Adroddiad atebolrwydd 2021/22

Mae’r Adroddiad Atebolrwydd yn amlinellu’r prif nodweddion o ran sut rydym yn rheoli ein sefydliad. Mae ganddo dair adran.

Yn y tudalennau canlynol, bydd ein hadroddiad Llywodraethu Corfforaethol yn egluro pwy yw ein Bwrdd a'n tîm uwch-reolwyr, sut maen nhw'n gweithio, a'r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu rheoli a'u goruchwylio'n effeithiol er mwyn cyflawni ein hamcanion.

Mae’r Adroddiad Cyflogau a Staff yn disgrifio sut rydym yn ymdrin â chyflogau'r Bwrdd ac uwch-reolwyr yn ogystal â darparu trosolwg o gyfansoddiad ein staff.

Mae’r Adroddiad Atebolrwydd Seneddol ac Archwilio yn dwyn ynghyd gofynion ychwanegol y gofynnir amdanynt i ddangos ein hatebolrwydd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, rheoleidd-dra gwariant, a barn ein harchwilydd allanol.

Adroddiad Llywodraethu Corfforaethol

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Caiff y Prif Weithredwr ei gefnogi gan dîm o Gyfarwyddwyr Gweithredol sy'n dod ynghyd i ffurfio ein Tîm Gweithredol. Ni fu unrhyw newidiadau i'r Tîm Gweithredol yn ystod 2021/22.

Enw Deiliad y swydd Hyd Gwasanaeth yn y Tîm Gweithredol
Prif Weithredwr Clare Pillman 26 Chwefror 2018 i presennol
Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Ceri Davies 1 Ebrill 2013 i presennol
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Rachael Cunningham 7 Medi 2020 i presennol
Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gareth O’Shea 27 Ebrill 2015 i presennol
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Prys Davies 1 Ebrill 2019 i presennol
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Sarah Jennings 7 Medi 2020 i presennol


Mae Cofrestr Buddiannau ein Tîm Gweithredol ym mis Mawrth 2022 wedi'i chynnwys yma.

Enw Swydd Buddiant Unigolyn Rôl
Clare Pillman Prif Weithredwr Yn byw mewn ardal a allai gael ei hystyried ar gyfer y Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol
Ceri Davies Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Aelodaeth Weithredol neu Anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth Personol Aelod o Fwrdd Cynghori FLEXIS, prosiect a ariennir gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru sy'n cefnogi ymchwil i ynni yng Nghymru.
Ceri Davies Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Arall Personol Aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff
Prys Davies Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Aelodaeth Weithredol neu Anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth Personol Llywodraethwr Ysgol, Ysgol Pen-cae, Caerdydd
Gareth O’Shea Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Dim buddiannau i'w datgan Dim buddiannau i'w datgan Dim buddiannau i'w datgan
Rachael Cunningham Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Aelodaeth Weithredol neu Anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth Personol Ymddiriedolwr Elusen Chwarae Teg
Sarah Jennings Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Aelodaeth Weithredol neu Anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth Personal Ymddiriedolwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Sarah Jennings Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol Aelodaeth Weithredol neu Anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth Personol Ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Cymru


Gofrestr Buddiannau ar gyfer aelodau o'n Bwrdd.

Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 13 Gorffennaf 2022


Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Mae paragraff 23 (1) o'r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gynhyrchu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, Ddatganiad o Gyfrifon ar y ffurf a sail a amlinellir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau, a rhaid iddynt roi darlun gwir a theg o sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru ac o'r incwm a gwariant, y newidiadau yn ecwiti trethdalwyr, a'r llifoedd arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth a gwneud y canlynol:

  • cadw at y Cyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi,
    gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol
  • nodi a ddilynwyd y safonau cyfrifyddu perthnasol a nodwyd yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, a datgelu ac egluro unrhyw amrywiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol
  • paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol
  • cadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad oedd archwilwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol ohoni, a chymryd pob cam i wneud ei hunan yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol o'r wybodaeth honno
  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac am y dyfarniadau sydd eu hangen i bennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy.

Mae Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru wedi dynodi Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru fel ei Swyddog Cyfrifyddu. Cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, yw sicrhau priodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'n atebol amdano; cadw cyfrifon priodol; gweinyddu mewn modd darbodus; osgoi gwastraff a gorwario; a sicrhau bod yr holl adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac effeithiol, fel y nodwyd yn y Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Cyfoeth Naturiol Cymru.

Datganiad Llywodraethu

Mae'r datganiad hwn yn nodi'r strwythurau llywodraethu, rheolaethau mewnol a fframweithiau sicrwydd sydd wedi bod ar waith yn CNC yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22 ac mae'n cyd-fynd â chanllawiau Trysorlys ei Mawrhydi a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel y Swyddog Cyfrifyddu dynodedig ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, fy rôl hefyd yw diogelu arian cyhoeddus ac asedau sefydliadol drwy roi trefniadau ar waith ar gyfer llywodraethu ein materion ac arfer ein swyddogaethau mewn modd effeithiol. Cadarnhaf fod yr wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sut mae'r sefydliad wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn hon. Cadarnhaf hefyd nad oes gwybodaeth heb ei chasglu sydd wedi dod i'm sylw neu wybodaeth yr wyf yn ymwybodol ohoni nad yw wedi cael ei chyflwyno er sylw Archwilio Cymru.

Ein strwythur llywodraethu

Mae ein strwythur sefydliadol yn dangos sut rydym wedi'n sefydlu i weithio a chyflawni ein hamcanion.

Penodir aelodau ein Bwrdd gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus, ac felly mae ein Cadeirydd yn atebol i'n gweinidog nawdd yn Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae gennym 13 o aelodau bwrdd sy'n cael cyflogau, dan arweiniad ein Cadeirydd, Syr David Henshaw, gyda 11 aelod anweithredol a finnau fel aelod gweithredol o'r Bwrdd. Yr Athro Steve Ormerod yw Is-Gadeirydd penodedig CNC a Julia Cherrett yw'r Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol. Cyflwynwyd y rôl Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol i gefnogi'r cadeirydd yn ei rôl; gweithredu fel cyfryngwr ar gyfer cyfarwyddwyr anweithredol pan fo angen; arwain y cyfarwyddwyr anweithredol wrth oruchwylio'r Cadeirydd, a sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu'n glir rhwng y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Roedd pum newid i'n Bwrdd eleni: daeth cyfnodau Dr Elizabeth Haywood a Mr Howard Davies i ben ar 31 Awst 2021; penodwyd yr Athro Calvin Jones, Mr Mark McKenna, a Mr Paul Griffiths yn Gyfarwyddwyr anweithredol ar 1 Medi 2021.

I wneud ein dyletswyddau, rydym yn cwrdd fel Bwrdd llawn gyda chraffu ychwanegol yn cael ei wneud gan chwe phwyllgor. Mae ein Tîm Gweithredol yn darparu diweddariadau strategol a gweithredol i'n Bwrdd a'n pwyllgorau ar gyfer craffu a gwneud penderfyniadau yn ôl y gofyn.

Caiff pob pwyllgor ei gadeirio gan aelod anweithredol o'r Bwrdd ac, heblaw am y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth, mae pob un yn cynnwys o leiaf tri aelod anweithredol arall o'r Bwrdd. Mae gan aelodau anweithredol eraill o'r Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd pwyllgorau heb hawliau pleidleisio. Nid oes gennym Bwyllgor Enwebu, gan fod ein haelodau bwrdd anweithredol yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru. Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu meysydd ffocws gwaith a phresenoldeb ar ein Bwrdd a'n pwyllgorau.

Aelodau anweithredol Cyfnod Dyddiad dechrau Dyddiad gorffen cyfredol
Sir David Henshaw (Cadeirydd) 1 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2023
Yr Athro Steve Ormerod 1 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2022
Karen Balmer 2 9 Tachwedd 2015 8 Tachwedd 2022
Catherine Brown 1 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2022
Julia Cherrett 2 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2025
Howard Davies 2 9 Tachwedd 2015 31 Awst 2021
Dr Elizabeth Haywood 2 9 Tachwedd 2015 31 Awst 2021
Zoe Henderson 2 9 Tachwedd 2015 8 Tachwedd 2022
Yr Athro Peter Rigby 2 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2023
Yr Athro Calvin Jones 1 1 Medi 2021 31 Awst 2022
Mark McKenna 1 1 Medi 2021 31 Awst 2022
Paul Griffiths 1 1 Medi 2021 25 Mai 2022
Dr Rosie Plummer 2 1 Tachwedd 2018 31 Hydref 2024
Geraint Davies 1 1 Ionawr 2019 31 Hydref 2024


Roedd y dyddiadau gorffen a nodir yn y tabl uchod yn gywir adeg y dyddiad adrodd ond mae trafodaethau'n parhau i ymestyn contractau rhai aelodau o'r bwrdd oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd wedi arwain at rywfaint o oedi cyn penodi aelodau newydd o'r Bwrdd yn 2022.

