Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol 2020
Mae modd cymharu ein perfformiad rheoleiddiol ar gyfer 2019 â 2018. Dim ond ychydig o newid mewn canrannau a geir yn y dadansoddiad o'r digwyddiadau yn ôl cyfundrefn.
Digwyddiadau llygredd dŵr oedd y categori digwyddiadau unigol uchaf, gan gyfrif am 29% o'r holl ddigwyddiadau a gofnodwyd yn 2018 a 2019. Gwnaethom ymateb i fwy o ddigwyddiadau llygredd dŵr yn y categorïau uchel ac isel nag mewn unrhyw gategori unigol arall.
Daw'r data a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn o System Cofnodi Digwyddiadau Cymru (WIRS), y System Adrodd ar gyfer Asesu Cydymffurfiaeth (CARS), a'r System Hysbysu Gwybodaeth Gyfreithiol am Droseddau a Thramgwyddau (COLINS).
Gwnaethom dderbyn 7,423 o adroddiadau am ddigwyddiadau yn 2019. Gwnaethom ddosbarthu'r rhain fel a ganlyn:
Ein cyfradd ymateb i ddigwyddiadau yn 2019 oedd 27%. Gwnaethom ymateb i 27% (1,525) o ddigwyddiadau lefel isel a 39% (424) o'r holl ddigwyddiadau lefel uchel.
Cafwyd 624 o adroddiadau diffyg cydymffurfiaeth ar safleoedd trwyddedig yn 2019. Ymdriniwyd â 264 neu 42% o'r holl achosion o ddiffyg cydymffurfio trwy lythyr rhybuddio.
Crëwyd 655 o achosion gorfodi gennym ar ein system COLINS; cafwyd canlyniad cyfreithiol ar gyfer 455 o’r achosion hyn.
O'r 455 o gofnodion a gwblhawyd:
Gwnaethom gyflwyno rhybuddiadau ffurfiol ar gyfer 53 o gyhuddiadau ar wahân ar draws 39 o achosion. Yn yr achosion hyn, roedd 46 o dramgwyddwyr ac roedd 15 ohonynt yn gwmnïau a 31 yn unigolion.
Gwnaethom erlyn 98 o gyhuddiadau ar wahân dros 58 o achosion. Yn yr achosion hyn, roedd 59 o dramgwyddwyr ac roedd chwech ohonynt yn gwmnïau a 52 yn unigolion.
Gwnaethom erlyn 25 yn fwy o gyhuddiadau ar wahân yn 2019 nag yn 2018. Roedd swm y dirwyon llys a ddyfarnwyd, a'r costau y gwnaethom eu hadennill, bron 50% yn llai nag y gwnaethom eu derbyn yn 2018.
Yn 2019, gwnaethom dderbyn tri ymgymeriad gorfodi a chyflwyno pedwar hysbysiad Rheoliad 36 o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Rheoliad 38(1)(a): mynd yn groes i Reoliad 12(1) (COLINS 8275)
Ar 3 Hydref 2017, adroddwyd am ddigwyddiad llygredd i CNC, sef bod y dŵr yn Nant Wepre ym Mharc Wepre yn afliwiedig – yn lliw siocled brown â gwaddod. Aeth ein swyddogion i'r digwyddiad a gweld bod y llygredd yn y nant yn weladwy am oddeutu 5 km. Gwnaeth ein swyddogion olrhain tarddiad y llygredd yn ôl i chwarel yn Alltami sydd â man gollwng trwyddedig i Nant Alltami.
Er nad oedd unrhyw ollwng yn digwydd pan wnaeth ein swyddogion gyrraedd y man gollwng, gwelsant fod dŵr afliwiedig yn y siambr a allai gael ei olrhain drwy dyllau archwilio dŵr wyneb i Nant Alltami, sy'n llifo i mewn i Nant Wepre.
Ar 7 Tachwedd 2017, adroddwyd am ddigwyddiad llygredd tebyg arall i CNC, sef bod y dŵr yn Nant Wepre ym Mharc Wepre yn afliwiedig – yn lliw siocled brown â gwaddod. Unwaith eto, aeth swyddogion i'r digwyddiad ac olrhain y llygredd yn ôl i'r man gollwng o'r chwarel.
