Adroddiad Rheoleiddio Blynyddol 2020
Rydym wedi amlinellu ein dull rheoliadol fel cyfres o egwyddorion rheoliadol sy'n llywio'r ffordd rydym yn gweithio. Gan ddilyn ein hwyth egwyddor, byddwn yn cyflawni ein rôl fel rheoleiddiwr a hefyd cydymffurfio â chod y rheoleiddwyr ac egwyddorion rheoleiddio da.
Mae ein rôl reoliadol wedi'i sefydlu drwy gymysgedd o Gyfarwyddebau Ewropeaidd a deddfwriaeth a pholisi'r DU sy'n pennu'r mathau o weithgareddau rydym yn eu rheoleiddio, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni gyflawni dyletswyddau penodol fel rhoi trwyddedau, gwirio cydymffurfiaeth a chyflawni gwaith monitro.
Yn unol ag egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, rydym yn mabwysiadu diffiniad eang o reoleiddio sy'n cwmpasu llawer o fathau o ymyriadau, gan gynnwys rheoleiddio ffurfiol a rheoleiddio anffurfiol, e.e. mentrau gwirfoddol a mecanweithiau sy'n seiliedig ar yr economi a'r farchnad, a dulliau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyfathrebu.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ni weithio mewn ffordd sy'n deall ac yn gwerthfawrogi'r amgylchedd naturiol yn well, sy'n fwy cydgysylltiedig ac sy'n fwy rhagweithiol. Mae angen i ni barhau â'n cyfrifoldebau rheoliadol, sy'n bellgyrhaeddol a chymhleth, wrth gydbwyso blaenoriaethau newydd ac annog dulliau newydd neu arloesol.
Rydym yn helpu i lywio a chyflenwi dulliau rheoliadol o weithio neu ymyriadau ledled Cymru, er mwyn hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a, lle bo angen, mynd i'r afael â gweithgarwch anghyfreithlon. Mae rheoleiddio'n ymwneud â'r gyfraith, ond mae hefyd yn cynnwys mathau ehangach o lawer o ymyrryd, gan gynnwys offerynnau economaidd a gwirfoddol, neu rannu cyngor ac arweiniad.
Drwy gyhoeddi'r adroddiad blynyddol hwn, rydym yn bodloni ein gofynion o dan god y rheoleiddwyr a'n hegwyddorion rheoliadol ein hunain.
Mae'r tîm Trwyddedu Rhywogaethau yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer amrediad eang o weithgareddau a rhywogaethau o dan bum deddf a rheoliad.
Deddfau/rheoliadau |
Nifer y trwyddedau a roddwyd |
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 |
429 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
853 |
Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 |
16 |
Deddf Ceirw 1991 |
0 |
Deddf Cadwraeth Morloi 1970 |
0 |
Mae'r tîm Trwyddedu Coedwigaeth yn ymdrin â thrwyddedau ar gyfer cwympo coed a gweithgareddau plannu (cwsmeriaid allanol). Rydym hefyd yn cymeradwyo Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd ac yn gweinyddu'r ceisiadau ar gyfer hawliau tramwy cefn gwlad (cwsmeriaid mewnol).
Deddfau/rheoliadau |
Nifer y trwyddedau a roddwyd |
Trwyddedau a wrthodwyd |
Trwyddedau a dynnwyd |
Deddf Coedwigaeth 1967 |
466 |
0 |
4 |
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999 |
97 |
0 |
0 |
Ceir 792 o gyfleusterau gwastraff a drwyddedir yng Nghymru. O'r rhain, roedd 628 yn weithredol yn 2018. Gallai'r rheiny sydd wedi'u dosbarthu'n rhai anweithredol fod yn gyfleusterau lle nad yw gweithgareddau gwastraff gweithredol wedi dechrau eto, neu lle mae'r cyfleuster wedi cau. O'r cyfleusterau gweithredol, mae gan 558 ohonynt drwydded gweithrediadau gwastraff ac mae gan 70 ohonynt drwydded gosodiad gwastraff.
