Cynnllun Gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru 2020: y tablau gweithredu

Mae'r tablau hyn yn nodi camau gweithredu ar y materion hanfodol sy'n penderfynu ar lesiant ein poblogaethau pysgod

1. Tystiolaeth

Mater: Dealltwriaeth o statws stociau yn ôl eu dosbarthiad, gydag adolygiad rheolaidd o waith monitro adnoddau salmonid costeffeithiol

Fel sefydliad sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae'n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod ein penderfyniadau a'n camau gweithredu'n cael eu cefnogi gan dystiolaeth o safon. Mae angen i ni sicrhau bod ein dulliau monitro, dadansoddi a dehongli'n gadarn, a'n bod yn defnyddio'r ymchwil gyfredol ddiweddaraf. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill i gasglu a dadansoddi data ac adolygu'n sail dystiolaeth amgylcheddol yn rheolaidd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu methodoleg asesu stociau sydd wedi'i dylunio i gefnogi’r gwaith o reoli stociau eogiaid. Lluniwyd y fethodoleg ar gyfer Cymru a Lloegr gan weithgor a oedd yn cynnwys CEFAS, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru a chaiff yr allbynnau blynyddol eu hadolygu gan DEFRA a Llywodraeth Cymru cyn adrodd tystiolaeth ryngwladol i Gyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dylunio a bellach wedi gweithredu methodoleg debyg ar gyfer stociau brithyllod y môr.

Mae ymrwymiadau presennol yn cynnwys gwaith i asesu stociau'n seiliedig ar ddata monitro pysgod ifanc (1.4) a dulliau annibynnol pysgodfeydd eraill posib (1.5). Efallai y bydd angen y rhain yn y dyfodol os bydd ystadegau dal yn dod yn llai dibynadwy.

Mae adolygiad llawn o fethodoleg asesu stociau presennol (1.6) yn ymrwymiad angenrheidiol yn y Cyfarwyddyd Gweinidogol a gyflwynodd y Cynlluniau Gweithredu Eogiaid ym 1998 a chaiff ei ail-bwysleisio yng Nghynllun Gweithredu presennol NASCO.

Uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru yw datblygu'r rhwydwaith cyfri pysgod yng Nghymru ymhellach sydd ar hyn o bryd yn gyfyngedig i afonydd Dyfrdwy, Teifi a Thaf. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth annibynnol ar ddalfeydd o feintiau stoc ynghyd â thystiolaeth ar amseru mudo a'i berthynas ag amodau amgylcheddol.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu

Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

1.1 Ymgymryd ag asesiadau stoc blynyddol o eogiaid a brithyllod y môr i benderfynu ar yr angen i ddiogelu stociau a'r cwmpas ar gyfer llacio mesurau

CNC Parhaus Uchel
1.2 Parhau â'r rhaglen monitro mynegai Stociau Salmonid Afon Dyfrdwy a chyfri pysgod y Teifi i lywio asesiadau o stociau eogiaid a brithyllod y môr ledled Cymru CNC Parhaus Uchel
1.3 Parhau i fonitro dosbarthiad gofodol pysgod ifanc a newid tymhorol yn holl brif afonydd Cymru ar gyfer defnydd lluosog CNC Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
1.4 Ystyried dull newydd o gynnal cyfrifiad dalgylch cyfan mewn perthynas â chyfrifiad pysgod ifanc CNC 2020 Canolig
1.5 Ystyried y cyfle yn y dyfodol i gynnal asesiadau stoc annibynnol ar bysgodfeydd CNC, EA, CEFAS 2020 Canolig
1.6 Adolygu asesiadau stoc oedolion - fel yr ymrwymwyd iddo yng Nghynllun Gweithredu NASCO CNC 2020-2024 Uchel
1.7 Cynnal gwaith sganio'r gorwel ar dechnegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth a phwysau sy'n bygwth stociau CNC Parhaus Canolig

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
1.8 Cynnal a chwilio am gyfleoedd i ehangu ar rwydwaith cyfri pysgod i ddarparu mwy o waith monitro mynegai priodol CNC 2020/21 Uchel
1.9 Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar Gynllun Tystiolaeth Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, NRW 2020/2021 Canolig


2. Rheoli ecsbloetio

Mater: Cynyddu nifer yr eogiaid sy’n dianc rhag cael eu dal drwy sicrhau nad yw ecsbloetio yn niweidio rhagolygon adfer stociau

Ecsbloetio yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at ladd pysgod drwy ddull pysgota â gwialen neu rwyd. Mae hyn yn llai perthnasol heddiw oherwydd bod pysgota dal a rhyddhau wedi'i sefydlu'n gadarn mewn pysgodfeydd â gwialen ac mae hefyd bellach yn angenrheidiol mewn pysgodfeydd â rhwyd. Fodd bynnag, mae'r term yn parhau i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio pysgod sy'n cael eu lladd lle caniateir hyn, a marwolaeth anfwriadol gweddilliol pysgod sy'n cael eu dychwelyd.

Defnyddir strwythurau penderfyniadau sydd wedi'u cefnogi gan y fethodoleg asesu stociau ar gyfer y ddwy rywogaeth fel tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau rheoli ecsbloetio. Er y cafwyd ysgogiad dealladwy ar gyfer tynhau mesurau ecsbloetio, byddai'r un dull methodolegol yn cael ei defnyddio yn y dyfodol ar gyfer llacio rheoliadau.

Ystyrir bod rhai dulliau o bysgota â rhwyd yng Nghymru'n bwysig yn ddiwylliannol. Mae angen ystyried arwyddocâd hyn a'r polisi o ran cadw dulliau o'r fath, ar adegau lle mae stociau pysgod yn dirywio.

Amcangyfrifwyd mai gwerth economaidd-gymdeithasol pysgota hamdden â gwialen yn afonydd Cymru yw £20 miliwn y flwyddyn (Gwerth Ychwanegol Gros - mesur o incwm aelwydydd) a'i fod yn cefnogi mwy na 700 o swyddi amser llawn. Gallai hyn fod yn uwch, ac mae'n bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cynyddu’r manteision a allai godi o'r pysgodfeydd.

Camau gweithredu cyfredol​

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
2.1 Cynnal adolygiadau blynyddol o asesiadau stoc oedolion ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr i benderfynu ar yr angen am ymyriadau rheoli ar gyfer y dyfodol (tynhau neu lacio rheolaethau) CNC Parhaus Uchel
2.2 Gweithredu is-ddeddfau pysgota newydd (is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd 'Cymru gyfan'; is-ddeddfau trawsffiniol Dyfrdwy a Gwy; is-ddeddfau argyfwng yr Hafren yng Nghymru), gan integreiddio'r rhain i'r gyfres lawn o is-ddeddfau pysgota yng Nghymru CNC Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Priority
2.3 Cynnal ymgysylltiad paratoadol, wedi'i ddilyn gan ymgynghoriad statudol i is-ddeddfau pysgota â gwialen newydd ar afon Hafren yng Nghymru CNC 2020 Uchel
2.4 Cynnal adolygiad o is-ddeddfau pysgota â gwialen ar gyfer afon Dyfrdwy ac afon Gwy cyn eu dyddiad dod i ben ym mis Rhagfyr 2021 CNC 2020 Uchel
2.5 Cynnal adolygiad canol tymor o is-ddeddfau pysgota â gwialen a rhwyd newydd yng Nghymru CNC, LFGs, Rivers Trusts 2025 Uchel
2.6 Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer ailddechrau pysgodfeydd dal a chymryd CNC Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
2.7 Adolygu arwyddocâd diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol pysgodfeydd pysgota â gwialen a rhwyd yng Nghymru ac argymell polisi newydd CNC, Llywodraeth Cymru 2020/2021 Canolig