Cyfarfodydd Bwrdd

Cynhaliwyd chwe chyfarfod deuddydd; cynhaliwyd dau gyfarfod wyneb yn wyneb a phedwar cyfarfod rhithwir oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Mae'r eitemau sefydlog ar ein hagenda yn cynnwys y canlynol: cyllid yn ystod y flwyddyn; adrodd ar berfformiad; ymateb i Argyfyngau Hinsawdd a Natur; a diweddariadau strategol a gweithredol gan y Cadeirydd, y Prif Weithredwr a phwyllgorau.

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth am ein gwaith ar ein gwefan, gan gynnwys papurau i'w hystyried gan y Bwrdd cyn y cyfarfodydd hynny a gynhelir yn gyhoeddus. Mae papurau Bwrdd yn cael eu paratoi gan ddefnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac maent yn destun craffu a chymeradwyaeth fewnol cyn cyfarfodydd Bwrdd.

Mae holl ddyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol ac agendâu blaenorol ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â'r papurau a'r cofnodion o'n sesiynau cyhoeddus. Mae Tîm Gweithredol CNC, ein Bwrdd a'n pwyllgorau wedi parhau i gyfarfod drwy gydol y pandemig COVID-19. Oherwydd y cyfyngiadau symud, nid ydym wedi cael llawer o gyfleoedd i gyfarfod yn gyhoeddus, ac mae aelodau'r cyhoedd yn gallu arsylwi ar gyfarfodydd rhithwir. Mae'r diffyg cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi golygu nad yw'r Bwrdd wedi gallu symud o amgylch rhanbarthau gwahanol yng Nghymru yn ôl yr arfer na chynnig sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Ymgysylltu allanol yw un o elfennau ein gwaith yr effeithiwyd arni fwyaf, gan arwain at oedi mewn rhaglenni ymgysylltu a hyfforddi.

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd 2021/22

Enw Presenoldeb mewn cyfarfodydd
Syr David Henshaw (Cadeirydd) 6 allan o 6
Yr Athro Steve Ormerod 6 allan o 6
Karen Balmer 5 allan o 6
Catherine Brown 5 allan o 6
Julia Cherrett 5 allan o 6
Geraint Davies 6 allan o 6
Howard Davies 2 allan o 2
Dr Elizabeth Haywood 2 allan o 2
Zoe Henderson 6 allan o 6
Yr Athro Calvin Jones 3 allan o 4
Mark McKenna 4 allan o 4
Paul Griffiths 4 allan o 4
Dr Rosie Plummer 5 allan o 6
Yr Athro Peter Rigby 6 allan o 6
Clare Pilman (Prif Weithredwr) 6 allan o 6


Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Prif rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yw cynghori'r Bwrdd a chynorthwyo'r Swyddog Cyfrifyddu yn y gwaith o fonitro a chraffu ar y trefniadau sydd ar waith ar gyfer archwilio, llywodraethu, rheolaethau mewnol a rheoli risg, a herio’r trefniadau hynny. Cadeirydd y Pwyllgor hwn yw Catherine Brown. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod fel Swyddog Cyfrifyddu CNC, ynghyd â'n Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae aelodau'r Tîm Gweithredol bellach yn mynychu'r pwyllgor i drafod unrhyw adroddiadau archwilio mewnol â sicrwydd cyfyngedig.

Y flwyddyn hon, rhoddodd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sylw i amrediad o faterion, gan gynnwys y canlynol:

  • Goruchwylio a Llywodraethu Gwerthiannau Pren
  • Gwelliannau i'n dull rheoli risg
  • Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22
  • Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2020/21 a chynlluniau ar gyfer yr adroddiad hwn, 2021/22
  • Model gweithredu diwygiedig Twyll / Gwrth-dwyll

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Catherine Brown (Cadeirydd) 6 6
Karen Balmer 6 6
Dr Rosie Plummer 6 6
Yr Athro Peter Rigby 6 4


Pwyllgor Pobl a Chyflogau

Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn ystyried materion sy'n ymwneud â rheoli pobl, taliadau, a newid sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros oruchwylio tâl ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf, strategaeth dâl gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, darparu cynllun pensiwn, cynllun y sefydliad, llesiant, iechyd a diogelwch, gofal cwsmeriaid, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a datblygu cynllun y Gymraeg. Mae'r Prif Weithredwr yn mynychu pob cyfarfod.

Aeth y pwyllgor i'r afael ag amrywiaeth o faterion yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys y canlynol:

  • Cynllunio'r Sefydliad
  • Llesiant, Iechyd a Diogelwch ac Adolygiadau o Ddigwyddiadau Difrifol
  • Gwaith craffu ar bolisïau Rheoli Pobl arfaethedig
  • Recriwtio a'r Broses Recriwtio
  • Cynllunio ar gyfer olyniaeth sefydliadol
  • Strategaeth Pobl
  • Rhaglen Adfywio

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Zoe Henderson (Cadeirydd) 4 4
Karen Balmer 4 4
Howard Davies 1 1
Julia Cherrett 4 4
Mark McKenna 2 2

Y Pwyllgor Cyllid

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynghori, goruchwylio a chraffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio busnes a pherfformiad, cynlluniau codi tâl, a materion masnachol. Wrth gyflawni ei rôl, mae'r pwyllgor yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygu strategol, ond mae hefyd yn chwarae rôl wrth graffu ar berfformiad a chyflawniad. Mae Syr David Henshaw yn gweithredu fel Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor nes y penodir Cadeirydd newydd.

Eleni, gwnaeth y Pwyllgor ystyried y canlynol:

  • Monitro perfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn
  • Cynllunio Ariannol a Busnes ar gyfer 2022/23
  • Adolygiad Strategol o Godi Tâl
  • Goruchwylio gwerthu a marchnata pren
  • Ymarferiad Llinell sylfaen CNC
  • Strategaeth grantiau

Presenoldeb aelodau’r Bwrdd ar y Pwyllgor Cyllid yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Sir David Henshaw (Cadeirydd dros dro) 8 8
Julia Cherrett 8 8
Dr Elizabeth Haywood (hyd at fis Awst 2021) 4 3
Zoe Henderson (o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2021) 5 5
Paul Griffiths (o fis Rhagfyr 2021) 3 3
Yr Athro Calvin Jones (o fis Rhagfyr 2021) 3 3
Dr Rosie Plummer 8 8


Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig

Mae'r Bwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau gwarchodedig i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Mae aelodau o'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hefyd yn cefnogi'r Tîm Gweithredol a'r Bwrdd drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol, gan gynnwys rheoli tirwedd, tirweddau dynodedig, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Howard Davies (Cadeirydd, hyd at fis Awst 2021) 1 1
Dr Rosie Plummer (Cadeirydd, o fis Awst 2021) 3 3
Geraint Davies 3 3
Dr Elizabeth Haywood (hyd at fis Awst 2021) 1 1
Yr Athro Steve Ormerod 3 3
Mark McKenna (o fis Hydref 2021) 2 2


Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd (Grŵp Cynghori gynt)

Mae'r Pwyllgor yn gynghorol ac mae'n adrodd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ei brif gyfrifoldebau yw craffu ar raglenni buddsoddi Rheoli Perygl Llifogydd presennol a rhai’r blynyddoedd i ddod, ac ystyried materion allweddol a allai effeithio ar gyflawni gwaith sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd ynghyd â'r Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, a'r Pennaeth Cyllid.

Roedd y meysydd a adolygwyd gan y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn cynnwys y canlynol:

  • blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd
  • llywodraethu rhaglen gyfalaf rheoli perygl llifogydd
  • goruchwylio'r rhaglen gweithredu adfer ac adolygu ar gyfer llifogydd
  • sgiliau a chynllunio ar gyfer olyniaeth
  • goruchwylio gwaith i wella sut mae CNC yn rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd, hyd at fis Awst 2021)  3  3
Julia Cherrett (Cadeirydd, o fis Medi 2021)  5  5
Karen Balmer (o fis Ebrill i fis Awst 2021)  3  3
Geraint Davies  5  4
Paul Griffiths  2  2
Professor Calvin Jones  2  2


Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn bwyllgor cynghorol sy'n darparu cyngor annibynnol a her mewn perthynas â swyddogaeth dystiolaeth CNC. Mae'r Pwyllgor hefyd yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a chyda defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau a blaenoriaethau tystiolaeth.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys dau aelod anweithredol o'r Bwrdd, saith aelod allanol annibynnol, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, a Phennaeth Gwybodaeth a Thystiolaeth.

Adolygodd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth feysydd yn cynnwys lansio Adroddiad CNC ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rôl CNC yn dynodi Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig a'r safbwyntiau seiliedig ar dystiolaeth y byddai angen eu trafod yn y Pwyllgor, a derbyniodd gyflwyniadau yn arddangos Porth Amgylcheddol Cymru a'i fanteision addysgol ac ynghylch y dull aml-gyfalaf o sicrhau newid trawsnewidiol.