Sector/is-sector |
Cyfanswm y trwyddedau gweithredol |
||
2018 |
2017 |
2016 |
|
Gwastraff nad yw'n beryglus (storio a thrin) |
269 |
263 |
249 |
Metelau eilaidd |
127 |
120 |
118 |
Tirlenwi (gan gynnwys dyddodi gwastraff at ddibenion adfer) |
42 |
58 |
41 |
Trin gwastraff peryglus (storio a thrin) |
70 |
68 |
64 |
Gwastraff anadweithiol (storio a thrin) |
49 |
40 |
35 |
Defnyddio biowastraff |
35 |
35 |
30 |
Trin biowastraff |
36 |
34 |
33 |
Cyfansymiau |
269 |
618 |
570 |
Wedi'i fynegi fel cyfran o gyfanswm y safleoedd gweithredol, mae'r rheiny sy'n perfformio'n wael yn gymharol isel, sef 5% o safleoedd gweithredol.
Mae nifer y safleoedd sydd ym Mand E, C ac A yn 2018 wedi cynyddu ers 2017. Mae hyn wedi cyd-ddigwydd â gostyngiad yn y safleoedd sydd ym Mand D a B, ac mae nifer y safleoedd sydd ym Mand F wedi aros yr un peth.
Gwnaeth y perfformiad cyffredinol o fewn y sector gwastraff yng Nghymru wella rhwng 2011 a 2014, llithrodd yn ôl yn 2015, dechreuodd wella eto yn 2016 a 2017, ac wedyn dirywiodd eto yn 2018.
Mae'n rhaid i bob safle ym Mand D, E ac F fod â chynllun cydymffurfiaeth yn ei le sy'n cynnwys manylion am y camau gweithredu â therfyn amser y cytunwyd arnynt â'r rheoleiddiwr er mwyn sicrhau bod safleoedd yn gweithio tuag at wella'u perfformiad. Yng Nghymru, roedd gan bob safle ym Mand D, E ac F a nodwyd yn 2018 gynllun gweithredu ar waith.
Mae'r rhan fwyaf o safleoedd Band D, E ac F wedi bod yn destun cam gorfodi, neu ymateb adferol, fel hysbysiad gorfodi neu wahardd. Ceir crynodeb o'r ymatebion fel a ganlyn:
Mae tanau ar safleoedd lle rheolir gwastraff yn parhau i beri risg i'r amgylchedd ac i gymunedau Cymru. Dros y blynyddoedd diweddar, yn anffodus, cafwyd sawl tân ar raddfa fawr a ofynnodd am adnoddau sylweddol gan dimau gweithredol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub er mwyn ymdrin â nhw.
I geisio lleihau'r tebygolrwydd y gallai'r tanau hyn digwydd, a cheisio lleihau eu heffaith bosibl os ydynt yn digwydd, rydym wedi diweddaru canllawiau ein Cynllun Atal a Lliniaru Tân, cwblhau rhaglen i amrywio trwyddedau ar y rhestr o safleoedd â risg uchel o dân, ac wedi diweddaru'r holl gyfresi o reolau trwyddedau safonol fel eu bod yn cynnwys amod Cynllun Atal a Lliniaru Tân.
Ar hyn o bryd, mae 86 o'r 126 o safleoedd a drwyddedir y mae'n ofynnol iddynt gael Cynllun Atal a Lliniaru Tân wedi sicrhau bod un ar waith ganddynt. Rydym wrthi'n gweithio gyda gweddill y gweithredwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn.
Yn 2018, rydym wedi canolbwyntio ar archwilio ailbroseswyr ac allforwyr, gan roi sylw i allforion plastig.
|
Rhif |
Archwiliadau a gynlluniwyd |
Archwiliadau a gwblhawyd |
Cynhyrchwyr |
Oddeutu 400 |
10 |
10 |
Ailbroseswyr ac allforwyr |
|||
Deunydd pacio |
25 |
25 |
25 |
Cyfarpar trydanol |
20 |
11 |
11 |
Batris |
2 |
2 |
2 |
Cyfanswm |
|
48 |
48 |
Mae'r tabl isod yn dangos nifer y safleoedd sydd ym mhob band cydymffurfiaeth ar gyfer gosodiadau diwydiannol, trwyddedau sylweddau ymbelydrol a ffermydd dwys. Bu cynnydd cyffredinol pellach yn nifer y safleoedd yn 2018. Mae'r rhan fwyaf o'r safleoedd newydd yn ffermydd dofednod dwys.