Gwnaethom samplu'r dŵr yr effeithiwyd arno yn ystod y ddau ddigwyddiad. Roedd y dŵr o’r digwyddiad cyntaf, ym mis Hydref 2017, yn cynnwys gronynnau solet a oedd bron 600 gwaith dros y terfyn diogel ac roedd y dŵr o’r ail ddigwyddiad ym mis Tachwedd 2017 17 gwaith dros y terfyn cyfreithiol.
Ar y ddau achlysur, roedd dŵr brwnt hefyd yn y ffos ddraenio sy'n rhedeg ar hyd ffens derfyn y chwarel. Daeth ein hymchwiliad o hyd i'r ffaith nad oedd gan weithredwr y chwarel ddulliau atal llygredd digonol ar waith, a oedd yn achosi i'r lan islaw pibell ollwng i gael ei gorchuddio gan ddeunydd coch tebyg i glai a pheri i'r dŵr yn y ddwy nant droi'n lliw siocled brown.
Cofrestrwyd y ddau ddigwyddiad hyn yn rhai lefel uchel gan CNC oherwydd y tebygolrwydd y byddent yn achosi niwed sylweddol neu farwolaeth i fywyd dyfrol. Gwyddys bod llygredd fel hyn yn claddu wyau pysgod yng ngwely'r nant, yn atal ffotosynthesis, ac yn niweidio tagellau pysgod, gan beri iddynt farw.
Ym mis Hydref 2019, yn Llys yr Wyddgrug, gwnaeth perchnogion y chwarel yn Alltami bledio'n euog i bedwar cyhuddiad o dorri eu trwydded amgylcheddol, yn dilyn dau ddigwyddiad llygredd yn 2017 a gafodd effaith ar 5 km o Nant Alltami a Nant Wepre. Gwnaethant dderbyn dirwy o £8,000 am bob trosedd yn ymwneud â’u trwydded, sef cyfanswm o £32,000, yn ogystal â chael gorchymyn i dalu £6,653.86 mewn costau perthynol.
Mae'r tîm Trwyddedu Rhywogaethau yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer amrediad eang o weithgareddau a rhywogaethau o dan bedair deddf ac un casgliad statudol o reoliadau.
Deddf neu reoliadau | Nifer y trwyddedau a roddwyd |
---|---|
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 |
366 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
921 |
Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 |
16 |
Deddf Ceirw 1991 |
1 |
Deddf Cadwraeth Morloi 1970 |
0 |
Mae'r tîm Trwyddedu Coedwigaeth yn ymdrin â thrwyddedau ar gyfer cwympo coed a gweithgareddau plannu (cwsmeriaid allanol). Rydym hefyd yn cymeradwyo Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ac yn gweinyddu'r ceisiadau ar gyfer hawliau tramwy cefn gwlad (cwsmeriaid mewnol).
Deddf neu reoliadau | Nifer y trwyddedau a roddwyd | Trwyddedau a wrthodwyd | Trwyddedau a dynnwyd |
---|---|---|---|
Deddf Coedwigaeth 1967 |
566 |
8 |
80 |
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 |
39 |
3 |
1 |
Roedd 792 o gyfleusterau gwastraff gweithredol a drwyddedir yng Nghymru yn 2019.
Nifer y safleoedd ym mhob band cydymffurfiaeth ar gyfer gosodiadau diwydiannol, gosodiadau gwastraff a ffermydd dwys:
Band | Diwydiant – cyfanswm y trwyddedau gweithredol | Gwastraff (gosodiadau) – cyfanswm y trwyddedau gweithredol | Ffermio dwys – cyfanswm y trwyddedau gweithredol |
---|---|---|---|
A |
101 |
84 |
86 |
B |
29 |
13 |
18 |
C |
15 |
4 |
4 |
D |
6 |
2 |
0 |
E |
2 |
5 |
0 |
F |
2 |
2 |
0 |
Cyfansymiau |
155 |
110 |
108 |
Yn 2019, rydym wedi canolbwyntio ar archwilio ailbroseswyr ac allforwyr, gan roi sylw penodol i allforion plastig.
