Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Mae gennych hawl i gael gweld y wybodaeth amgylcheddol sydd gennym sy’n ymwneud â’r amgylchedd neu’n effeithio arno.
Mae’r diffiniad o ‘wybodaeth amgylcheddol’ yn eang ac yn cynnwys:
- Cyflwr elfennau’r amgylchedd, megis aer, dŵr, pridd, tir ac anifeiliaid (gan gynnwys pobl))
- Allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff a sylweddau eraill o’r fath
- Mesurau a gweithgareddau fel polisïau, cynlluniau a chytundebau sy’n effeithio neu’n debygol o effeithio ar gyflwr elfennau’r amgylchedd
- Adroddiadau, costau a buddion a dadansoddiadau economaidd
- Cyflwr iechyd a diogelwch pobl, halogiad y gadwyn fwyd
- Safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig (i’r graddau y gallant gael eu heffeithio gan gyflwr elfennau’r amgylchedd)
Ein nod yw bod mor agored ag y gallwn gyda’n gwybodaeth. O dan rai amgylchiadau, bydd gwybodaeth amgylcheddol yn cael ei chadw yn ôl os oes rheswm da dros wneud hynny, neu pan fo deddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gyfyngu ar fynediad. Os byddwn angen cadw gwybodaeth yn ôl, cyfyngu arni neu ddarparu mynediad trwyddedig byddwn yn egluro pam, ac yn egluro pa gamau y gallwch eu cymryd os ydych yn anfodlon â hyn.
Mae’r adran ar sut i wneud cais am wybodaeth yn egluro sut i wneud cais o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.
Gallwch hefyd edrych ar ein Cynllun Cyhoeddi i weld pa wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi’n rheolaidd a sut i gael gafael arni.