Math o safle |
A |
B |
C |
D |
E |
F |
Cyfanswm |
Diwydiant |
88 |
35 |
19 |
6 |
7 |
0 |
155 |
Rheoleiddio sylweddau ymbelydrol |
127 |
8 |
0 |
0 |
0 |
0 |
135 |
Ffermio dwys |
75 |
19 |
9 |
0 |
1 |
0 |
104 |
Cyfanswm |
287 |
63 |
28 |
6 |
8 |
0 |
394 |
Rydym yn rheoleiddio 155 o safleoedd diwydiannol a 104 o ffermydd dwys pellach o dan Atodlen 1, Rhan A(1) o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Rydym hefyd yn rheoleiddio 94 o safleoedd sy'n cadw ffynonellau ymbelydrol nad ydynt yn rhai niwclear, ac rydym yn awdurdod cymwys ar y cyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer 54 o safleoedd a gwmpesir gan y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH).
Mae 135 o drwyddedau ar gyfer sylweddau ymbelydrol nad ydynt yn niwclear ar 94 o safleoedd ledled Cymru.
Yn ystod 2018, cynyddodd nifer y ffermydd dwys a drwyddedir i 104, ac roedd pob un ond un ohonynt yn unedau dofednod dwys. Roedd 77 o ffermydd dwys yn 2015, felly mae hwn yn sector sydd wedi ehangu'n gyflym iawn dros y blynyddoedd diweddar.
Mae 143 o safleoedd sy'n meddu ar drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau diwydiannol o dan Atodlen 1, Rhan A(1), ac eithrio gweithgareddau ffermio dwys, trin gwastraff a thirlenwi. Mae 12 trwydded bellach ym meddiant gweithredwyr gweithrediadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ar gyfer gosodiadau sy'n meddu ar drwyddedau Atodlen 1.
Mae 49 o osodiadau trin gwastraff a 25 o safleoedd tirlenwi sy'n cael eu rheoleiddio gan dimau rheoleiddio diwydiant. Cynyddodd nifer y safleoedd a oedd yn perfformio'n wael o bedwar i chwech yn ystod 2018, gan gynnwys y safle unigol sydd ym Mand F.
Deddfau/rheoliadau |
Archwiliadau |
Achosion o dorri amodau / diffyg cydymffurfiaeth |
Archwiliadau dip defaid o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol |
93 |
11 |
Parthau Perygl Nitradau |
40 |
6 |
Rheoli llygredd, silwair, slyri ac olew tanwydd amaethyddol |
27 |
22 |
Ymweliadau â ffermydd / gwaith dilynol ar ôl digwyddiad llygredd o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr |
28 |
|
Archwiliadau traws-gydymffurfiaeth |
21 |
5 |
Deddfau/rheoliadau |
Ceisiadau/ |
Achosion o ddefnyddio trwydded ar gyfer gweithfeydd |
120 |
Asesiadau risg o dan y Rheoliadau Slwtsh (Defnydd Amaethyddol) |
150 |
Prosiect Llaeth (Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) |
43 |
Yng Nghymru, daeth Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010 a Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 i rym ar 15 Gorffennaf 2010.
Mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn bosibl i Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddiwr orfodi sancsiynau sifil mewn perthynas â throseddau a bennir yn Atodlen 5 y gorchymyn. Mae'n amlinellu'r weithdrefn sy'n gysylltiedig â'r sancsiynau megis y darpariaethau ar gyfer diffyg cydymffurfio, costau gweinyddol, apeliadau, a gofyniad i ddarparu arweiniad.
Mae'r rheoliadau'n diwygio nifer o offerynnau statudol eraill mewn modd sy'n ei gwneud yn bosibl i'r rheoleiddiwr roi sancsiynau sifil penodedig mewn perthynas ag achosion o dorri'r rheoliadau hynny. Ni fwriedir bod sancsiynau sifil yn cael eu defnyddio yn lle cyfraith trosedd, ond yn hytrach eu bod yn hwyluso dull sy'n fwy cymesur ac yn fwy effeithiol ar gyfer gweithredwyr sy'n cydymffurfio ar y cyfan, gan sicrhau bod erlyniad troseddol ar gael o hyd ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol. Mae sancsiynau sifil ar gael ar gyfer adrannau penodol o'r ddeddfwriaeth ganlynol:
O ganlyniad i achosion o gyflawni troseddau amgylcheddol perthnasol, gwnaethom dderbyn pedwar ymgymeriad gorfodi, un gosb ariannol amrywiadwy a hysbysiad adennill cost gorfodaeth, a dwy gosb ariannol benodedig.