Math | Nifer | Archwiliadau a gynlluniwyd | Archwiliadau a gwblhawyd |
---|---|---|---|
Cynhyrchwyr |
Tua 400 |
2 |
2 |
Ailbroseswyr ac allforwyr deunydd pacio |
26 |
5 |
5 |
Ailbroseswyr ac allforwyr cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff |
22 |
0 |
0 |
Ailbroseswyr ac allforwyr batris |
2 |
0 |
0 |
Cyfanswm |
Tua 450 |
7 |
7 |
Achosion o dorri trwydded dofednod a ganfuwyd mewn archwiliadau o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol | 7 |
Ymweliadau fferm trawsreoleiddiol – gan arwain at gyngor ac arweiniad i fodloni gofynion rheoleiddiol | 58 |
Archwiliadau trwydded gwaredu dip defaid o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol |
33 |
Archwiliadau Parthau Perygl Nitradau |
4 |
Archwiliadau/ymweliadau a ysgogwyd gan y Rheoliadau Adnoddau dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) |
113 |
Hysbysiadau o dan y Rheoliadau Slwtsh (Defnydd Amaethyddol) a aseswyd |
126 |
Archwiliadau trawsreoleiddiol |
2 |
Defnyddiau a aseswyd am fudd amaethyddol a risg amgylcheddol |
119 |
O ganlyniad i achosion o gyflawni troseddau amgylcheddol perthnasol, yn ystod 2019 gwnaethom dderbyn pedwar ymgymeriad gorfodi, un gosb ariannol amrywiadwy a hysbysiad adennill cost gorfodaeth, a dwy gosb ariannol benodedig.
Math o droseddwr | Trosedd | Dyddiad derbyn | Swm y costau i CNC | Rhodd i elusen | Derbynnydd |
---|---|---|---|---|---|
Unigolyn |
Adran 25: Deddf Adnoddau Dŵr 1991 |
06/03/2019 |
£3,725.85
|
£2,560 |
Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru |
Unigolyn |
Adran 4: Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
02/06/2018
|
£1,129.25 |
£4,000 |
Sefydliad Gwy ac Wysg |
Cwmni |
Adran 4: Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
24/01/2019 |
£20,133.20 |
£20,000 |
Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru |
Unigolyn |
Adran 4: Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
15/06/20 |
£2,315.75 |
£5,000
|
Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, Rheoliad 38(1)(a) a 38: ansawdd dŵr
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975, Adran 4(1)
Yn ystod digwyddiad llygredd afon sylweddol yng Nghanolbarth Cymru yn 2016, effeithiwyd ar hyd pum milltir o afon Teifi pan ollyngodd oddeutu 44,000 galwyn o lygrydd o waith treulio anaerobig, gan ladd oddeutu 18,000 o bysgod.
Yn ogystal ag ymchwilio i'r digwyddiad a goruchwylio'r gwaith glanhau, gwnaeth CNC hefyd ymchwilio i rolau'r holl gwmnïau a oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Diddymwyd yr is-gontractiwr a oedd yn bennaf yn gyfrifol am y digwyddiad, Hallmark Power Ltd, ac felly nid oedd modd cychwyn erlyniad yn ei erbyn. Hefyd, nid yw ComBigaS UK, sef y prif gontractiwr, yn bodoli bellach ac felly nid oedd modd cymryd camau gweithredu yn ei erbyn chwaith.
Roedd perchennog y safle, Pencefn Feeds Ltd, wedi codi pryderon gyda'i is-gontractwyr am safon eu gwaith, ond ni weithredwyd ar hyn. Byddai hyn wedi bod yn ffactor lliniarol iawn o safbwynt y cwmni petai'r mater wedi mynd gerbron y llys, felly daeth CNC i'r casgliad mai derbyn ymgymeriad gorfodi oedd yr opsiwn gorau yn yr achos hwn.
Roedd y taliadau a gynigiwyd gan Pencefn Feeds Ltd yn yr ymgymeriad gorfodi yn gyson â dirwy llys ac mae hyn hefyd yn golygu bod yr arian a dalwyd gan y cwmni o fudd uniongyrchol i'r amgylchedd lleol.
Dan delerau'r ymgymeriad gorfodi, derbyniodd Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru £15,000 i adfer cynefin pysgod yn yr ardal. Talwyd £5,000 i Sefydliad y Gynghrair Cefn Gwlad i ariannu gweithgareddau addysgol am bysgod a'r amgylchedd lleol i blant yn ardal Tregaron, ac mae £20,000 yn cael ei dalu i adennill yr holl gostau ymchwilio a chyfreithiol sy'n ymwneud â'r achos.