3. Diogelu stociau drwy orfodi effeithiol

Mater: Dull effeithiol o orfodi’r holl ddeddfwriaeth ar gyfer pysgodfeydd

Mae’r dulliau gorfodi effeithiol presennol ar gyfer pysgodfeydd wedi'u 'harwain gan wybodaeth' ac yn seiliedig ar risg. Er mwyn defnyddio'n hadnoddau yn y ffordd orau i rwystro, atal a chanfod troseddu, mae'n rhaid i ni gael ein harwain gan adroddiadau achosion amser real i gefnogi'n gwybodaeth ein hunain. Felly, rydym yn parhau i ddibynnu'n rhannol ar adroddiadau a gwybodaeth amserol gan aelodau'r cyhoedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu dulliau newydd i gynyddu nifer yr achosion pwysig sy’n cael eu hadrodd i'r adnodd pysgodfeydd, ac i ddangos effeithiolrwydd ymatebion i achosion.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

3.1 Ymateb yn effeithiol i achosion llygredd a physgodfeydd blaenoriaethol

CNC Parhaus Uchel
3.2 Gorfodi'r holl is-ddeddfau pysgodfeydd CNC Parhaus Uchel

3.3 Gweithredu dulliau gorfodi sy'n seiliedig ar risg I ddiogelu pysgod mewn lleoliadau agored i niwed:

  • aberoedd ac arfordiroedd:
    • datblygu cynlluniau gwaith lleol;
    • ymgysylltu â physgodfeydd morol Llywodraeth Cymru ar ddulliau ar y cyd
  • rhwystrau mewn afonydd a safleoedd silio:
    • adolygu'r risg sy'n gysylltiedig â lleoliadau ledled Cymru
    • blaenoriaethu patrolau ar adegau sensitif o'r flwyddyn a chyflwr afonydd
CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus

Uchel


Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
3.4 Adolygu blaenoriaethau ac adnoddau gorfodi pysgodfeydd CNC 2020/21 Uchel
3.5 Adolygu'r risg sy'n gysylltiedig ag amharu ar bysgod sy'n silio oherwydd mynediad hamdden CNC 2020/21 Uchel
3.6 Adolygu’r ffactorau posib a allai rhwystro’r cyhoedd rhag darparu tystiolaeth amserol ar achosion mewn pysgodfeydd CNC 2020 Uchel

3.7 Datblygu adnoddau newydd ar gyfer casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â bygythiadau anghyfreithlon i stociau pysgod:

  • Datblygu a gweithredu hyfforddiant ar gyfer holl staff maes Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ehangu’r broses o gasglu gwybodaeth
  • Rhannu gwybodaeth a chynnal patrolau ar y cyd ag asiantaethau gorfodi eraill:
    • gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar afonydd trawsffiniol a rennir;
    • gyda Llywodraeth Cymru ar ddyfroedd aberol ac arfordirol

 

CNC, EA, Llywodraeth Cymru 2020 Uchel

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
3.8 Mireinio cynigion ar gyfer menter Gwarcheidwad Afonydd, gan nodi partneriaid ar gyfer menter sy'n seiliedig ar ddalgylch CNC 2020/21 Canolig
3.9 Archwilio datblygu Ap ffôn clyfar ar gyfer adrodd am achosion mewn pysgodfeydd, gan gynnwys achosion o lygredd CNC 2020/2021 Canolig

 

4. Mynd i'r afael â chyfyngiadau cynefinoedd ffisegol yn yr amgylchedd dŵr croyw

Mater: Cynefinoedd dŵr croyw sy'n is na'r gorau posib

Mae ansawdd y cynefinoedd dŵr croyw'n penderfynu ar berfformiad yr ecosystemau maent yn eu cynnal. Felly, mae nodweddion llif ac ansawdd y dŵr, a strwythur ffisegol yr afonydd o ran rhwystrau cysylltedd ac ansawdd parth y glannau'n hanfodol i lesiant poblogaethau pysgod.

Mae cynefin da ar gyfer pysgod salmonid yn cynnwys:

  • cyflwr hydromorffegol naturiol, gyda rhwydwaith o redfeydd, rhigolau a phyllau
  • absenoldeb cyfyngiadau o waith dyn megis rhwystrau i symudiad rhydd pysgod a gwaddodion
  • sianeli nad ydynt wedi cael eu haddasu a pharthau’r glannau heb eu difrodi
  • ansawdd a swm dŵr nad yw wedi dioddef effeithiau gweithgareddau o waith dyn

Mae llawer o ffactorau, gan gynnwys strwythurau cronni dŵr at ddibenion sy’n cynnwys tynnu dŵr a chroesfannau nentydd sy'n creu rhwystrau, a diwygio glannau a defnyddio tir lleol mewn modd diystyriol wedi effeithio'n gyffredinol ar gyflwr da nentydd dros sawl blwyddyn. Mae hyn wedi difrodi eu perfformiad fel ardaloedd silio a meithrin salmonidau. Heddiw, ychydig iawn o afonydd sydd wedi dianc rhag y difrod a achosir gan gyfuniad o'r ffactorau hyn.

Mae'r angen i adfer cyfyngiadau i stociau salmonid yn yr amgylchedd dŵr croyw wedi'i ddeall yn dda. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ei ragflaenwyr a chan Afonydd Cymru a'r teulu o ymddiriedolaethau afonydd, ers sawl blwyddyn i adfer cyflwr ffisegol da. Rhyngom, mae dros gant o lwybrau pysgod wedi cael eu hadeiladu sy'n amrywio o strwythurau peirianneg sifil mawr i drefniadau llai ffurfiol llai o faint, ac mae llawer o rwystrau wedi cael eu tynnu’n llwyr. Mae hyn wedi gwella cysylltedd ar gyfer pysgod mudol gan ganiatáu symudiad rhydd oedolion i fyny'r afon a gleisiaid i lawr yr afon. Mae mynediad gwell, neu mewn rhai achosion, fynediad newydd i ardaloedd nentydd yn yr ucheldir yn darparu mwy o gynefinoedd, weithiau mewn ardaloedd uwch lle mae tymereddau dŵr nentydd oerach yn trechu. Mae degau o gilomedrau o lannau afonydd wedi cael eu ffensio i atal da byw sy'n sgathru ac atal priddoedd rhag mynd i'r afonydd.

Mae rhai wedi cwestiynu manteision adfer cynefinoedd nentydd. Fodd bynnag, pan fo cyfyngiadau ffisegol clir sy’n atal pysgod rhag mudo'n rhydd ac sy’n atal nentydd a ddefnyddir gan salmonidau ar gyfer silio ac er mwyn cynhyrchu gleisiaid rhag bod yn y cyflwr gorau posibl, mae'n anodd dod i unrhyw gasgliad arall ac eithrio bod adfer cynefinoedd yn weithgaredd perthnasol a phwysig. Mae hyn hefyd yn cyflawni manteision ehangach i fflora a ffawna.