Math o droseddwr |
Trosedd |
Dyddiad derbyn neu wrthod (o ddyddiad dychwelyd y cynnig) – gwybodaeth/diweddariadau |
Swm y costau i Cyfoeth Naturiol Cymru |
Rhodd i elusen |
Derbyniwr |
Cwmni |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010, Rheoliad 12(1)(a) |
22/08/2018 |
£8,587.00 |
£150,000 |
Afonydd Cymru |
Ansawdd |
Adran 4 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
|
£4,683.26 |
£15,000 |
Cynllun Gwella Digwyddiad Dihysbyddu Llangatwg |
Cwmni |
Adran 4 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
Wedi'i wrthod yn wreiddiol gan mai un digwyddiad yn unig roedd y cynnig yn cyfeirio ato. |
£7,351.39 |
£45,000 |
Ymddiriedolaeth Afonydd y De-ddwyrain, Afonydd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol 3G |
Cwmni |
Adran 4 o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
Cafodd y cynnig uchod ei wneud ar gyfer y digwyddiad uchod yn unig. Cafodd cynnig pellach ei wneud ar gyfer y ddau ddigwyddiad. |
£7,351.40 |
£45,000 |
Ymddiriedolaeth Afonydd y De-ddwyrain, Afonydd Cymru, ac Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol 3G |
Adran 24(1)(A) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991
Tynnu dŵr heb drwydded neu orchymyn/trwydded sychder
Ym mis Ebrill 2017, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol bod cwmni o'r enw Knolton Farmhouse Cheese Ltd wedi gwneud ail gais am drwydded i dynnu dŵr daear ar ei safle cynhyrchu ger Owrtyn. Roedd y cwmni wedi meddu ar drwydded i dynnu dŵr daear yn flaenorol, a daeth ei drwydded ddiweddaraf i ben ym mis Medi 2017. Dangosodd ein hymchwiliadau fod y cwmni wedi parhau i dynnu dŵr bron yn barhaus ers dyddiad darfod y drwydded, ond roedd wedi cadw oddi mewn i gyfyngiadau'r hen drwydded honno.
Dyma'r eildro y mae'r cwmni wedi gadael i'r drwydded ddarfod mewn dwy flynedd. Mae'r dyddiad darfod wedi'i nodi'n glir ar flaen y drwydded, ac esboniwyd hynny ar adeg ei rhoi, ond esgus y cwmni oedd y bu newidiadau yn ei staff ac nid oedd wedi bwriadu gadael i'w drwydded ddarfod.
Nid oedd tystiolaeth bod unrhyw niwed wedi digwydd, ond pe byddai cwmni arall wedi gwneud cais am drwydded yn yr ardal dŵr daear hon ar ôl i drwydded Knolton ddarfod, gallai fod wedi cael trwydded newydd gan na fyddai'r dŵr a oedd wedi'i neilltuo i Knolton yn flaenorol bellach wedi'i neilltuo iddynt ac felly byddai wedi ymddangos bod dŵr ar gael yn yr ardal hon, a gallai hynny fod wedi achosi problemau o safbwynt tynnu gormod o ddŵr.
Gwnaeth y cwmni gyfaddef ei fod wedi cyflawni'r drosedd a hwylusodd ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru. Cynigiodd hefyd ad-dalu'r £782.80 roedd wedi osgoi ei dalu drwy beidio â chael trwydded.
Rhoddwyd cosb ariannol amrywiadwy o £2,331.60 i'r cwmni a hysbysiad adennill costau am £1,493.13, sydd wedi'i dalu'n llawn.
