Cyflwyniad
Mae llygredd a llifogydd yn cael effeithiau niweidiol eang ar Gymru, a nodwyd bod ansawdd aer gwael yn un o'r bygythiadau amgylcheddol uniongyrchol mwyaf i bobl a'r amgylchedd naturiol. Mae’n gysylltiedig â 40,000 o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn ledled y DU, gan gostio mwy na £20 biliwn y flwyddyn.12
Mae digwyddiadau llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn broblem, gan effeithio'n sylweddol ar gyrsiau dŵr. Llygredd dŵr a achosir gan fwyngloddiau metel segur yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU.
Mae'n debygol y bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at fwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac mae pobl sy'n byw ar orlifdiroedd neu'n agos i arfordiroedd yn wynebu risg gynyddol. Mae sychder hefyd yn broblem ac mae'n debygol y bydd llai o ddŵr ar gael mewn rhai ardaloedd. Yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mae wynebau anhydraidd a datblygiadau ar orlifdiroedd yn dwysáu llifogydd lleol.
Er bod cyfraddau ailgylchu yn cynyddu,1, mae gwastraff peryglus a thipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem ddifrifol. Mae angen i ni symud tuag at economi fwy cylchol – gan leihau'r defnydd o adnoddau yn y lle cyntaf a defnyddio adnoddau naturiol sawl gwaith cyn defnyddio'r gwastraff yn y pen draw i gynhyrchu ynni lle bo hynny'n bosibl. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru yn awgrymu y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n agored i niwed y bydd angen cymorth arnynt pe bai digwyddiad amgylcheddol yn codi.
Bydd peryglon amgylcheddol yn cael eu hystyried yn rhan o ddull integredig ar gyfer rheoli tir a dŵr. Bydd atebion sy'n seiliedig ar natur (megis plannu coed neu adfer gwlyptiroedd a gorlifdiroedd) yn cael eu hystyried fel cam cyntaf, er y bydd angen mwy o ddulliau 'peirianneg galed', megis cwlferi a rhwystrau concrid, mewn rhai achosion. Bydd datganiadau ardal yn nodi'r cyfleoedd gorau ar lefel leol.
Bydd llifogydd yn cael eu trin yn ôl graddfa dalgylch dŵr: bydd yr holl afon a'r arfordir yn cael eu hystyried, a bydd amddiffynfeydd perygl llifogydd yn cynnwys cynlluniau buddsoddi hirdymor. Bydd systemau draenio cynaliadwy a ddarperir gan fannau gwyrdd ychwanegol mewn ardaloedd trefol yn helpu i reoli llifogydd, cynnydd mewn tymheredd, a llygredd gronynnol. Bydd llygredd gwasgaredig, gan gynnwys llygredd sy'n dod o fwyngloddiau neu amaethyddiaeth, er enghraifft, wedi cael ei leihau, gydag atebion syml i atal gollyngiad i gyrsiau dŵr. Bydd tir llygredig wedi cael ei adfer a'i adnewyddu lle bo hynny'n bosibl. Bydd yr holl wastraff, yn enwedig gwastraff peryglus ac anghyfreithlon, wedi'i leihau'n sylweddol, ac ni fydd tipio anghyfreithlon yn digwydd bellach. Bydd popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu wrth i ni weithio tuag at economi gylchol.
Bydd pobl yn deall bod atal yn well na gwellhad, felly ni fydd datblygiadau amhriodol bellach ar orlifdiroedd neu fannau lle mae'r risg o ddigwyddiadau amgylcheddol yn uchel. Bydd pawb yn deall ei bod hi'n well peidio â llygru yn y lle cyntaf.
Bydd cymunedau a busnesau yn deall y risg o lifogydd neu ddigwyddiad amgylcheddol yn digwydd yn eu hardal leol. Byddant yn gwerthfawrogi'r effeithiau ar wydnwch ecosystemau a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywydau a'u bywoliaeth. Byddant yn deall yr hyn y gallant ei wneud eu hunain a chymryd cyfrifoldeb i atal neu leihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiad a'r effaith y gallai ei chael. Os bydd rhywbeth yn digwydd, byddant yn gallu ymateb i leihau'r effaith a sicrhau y gofelir am y rhai mwyaf agored i niwed.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i gyflawni hyn – gan ddarparu arweiniad a chyngor, gwaith monitro a thystiolaeth, gwaith i fodelu a rhagweld y tebygolrwydd o ddigwyddiadau, ac ymateb effeithiol i'r digwyddiadau sy'n digwydd. Bydd pobl yn ymddiried ynom i argymell y dull gorau i helpu i leihau'r risgiau i bobl, cynefinoedd, a bioamrywiaeth. Fel rheoleiddiwr cadarn ond teg, byddwn yn ymchwilio i ddigwyddiadau ac yn defnyddio ein hystod lawn o bwerau i fynd i'r afael â throsedd amgylcheddol pan fo hynny'n angenrheidiol.
Arwain drwy esiampl
Gweithio gyda'n partneriaid
Dangosydd/Ffynhonnell