Mae'r holl bartïon yn cytuno bod llawer i'w wneud o hyd os ydym am wella amgylcheddau afonydd. Gyda'n gilydd, mae angen i ni fuddsoddi mewn nodweddion megis ysgolion pysgod a pharthau glannau afonydd a’u cynnal, fel bod modd cynnal y nifer uchaf posib o leisiaid a'u bod yn mudo'n ddiogel i'r môr.

Fodd bynnag, nid oes modd trwsio canrif neu fwy o ddatblygiad amhriodol dros nos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu Cynlluniau Adfer Cynefinoedd Pysgodfeydd ar gyfer yr holl afonydd salmonid mudol pwysig yng Nghymru. Mae'r adroddiadau hyn yn crynhoi gwybodaeth ar raddfa dalgylch am gyfyngiadau ffisegol i statws poblogaeth pysgod. Byddwn yn cwblhau'r rhain ar gyfer 33 o afonydd (prif afonydd eogiaid a mwy o brif afonydd brithyllod y môr) erbyn mis Mawrth 2021. Bydd y rhain wedyn yn cynrychioli sail dystiolaeth ar gyfer dogfen 'Cynllunio ar gyfer y Dyfodol' a fydd yn esbonio sut rydym yn bwriadu datrys cyfyngiadau cynefinoedd ffisegol yng Nghymru.

Byddwn yn ceisio arian i flaenoriaethu a datrys cyfyngiadau rydym yn gwybod amdanynt ac yn cyflwyno atebion. Pan fydd y gwaith cyflawni wedi’i gwblhau, yna bydd yr holl gyfyngiadau ffisegol i gyflawni Statws Ecolegol Da, ac i gael gwared ar gyfyngiadau ar boblogaethau pysgod, wedi cael eu datrys.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

4.1 Parhau i weithio ar y canlynol:

  • 10 Cynllun Adfer Cynefinoedd Pysgodfeydd yn seiliedig at ddalgylchoedd
  • 9 cynllun dalgylch y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
  • Cynllun adfer afonydd ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Cleddau
CNC

Parhaus. I'w gyflwyno erbyn haf 2020

Uchel

4.2 Gweithredu rhaglen waith cyfalaf 2020/21 ar gyfer cyflwyno gwaith prosiect i ddatrys cyfyngiadau cynefinoedd:

  • Gwella cynefinoedd ffisegol mewn afonydd drwy
  • Leihau rhwystrau i gysylltedd afonydd i adfer swyddogaeth afonydd a mudo gan bysgod (I fyny'r afon ac i lawr yr afon):
    • Adeiladu 5 ysgol bysgod dechnegol, a dylunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol
    • Rhaglen o 30 o ddatrysiadau ysgolion pysgod
  • Adfer a chynnal dull effeithiol o reoli parthau glannau afonydd mewn oddeutu 100km o nentydd i wneud y canlynol:
    • Eithrio da byw o afonydd
    • Atal a lleihau pridd sy’n mynd i mewn I afonydd
    • Darparu byffer rhag ymbelydredd solar (cadw afonydd yn oer)
    • Adfer y gwaith o sicrhau cyflenwad carbon coed o lannau afonydd (deiliach marw a sbwriel organig arall) i nentydd prin eu maethynnau yn yr ucheldir

CNC a phartneriaid, Afonydd Cymru (ac ymddiriedolaethau afonydd)

Cyflawni rhaglen gwaith cyfalaf 2020/21

Uchel

4.3 Cyflawni Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy flaenoriaethol yn dilyn egwyddorion y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru

CNC

Parhaus Uchel

4.4 Datganoli Cyllidebau Lliniaru Amgen i Afonydd Cymru ac ymddiriedolaethau afonydd i fynd i’r afael â chyfyngiadau ar gynefinoedd y cytunwyd arnynt yn y dalgylchoedd afonydd a dargedwyd

CNC ac ymddiriedolaethau afonydd (Gogledd Cymru, afon Dyfrdwy a De-dwyrain Cymru)

Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

4.5 Comisiynu Cynlluniau Adfer Cynefinoedd Pysgodfeydd terfynol, i gwblhau cwmpas i Gymru, gan nodi a mesur y canlynol:

  • heriau cysylltedd sy'n weddill a fydd yn cael eu datrys drwy gyfuniad o ysgolion pysgod a gwaredu rhwystrau
  • pwysau ar gynefinoedd glannau afonydd
CNC (AC fel contractwr) 2020/21 Uchel
4.6 Llunio a blaenoriaethu stocrestr lawn o gyfyngiadau ar gynefinoedd yng Nghymru CNC, WFF, Grwpiau 2020/21 Uchel
4.7 Parhau i ddatblygu rhaglen adfer afonydd strategol CNC 2020-21  
4.8 Datblygu a chyhoeddi "Cynllun Cyflawni" tair blynedd sy'n nodi datrysiadau blaenoriaethol i gyfyngiadau ffisegol ar gynefinoedd yng Nghymru ynghyd â gofynion cyllid a chyflawni CNC 2021/22 Uchel

4.9 Ceisio Rheoliadau Ysgolion Pysgod newydd, drwy weithio ar y cyd â DEFRA, i sicrhau pwerau priodol i ofyn am ddull o ymdrin â’r ysgolion pysgod lle ceir rhwystrau i fudo

CNC, Llywodraeth Cymru 2020/21 Uchel

4.10 Cyflawni prosiect partneriaeth LIFE+ gwerth £6.8 miliwn ar ddalgylch afon Dyfrdwy, a fydd yn cyflawni manteision sylweddol i bysgod mudol drwy:

  • ysgolion pysgod a chael gwared ar rwystrau mewn 10 prif safle
  • gwella cysylltedd cynefinoedd
  • adfer cynefinoedd mewn afonydd
  • gwelliannau i arferion rheoli tir a choedwigaeth

Llywodraeth Cymru, CNC, Dŵr Cymru/ Welsh Water, Parc Cenedlaethol

2021 Canolig

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
4.11 Adolygu effaith gymharol pwysau ar ansawdd afonydd a phoblogaethau pysgod felly Eryri, Asiantaeth yr Amgylchedd 2020 Canolig

4.12 Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yn bartner arweiniol mewn prosiect o'r enw 'Back from the Brink' a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn amodol ar ei gadarnhau, a fyddai'n cynnwys camau gweithredu i wneud y canlynol:

  • gwella cynefinoedd afonydd, gan gynnwys datrys cysylltedd cynefinoedd
  • ysbrydoli pobl i ddarganfod, gwerthfawrogi a gweithredu dros y rhywogaethau yng Nghymru sydd dan fygythiad
CNC 2020  


5. Diogelu ansawdd a swm dŵr

Mater: Darparu’r amodau gorau posib o ran ansawdd a swm dŵr drwy gyflawni amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Mae gan amodau naturiol ansawdd a swm dŵr, ynghyd â chynefinoedd ffisegol heb eu diwygio'r potensial i gynnal yr amodau ecolegol gorau posib. Dyma'r amodau y gwnaeth salmonid a ffawna dyfrol eraill ddatblygu o’u mewn ac, yn yr amodau hyn, gallem ddisgwyl y lefel uchaf bosib o helaethrwydd ac amrywiaeth o ran poblogaethau pysgod. Fodd bynnag, mae dylanwad y gymdeithas, gan gynnwys yr amgen am gyflenwadau dŵr a rheolaeth tir am faterion megis amaethyddiaeth a choedwigaeth yn golygu mai prin yw’r cynefinoedd naturiol sydd yn ein hafonydd heddiw.