Rheoliad 12(1)a 38(1)b Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
Achosi'n fwriadol, neu ganiatáu yn fwriadol, y defnydd o gyfleuster rheoledig heblaw i'r graddau a awdurdodir gan drwydded amgylcheddol
Adran 41(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975
Gollwng sylwedd neu elifion sy'n wenwynig, neu a allai achosi anaf i bysgod, silod, mannau silio neu fwyd pysgod
Ym mis Hydref 2016, bu digwyddiad llygredd o ganlyniad i ollwng cerosin o biblinell olew o dan yr A48 ger Nant-y-caws. Ar yr adeg honno, roedd Mainline Pipeline Ltd yn adeiladu piblinell aml-danwydd newydd i gludo tanwydd olew o Ddoc Penfro i safle yng ngogledd Lloegr. Arweiniodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwiliad, a oedd yn cynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a chanfu fod y biblinell wedi'i thorri yn ystod gwaith adeiladu/adfer. O ganlyniad i'r toriadau hyn, roedd tua 140,000 o litrau o gerosin wedi'u gollwng i'r amgylchedd cyfagos.
Canfu ein hymchwiliad y gwelwyd olew ar un o isafonydd Nant y Caws, Nant y Caws ei hun a Nant Pibwr (cyfanswm pellter o tua 2 km). Roedd arogl cryf o gerosin o gwmpas yr afon. Lladdwyd dros 300 o bysgod o rywogaethau amrywiol (salmonidau, llyswennod a rhywogaethau eraill), er bod yr amcangyfrif ar sail yr arolwg electrobysgota'n nodi y collwyd dros 3,000 o bysgod. Roedd yr effaith ar anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfrol yn sylweddol. Cafodd macroinfertebratau marw eu darganfod 2.6 km islaw Nant y Caws a dioddefodd rhannau Nant Pibwr golled o 100% o anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn fwyd i rai rhywogaethau o bysgod, gan gynnwys salmonidau. Nid oedd unrhyw fwriad gan Mainline Pipelines Ltd, sy'n berchen ar y biblinell, i adael i'r cerosin ollwng allan o'r biblinell gan mai'r olew yw'r cynnyrch y mae'n ei werthu i wneud arian. Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y digwyddiad llygredd wedi'i achosi'n fwriadol. Torrwyd Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996 hefyd, y mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awdurdod cymwys odanynt.
Nid oes tystiolaeth i awgrymu y byddai Mainline Pipelines Ltd wedi cael mantais ariannol o'r hyn sydd wedi digwydd. I'r gwrthwyneb, mae'r cwmni wedi mynd i gostau aruthrol oherwydd y cynnyrch (cerosin) a gollwyd, y refeniw a gollwyd pan nad oedd y biblinell yn gweithredu, costau glanhau olew helaeth, a gwaith adeiladu ychwanegol (gosod rhan newydd o bibell).
Rhoddodd y cwmni £40,000 i Gyngor Cymuned Llangynnwr i'w wario o fewn y gymuned. Roedd hyn yn arwydd o ewyllys da wrth gydnabod yr anhwylustod a ddioddefwyd gan drigolion lleol.
Rhoddodd y cwmni £150,000 i Afonydd Cymru. Mae prif weithredwr y sefydliad, Dr Stephen Marsh-Smith, wedi datgan y byddai Afonydd Cymru'n defnyddio'r rhodd i ehangu prosiect a oedd eisoes yn bodoli, a'i symud yn ei flaen, sy'n ceisio lleihau'r llygredd gwasgaredig yn nalgylch afon Tywi (Caerfyrddin) gan ddefnyddio'r bartneriaeth bresennol rhwng Afonydd Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Sefydliad Gwy ac Wysg, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Derbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru daliad o £75,000 i dalu'r costau yr aethom iddynt wrth ymateb i'r digwyddiad llygredd hwn.