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd ar y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn 2021/22

Enw Nifer y cyfarfodydd Nifer y cyfarfodydd llawn a fynychwyd
Yr Athro Peter Rigby (Cadeirydd) 3 3
Yr Athro Steve Ormerod 3 3


Adolygiadau Aelodau'r Bwrdd

Mae'r Cadeirydd yn cynnal gwerthusiadau blynyddol gyda phob Cyfarwyddwr Anweithredol a'r Prif Weithredwr, ac mae'r broses adolygu yn cynnwys hunanasesiad byr a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'r Prif Weithredwr yn cynnal gwerthusiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn gyda'r pum Cyfarwyddwr Gweithredol.

Ein tîm gweithredol

Caiff ein sefydliad ei reoli o ddydd i ddydd drwy'r Tîm Gweithredol, sy'n fy nghynnwys i fel Prif Weithredwr a phum Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n adrodd i mi. Mae'r Tîm Gweithredol yn cyfarfod ddwywaith y mis i ystyried busnes corfforaethol craidd, er enghraifft diweddariadau cyllid, gwybodaeth am berfformiad, llesiant, iechyd a diogelwch, adolygu a chraffu ar y gofrestr risgiau strategol, ac ati. Hefyd, mae'n craffu ac yn ystyried penderfyniadau sy'n ymwneud â materion strategaeth, polisi a gweithredol.

O dan ein Tîm Gweithredol, mae ein Tîm Arwain yn chwarae rôl arweiniol wrth reoli'r busnes o ddydd i ddydd. Mae ei aelodau'n benaethiaid adrannau sy'n atebol i'r Tîm Gweithredol, gan gynnwys y rheiny yn ein swyddogaethau corfforaethol (megis Cyllid, Adnoddau Dynol, Cyfathrebu). Mae Grŵp y Tîm Arwain yn cwrdd yn fisol i ddatrys materion trawstoriadol, er enghraifft, y gwaith cychwynnol yn ymwneud â blaenoriaethau'r gyllideb, ac i adolygu perfformiad yn fanwl, megis ein gwybodaeth reoli fisol.

Mae ein strwythur yn pwysleisio cyflawni ar sail lle: mae saith Pennaeth Lle o fewn Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau unigol yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni ein holl swyddogaethau mewn rhanbarth penodol yng Nghymru. Yna mae gennym Benaethiaid Gwasanaeth enwebedig (y mae pob un ohonynt yn Bennaeth Lle hefyd) sy'n arwain ar oruchwylio’r gwaith o gyflawni swyddogaeth benodol ledled Cymru. Mae'r Penaethiaid Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'n harweinwyr polisi – o'r enw Penaethiaid Busnes – sy'n goruchwylio cyfeiriad strategol ein gwaith ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau cydlyniant rhwng meddwl strategol a chyflawniad gweithredol, mae gennym gyfres o Fyrddau Busnes sy'n nodi'r gofynion polisi ac yn cynllunio natur weithredol ein gwaith ar draws y strwythur seiliedig ar le newydd. Mae pob un o'r rhain yn cael ei arwain gan y Pennaeth Busnes / Pennaeth Gwasanaeth.

Rydym yn cynhyrchu cynllun busnes blynyddol sy'n amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd tuag at gyflawni ein Hamcanion Llesiant yn y Cynllun Corfforaethol. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru bod y Cynllun Corfforaethol presennol (2017-22) yn cael ei ymestyn tan 2023.

Mae cynllun busnes 2021-22 wedi'i gyflwyno ar draws pum blaenoriaeth strategol ac mae'n 'gyfran' un flwyddyn o'r Cynllun Corfforaethol. Caiff cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hyn ei fonitro bob chwarter gan ddefnyddio dangosfwrdd perfformiad o fesurau, y mae ein Byrddau Busnes, Cyfarwyddwyr Gweithredol a Bwrdd CNC yn craffu arnynt cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Caiff gwybodaeth reoli fanwl ei hadolygu'n fisol yng nghyfarfodydd y Grŵp Tîm Arwain ac o Ch3 yn 21-22, caiff ei hadrodd yn chwarterol i Gyfarwyddwyr Gweithredol a Bwrdd CNC hefyd, ochr yn ochr â'r dangosfwrdd perfformiad.

Drwy gydol 2021-22 roeddem yn wynebu argyfwng iechyd y cyhoedd a oedd yn parhau, ac mae'r effeithiau'n debygol o barhau ledled y byd ar hyn o bryd ac yn fwy hirdymor. Fel sy'n wir am y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, rydym wedi gorfod ail-lunio'n sylweddol sut rydym yn gweithio ers i'r cyfyngiadau gael eu codi, ac rydym yn parhau i adolygu ein Cynlluniau Parhad Busnes i sicrhau bod staff cyflenwi ar gael ar gyfer unigolion allweddol ac absenoldebau lluosog. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar lesiant, iechyd a diogelwch ein staff, ein partneriaid a'n cwsmeriaid a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth i ni ddysgu o'r cyfnod heriol hwn a chynllunio sut y byddwn yn gweithio yn y dyfodol.

Serch hynny, mae nifer o sylfeini allweddol wedi'u gosod yn 2021/22 ar gyfer gweithredu byd-eang – ac mae tystiolaeth newydd wedi'i chyflwyno gan adroddiadau IPBES y Cenhedloedd Unedig, cytundebau rhyngwladol COP26 yn Glasgow a pharatoadau ar gyfer COP15 yn Kunming ym mis Ebrill /Mai 2022. Yng Nghymru, newidiodd y cyd-destun gwleidyddol yn sgil cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu newydd ym mis Mehefin, ac yna'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Mae'r naill a'r llall yn pwysleisio ymrwymiad cadarn iawn i'r argyfyngau natur a hinsawdd, gan gydnabod pwysigrwydd gweithredu ymarferol ac arloesol.

Mewn ymateb i uchelgais Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r pwysau cyllidebol parhaus ledled y sector cyhoeddus, rydym wedi gweithio gyda Gweinidogion a swyddogion drwy gydol 2021/22 i feithrin dealltwriaeth gyffredin o'n hadnoddau, ein blaenoriaethau a'r awydd a'r cyfle i wneud pethau'n wahanol.

Fel ymatebwr categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifi Posibl (2004), rydym wedi parhau i ymateb i ddigwyddiadau o fewn ein cylch gwaith mewn ffordd broffesiynol ac effeithiol. Rydym wedi rheoli ein hymateb i'r pandemig Covid trwy ein gweithdrefnau rheoli digwyddiadau, gan ddefnyddio ein Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Strategol, Grŵp Ymateb i Ddigwyddiadau Tactegol, a chelloedd technegol ategol amrywiol i sicrhau ein bod yn parhau i arwain a llywio ein staff i weithio mewn ffordd sy'n ddiogel o ran Covid. Hefyd, rydym wedi ymateb i lifogydd, stormydd a digwyddiadau amgylcheddol eraill drwy gydol y flwyddyn. Yn dilyn proses ymgynghori, rydym wedi sicrhau newid cytundebol yn ddiweddar i gontractau tua 1200 o staff o bob cwr o'r sefydliad er mwyn helpu a chefnogi ein rotas digwyddiadau, gan sicrhau ein bod yn fwy gwydn i ymateb i ddigwyddiadau nawr ac yn y dyfodol.

Cyfarwyddiadau gweinidogol

Nid ydym wedi derbyn unrhyw Gyfarwyddiadau Gweinidogol eleni.

Ein fframwaith rheoli mewnol

Mae ein fframwaith rheoli mewnol yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac achrediadau rydym wedi'u rhoi ar waith i warchod ein hadnoddau wrth i ni gyflawni ein hamcanion.

Mae cyflymder y newidiadau i addasu i gyfyngiadau'r pandemig wedi bod yn gyflym ond dan reolaeth hefyd. Mae ein rheoliadau ariannol allweddol o fewn systemau awtomatig a'n cynlluniau dirprwyo i sicrhau y caiff dyletswyddau eu gwahanu'n briodol yn parhau i fod ar waith ac yn gyfredol. Mae'r dogfennau 'Rheoli ein Harian' a 'Chynllun Statudol a Chyfreithiol CNC' yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Nodwyd rheolaethau newydd lle gweithredwyd newidiadau sylweddol – er enghraifft gofynnwyd i reolwyr gynnal rhestrau o asedau TGCh ar gyfer eitemau ychwanegol yr aethpwyd â nhw adref i gefnogi cynnydd parhaus mewn gweithio gartref.