Mae cyflwr cyfredol ein cyrsiau dŵr a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol wedi'u nodi yn y pecyn gwaith dan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Awdurdod Cymwys ar gyfer gweithredu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yng Nghymru. Mae gennym gyfrifoldeb dros arwain ar y Cynlluniau Rheoli Basn Afon a'u cyhoeddi ar gyfer Rhanbarthau Basnau Afonydd Gorllewin Cymru ac afon Dyfrdwy - drwy weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol (gan gynnwys cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, busnes a diwydiant). Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n arwain ar gyhoeddi Cynllun Rheoli Basn Afon yr Hafren. Rydym yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a phartneriaid ar agweddau trawsffiniol ar Ranbarthau Basnau Afonydd yr Hafren ac afon Dyfrdwy.

Ym mhob Ardal Basn Afon, mae gennym Banel Cyswllt sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau allweddol. Mae hyn yn darparu fforwm agored ar gyfer cyd-gyflawnwyr i drafod a dylanwadu ar ddatblygiad Cynlluniau Rheoli Basn Afon a chynorthwyo wrth eu gweithredu. Caiff Cynlluniau Rheoli Basn Afon eu llunio a'u diweddaru bob chwe blynedd. Mae'r cynlluniau a ddiweddarwyd bellach wedi cael eu cyhoeddi.

Cynlluniau strategol yw Cynlluniau Rheoli Basn Afon sy'n rhoi ymdeimlad o sicrwydd am ddyfodol rheoli dŵr yn yr ardal honno i bawb sy'n ymwneud â'r Ardal Basn Afon. Mae'n cynnwys amcanion i bob corff dŵr a chrynodeb o'r mesurau angenrheidiol i fodloni'r amcanion hynny.

Mae'r Cynlluniau Rheoli Basn Afon cyfredol yn cwmpasu’r cyfnod 2015 – 2021 ac maent yn cynnwys sawl dogfen a data ategol. Ar gyfer Cynlluniau Rheoli Basn Afon Gorllewin Cymru ac afon Dyfrdwy, caiff y rhain eu cyflwyno, ynghyd â'r holl ddogfennau ategol a'r asesiadau statudol gofynnol, ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r wybodaeth gyfatebol am Gynllun Rheoli Basn Afon yr Hafren ar gael ar wefan GOV.UK.

Uchelgais cyffredinol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yw adfer yr holl ddyfroedd wyneb, gan gynnwys dyfroedd trawsnewidiol (aberoedd) a dŵr daear i 'Statws Ecolegol Da'. Dyma yw amcan rhagosodedig y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer yr holl gyrff dŵr ac mae'n cael ei ddiffinio fel amrywiad bychan yn unig o amodau nas amharwyd arnynt. Mae'r elfennau sy'n creu statws ecolegol yn cynnwys y canlynol:

  • elfennau biolegol (sy'n cynnwys mesurau ar gyfer pysgod, macroinfertebratau, macroffytau a diatomau)
  • elfennau ategol (sy'n cynnwys hydromorffoleg, amonia, pH, ffosffadau, ocsigen toddedig a 18 o lygryddion gan gynnwys rhai metelau trwm a phlaladdwyr).

Mae pob un o'r elfennau hyn yn cyfrannu at y statws ecolegol cyffredinol. Defnyddir rheol y lefel gyffredin isaf ('un allan, pob un allan') ar gyfer yr elfennau, felly mae'r elfen sy'n sgorio isaf yn dynodi statws cyffredinol y corff dŵr. Er enghraifft, petai elfen ansawdd biolegol yn gymedrol ac elfennau ansawdd eraill yn dda, deuir i'r casgliad bod y corff dŵr yn ei gyfanrwydd o statws cymedrol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn dylunio ac yn gweithredu rhaglenni archwilio i ganfod pam mae unrhyw gorff dŵr yn methu â chyflawni Statws Ecolegol Da a chyfrannu at gynlluniau i ymdrin â hyn.

Ansawdd dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff rhagflaenol wedi monitro, ac yn parhau i fonitro ansawdd ein hafonydd ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau caniatáu a thrwyddedu i sicrhau nad yw gweithgareddau parhaus a newydd yn difrodi'r amgylchedd dyfrol.

Yn ogystal â'r amrywiaeth o ollyngiadau cyfleustodau dŵr a diwydiannol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r sector amaethyddol. Ym mhob achos, mae'n gwneud hynny drwy drefniadau caniatáu a thrwyddedu a ddatblygwyd i gynnwys yr holl ofynion i ddiogelu ansawdd dŵr yr holl ddŵr wyneb, dŵr daear a dyfroedd trawsnewidiol.

Ar hyn o bryd, mae achosion amaethyddiaeth a llygredd sy’n deillio o rai gweithgareddau'n fater proffil uchel iawn yn sawl rhan o Gymru. Caiff hyn a materion sy'n ymwneud â choedwigaeth eu hystyried yn Nhabl Gweithredu 5.

Ledled Cymru, mae cloddfeydd gwag yn cyfrannu’n sylweddol at halogi tir a llygredd dŵr a dyma’r prif reswm pam na all cyrff dŵr Cymru gyflawni 'Statws Ecolegol Da' dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ddyfarnu contract i'r Awdurdod Glo fel rhan o'n gwaith i lanhau afonydd sydd wedi'u llygru gan fetel ledled Cymru. Mae astudiaethau dichonolrwydd i fynd i'r afael â phroblemau ar safleoedd cloddfeydd metel blaenoriaethol yn cael eu cynnal ynghyd ag asesiadau eraill sy'n ymwneud â chloddfeydd. Mae'r contract hefyd yn cynnwys datblygu rhaglen adfer cloddfeydd metel tymor hir i Gymru.

Ansawdd Dŵr

Mae ansawdd y dŵr yn ein nentydd a'n hafonydd a chynnal a chadw amodau hydrolegol sydd bron yn gyfan gwbl naturiol yn ffactor allweddol wrth benderfynu ar lesiant ein stociau pysgod a physgodfeydd. Caiff hyn ei gydbwyso yn erbyn gofynion cymdeithas ar gyfer cyflenwad dŵr iachus ar gyfer defnydd domestig a diwydiannol a gwaredu ar ddeunyddiau gwastraff. Mae rheoli’r trefniadau hyn yn effeithiol yn bwysig os ydym am ddiogelu a chynnal adnoddau naturiol.

Mae'r broses adolygu prisiau cwmnïau dŵr bob pum mlynedd yn caniatáu i Cyfoeth Naturiol Cymru ddylanwadu ar ei gynlluniau a'i flaenoriaethau buddsoddi. Gall y rhain gyflwyno manteision hanfodol i'r amgylchedd dŵr ledled Cymru (Note on stakeholder engagement: identifying the pressures on stocks’, ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru).

