â nhw. 

Asesiad Dylunio Generig

Mae'r Asesiad Dylunio Generig (GDA) yn broses wirfoddol i asesu cynlluniau gorsafoedd ynni niwclear newydd.  Mae cynlluniwr adweithyddion, sef yr Ymgeisydd, yn gwneud cais i Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU i ddechrau’r broses.  Arweinir y broses GDA ei hun gan y Swyddfa Reoleiddio Niwclear yn achos materion diogelwch a diogeledd, a chan Asiantaeth yr Amgylchedd yn achos ystyriaethau amgylcheddol.

Bydd CNC yn ymuno â’r asesiadau amgylcheddol i sefydlu pa mor dderbyniol yw'r dyluniad generig o safbwynt Cymru.  Mae’r GDA yn ei gwneud yn bosibl i’r rheoleiddwyr niwclear (y Swyddfa Reoleiddio Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC) asesu goblygiadau diogelwch, diogeledd ac amgylcheddol cynlluniau adweithyddion newydd ar wahân i'r ceisiadau i’w hadeiladu ar safleoedd penodol.  Drwy'r broses GDA, gellir nodi materion rheoleiddiol sy’n ymwneud â'r cynllun neu faterion technegol yn gynnar.

Mae’r GDA yn symud ymlaen trwy dri cham lle mae lefel y gwaith craffu yn cynyddu, o Gam Un: Cychwyn, i Gam Dau: Asesiad Sylfaenol a Cham Tri: Asesiad Manwl, dros gyfnod o tua phedair blynedd.

Penderfynir ar union hyd pob cam drwy gytundeb rhwng y rheoleiddwyr a’r Ymgeisydd fel rhan o drafodaethau Cam Un.  Mae gan yr Ymgeisydd yr opsiwn hefyd i oedi neu atal y GDA rhwng y camau.  Ar ddiwedd Cam Tri, os yw’r rheoleiddwyr yn fodlon y gall cynllun yr adweithydd fodloni’r safonau gofynnol ar gyfer diogelwch, diogeledd a diogelu’r amgylchedd, bydd y Swyddfa Reoleiddio Niwclear yn rhoi Cadarnhad Derbyn Cynllun (DAC) a bydd y rheoleiddwyr amgylcheddol yn rhoi Datganiad o Dderbynioldeb Cynllun (SoDA) .

Bydd angen asesiadau a chaniatadau penodol i'r safle, sy'n cael eu llywio gan ganfyddiadau'r GDA, ar gyfer unrhyw safle penodol.  Ceir canllawiau ychwanegol ar y broses GDA yma ar wefan Llywodraeth y DU.

Cychwynnodd y GDA ar gyfer cynllun Adweithydd Modiwlar Bach 470 MWe Rolls-Royce (RR SMR), y gofynnodd Rolls-Royce SMR Ltd amdano, ym mis Ebrill 2022.  Mae RR SMR Ltd yn bwriadu cwblhau pob un o dri cham y broses GDA gyda'r nod o sicrhau Datganiad o Dderbynioldeb Cynllun gan asiantaethau'r amgylchedd a Chadarnhad Derbyn Cynllun gan y Swyddfa Reoleiddio Niwclear. 

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am y cynnydd a wnaed o ran GDA RR SMR yma ar wefan Llywodraeth y DU

ac

ar wefan y cyd-reoleiddwyr

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun yr adweithydd ar gael ar wefan SMR Rolls-Royce.

Gwaith rheoleiddio arall sy'n gysylltiedig â'r sector niwclear yng Nghymru

Mae ein gwaith ynghylch rheoleiddio materion amgylcheddol mewn perthynas â datblygiadau niwclear presennol a rhai newydd yng Nghymru yn cynnwys:

  • darparu gwybodaeth am yr amgylchedd o amgylch safleoedd posibl fel y gall datblygwyr wneud penderfyniadau cadarn er mwyn gwarchod a gwella ein cynefin naturiol
  • cynnal gwaith monitro amgylcheddol a chyhoeddi’r canlyniadau yn yr adroddiad blynyddol ar ymbelydredd mewn bwyd a’r amgylchedd (RIFE)
  • cynghori ar gwmpas Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol i’w cynnal gan ddatblygwyr a darparu gwybodaeth ar gyfer yr asesiadau
  • rheoleiddio’r gwaith archwilio safle sydd ei angen er mwyn gwirio bod safleoedd yn addas i'w datblygu
  • darparu cyngor cyn gwneud cais
  • ymateb i ymgynghoriadau a gynhelir gan y llywodraeth, datblygwyr ac awdurdodau lleol
  • rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â pherygl llifogydd a’r arfordir ar gyfer safleoedd datblygu, gan gynnwys datblygiadau sy'n gysylltiedig â phrif safle’r orsaf bŵer ond sydd i ffwrdd ohono, er enghraifft llety i weithwyr
  • darparu cyngor a gwybodaeth i’r arolygiaeth gynllunio am faterion cynllunio a’n materion rheoleiddio ni
  • rheoleiddio safleoedd mewn perthynas â materion amgylcheddol yn ystod y cyfnod adeiladu, y cyfnod gweithredu a’r cyfnod datgomisiynu

Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi o gefnogi gwaredu daearegol er mwyn rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd dros y tymor hir.  Mae hyn yn unol â dull cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, drwy waredu daearegol.

Ni fydd cyfleuster gwaredu daearegol ond yn cael ei adeiladu yng Nghymru os yw cymuned yn fodlon ei gynnal a bod modd dod o hyd i safle addas a diogel.  Mae’r broses o ddewis safle yng Nghymru yn seiliedig ar gydsyniad. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben yn 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio polisi sy’n amlinellu’r broses ymgysylltu ar gyfer cymunedau yng Nghymru sy’n dymuno cynnal trafodaethau i archwilio’r posibilrwydd o gynnal cyfleuster gwaredu daearegol.  Mae hyn yn dilyn proses debyg a lansiwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2018, ar gyfer cymunedau yn Lloegr.

Bydd y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU i ddarparu un GDF ar gyfer y gwastraff uchel ei actifedd a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn cael ei darparu gan y Gwasanaethau Gwastraff Niwclear (NWS), sef is-gwmni yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.  Mae Gwasanaethau Gwastraff Niwclear yn gyfrifol am weithredu dull gwaredu daearegol a bydd yn arwain y broses leoli, gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau i nodi lleoliad addas ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol.

Pe bai safle ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol yn cael ei nodi yng Nghymru, byddai angen cael caniatâd cynllunio, yn ogystal â thrwyddedau diogelwch a diogeledd sy’n benodol i'r safle oddi wrth y Swyddfa Reoleiddio Niwclear, a’r trwyddedau amgylcheddol perthnasol gan CNC.  Yn yr un modd â safleoedd niwclear yng Nghymru ar hyn o bryd, byddem yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Reoleiddio Niwclear i reoleiddio unrhyw gyfleuster gwaredu daearegol ar y cyd.  Pe bai safle'n cael ei nodi yn Lloegr, câi’r rolau hyn eu cyflawni gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Reoleiddio Niwclear .

Ein cyfrifoldeb ni fyddai sicrhau bod datblygwr a gweithredwr cyfleuster gwaredu daearegol yng Nghymru yn bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol gennym i ddiogelu pobl a’r amgylchedd, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Nid oes gennym rôl yn y penderfyniad i ddewis safle ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol.  Byddwn ar gael i ddarparu gwybodaeth a chyngor i gymunedau ar ein rôl o ran diogelu'r amgylchedd drwy gydol y broses o werthuso'r safle.

Diweddarwyd ddiwethaf