Rheoli risg

Mae fframwaith rheoli risg cadarn yn elfen hanfodol o'n fframwaith Llywodraethu. Mae'n ein cynorthwyo i reoli ein busnes, a diogelu ein hadnoddau a'n henw da. Yn 2020, gwnaethom fabwysiadu fframwaith rheoli risg gwell, ac ers hynny rydym wedi parhau i ymgorffori'r fframwaith hwn, gan wneud gwelliannau sylweddol i’r gwaith o reoli risgiau ac adrodd amdanynt.

Mae cyfrifoldebau mewn perthynas â rheoli risg wedi'u hamlinellu'n glir yn ein fframwaith rheoli risg. Mae gan bob risg Berchennog Risg ar lefel Weithredol a Rheolwr Risg ar lefel Arweinwyr neu Reolwyr sy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r Perchnogion Camau Gweithredu perthnasol i drafod achosion, digwyddiadau, canlyniadau, sgoriau, rheolaethau a chamau gweithredu arfaethedig. Yn ogystal, mae cyfarfodydd y Tîm Gweithredol yn cynnal archwiliad dwfn rheolaidd o bob un o'r Risgiau Strategol, ac mae pob un wedi'i neilltuo ar gyfer craffu ychwanegol drwy archwiliad dwfn yn y Pwyllgor Bwrdd perthnasol.

Mae risg yn eitem sefydlog ym mhob un o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, ac mae pob pwyllgor yn cynnal archwiliad dwfn o'r risgiau sydd wedi'u neilltuo iddynt, gan adrodd ar ganlyniadau pob archwiliad dwfn i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn craffu ar y gofrestr risg strategol a'i herio. Mae'n cael sicrwydd o effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg ac yn rhoi cyngor i'r Bwrdd er mwyn rhoi sicrwydd iddo ynglŷn ag effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg. Mae pwyllgorau eraill y Bwrdd yn adolygu risgiau strategol perthnasol.

Mae'r Bwrdd wedi cytuno ar ddatganiadau ar y parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer y mwyafrif o'n risgiau strategol ac mae'n cynnal adolygiad blynyddol o'n risgiau strategol a'n parodrwydd i dderbyn risg. Bydd datganiadau o barodrwydd i dderbyn risg yn cael eu hysgrifennu ar gyfer unrhyw risgiau strategol newydd a nodir unwaith y bydd y risg wedi'i datblygu'n llawn.

Mae ein fframwaith rheoli risg yn nodi sut a phryd y dylid uwchgyfeirio risgiau, ac rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o hyn yn ymarferol drwy gydol y flwyddyn. Rydym wedi nodi canlyniadau ychwanegol posibl y pandemig Covid ar gyfer ein risgiau a'r camau sydd eu hangen i liniaru'r effeithiau hyn, ac rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa.

Sicrhau gwybodaeth

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu llywodraethu a'u rheoli'n dda, a’n bod yn parhau i sicrhau cydbwysedd rhwng bod yn agored a diogelwch, gan sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn cael eu sicrhau bod lefelau diogelwch priodol ar waith. Mae'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth yn parhau i arwain rhaglen waith integredig i gryfhau ein hymateb i wydnwch yn erbyn bygythiadau seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth. Unwaith eto, rydym wedi ennill ein hachrediad Cyber Essential Plus blynyddol, sy'n cael ei gymeradwyo gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'i archwilio'n annibynnol gan arbenigwr trydydd parti cymwys. Byddwn yn parhau i gyflwyno rhaglen waith seiberddiogelwch yn seiliedig ar ein strategaeth seiber gyfredol. Mae hyn yn cynnwys mentrau ar gyfer gwella ymwybyddiaeth staff, gan gynnwys hyfforddiant seiberddiogelwch ar-lein.

Ddwywaith y flwyddyn, rydym yn darparu cyrsiau dysgu ar-lein gorfodol ar gyfer staff ar y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, Diogelwch Cyfrifiaduron yn y Gweithle a Diogelu Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol ac yn gwybod y diweddaraf am sut rydym yn rheoli'r wybodaeth rydym yn ei derbyn a'i chadw. Mae cyfraddau cwblhau ar gyfer dysgu ar-lein gorfodol wedi gwella oherwydd dull gweithredu newydd a rhagor o waith monitro, ond byddwn yn parhau i ategu'r hyn a ddysgir ag ymwybyddiaeth ac ymgysylltu pwrpasol. Hefyd, rydym wedi cydweithio â phartneriaid strategol megis Llywodraeth Cymru, y Gymuned Diogelu Data, Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i rannu dysgu a chynnal safonau.

Eleni, roedd yn dda nodi na fu unrhyw achosion o dorri amodau gwybodaeth y mae angen hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth amdanynt.

Nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Blwyddyn Nifer yr achosion
2021/22 0
2020/21 0
2019/20 0


Datganiad o fuddiannau

Mae ein polisi a'n canllawiau Rheoli Gwrthdaro Buddiannau'n cefnogi'r holl staff ac aelodau'r Bwrdd gyda'n proses barhaus i ddatgan buddiannau personol perthnasol i'n helpu i reoli unrhyw wrthdaro posib neu ymddangosiadol o fewn eu rolau proffesiynol. Amlygodd adolygiad Archwilio Mewnol yn 2020/21 fod angen gwelliannau sylweddol i'n polisi, gweithdrefnau, hyfforddiant a dulliau adrodd mewn perthynas â Gwrthdaro Buddiannau, a daeth y gwaith hwn i ben ym mis Medi 2021.

Chwythu'r chwiban

Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o gywirdeb ac atebolrwydd ac o fod yn agored.

Felly, rydym wedi sefydlu mesurau ar gyfer codi pryderon difrifol am gamymddwyn neu amhriodoldeb. Mae ein fframwaith yn cynnwys mynediad i linell adrodd allanol lle mae modd codi pryderon yn ddienw. Yn 2020, daeth CNC yn 'berson rhagnodedig' a chael ei ychwanegu at restr o sefydliadau ac unigolion y gall gweithiwr ddod atynt y tu allan i'w weithle i adrodd camymddwyn hysbys neu amheuaeth o gamymddwyn.

O'r 4 achos a adroddwyd yn ystod 2021/22: cafodd un achos ei adrodd i Berson Rhagnodedig arall mewn perthynas â CNC; cafodd dau achos eu hadrodd yn fewnol mewn perthynas â CNC; cafodd un achos ei adrodd i CNC, fel Person Rhagnodedig, mewn perthynas â sefydliad arall.

Nifer yr achosion o chwythu'r chwiban a gofnodwyd

Blwyddyn Nifer yr achosion
2021/22 4
2020/21 0
2019/20 2


Twyll

Mae Strategaeth Gwrth-dwyll 2022-2026 yn amlinellu cyfeiriad strategol newydd sydd â’r nod o gefnogi a chryfhau gallu CNC i ddiogelu ei hun rhag niwed posibl gan dwyll. Trwy ganolbwyntio'r strategaeth hon ar arferion gorau a safonau proffesiynol, bydd modd sicrhau bod dull gwrth-dwyll yn dod yn rhan annatod o sut rydym yn gweithio. Cefnogir ein Strategaeth Gwrth-dwyll gan Bolisi Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth a Gweithdrefn Ymateb i Dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredigaeth. Mae cyrsiau dysgu ar-lein blynyddol gorfodol yn cael eu darparu ar gyfer staff ar faterion Gwrth-dwyll, Atal Llwgrwobrwyo ac Atal Llygredigaeth. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i helpu staff i adnabod rhybuddion a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau proffesiynol. Roedd y cyfraddau cwblhau ar gyfer yr hyfforddiant gorfodol hwn wedi gwella'n sylweddol yn 2021. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol nad yw cyfraddau cwblhau ar gyfer dysgu ar-lein gorfodol yn 100% ar hyn o bryd. Yn 2022 byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar wella'r cyfraddau cwblhau yn unol â'n Strategaeth Gwrth-dwyll a'n Cynllun Cyflawni diwygiedig.

Ystadegau Cwblhau ar gyfer 2021

Cyrsiau Cwblhau/pasio Anghyflawn
Anti-Bribery and corruption (annually) 96.6% 3.4%
Anti-fraud (annually) 94.8% 5.2%


Rydym wedi derbyn 8 honiad o dwyll, ac fe gawsant eu trin yn unol â phroses gwrth-dwyll ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth CNC. Mae'r achosion hyn yn cael eu hadrodd i'n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae pob ymchwiliad wedi cael ei reoli gan Arbenigwr Gwrth-dwyll Achrededig neu ymchwilwyr allanol sydd â chymwysterau tebyg. Mae'r adroddiad terfynol ar bob achos yn cael ei atgyfeirio i uwch staff annibynnol.

Nifer yr honiadau a gofnodwyd

Blwyddyn Honiadau
2021/22 8
2020/21 10
2019/20 7


Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn wynebu pwysau ariannol ar hyn o bryd. Mae lefel chwyddiant wedi cyrraedd 7% ac rydym yn wynebu cynnydd digynsail mewn costau tanwydd ac ynni domestig. Mae'r argyfwng costau byw yn bryder mawr i lawer o bobl. Mae cyrff y sector cyhoeddus wedi gweld cynnydd mewn achosion o dwyll mewnol, gan gynnwys achosion twyll rheoli amser. Mewn ymateb, rydym yn cael ein cynghori i fod yn fwy gwyliadwrus.