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

5.1 Parhau i weithredu rhaglenni gwaith gan gyflawni ar gamau gweithredu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

CNC Parhaus Uchel

5.2 Lleihau risgiau i ansawdd dŵr drwy ddull effeithiol o drwyddedu a rheoleiddio’r holl ollyngiadau i'r tir a'r dŵr

CNC Parhaus Uchel
5.3 Mynd i'r afael ag effaith cloddfeydd metel creiriol drwy weithredu Strategaeth Cloddfeydd Metel i Gymru i adfer cloddfeydd metel etifeddol blaenoriaethol CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus Uchel

5.4 Datblygu a chyflawni rhaglen gwaith cyfalaf 2020 er mwyn cynnal adferiad

CNC, Llywodraeth Cymru Datblygiad cynllun y prosiect Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

5.5 Datblygu rhaglen waith dros 15 mlynedd a fydd yn cynnwys datblygu cynigion ar gyfer:

  • Dylife - prif ffynhonnell metelau yn nalgylch Dyfi, sy'n cael effaith ar dros 35km o gwrs dŵr;
  • Gwaith adfer yn Fron-goch-Wemyss i wella 32km o gwrs dŵr
  • Dŵr cloddfa o gyfadeilad cloddfa Cwmystwyth, a fydd yn cael effaith ar 33km o afon Ystwyth
  • Cloddfa Cwm Rheidol, wedi'i lleoli yng Nghwm Rheidiol gydag effeithiau dŵr y gloddfa'n ehangu i'r arfordir yn Aberystwyth
  • Mynydd Parys Mountain, un o'r clodfeydd metel mwyaf llygredig yn y DU.
CNC, Llywodraeth Cymru I gyd yn barhaus Uchel
5.6 Parhau i weithredu'r Rhaglen Adfer Tynnu Dŵr yn Gynaliadwy CNC Parhaus Uchel
5.7 Gweithredu adolygiad o drwyddedau tynnu dŵr sy'n gyfyngedig gan amser CNC Parhaus Uchel
5.8 Rheoleiddio tyniadau dŵr a eithriwyd yn flaenorol CNC Parhaus Uchel
5.9 Sheoleiddio tyniadau dŵr a eithriwyd yn flaenorolheoleiddio tyniadau dŵr a eithriwyd yn flaenorol CNC, cyflaustodau dŵr

Parhaus

Uchel
5.10 Parhau i gael cysylltiad effeithiol gyda chyfleustodau dŵr ar gynlluniau adnoddau dŵr a sychder CNC Parhaus Uchel
5.11 Sicrhau nad yw rhoi caniatâd ar gyfer cynlluniau ynni dŵr (gan gynnwys ynni llanw morol) yn niweidio poblogaethau pysgod CNC Parhaus Uchel
5.12 Gweithio gyda chyfleustodau dŵr i sicrhau cyflawniad Cynlluniau Rheoli Asedau yn y dyfodol CNC, cyfleustodau dŵr 2020-2025 Uchel


6. Mynd i'r afael â rheoli tir a risgiau cysylltiedig ag ansawdd dŵr

Mater: Cynefinoedd dŵr croyw sy'n is na'r gorau posib: mae defnydd tir gwael yn peri difrod i afonydd.

  • y defnydd o dir dalgylch

  • amaethyddiaeth, coedwigaeth

Mae'r defnydd o dir dalgylch yn brif ffactor sy'n dylanwadu ar ansawdd dŵr croyw. Gall defnydd tir gwael ac amhriodol arwain at ddŵr ffo ac achosi i briddoedd sy'n erydu fynd i mewn i afonydd ynghyd â maetholion a chemegau dros ben sydd wedi cael eu rhoi ar y tir.

Mae mwy o ddwysáu amaethyddol a lledaenu slyri amaethyddol wedi peri sawl digwyddiad llygredd ac mae wedi arwain at farwolaeth nifer fawr o bysgod.

Ni wnaeth dulliau rheoli coedwigoedd yn y gorffennol gyflawni'r safonau uchel a nodir bellach mewn safonau coedwigaeth ac yn y Canllawiau Dŵr Coedwigoedd ac mae wedi arwain at ddifrodi’r amgylchedd drwy ddraenio ac erydu cyflym. Mae'r canllawiau'n cynnwys dynodi cymysgedd o rywogaethau coed, draenio a diogelu ansawdd nentydd. Mae coedwigo'n rhoi'r cyfle i gadw dŵr yn yr ucheldir i sicrhau manteision lluosog i lawr yr afon, gan gynnwys clustogi tymereddau afonydd a chyfrannu at wrthsefyll llifogydd.

Mae adfer a diogelu mawndiroedd yn yr ucheldir yn rhoi'r cyfle i storio dŵr gan atal dŵr ffo cyflym, gyda risgiau cysylltiedig o erydu nentydd a darparu rhywfaint o wydnwch yn erbyn tymheredd dŵr sy’n codi.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni yn erbyn holl ofynion statudol y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol - yn benodol oherwydd eu bod yn effeithio ar faterion rheoli tir o ran amaethyddiaeth a choedwigaeth. Mae diogelu amgylcheddol cryf yn hanfodol os ydym am adfer a chadw ansawdd afonydd.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

6.1 Datblygu a gweithredu trefn rheoli amaethyddiaeth well

Llywodraeth Cymru, CNC Parhaus Uchel
6.2 Gweithio gyda ffermwyr, eu cynrychiolwyr a'r holl bartneriaid perthnasol eraill i ddiogelu amgylcheddau afonydd, gan gynnwys atal colli priddoedd mewn afonydd CNC, ffermwyr ac undebau, Afonydd Cymru Parhaus Uchel

6.3 Cynnal cyfraniad at Fforwm Rheoli Tir Cymru a'r is-grŵp i ddylanwadu ar faterion defnydd tir sydd o bwys i boblogaethau pysgod

CNC ac aelodau'r fforwm Parhaus  

6.4 Parhau â rhaglen gyfredol o archwiliadau ffermydd llaeth i wella rheolaeth arferol er mwyn dileu'r risg i ansawdd dŵr wyneb

CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus  

6.5 Y defnydd o ddull arfer gorau i reoli coedwigoedd, fel a nodir yn Rhaglen Glastir – Adfer Coetir a chadw'n llawn at y Canllawiau Dŵr Coedwigoedd cyfredol

CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus Manylion I gael eu cynnwys mewn 'Cynllun Cyflawni at gyfer y Dyfodol' yn y dyfodol

6.6 Cyfrannu at strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cyfle i greu coetiroedd newydd

CNC, Llywodraeth Cymru, Coedwigaeth Breifat Parhaus Manylion i gael eu cynnwys mewn 'Cynllun Cyflawni at gyfer y Dyfodol' yn y dyfodol

6.7 Cyfrannu at ddiogelu ac adfer mawndiroedd

CNC Parhaus  

6.8 Datblygu Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, gan adfer pedair milltir sgwâr o gyforgorsydd (mawndiroedd) o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

CNC, Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri 2019-2024 Uchel


7. Mynd i'r afael ag ysglyfaethu ar salmonidau: adar sy'n bwyta pysgod a morloi

Mater: dull anghynaliadwy o ymosod ar stociau salmonid sydd wedi dirywio ac sy'n agored i niwed gan adar ysglyfaethus

Mae ysglyfaethu ar bysgod yn ffenomen naturiol nad yw'n bygwth cynaliadwyedd stociau fel arfer. Yn aml, mae mecanweithiau adborth ar boblogaethau'n gwneud yn iawn am golledion drwy reoliad sy'n dibynnu ar ddwysedd lle y mae'r pysgod sy'n weddill yn goroesi ar gyfraddau uwch. Fodd bynnag, nid oes gan bysgod mudol y tu hwnt i'r oedran gleisio unrhyw fecanwaith cydadferol o'r fath ac felly mae unrhyw golled oherwydd ysglyfaethu'n golled net i'r boblogaeth.