Troseddau gwialen a lein |
2018 |
Nifer yr erlyniadau |
26 |
Cyfanswm y dirwyon |
£3,756 |
Cyfartaledd y dirwyon |
£144 |
Cyfanswm y costau a dalwyd |
£2,750 |
Cyfartaledd y costau |
£106 |
Iawndal |
£794 |
Achosion o fynd yn groes i reoliadau |
2018 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 (troseddau gwastraff) |
39 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (troseddau gwastraff) |
180 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (troseddau dŵr) |
69 |
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (troseddau gwastraff) |
67 |
Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 |
38 |
Deddf Coedwigaeth 1967 |
15 |
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 |
2 |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 (troseddau dŵr) |
12 |
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 |
19 |
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
31 |
Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 |
6 |
Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 |
2 |
Deddf yr Amgylchedd 1995 (gwastraff) |
6 |
Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005 |
4 |
Deddf Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol 2010 |
2 |
Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 |
2 |
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 |
1 |
Rheoliadau Cludo Gwastraff ar Draws Ffiniau 2007 |
2 |
Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 |
2 |
Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 1991 |
1 |
Ni nodwyd cyhuddiad |
132 |
Cyfanswm |
632 |
Mae'r wybodaeth isod yn dangos ein canlyniadau gorfodi o 1 Ionawr 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2018. Bydd ychydig o achosion wedi dechrau cyn 2018 ond a gafodd eu cwblhau yn ystod y flwyddyn; bydd achosion hefyd a ddechreuodd yn ystod 2018 y mae ymchwiliadau iddynt yn parhau, neu sy'n mynd rhagddynt yn y system llysoedd, a chaiff y rhain eu cofnodi yn ein hadroddiad ar gyfer 2019.
Yn ogystal â'r wybodaeth isod, rydym wedi rhoi cyfanswm o 46 o rybuddion safle wrth ymateb i ddigwyddiadau.
Dim camau pellach |
Rhif |
Cyngor ac arweiniad wedi'u rhoi |
Rhif |
Nifer yr achosion |
4 |
Cyfanswm nifer yr achosion |
46 |
Cyfanswm nifer y troseddwyr |
4 |
Cyfanswm nifer y troseddwyr |
52 |
Cyfanswm nifer yr achosion lle ni chymerwyd camau pellach |
4 |
Cyfanswm nifer yr achosion o roi cyngor ac arweiniad |
53 |
Hysbysiad penodedig |
Rhif |
Allyriadau nwyon tŷ gwydr |
Rhif |
Cyfanswm nifer yr achosion |
18 |
|
|
Cyfanswm nifer y troseddwyr |
25 |
|
|
Cyfanswm nifer yr hysbysiadau a anfonwyd |
36 |
Nifer y cyhuddiadau |
7 |
Rhybuddion |
Rhif |
Rhybuddiadau |
Rhif |
Cyfanswm nifer yr achosion |
69 |
Cyfanswm nifer yr achosion |
48 |
Cyfanswm nifer y troseddwyr |
84 |
Cyfanswm nifer y troseddwyr |
67 |
Cyfanswm nifer y rhybuddion |
86 |
Cyfanswm nifer y cyhuddiadau a arweiniodd at rybuddiad |
71 |
Canlyniad |
Euog |
Ar waith |
Ni chynigwyd tystiolaeth |
Wedi'i brofi mewn absenoldeb |
Cyfanswm |
Nifer y cyhuddiadau |
44, Gan gynnwys dwy ddedfryd o garchar ohiriedig |
2 |
5 |
13 |
|
Dirwyon |
£247,243.66 |
|
|
£2,290.00 |
|
Dyfarnwyd costau |
£89,346.68 |
£2,825.00 |
£17,858.38 |
£1,652.00 |
|
Gordal dioddefwyr |
£1,755.00 |
£170 |
£340 |
£390.00 |
|
Yn dilyn adroddiadau am achosion o losgi gwastraff ar fferm, aeth ein swyddogion i'r safle a gweld yr hyn a ddisgrifiwyd ganddynt fel tân mawr yn llosgi nad oedd neb yn ei oruchwylio. Roedd y tân yn cynnwys estyll pren trwchus a oedd wedi torri a gwastraff cyffredinol, gan gynnwys plastig a metel, ac roedd y tân ynghyn mewn ardal a oedd yn ymddangos ei bod yn cael ei defnyddio ar gyfer llosgi'n aml. Disgrifiodd y swyddogion yr ardal losgi fel bwnd o bridd mawr a chysgodol a oedd wedi'i halogi'n drwm â gwastraff cyffredinol a metelau. Ar y safle hefyd, gwelodd ein swyddogion bentwr o fetel a oedd wedi'i losgi, swm o wastraff dymchwel cymesur â thri llwyth sgip cymedrol, tocion coed, a saith potel nwy.
Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, ailymwelodd ein swyddogion â'r safle i wirio a oedd mwy o losgi wedi digwydd, a gwnaethant ddarganfod tân arall yn llosgi yn yr un lleoliad, a'r tro hwn gwelsant ddyn yn defnyddio peiriant cloddio i wthio pren gwastraff a oedd yn cynnwys cymysgedd o ddarnau o lawr laminedig, fframiau pren, drysau a phren haenog ar ben tân.
Dangosodd ein hymchwiliadau fod y fferm yn gwmni cyfyngedig a oedd yn meddu ar denantiaeth i ffermio'r tir ble'r oedd y llosgi'n digwydd, ac yn ystod cyfweliad gwnaeth cyfarwyddwr y cwmni gyfaddef bod yr unigolyn a welwyd yn rhoi'r gwastraff ar y tân wedi'i gyflogi gan y cwmni a bod y cwmni wedi gadael i gwmnïau garddio ollwng gwastraff ar ei dir. Gwnaeth y cwmni gyfaddef hefyd ei fod wedi derbyn llythyr rhybuddio'n flaenorol am losgi gwaith ar ei dir yn 2014.
Mae llosgi gwastraff busnes neu wastraff a reolir ar dir yn drosedd, ac mae'r rheoliadau yn eu lle i ddiogelu iechyd dynol rhag llygredd aer, ac yn yr achos hwn gallai cemegion niweidiol gael eu rhyddhau o'r gwastraff cymysg pan gafodd ei losgi, a allai fod wedi cyfrannu at ddirywiad yn ansawdd yr aer yn lleol. Yn yr achos hwn, mae'r gwastraff wedi'i waredu'n anghyfreithlon drwy losgi, a hynny'n ddiangen, pan oedd opsiynau gwaredu cyfreithiol eraill ar gael.
Mae'r troseddwyr yn yr achos hwn wedi dangos diystyrwch llwyr o’r gyfraith sydd yn ei lle er mwyn diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd, ac er y ceir dulliau awdurdodedig amrywiol o gael gwared ar wastraff, dewisodd y cwmni losgi'r gwastraff er ei fod yn llwyr ymwybodol ei fod yn erbyn y gyfraith i wneud hynny.
Plediodd y diffynwyr yn euog mewn llys ynadon, a rhoddwyd cyfanswm o £7,270 o ddirwy iddynt.
Cafodd y cwmni, sy'n mewnforio ac yn gweithgynhyrchu setiau teledu â sgrin wastad, ei nodi fel achos posib un a 'ddefnyddiodd nwyddau heb dalu amdanynt' yn rhan o waith gorfodi cyfrifoldeb cynhyrchwyr rheolaidd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gweithgareddau'r cwmni’n golygu bod ganddo rwymedigaeth fel cynhyrchwyr cyfarpar trydanol ac electronig. Oherwydd bod gan y setiau teledu newydd reolwr o bell sy'n cynnwys batris, mae'n golygu bod gan y cwmni rwymedigaeth fel cynhyrchwr batris. Mae'r setiau teledu'n cael eu mewnforio a'u cyflenwi mewn bocsys ynghyd ag eitemau pecynnu cysylltiedig eraill, sydd hefyd yn golygu bod gan y cwmni rwymedigaeth fel cynhyrchwr deunydd pecynnu.
Cysylltwyd â'r cwmni ym mis Mawrth 2016, ac, wrth ddilyn ein cyngor, cofrestrodd fel cynhyrchwr cyfarpar trydanol ac electronig a batris ym mis Ebrill 2016, ac fel cynhyrchwr deunydd pecynnu ym mis Mai 2016. Roedd y cwmni wedi dechrau ei weithrediadau ym mis Awst 2014, ond ni chofrestrodd nes 2016 ar ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru gysylltu ag ef. Mae hyn yn golygu y dylai'r cwmni fod wedi'i gofrestru fel cynhyrchwr cyfarpar trydanol ac electronig a batris yn 2014 a 2015, ac ar ben hynny dylai fod wedi cofrestru fel cynhyrchwr deunydd pecynnu yn 2015. Roedd ymwybyddiaeth ymhlith staff yn y cwmni y dylai fod wedi'i gofrestru ar gyfer ei rwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr. Mae troseddau cyfrifoldeb cynhyrchwyr yn droseddau technegol nad ydynt yn achosi niwed i'r amgylchedd yn uniongyrchol. Diben rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr yw gwneud cwmnïau'n gyfrifol am y nwyddau y maent yn eu cynhyrchu neu'n eu gwerthu pan ddeuant yn wastraff, am leihau faint o'r mathau hyn o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi, ac am gyfrannu at y costau ariannol sydd ynghlwm wrth eu hailgylchu a'u hadfer. Drwy beidio â chofrestru yn 2014 a 2015, nid yw'r cwmni wedi cyfrannu at hyn.