Er bod trefniadau gwrth-dwyll cadarn yn rhan o ymateb CNC, mae gennym gyfrifoldeb hefyd i gefnogi ein gweithwyr a'u teuluoedd. Yn unol â hyn, mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Pobl yn gweithio ar fentrau amrywiol i gefnogi unrhyw un sy'n wynebu problemau ariannol a chynnig cymorth os oes modd.

Cydymffurfio â chod llywodraethu corfforaethol y DU

Rydym wedi cwblhau adolygiad sylfaenol ac wedi sicrhau bod ein strwythur, ein polisïau a'n gweithdrefnau sefydliadol yn cydymffurfio â Chod Llywodraethu Corfforaethol y DU.

Mae ein harweinyddiaeth yn cyd-fynd â rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig uwch-reolwyr; mae gweithdrefnau cefnogol ar waith i sicrhau y gall rolau'r Bwrdd weithredu'n effeithiol; mae ein llwybrau adrodd yn glir i sicrhau atebolrwydd a rhannu dyletswyddau'n briodol a bod rheolaethau mewnol allweddol ar waith; caiff cyflogau uwch-staff eu hystyried gan aelodau anweithredol i sicrhau annibyniaeth ac rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'n rhanddeiliaid allweddol i feithrin perthnasoedd gwaith adeiladol.

Ein fframwaith sicrwydd

Mae ein fframwaith sicrwydd yn cynnwys y mesurau canlynol, sydd ar waith i sicrhau fy mod yn derbyn tystiolaeth amserol i ddangos bod y rheolaethau gofynnol ar waith ac yn gweithio'n briodol.

Archwilio Mewnol

Mae'r farn archwilio flynyddol yn cael ei llywio'n rhannol gan y gwaith o gyflawni'r Cynllun Archwilio Mewnol. Eleni, darparwyd "sicrwydd annerbyniol" ar gyfer un maes archwilio, sef Cynllunio'r Gweithlu a "sicrwydd cyfyngedig" ar gyfer dau faes archwilio arall: Chwythu'r Chwiban ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Allweddol ledled y sefydliad cyfan.

Nododd yr archwiliad cynllunio'r gweithlu nad oes gan CNC ddull effeithiol o gynllunio'r gweithlu. Fodd bynnag, nodir bod diffyg gwaith cynllunio'r gweithlu effeithiol yn risg strategol hirdymor i CNC a bod y sefydliad ar ddechrau'r daith aeddfedrwydd tuag at ddatblygu cynllun ar gyfer y gweithlu. Hefyd, nododd yr archwiliad faterion llywodraethu yn ymwneud ag adrodd, herio a goruchwylio. Mae gan CNC risg ar hyn o bryd oherwydd materion arwyddocaol mewn perthynas ag anawsterau recriwtio ac adnoddau oddi mewn i CNC. Mae'r materion hyn wedi'u cydnabod trwy uwchgyfeirio risg adnoddau i'r Gofrestr Risg Strategol. Cafwyd argymhelliad gan Waith Dilynol ar yr Archwiliad Mewnol o Recriwtio (cyhoeddwyd yr archwiliad gwreiddiol ym mis Mai 2020) fod angen mynd i'r afael â'r risgiau recriwtio a nodwyd. Hefyd, nodir bod archwiliadau lluosog yn 2021/22 wedi amlygu materion yn ymwneud â hyfforddi a datblygu staff mewnol. Ni lwyddwyd i gydymffurfio â'r gofyniad hwn wrth sicrhau achrediad Iechyd a Diogelwch BSI ISO45001.

Nid yw CNC wedi croesawu ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled y sefydliad gan nad yw wedi'i gynnwys mewn llywodraethu, strwythuro neu brosesau gwneud penderfyniadau perthnasol. Diffyg cyfeiriad strategol a pherchnogaeth pob grŵp rhanddeiliaid sy'n gyfrifol am hyn. Nid oes unrhyw gynllun strategol cyfredol sy'n darparu dull cyfannol o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer y sefydliad, nac unrhyw strategaethau neu gynlluniau ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid penodol. O ganlyniad, nid oes modd rhoi camau gweithredu ar waith i nodi a rheoli rhanddeiliaid strategol er mwyn sicrhau bod yr amcanion corfforaethol yn cael eu cyflawni ar draws pob rhan o'r sefydliad.

Fodd bynnag, nododd yr archwiliad o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol fod y grŵp rhanddeiliaid cwsmeriaid wedi ennill ei blwyf yn well o'i gymharu â grwpiau rhanddeiliaid eraill a nodwyd. Mae'r grŵp rhanddeiliaid cwsmeriaid wedi datblygu strategaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer mapio teithiau cwsmeriaid. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Tîm Cwsmeriaid wedi gwneud gwaith sylweddol i 'lanhau data' cwsmeriaid i'w lanlwytho i system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, yn barod ar gyfer lansiad tua chanol 2022. O ystyried y cynnydd a wnaed gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, a'r strategaeth, y broses adnabod a'r cynlluniau clir i reoli rhanddeiliaid yn y maes hwn o waith CNC, darparwyd "sicrwydd cymedrol" gennym ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer y grŵp unigol hwn o randdeiliaid.

Roedd yr archwiliad chwythu'r chwiban wedi darparu barn sicrwydd cyfyngedig yn bennaf oherwydd diffyg mecanwaith adrodd effeithiol a dealltwriaeth wael o chwythu'r chwiban ledled y sefydliad. Ni nododd yr archwiliad fod achosion o chwythu'r chwiban wedi'u cam-drafod. Mae nifer yr achosion o chwythu'r chwiban a gofnodwyd yn isel iawn yn CNC, a hynny’n fewnol ac yn ei rôl fel Sefydliad Rhagnodedig. Nodwyd bod prosesau llywodraethu chwythu'r chwiban yn gadarn, ond bod angen mynd i'r afael ag ymwybyddiaeth, a diweddaru'r polisi a'r gweithdrefnau er mwyn rheoli'r risg nad yw achosion o chwythu'r chwiban yn cael eu hadrodd neu nad ydynt yn cael eu hymchwilio mewn ffordd briodol.

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cynnal 5 archwiliad dilynol i asesu'r digonolrwydd a'r sicrwydd yn ymwneud â chwblhau camau gweithredu yn deillio o archwiliadau blaenorol, lle darparwyd barn sicrwydd cyfyngedig. Darparwyd barn "cynnydd da" ar gyfer un o'r rhain, sef Rheoli Tomennydd Sbwriel Glofeydd. Darparwyd barn "cynnydd rhesymol" ar gyfer tri, sef: Gwerthu Pren, Recriwtio a Rheoli Prosiectau a Rhaglenni. Darparwyd barn "rhywfaint o gynnydd" ar gyfer y gwaith dilynol ar Ddiogelwch Cronfeydd Dŵr. Nodwyd yn ystod y flwyddyn nad oedd y rheolwyr yn asesu camau gweithredu yn erbyn risgiau a nodwyd yn ystod yr archwiliadau gwreiddiol, ac felly nad oedd camau gweithredu yn sicrhau gwelliannau i ddyluniad neu effeithiolrwydd rheolaethau. Mae system adrodd ddiwygiedig ar gyfer cwblhau camau archwilio wedi gwella hyn yn ystod rhan olaf y flwyddyn. Mae cwblhau'r camau archwilio o'r archwiliadau barn "sicrwydd cyfyngedig" yn ymwneud â Rheoli Contractau a Grantiau wedi bod yn fwy cadarn, a disgwylir y bydd canlyniadau dilynol yn gwella yn y dyfodol o ganlyniad.

Roedd cwmpas yr archwiliad yn cynnwys y canlynol hefyd: Ailstocio a Sefydlu Pren, Adolygiad o Gynnydd yr Adroddiad ar Lifogydd, Alinio Cynlluniau Sefydliadol, Dirgryniad Braich Llaw, Dangosfwrdd Perfformiad Corfforaethol, Cyfrifon Derbyniadwy, Cydymffurfiaeth Rheoli'r Fflyd, Ardaloedd Draenio Mewnol, Trwyddedau Gwastraff, Swyddogaeth Asiantaeth Tir (Caffaeliadau a Gwarediadau), Monitro Samplau Ansawdd Dŵr a Gweithgareddau Masnachol (Cyflenwi Ynni); cafodd pob un ohonynt sicrwydd "cymedrol".