Mae ymestyn amrediad hwyaid danheddog i'r de a symudiad cyson mulfrain i ganol y tiri fwydo yn cynrychioli pwysau cynyddol weddol ddiweddar ar boblogaethau pysgod, gan gynnwys ar salmonidau mudol. Mae hyn wedi arwain at bryder cynyddol. Caiff adar gwyllt eu gwarchod gan y gyfraith, fodd bynnag, mae systemau ar waith ar gyfer trwyddedu mesurau rheoli, gan gynnwys rheolau marwol, lle bodlonir meini prawf penodol, gan gynnwys difrod i bysgodfeydd. Mae'r ddwy rywogaeth adar yn ysglyfaethu ar amrywiaeth o rywogaethau pysgod, gan gynnwys salmonidau, fodd bynnag mae peth tystiolaeth bod yn well gan hwyaid danheddog salmonidau.

Mae eogiaid a rhai rhywogaethau eraill (penlletwad, lampreiod) yn rhywogaethau sydd wedi'u dynodi dan atodiad 2 Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd. Yn eu statws gwael cyfredol, mae pryderon na all eogiaid ddioddef ysglyfaethu parhaus gan adar. Efallai y gall adar sy'n bwyta pysgod sy'n bwydo yn ein hafonydd ar bysgod nad ydynt yn salmonidau sy'n weddol doreithiog ddod ar draws rhai o'r stociau salmonidau sy'n methu ac ysglyfaethu arnynt. Mae angen polisi newydd ar ddatrys y gwrthdaro cynyddol rhwng adar a warchodir dan y gyfraith sy'n ysglyfaethu ar rywogaethau pysgod a warchodir dan y gyfraith sydd bellach yn dirywio. Mae'n bwysig mynd i'r afael â'r anghydbwysedd cyfredol fel bod ysglyfaethu'n dod o fewn cyfyngiadau cynaliadwy.

Gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gomisiynu grŵp arbenigol allanol i ystyried materion sy'n ymwneud ag adar sy'n bwyta pysgod a chafodd y papur canlyniadol a’r argymhellion eu cymeradwyo gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Caiff y grŵp hwn ei ail-gomisiynu nawr i weithredu'r argymhellion ar gyfer adolygiad polisi llawn.

Cwmpas yr adolygiad

I helpu i gyflawni fframwaith y polisi fel a amlinellir uchod, bydd cwmpas y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru yn datblygu wyth thema:

  1. Arfarnu effeithiolrwydd, lle y bo'n rhesymol bosib, rheolaeth anfarwol a marwol adar sy'n bwyta pysgod gan atal difrod difrifol i bysgodfeydd naturiol a rhai sydd wedi'u stocio.
  2. Penderfynu ar amcangyfrifon a thueddiadau poblogaethau ar gyfer mulfrain a hwyaid danheddog gaeafu ar raddfa genedlaethol a/neu Ddatganiad Ardal a/neu Ddalgylchoedd Salmonid Pwysig.
  3. Penderfynu ar sut i ddehongli amcangyfrifon poblogaethau ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ac adar sy'n bwyta pysgod ar raddfa genedlaethol a/neu Ddatganiad Ardal.
  4. Penderfynu a fydd model mulfran sy'n seiliedig ar boblogaeth, sy'n debyg i fodelau a fabwysiadwyd yn Lloegr a'r Alban, yn angenrheidiol i Gymru.
  5. Asesu'r angen am fodel hwyaid danheddog sy'n seiliedig ar boblogaeth i Gymru.
  6. Asesu'r angen am ddull trwyddedu rhanbarthol (h.y. Ardaloedd Datganiad Cyfoeth Naturiol Cymru ) a/neu ddull trwyddedu sy'n seiliedig ar ddalgylch yng Nghymru.
  7. Datblygu polisi trwyddedu addas i'r diben i Cyfoeth Naturiol Cymru.
  8. Datblygu strategaeth gyfathrebu (gan gynnwys cyngor ac arweiniad ymarferol) i bysgodfeydd a rheolwyr pysgodfeydd, sefydliadau cadwraeth a'r cyhoedd.

Dull cyfnodol

Argymhellir dull pum cam.

  1. Sefydlu Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru gyda'r mandad i arwain adolygiad a arweinir gan dystiolaeth i helpu i ddatblygu polisi newydd mewn perthynas â rheoli effaith ysglyfaethu (gan gynnwys y bygythiad o ddifrod difrifol i stociau pysgod gwyllt dynodedig) ar yr holl bysgodfeydd mewndirol gan y fulfran a'r hwyaden ddanheddog.
  2. Casglu tystiolaeth a data.
  3. Dadansoddi ac asesu (gan gynnwys cyngor i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidog yr Amgylchedd Cymru os yw'r dystiolaeth yn dangos bod ymgynghoriad cyhoeddus yn briodol).
  4. Ymgynghoriad cyhoeddus (os oes angen yn seiliedig ar allbynnau Cam 3).
  5. Adroddiadau ac argymhellion polisi terfynol i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidog yr Amgylchedd Cymru.

Amserlen

Darperir amserlen ddangosol ar gyfer y cynllun gwaith isod. Er bod hyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • y dyddiad pan sefydlwyd y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru a'i dull cytunedig
  • yr amser a gymerwyd i gasglu'r dystiolaeth h.y. data arolwg ac amcangyfrifon poblogaethau
  • a oes angen ymgynghoriad cyhoeddus

Mawrth 2020 (Cam 1)

  • Cynnull cyfarfod cyntaf y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru (Mai 2020)
  • Cytuno ar raglen waith y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru (gan ddefnyddio ffrydiau a amlinellwyd yn Adroddiad Grŵp Cynghori Adar sy'n Bwyta Pysgod Cyfoeth Naturiol Cymru i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru) a'r Cylch Gorchwyl

Ebrill 2020 (Cam 2)

  • Cynnull ail gyfarfod y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru (Mehefin 2020)
  • Llunio manylebau contractau drafft a gwahoddiad am ddyfynbrisiau ar gyfer y contractau canlynol:
    • Arfarnu effeithiolrwydd mesurau rheoli anfarwol a marwol
    • Arolygon gaeafol o hwyaid danheddog a mulfrain ar Ddalgylchoedd Salmonidau Pwysig yng Nghymru
    • Modelu poblogaethau cenedlaethol ac amcangyfrifon poblogaethau hwyaid danheddog a mulfrain
    • Arfarnu dull dalgylch o drwyddedu
    • Arfarnu'r broses drwyddedu gyfredol fel y’i gweinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
    • Datblygu strategaeth gyfathrebu i bysgodfeydd ac eraill

Ebrill 2021 (Cam 3)

  • Dadansoddi ac Asesu (gan gynnwys cyngor i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru os yw'r dystiolaeth yn dangos bod ymgynghoriad cyhoeddus yn briodol)

Mehefin 2021 (Cam 4)

  • Ymgynghoriad Cyhoeddus 12 wythnos (os oes angen)

Hydref 2021 (Cam 5)

  • Y polisi wedi'i ddatblygu ac wedi'i adrodd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru (Tachwedd 2021)
  • Yn dilyn cytundeb gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, rhagwelir y bydd cyhoeddiad ar ganlyniad yr adolygiad ym mis Rhagfyr 2021

Allbynnau

  • Caiff adroddiad i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ei lunio gan y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru sy'n manylu ar y polisi drafft
  • Darperir diweddariadau rheolaidd ar waith y Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru ar ardal ddynodedig o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru , gan gynnwys dolenni i bapurau, gwybodaeth ac ati. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhoi adroddiadau diweddaru i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Fforwm Pysgodfeydd Cymru, Grwpiau Pysgodfeydd Lleol ac ati.