Troseddau gwialen a lein | 2019 |
---|---|
Nifer yr erlyniadau |
37 |
Cyfanswm y dirwyon |
£3,929 |
Cyfartaledd y dirwyon |
£106 |
Cyfanswm y costau a ddyfarnwyd |
£3,215 |
Cyfartaledd y costau |
£87 |
Digollediad |
£546 |
Rhyddhad amodol o chwe mis |
3 |
Achosion o fynd yn groes i reoliadau | 2019 |
---|---|
Is-ddeddf – Is-ddeddfau Pysgota â Gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd (Rhanbarth Cymru) |
1 |
Is-ddeddf – Is-ddeddf Pysgod Cregyn Afon Dyfrdwy |
1 |
Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 |
8 |
Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 |
3 |
Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 |
3 |
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991 |
2 |
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 |
9 |
Deddf yr Amgylchedd 1995 |
2 |
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 |
2 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 |
29 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 |
258 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 |
77 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2014 |
1 |
Deddf Coedwigaeth 1967 |
11 |
Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 |
1 |
Heb eu nodi |
118 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
79 |
Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007 |
3 |
Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 |
2 |
Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 |
1 |
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 |
12 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
32 |
Cyfanswm |
655 |
Mae'r wybodaeth isod yn dangos ein canlyniadau gorfodi o 1 Ionawr 2019 hyd at 31 Rhagfyr 2019. Bydd rhai achosion wedi dechrau cyn 2019 ond cawsant eu cwblhau o fewn y flwyddyn. Bydd achosion a ddechreuwyd yn ystod 2019 hefyd sydd naill ai yn destun ymchwiliad o hyd neu yn system y llysoedd, a chaiff y rhain eu cofnodi yn ein hadroddiad ar gyfer 2020.
Deddf neu reoliadau | Achosion |
---|---|
Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 |
1 |
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991 |
1 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 |
2 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 |
49 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 |
16 |
Deddf Coedwigaeth 1967 |
3 |
Ni wnaed unrhyw gofnod |
5 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
2 |
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 |
2 |
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 |
3 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
7 |
Cyfanswm |
91 |
Deddf neu reoliad | Achosion |
---|---|
Is-ddeddf – Is-ddeddf Pysgod Cregyn Afon Dyfrdwy |
1 |
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri, Tanwydd Olew Amaethyddol) 1991 |
1 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 |
14 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 |
118 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 |
26 |
Deddf Coedwigaeth 1967 |
5 |
Ni wnaed unrhyw gofnod |
10 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
13 |
Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 |
4 |
Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 |
1 |
Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007 |
2 |
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 |
1 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
15 |
Cyfanswm |
211 |
Deddf neu reoliad | Achosion |
---|---|
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 |
3 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 |
27 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 |
9 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
14 |
Cyfanswm |
53 |
Deddf neu reoliad | Achosion |
---|---|
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 |
4 |
Deddf neu reoliad | Achosion |
---|---|
Is-ddeddf – 13(4)(1) |
1 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 |
7 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 |
31 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 |
12 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
42 |
Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 |
1 |
Deddf Dwyn 1968 |
1 |
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 |
0 |
Cyfanswm |
96 |
Canlyniadau (cyfanswm 98)
Dirwyon (cyfanswm £125,133)
Costau a ddyfarnwyd (cyfanswm £67,686.60)
Mae’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud cais am orchmynion digolledu ac ategol, fel gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion atafaelu, ym mhob achos priodol. Isod, ceir rhestr o'r gorchmynion ategol y gall llys eu rhoi o ganlyniad i euogfarn:
Anghymhwyso cyfarwyddwyr
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion
Atafaelu asedau – Deddf Enillion Troseddau 2002
Gweler isod
Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion
Fforffedu cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni'r drosedd
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchmynion
Anghymhwyso rhag gyrru
Dim
Digollediad arall ar wahân i achosion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau
Dim
Atafaelu cerbydau
Dim
Adfer – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Dim
Fodd bynnag, gwnaed dau orchymyn Rheoliad 44.
Gwaith di-dâl
Un
Gorchmynion cymunedol
Un
Cyrffyw
Un
Gorchymyn adfer o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982
Dim
Am y flwyddyn dreth 2018-19, ni wn