Cafodd yr archwiliadau o'r Gofrestr Asedau Sefydlog, y Cynllun Statudol a Chyfreithiol, a Phensiynau farn sicrwydd "sylweddol". Ar gyfer yr archwiliad pensiynau, roeddem yn gallu defnyddio dadansoddeg data ar gyfer y boblogaeth gyfan a oedd yn rhoi sicrwydd lefel uchel ar gyfer cyfrifiadau, didyniadau a chysoniadau pensiynau.

Mae CNC wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y flwyddyn er mwyn cwblhau camau gweithredu sy'n deillio o archwiliadau. Roedd 22 o gamau gweithredu ar ddiwedd y flwyddyn, a dim ond 3 ohonynt oedd yn gamau blaenoriaeth uchel nad oeddent wedi'u cyflawni yn unol â'u dyddiad cwblhau targed. Roedd rheolwyr yn mynd i'r afael â'r holl gamau gweithredu hyn gan ddarparu diweddariadau chwarterol ar gynnydd i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Nodwyd mai dim ond 2 o'r camau gweithredu hyn sy'n deillio o 2020, a bod angen cwblhau'r gweddill yn 2021.

Mae CNC yn cydnabod 10 risg strategol, a nodir bod yr holl risgiau yn cael eu cofnodi yn uwch na'r craidd risg targed sydd wedi'i osod ar eu cyfer a bod llawer yn parhau i fod yn rhai risg uchel yn agos at y sgôr risg gynhenid. Ym mis Mawrth 2022, roedd y gofrestr risg strategol yn nodi mai'r risg gynhenid ar gyfer cydymffurfio (SR07) oedd 23 (effaith fawr, tebygolrwydd bron yn sicr) ac mai'r sgôr risg weddilliol gyfredol oedd 21 (effaith fawr, tebygolrwydd yn debygol). Nid oedd hyn yn wahanol i'r sefyllfa yr adroddwyd arni ym mis Mawrth 2021. Mae'r risg hon yn cydnabod bod achosion diffyg cydymffurfiaeth yn ymwneud â pholisïau nad ydynt yn eglur, yn gyfredol nac yn hawdd i'w deall; gweithdrefnau/system sydd wedi'u cynllunio'n wael; diwylliant nad yw'n deall pam mae cydymffurfiaeth yn bwysig; ac ail linell aneffeithiol.

Mae gan CNC fframwaith ar gyfer Rheoli Risg, ac mae wedi datblygu'r gwaith yr adroddwyd arno y llynedd. Nodir bod y gofrestr risg strategol yn parhau i fod yn ddull rheoli annatod a bod Cofrestrau Risg y Grŵp Tîm Arwain a'r Bwrdd Busnes bellach yn cael eu defnyddio i lunio trafodaeth ar y lefelau hyn yn ymwneud â risgiau. Roedd yn dda nodi bod rhai trafodaethau risg deinamig wedi'u cynnal ynglŷn â'r rhyfel yn Wcráin a'r effaith ar CNC, gan amlygu dull rheoli risg sy'n ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd allanol. Fodd bynnag, mae prosesau rheoli risg yn gyfyngedig o hyd o dan y lefelau hyn, gyda'r swyddogaethau amrywiol yn arfer dulliau cymysg.

Er bod prosesau adrodd am risgiau i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg wedi gwella'n sylweddol yn ystod chwarteri olaf y flwyddyn, prin yw'r gwaith goruchwylio a chyfuno o hyd er mwyn gallu mynd ati i nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg neu risgiau cyfunol o gofrestrau risg lefel is. Ar sail y gofrestr risg strategol a gofnodwyd, gellid tybio nad yw CNC yn cymryd camau rheoli risg er mwyn lliniaru neu reoli'r risgiau, gan fod sgoriau risg wedi'u nodi fel rhai statig dros y flwyddyn. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu dull gofalus o adrodd am risg a diffyg dealltwriaeth posibl o effaith lliniaru risg ar y sgôr weddilliol.

Er bod CNC wedi cydnabod yr angen i ddatblygu'r model tair llinell yn y fframwaith rheolaeth fewnol yn 2020/21, ni ddyfarnwyd y contract i ddechrau'r gwaith hwn tan fis Mawrth 2022, felly ni wnaed unrhyw welliannau yn ystod y flwyddyn. Rhagwelir y bydd modd defnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r broses hon wedyn ledled CNC ar gyfer prosesau allweddol eraill er mwyn darparu fframwaith rheolaeth fewnol gwell.

Cymerodd y Tîm Gweithredol gamau ym mis Ebrill 2022 ar ôl diwedd y flwyddyn i gryfhau'r trefniadau llywodraethu mewnol trwy gymeradwyo dwy ddogfen allweddol. Y Model Gweithredu Llywodraethu a'r Awdurdod Dirprwyedig. Cwblhawyd y gwaith hwn i gryfhau trefniadau llywodraethu mewnol ar ôl diwedd y flwyddyn, ac felly nid yw wedi effeithio ar y farn archwilio mewnol; fodd bynnag, bydd y trefniadau yn cryfhau sefyllfa lywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu a'u defnyddio'n llawn.

Trwy gydol 2021/22, mae CNC wedi cymryd camau sylweddol tuag at wella rheolaethau mewnol, llywodraethu a rheoli risg o fewn y sefydliad, gan ddangos arweinyddiaeth gadarn a da. Er bod y farn yn parhau i fod yn gyfyngedig, mae'n amlwg ei bod yn symud yn raddol tuag at farn gymedrol. O ystyried y cynlluniau eraill i fynd i'r afael â mapio sicrwydd, cyflwyno'r rhaglen drawsnewid, gwelliannau llywodraethu a dull gwell o reoli risg, mae'r sylfeini ar gyfer gwella yn sylweddol. Gan fod y gwaith hwn wedi'i gynllunio a'i ddatblygu yn ystod y flwyddyn, nid yw wedi effeithio ar y farn archwilio mewnol. Fodd bynnag, os yw cynlluniau'n symud ymlaen a'r momentwm i wella'r diwylliant cydymffurfio yn parhau, dylai'r amgylchedd llywodraethu, risg a rheoli ddechrau gwella.

I gloi, ar sail fy ngwerthusiad proffesiynol o reolaethau, llywodraethu a rheoli risg mewnol, rwy'n dod i'r casgliad bod gwendidau sylweddol o hyd yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth yn 2020/21 ac y gallai fod yn annigonol ac yn aneffeithiol. Felly, gallaf gynnig barn sicrwydd cyffredinol cyfyngedig ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae CNC wedi dechrau datblygu gwaith sylweddol, ac os yw'n cael ei gyflawni yn ôl y bwriad a'r raddfa arfaethedig, bydd yn rhoi darlun calonogol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Archwiliad allanol

Mae craffu annibynnol yn ffynhonnell bwysig o sicrwydd, gan ddarparu tystiolaeth o'n ffyrdd o weithio mewn perthynas ag arfer gorau a safonau'r diwydiant. Mewn rhai rhannau o'r sefydliad, rydym yn destun archwiliadau neu adolygiadau allanol o'n gwaith neu'n dewis eu cael. Mae rhai'n digwydd yn flynyddol, er enghraifft Cynllun Sicrwydd Coetiroedd y DU neu ISO14001:2015 i gynnal ein system rheoli amgylcheddol. Rydym yn gofyn am rai eraill ymhlith sawl darn o waith i roi mwy o wybodaeth i ni am feysydd gwaith neu weithgareddau penodol.

Ar ôl cyhoeddi adolygiad annibynnol Grant Thornton o'n gweithrediadau gwerthiannau pren a'i rannu gyda Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru, rydym yn parhau i ymgorffori newidiadau a gwelliannau yn ein gweithrediadau gwerthu pren, dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol. Caiff y gwaith hwn ei oruchwylio gan y Pwyllgor Cyllid a chaiff cynnydd ei adrodd i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Yn ystod 2021-22 fe gawsom £0.1m (£0.1 miliwn yn 2020-21) o gontract gwerthu pren sy’n sefyll arferol, a oedd yn cynnwys y pren o gontract gwerthu pren sy’n sefyll plws caeedig ac a werthwyd i'r cwsmer gwreiddiol trwy un gam tendr.

Effeithiolrwydd rheolaethau mewnol

Er mwyn darparu sicrwydd ychwanegol bod y fframwaith o reolaethau mewnol ar waith ac yn gweithio'n dda oddi mewn i CNC, mae aelodau'r Tîm Gweithredol a Chadeiryddion Byrddau Busnes wedi cwblhau Rhestr Wirio Rheolaethau Mewnol ac wedi llofnodi Tystysgrif Sicrwydd. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gynnal asesiad yn seiliedig ar dystiolaeth o effeithiolrwydd y fframwaith rheoli sydd ar waith ar gyfer eu Cyfarwyddiaeth/Bwrdd Busnes, gan briodoli gradd rhwng sylweddol ac anfoddhaol o safbwynt sicrwydd ym mhob maes unigol.