Adnoddau a Rolau

Penodi Cadeirydd Annibynnol.

Awgrymir y byddai cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol a/neu arbenigwyr pwnc, yn ffurfio’r Grŵp Polisi Adar sy'n Bwyta Pysgod yng Nghymru:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru (a fydd yn debygol o gynnwys: Uwch-adaregydd; Prif Gynghorydd Pysgodfeydd a Rheolwr Trwyddedu)
  • Llywodraeth Cymru
  • Natural England (ar gyfer afonydd trawsffiniol)
  • Yr RSPB
  • Ymddiriedolaeth Adareg Prydain
  • Yr Ymddiriedolaeth Genweirio
  • Cadwraeth Eogiaid a Brithyll Cymru
  • Afonydd Cymru
  • Cynghorwyr annibynnol ar ddeinameg poblogaethau pysgod ac adar sy'n bwyta pysgod
  • Arbenigwr Cyfathrebu Gwyddonydd Cymdeithasol

Ceir pryderon hefyd, yn ddaearyddol gyfyngedig gan mwyaf, o ysglyfaethu ar salmonidau sy’n oedolion gan forloi mewn rhai aberoedd afonydd (Cleddau, Dyfrdwy, Teifi, Tywi a Gwy) ac wrth rai rhwystrau i fynediad i afonydd gan salmonidau sy’n oedolion (argaeau’r Tawe a'r Taf).

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu

Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

7.1 Adolygu'r safbwynt ar ysglyfaethu ar salmonidau gan adar sy'n bwyta pysgod drwy wneud y canlynol:

  • Gweithredu argymhellion grŵp cynghori allanol Cyfoeth Naturiol Cymru ar adar sy’n bwyta pysgod yn llawn gan arwain at ddatblygu polisi newydd ar adar sy’n bwyta pysgod. Bydd hyn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â chydbwysedd dynodiadau cadwraeth a mesurau amddiffyn cyfreithiol
  • Adolygu a gwella'r system bresennol o drwyddedu ar gyfer rheoli adar sy’n bwyta pysgod gan ystyried argymhellion y grŵp arbenigol
  • Adolygu a chadarnhau methodoleg cyfrifiad adar 'addas i'r diben', a'i gweithredu mewn afonydd blaenoriaethol
  • Gweithredu mentrau cytunedig i fapio lleoliadau sensitif lle mae ysglyfaethu (adar sy’n bwyta pysgod a morloi) yn digwydd
CNC a phartneriaid Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

7.2 Cyfnewid arferion gorau gyda chyrff cyhoeddus yn Lloegr a'r Alban er mwyn cael budd o wersi a ddysgwyd ac arferion sy’n dod i’r golwg ynghylch adar sy’n bwyta pysgod

CNC, EA, Marine Scotland 2020/21 Uchel
7.3 Lle ceir tystiolaeth o niwed anghynaliadwy, cyflawni gostyngiad yn effaith difrodi ysglyfaethu ar stociau salmonidau sy'n dirywio. CNC, Ymddiriedolaethau Afonydd   Uchel


8. Dealltwriaeth o bwysau morol

Mater: Gostyngiad sylweddol yng ngoroesiad morol eogiaid

Mae bywyd morol eogiaid a brithyllod y môr yn dechrau pan fydd gleisiaid yn gadael yr afon i fynd i aberoedd ac oddi yno, i ddyfroedd arfordirol a'r moroedd mawr.

Yn ystod y 1960au a'r 1970au, daeth lleoliadau ardaloedd bwydo morol eogiaid i'r amlwg a gwnaeth hyn arwain at ddaliadau uchel. Drwy bartneriaethau cenedlaethol a rhyngwladol, daethant yn destun craffu cynyddol ac maent bellach wedi dod i ben wrth i NASCO negodi, gosod a gweinyddu cwotâu dal. Ar hyn o bryd, mae'r rhain wedi’u gosod ar sero yn Ynysoedd y Ffaro a'r Ynys Las (mae gan yr olaf gwota cynhaliaeth gyfyngedig yn unig).

Dros y degawdau diwethaf, cafwyd cynnydd amlwg ym marwolaeth eogiaid yn y môr. Mae hyn wedi cael ei ddangos mewn afonydd monitro mynegai ar draws Ewrop a'r tu hwnt. Heddiw, mae’r raddfa farwolaeth ar ei huchaf erioed ar gofnod. Mae'n rhesymol i dybio bod pwysau tebyg, er yn llai difrifol, yn effeithio ar frithyll y môr Cymru.

Fodd bynnag, mae goroesiad morol yn parhau i ddisgyn. Cafwyd awgrymiadau y gall salmonidau gynnwys sgil-ddalfa anfwriadol mewn gweithrediadau pysgota morol masnachol, fodd bynnag prin iawn yw’r dystiolaeth bresennol o blaid neu yn erbyn hyn. Cafwyd pryderon hefyd am achosion anghyfreithlon posib o ddal, sef sgil-ddalfa yn fwy na thebyg, salmonidau sy’n oedolion sy’n dychwelyd mewn dyfroedd arfordirol, ond eto prin yw’r dystiolaeth o hyn.

Mae newidiadau amlwg i'r hinsawdd wedi digwydd yng Ngogledd yr Iwerydd ers y 1970au, ac mae'r rhain yn cael eu dangos gan golled gyflym iâ'r Môr Arctig, cynhesu cefnforoedd ar raddfa fawr a newidiadau hefyd yn asidrwydd a halltedd cefnforoedd. Y prif sbardunwyr am y rhain, mae'n debyg yw'r newidiadau amlwg yn Osgiladiad Gogledd yr Iwerydd a thybir mai’r canlyniad ar gyfer yr amgylchedd morol yw newidiadau yn nosbarthiad cynhyrchiant y cefnforoedd. Ymddengys fod hyn wedi arwain at newidiadau yn nosbarthiad a helaethrwydd rhai rhywogaethau pysgod morol, a'r dirywiad yn lefelau bridio llwyddiannus adar môr, yr adroddir amdano'n eang. Tybir hefyd bod hyn yn sbarduno'r newidiadau yng ngoroesiad morol salmonidau ac, o bosib, yr effaith wahaniaethol ar leisiaid a heigiau o eogiaid sydd wedi treulio o leiaf ddwy flynedd yn y môr cyn dychwelyd i ddŵr croyw i silio (multi-sea-winter).

Disgwylir i'r newid yn yr hinsawdd effeithio ar eogiaid yng Nghefnfor yr Iwerydd, er nad oes dealltwriaeth drylwyr ynghylch yr union fecanweithiau, y raddfa a'r manylion. Nid oes unrhyw dystiolaeth o'r fath ar gyfer brithyllod y môr, fodd bynnag gallai fod effaith ar oroesiad morol y rhywogaethau hyn hefyd.