Drwy fethu â chofrestru fel cynhyrchwr cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac fel cynhyrchwr batrïau a deunyddiau pecynnu, methodd y cwmni â chyflawni ei gyfrifoldebau o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff a rheoliadau’n ymwneud â batris a deunydd pecynnu. Methodd y cwmni â chyfrannu at ailgylchu'r nwyddau pan ddeuant yn wastraff.
Ar sail y costau cofrestru a chostau cydymffurfiaeth y cafodd eu datgan gan y cwmni ar gyfer 2016, gwnaeth y cwmni arbedion o tua £321,000 ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig, £3,000 ar gyfer batris, a £650 ar gyfer deunydd pecynnu. Mae cyfanswm yr arbedion hyn yn dod i tua £325,000.
Yn 2018, cafwyd y cwmni'n euog mewn llys ynadon. Rhoddwyd dirwy iddo o £146,881 a gorchmynnwyd iddo dalu costau Cyfoeth Naturiol Cymru yn ychwanegol.
Gorchmynion a orfodwyd gan y llys yn ategol i'r erlyniad
Mae Cod Erlynwyr y Goron yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud cais am iawndal a gorchmynion ategol, fel gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gorchmynion atafaelu, ym mhob achos priodol. Isod, ceir rhestr o'r gorchmynion ategol y gall llys eu rhoi o ganlyniad i euogfarn:
Anghymhwyso cyfarwyddwyr
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchymyn
Atafaelu asedau – Deddf Enillion Troseddau 2002
Gweler y tabl isod
Gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchymyn
Fforffedu cyfarpar a ddefnyddiwyd i gyflawni'r drosedd
Nid yw'r llys wedi rhoi unrhyw orchymyn
Gwaharddiadau rhag gyrru
Sero
Iawndal arall ar wahân i achosion o dan y Ddeddf Enillion Troseddau
Sero
Atafaelu cerbydau
Dim
Adfer – o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Sero
Gwaith di-dâl
Un
Gorchmynion cymuned
Sero
Cyrffyw
Un
Gorchymyn adfer o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982
Sero
Blwyddyn dreth 2017-18
Ddeddf Enillion Troseddau 2017-2018 |
*Amrywiad wedi'i wneud |
||||
Dyddiad y gorchymyn |
Diffynnydd |
Budd |
Swm ariannol y gorchymyn |
Swm a dalwyd |
Yn weddill |
27/02/2017 |
1 |
£950,000.00 |
£1.00 |
£0.00 |
£0.00 |
24/05/2017 |
2 |
£154,229.93 |
£81,287.73 |
£81,745.37 |
£0.00 |
24/05/2017 |
3 |
£907,321.01 |
£208,000.00 |
£0 |
£208,000.00 |
24/05/2017 |
4 |
£113,415.12 |
£544.81 |
£544.41 |
£0.40 |
06/06/2017 |
5 |
£433,500.00 |
£226,326.29 *£214,133.84 |
£214,133.84 |
£0.00 |
06/07/2017 |
6 |
£950,000.00 |
£339,023.53 |
£173,255.52 |
£165,769.01 |
16/08/2017 |
7 |
£694,481.77 |
£694,481.77 *689,298.75 |
£5,183.07 |
£0.00 |
17/08/2017 |
8 |
£694,481.77 |
£433,500.00 *£306.096.81 |
£306.096.81 |
£0.00 |
11/01/2018 |
9 |
£319,136.43 |
£319,136.43 |
£19,200.00 |
£299,936.43 |
09/03/2018 |
10 |
£36,939.61 |
£10,179.06 |
£10,179.06 |
£0.00 |