Eleni fe wnaethom lwyddo i gyflawni cyfradd ddychwelyd o 100% ar gyfer y rhestrau gwirio a thystysgrifau, er bod lefel y manylder yn amrywio rhwng cyflwyniadau. Mae'r opsiynau ar gyfer graddau sicrwydd wedi'u newid eleni ac mae meysydd busnes ychwanegol wedi'u cynnwys; felly, nid oes modd gwneud cymariaethau uniongyrchol â 2020/21.

Priodolodd Byrddau Busnes a Chyfarwyddiaethau lefelau tebyg o sicrwydd ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd, gan nodi bod y meysydd sydd â sicrwydd sylweddol o effeithiolrwydd rheolaethau mewnol, neu’r meysydd lle ceir sicrwydd llai boddhaol, yn rhannu nodweddion tebyg.

Yn gyffredinol, ceir teimlad yn y datganiadau bod risgiau'n cael eu cofnodi, eu monitro a'u rheoli'n dda ar draws y sefydliad cyfan, ac y byddai ymgorffori rhagor o waith rheoli risg fel blaenoriaeth allweddol mewn cynlluniau datblygu staff unigol yn sicrhau gwelliannau pellach. Hefyd, dangosodd y datganiadau fod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ledled y sefydliad yn gyson â lefelau dirprwyo a'u bod yn seiliedig ar dystiolaeth, yn drylwyr ac yn destun ymgynghori. Maent yn defnyddio arbenigwyr yn y meysydd gofynnol hefyd.

Mae ymdeimlad eang eto eleni bod arweinyddiaeth y sefydliad yn weladwy, yn cyfathrebu'n rheolaidd ac yn canolbwyntio ar welliant parhaus a datblygiad proffesiynol. Nodir bod arweinwyr mewn lefelau gwahanol o'r sefydliad yn ymddwyn fel esiampl dda i eraill ac yn annog trafodaeth agored. Fodd bynnag, ceir teimlad bod mwy y gall y sefydliad ei wneud i gefnogi ac annog datblygiad arweinwyr a rheolwyr tîm newydd, gan gynnwys gwella gwybodaeth ariannol a gwybodaeth arall sy'n cael ei darparu iddynt. Nodwyd bod hwn yn faes i ganolbwyntio arno ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae meysydd eraill o sicrwydd sylweddol a nodwyd yn y datganiadau yn cynnwys rheoli TGCh a Chofnodion Gwybodaeth. Nodir bod systemau'n cael eu rheoli'n unol â'r polisïau gan mwyaf a bod rheolaethau angenrheidiol yn ymwneud â mynediad i systemau yn cael eu rheoli'n dda. Yn ogystal, mae'r datganiadau yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o ofynion rheoli data a phrosesau rheoli ansawdd, a chydymffurfiaeth â’r rheini, a lle bo'n berthnasol, bod gwersi’n cael eu dysgu o unrhyw ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â data.

Nododd rhai datganiadau fod rhywfaint o anhawster wrth ddiweddaru canllawiau a dogfennau eraill sy'n eiddo i Fyrddau Busnes, a nodwyd bod ymrwymiad i wneud hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae rhai gweithgareddau wedi'u nodi ar gyfer 2022/23 a fydd yn pwysleisio natur gyfoes a pherchnogaeth polisïau fel pwynt datblygu allweddol.

Nodwyd rheoli contractau yn aml fel maes lle mae staff yn teimlo bod angen hyfforddiant, cymorth ac arweiniad pellach arnynt. Mae hwn yn faes a fydd yn cael cryn sylw yn 2022/23 ar ôl sefydlu'r gwasanaeth cymorth rheoli contractau, wrth iddo barhau i recriwtio aelodau tîm a chyflawni ei amcanion yn llawn. Mae angen mynd ati trwy gydol y flwyddyn i ddatblygu rôl y gwasanaeth cymorth rheoli contractau wrth roi sicrwydd i'r sefydliad bod contractau'n cael eu rheoli'n briodol.

Mae materion cynllunio'r gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn feysydd pryder difrifol i lawer. Er y nodwyd bod y broblem wedi gwaethygu yn sgil methu â recriwtio pobl mewn rhai rhannau o'r busnes, nodir bod y pryder hwn yn un difrifol. Nid yw'n ymddangos bod cynllunio ar gyfer olyniaeth a chynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn ffordd strwythuredig a strategol. Mae rhywfaint o waith cynllunio ar gyfer olyniaeth a gwaith cynllunio'r gweithlu lleol ad-hoc yn cael ei wneud. Mae adnoddau wedi cael ei nodi fel risg o bryder newydd yn ystod 2021/22, ac mae wedi'i chynnwys yn ein Cofrestr Risgiau Strategol erbyn hyn. Felly, mae'r risg hon yn cael ei rheoli ar lefel strategol oddi mewn i'r sefydliad, a bydd canlyniadau'r dadansoddiad hwn yn cael eu cynnwys yn y gofrestr risgiau. Bydd angen i'r camau gweithredu penodol arfaethedig i liniaru’r risg sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r pryderon yn ymwneud â chynllunio'r gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth hefyd.

Codwyd sawl cwestiwn ynglŷn â rôl Byrddau Busnes yng nghyd-destun rheolaethau a sicrwydd mewnol. Nodwyd bod sawl maes y tu allan i gwmpas Byrddau Busnes at ddibenion yr ymarferiad hwn, gan gynnwys monitro Iechyd a Diogelwch, datblygu cynllun gweithlu a monitro cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau allweddol CNC. Nid oedd rhai datganiadau, ar lefel Bwrdd Busnes yn benodol, yn teimlo eu bod mewn sefyllfa dda i fynegi barn am sicrwydd effeithiolrwydd rhai o'r meysydd rheoli hyn, gan fod y rheolaethau yn eiddo i swyddogaethau canolog a chorfforaethol.

Bydd rôl Byrddau Busnes yng nghyd-destun rheolaethau mewnol a llywodraethu sefydliadol yn cael ei hadolygu dros y flwyddyn i ddod fel rhan o'n gwaith datblygu 'gweledigaeth ar gyfer llywodraethu da' parhaus. Bydd yr holl sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â phroses a chynnwys y Rhestr Wirio Rheolaethau Mewnol a'r Dystysgrif Sicrwydd yn cael eu hadolygu, a bydd gwelliannau'n cael eu cynnwys yn y broses ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 13 Gorffennaf 2022


Adroddiad cyflogau a staff (wedi'i archwilio)

Adroddiad cyflogau

Polisi cyflogau

Mae'r Bwrdd wedi sefydlu Pwyllgor Pobl a Chyflogau i ystyried materion sy'n ymwneud â chyflogau ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf a'r strategaeth gyflog gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC. Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd. Mae Cadeirydd y Bwrdd yn aelod ex officio o'r Pwyllgor.

Gosodir cyflogau'r Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd gan Weinidogion Cymru. Mae telerau contractau uwch-weithwyr (aelodau o'r Tîm Gweithredol) yn seiliedig ar delerau ac amodau CNC. Nid yw'r polisi cyflogau ar gyfer y staff ar y lefel uchaf yn cael ei gydfargeinio, a chytunir ar y pecyn cyflog drwy gyfeirio at y Gwerthusiad Swydd ar gyfer Swyddi Uwch (JESP) a chyfradd cyflog unigol.

Mae cytundeb partneriaeth gymdeithasol ar waith gyda phum undeb lafur, a chaiff y telerau ac amodau ar gyfer staff ar lefel is nag aelodau'r Tîm Gweithredol eu gosod trwy gydgytundeb â'r partneriaid cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo unrhyw newidiadau i gyflogau, telerau ac amodau ac yn gosod cylch cyflog y mae'n rhaid i CNC eu cyflawni o'i fewn. Fel rhan o gynnig cyflog eleni, gwnaethom gytuno, drwy ymgynghoriad ffurfiol, ar gytundeb cyflog o 2.0% am y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Mai 2022. Cynyddodd y Gwelliannau a'r Taliadau (ac eithrio'r Dyfarniad Teyrngarwch) 2% hefyd o 1 Gorffennaf 2021. Nid oedd y cynnig hwn yn berthnasol i'r rhai a oedd wedi optio allan o'r Cynllun Gwerthuso Swyddi yn barod, gan ei fod eisoes wedi'i gytuno drwy'r ymgynghoriad Gwerthuso Swyddi.

Contractau gwasanaeth

Gwneir pob penodiad i'r Bwrdd ar ran Gweinidog nawdd CNC yn Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r Prif Weithredwr ac aelodau'r Tîm Gweithredol gael eu cyflogi o dan gontractau parhaol. Caiff penodiadau eu gwneud yn unol â'n polisi recriwtio, sy'n gofyn i benodiad gael ei wneud yn ôl haeddiant ac yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored.