Mae'n rhaid i ni gynnal ein cysylltiad i ddeall yr holl elfennau sy'n cyfrannu at farwolaethau yn y môr yn well. Mae amcangyfrifon o afonydd mynegai, gan gynnwys y Dyfrdwy yng ngogledd Cymru, yn cynnwys yr holl golledion rhwng rhyddhau gleisiaid wedi'u tagio sy'n agos at ben y llanw ac ail-ddal oedolion sydd wedi'u marcio mewn blynyddoedd dilynol. Felly, mae cyfraddau marwolaethau a gyfrifwyd yn cynnwys ffactorau megis ysglyfaethu mewn aberoedd i sgil-ddalfa pysgodfeydd pelagig, o ddifrod i ardaloedd bwydo sy'n codi oherwydd cynhesu'r hinsawdd a physgota dwys ar gyfer rhywogaethau ysglyfaethu. Mae'n bwysig ein bod yn gallu deall effeithiau perthynol y rhain fel y gallwn flaenoriaethu camau gweithredu, gan ddylanwadu ar gyrff priodol lle y gallwn er mwyn eu gwella.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

8.1 Cadw cysylltiad â NASCO i wneud y canlynol:

  • sicrhau nad yw cynaeafu eogiaid morol yn ailddechrau
  • ymrwymo i gymryd rhan mewn mentrau ymchwil yn y dyfodol, e.e. effeithiau'r hinsawdd, canfod lleoliad ardaloedd bwydo morol a llwybrau mudo, sgil-ddalfa salmonidau mewn pysgodfeydd masnachol
  • ymrwymo i gyflawni'r holl rwymedigaethau yn y Cynllun Gweithredu pum mlynedd
CNC, CEFAS, EA, DEFRA a phartneriaid Parhaus Uchel

8.2 Diogelu goroesiad salmonidau mewn aberoedd a dyfroedd arfordirol i derfyn chwe milltir:

  • dull effeithiol a rhagofalus o drwyddedu datblygiadau, gan gynnwys porthladdoedd, gorsafoedd pŵer a chynigion ynni dŵr
CNC Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - ymrwymedig

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau
8.3 Adolygu achosion morol posib o ecsbloetio salmonidau CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus Canolig
8.4 Asesu’r cwmpas ar gyfer sgil-ddalfa a physgota anghyfreithlon mewn perthynas â salmonidau yn y môr CNC, Llywodraeth Cymru Parhaus Canolig

8.5 Cynnal rôl Partneriaeth Effeithiau Hinsawdd Morol, gan asesu'r cwmpas ar gyfer newid amgylcheddol i ddylanwadu ar salmonidau yn y môr.

CNC Parhaus Uchel

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

8.6 Datblygu cynigion i ymchwilio i ymddygiad salmonidau mewn lleoliadau arfordirol allweddol i hwyluso trwyddedu

Llywodraeth Cymru, CNC Parhaus Uchel

8.7 Adolygu canlyniadau crynodeb CEFAS o straenachoswyr morol sy'n effeithio ar salmonidau, yn benodol gan gynnwys y rheiny o fewn y parth arfordirol chwe milltir, i asesu'r pwysigrwydd i Gymru

CNC Parhaus Canolig

8.8 Datblygu cynigion i asesu effaith bosib effeithiau'r hinsawdd ar fudo aberol

CNC 2020/21 Canolig​


9. Dealltwriaeth o bwysau newydd a rhai posibl sy'n dod i'r amlwg

Mater: Yr angen am wyliadwriaeth i nodi pwysau newydd

Mae'n bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i ystyried gwybodaeth newydd am faterion a allai niweidio'n poblogaethau pysgod yn y dyfodol. Dyma faes anodd ei ddiffinio a'i fesur, fodd bynnag cydnabyddir dull 'sganio'r gorwel' fel un hanfodol er mwyn i ni allu ystyried yr holl bwysau newydd, eu deall a gweithredu arnynt lle y bo angen.

Yn ôl eu natur, nid yw'n hawdd diffinio pwysau a mesur yr hyn sydd angen ei wneud. Fodd bynnag, mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys cydnabod golchiadau defaid pyrethroid a'u heffeithiau difrodol ar ecoleg nentydd, dynwaredwyr estrogenig ac effeithiau posib cynnyrch plaladdwyr, chwynladdwyr a fferyllol amaethyddol a choedwigaeth eraill.

Yr enghraifft orau o fygythiad i ecoleg nentydd a phoblogaethau pysgod yn y dyfodol yw'r newid yn yr hinsawdd yn yr amgylchedd salmonid. Mae eogiaid a brithyllod y môr yn agored i niwed o ran goblygiadau newid yn yr hinsawdd yn yr amgylcheddau dŵr croyw a morol, a'r trawsnewid rhwng y ddau. Mae hyn oherwydd bod gan hinsawdd sy'n cynhesu'r potensial i niweidio cynefinoedd salmonidau mewn dŵr croyw ac yn y môr ac ymyrryd â'u bioleg atgenhedlol. Gall llifoedd a addasir arwain at beri anhawster i leisiaid sy’n mudo tua'r môr a physgod sy’n oedolion sy’n ceisio dod yn ôl i'r afonydd.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru dystiolaeth o niwed, sy'n deillio o amodau gaeafol cynnes, o'r tymor silio 2015/16 ac mae hyn yn gweithredu fel rhybudd clir o niwed posib yn y dyfodol. Felly, mae angen i ni ddeall y mecanwaith a allai beri niwed i salmonidau a'r mesurau a allai gael eu defnyddio i wella'r rhain.

Camau gweithredu cyfredol

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

9.1 Parhau i ymchwilio i addasiadau posib i fygythiad newid yn yr hinsawdd:

  • Cymorth parhaus i ymchwil PhD presennol ar effeithiau'r hinsawdd ar salmonidau mewn dyfroedd croyw:
  • Mapio cynefinoedd thermol sy'n ddiogel ar gyfer y dyfodol ledled Cymru
Prifysgol Caerdydd, CNC 2018-2021 Uchel

9.2 Adolgu ac ystyried bygythiadau newydd o afiechydon a pharasitiaid pysgod, gan gynnwys adolygiad o astudiaethau ar Gyrodactylus salaris a Saprolegnia a chynlluniau wrth gefn Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru:

Comisiynu treial o arolwg G.salaris

CNC Parhaus Canolig

9.3 Adolgu ac ystyried bygythiadau newydd o afiechydon a pharasitiaid pysgod, gan gynnwys adolygiad o astudiaethau ar Gyrodactylus salaris a Saprolegnia a chynlluniau wrth gefn Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru:

Comisiynu treial o arolwg G.salaris

CNC, Llywodraeth Cymru 2020 Canolig

9.4 Parhau â gwaith sganio'r gorwel i nodi pwysau newydd a deall eu pwysigrwydd posib

CNC Parhaus Canolig

Gofynion yn y dyfodol - a gynigir

Gweithredu Arweinydd a phartneriaid Dyddiadau Blaenoriaethau

9.4 Penderfynu ar amrywiaeth o addasiadau cynefinoedd i roi byffer i nentydd rhag hinsawdd sy'n cynhesu yn yr haf a'r gaeaf

Prifysgol Caerdydd, CNC 2021 Uchel
9.5 Blaenoriaethu, dylunio a gweithredu gwelliannau priodol i lannau afonydd a mentrau cadw dŵr yn yr ucheldir mewn cyrff dŵr a dargedir CNC 2021 Uchel

 

Mannau eraill yng Cynnllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru 2020