Oni nodir yn wahanol isod, mae gan yr aelodau o'r Tîm Gweithredol a gynhwysir yn yr adroddiad hwn benodiadau penagored. Rhaid i'r swyddogion a'r aelodau Bwrdd hyn ddarparu tri mis o rybudd o'u bwriad i adael.

Cyflog a hawliau pensiwn

Mae'r adrannau canlynol yn darparu manylion cyflog aelodau'r Bwrdd a chyflogau a buddiannau pensiwn aelodau'r Tîm Gweithredol. Nid oes gan aelodau'r Bwrdd yr hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil nac i dderbyn buddion eraill. Pe bai aelodaeth yn cael ei therfynu'n gynnar, am reswm heblaw am gamymddwyn, byddai'r aelod hwnnw o'r Tîm Gweithredol yn derbyn iawndal sy'n gyson â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Nid oes gan aelodau'r Bwrdd yr hawl i gael iawndal.

Cyflogau aelodau'r Bwrdd

Aelod y Bwrdd Dyddiadau dan Gontract Cyflog 2021/22 (ystod £5,000) Cyflog 2020/21 (ystod £5,000)
Karen Balmer 9 Tachwedd 2015 i 8 Tachwedd 2022 10 i 15 10 i 15
Chris Blake 9 Tachwedd 2015 i 24 February 2021 Ddim yn berthnasol 10 i 15
Catherine Brown 1 Tachwedd 2018 i 31 October 2022 15 i 20 15 i 20
Julia Cherrett 1 Tachwedd 2018 i 31 October 2025 15 i 20 10 i 15
Geraint Davies 1 January 2019 i 31 October 2024 10 i 15 10 i 15
Howard Davies 9 Tachwedd 2015 i 31 August 2021 10 i 15 10 i 15
Paul Griffiths 1 September 2021 i 25 May 2022 5 i 10 Ddim yn berthnasol
Elizabeth Haywood 9 Tachwedd 2015 i 31 August 2021 15 i 20 10 i 15
Syr David Henshaw (Cadeirydd) 1 Tachwedd 2018 i 31 October 2023 45 i 50 45 i 50
Zoë Henderson 9 Tachwedd 2015 i 8 Tachwedd 2022 15 i 20 15 i 20
Calvin Jones 1 September 2021 i 31 August 2022 5 i 10 Ddim yn berthnasol
Mark McKenna 1 September 2021 i 31 August 2022 5 i 10 Ddim yn berthnasol
Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd) 1 Tachwedd 2018 i 31 October 22 15 i 20 15 i 20
Rosie Plummer 1 Tachwedd 18 i 31 October 24 15 i 20 10 i 15
Peter Rigby 1 Tachwedd 18 i 31 October 23 25 i 30 10 i 15

 

  • Ymddiswyddodd Chris Blake fel aelod o fwrdd CNC ar 24 Chwefror 2021.
  • Catherine Brown yw cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.
  • Mae Julia Cherrett wedi bod yn gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd ers 31 Awst 2021.
  • Peidiodd Howard Davies â bod yn aelod o'r bwrdd ar 31 Awst 2021 ac roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hyd at y dyddiad hwn. Derbyniodd gyflog rhwng £5,000 a £10,000 ar gyfer gwasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad rhwng £5,000 a £10,000 am wasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Roedd cyfanswm ei gyflog am y flwyddyn rhwng £10,000 a £15,000.
  • Daeth Paul Griffiths yn aelod o'r bwrdd ar 1 Medi 2021 ac ymddiswyddodd ar 25 Mai 2022.
  • Peidiodd Elizabeth Haywood â bod yn aelod o'r bwrdd ar 31 Awst 2021 ac roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd hyd at y dyddiad hwn. Derbyniodd gyflog rhwng £5,000 a £10,000 ar gyfer gwasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad rhwng £5,000 a £10,000 am wasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Roedd cyfanswm ei chyflog am y flwyddyn rhwng £15,000 a £20,000.
  • Syr David Henshaw yw cadeirydd y Bwrdd a chadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.
  • Zoë Henderson yw cadeirydd y Pwyllgor Pobl a Thaliadau.
  • Daeth Calvin Jones yn aelod o'r bwrdd ar 1 Medi 2021.
  • Daeth Mark McKenna yn aelod o'r bwrdd ar 1 Medi 2021.
  • Steve Ormerod yw dirprwy gadeirydd y Bwrdd.
  • Mae Rosie Plummer wedi bod yn gadeirydd y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ers 31 Awst 2021.
  • Peter Rigby yw cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth. Derbyniodd gyflog rhwng £15,000 a £20,000 ar gyfer gwasanaethau yn ystod 2021/22 ac ôl-daliad rhwng £5,000 a £10,00 am wasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol. Roedd cyfanswm ei gyflog am y flwyddyn rhwng £25,000 a £30,000.

Roedd y dyddiadau gorffen a nodir yn y tabl uchod yn gywir ar ddyddiad yr adroddiad ond mae trafodaethau'n parhau i ymestyn contractau rhai aelodau o'r bwrdd oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd wedi arwain at rywfaint o oedi cyn penodi aelodau newydd o'r Bwrdd yn 2022.

Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2021/22

Aelod o'r Tîm Gweithredol Cyflog (ystod £5,000) Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) Buddion pensiwn (i'r £100 agosaf) Cyfanswm (ystod £5,000)
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 140 i 145 0 23,000 160 i 165
Rachael Cunningham 110 i 115 0 76,000 90 i 195
Ceri Davies 105 i 110 0 6,000 115 i 120
Prys Davies 110 i 115 0 26,000 135 i 140
Kevin Ingram 0 0 0 0
Sarah Jennings 120 i 125 0 47,000 95 i 100
Gareth O’Shea 120 i 125 0 93,000 215 i 220


Cyflogau'r Tîm Gweithredol 2020/21

Aelod o'r Tîm Gweithredol Cyflog (ystod £5,000) Buddion mewn nwyddau (i'r £100 agosaf) Buddion pensiwn (i'r £100 agosaf) Cyfanswm (ystod £5,000)
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 140 i 145 0 49,000 185 i 190
Rachael Cunningham 65 i 70 0 71,000 135 i 140
Ceri Davies 105 i 110 0 62,000 170 i 175
Prys Davies 85 i 90 0 31,000 115 i 120
Kevin Ingram 5 i 10 0 16,000 20 i 25
Sarah Jennings 65 i 70 0 27,000 95 i 100
Gareth O’Shea 95 i 100 0 44,000 140 i 145

 

  • Mae Clare Pillman yn aelod cyflog terfynol (clasurol/clasurol a mwy/premiwm) sydd wedi trosglwyddo i alpha. Mae pensiwn cyflog terfynol pobl mewn cyflogaeth yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at eu cyflog a hyd eu gwasanaeth. Bydd y pensiwn yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall ar sail unrhyw godiad cyflog yn ystod y flwyddyn. Os nad oes codiad cyflog, neu os oes codiad cyflog bach, mae'n bosibl na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso'r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn termau real, gall gwerth y pensiwn leihau, gan arwain at ostyngiad yng ngwerth buddion pensiwn.
  • Penodwyd Rachael Cunningham yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ar 7 Medi 2020. Ei chyflog cyfwerth â blwyddyn lawn ar gyfer 2020/21 yw £115,000 i £120,000.
  • Cyflog cyfwerth â blwyddyn lawn Ceri Davies oedd £105,000 i £110,000 hyd at fis Rhagfyr 2021 a £115,000 i £120,000 o fis Ionawr 2022 ymlaen.
  • Cyflog cyfwerth â blwyddyn lawn Prys Davies oedd £95,000 i £100,000. Yn ystod y flwyddyn, cafodd gynnydd cyflog wedi'i ôl-ddyddio a arweiniodd at dâl ychwanegol rhwng £10,000 a £15,000 mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Mae Prys Davies yn aelod cyflog terfynol (clasurol/clasurol a mwy/premiwm) sydd wedi trosglwyddo i alpha. Mae pensiwn cyflog terfynol pobl mewn cyflogaeth yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at eu cyflog a hyd eu gwasanaeth. Bydd y pensiwn yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall ar sail unrhyw godiad cyflog yn ystod y flwyddyn. Os nad oes codiad cyflog, neu os oes codiad cyflog bach, mae'n bosibl na fydd y cynnydd mewn pensiwn oherwydd gwasanaeth ychwanegol yn ddigon i wrthbwyso'r cynnydd mewn chwyddiant – hynny yw, mewn termau real, gall gwerth y pensiwn leihau, gan arwain at ostyngiad yng ngwerth buddion pensiwn.
  • Daeth cyflogaeth Kevin Ingram i ben ar 9 Ebrill 2020. Ei gyflog cyfwerth â blwyddyn lawn ar gyfer 2020/21 oedd £95,000 i £100,000.
  • Penodwyd Sarah Jennings yn Gyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol ar 7 Medi 2020. Ei chyflog cyfwerth â blwyddyn lawn ar gyfer 2020/21 yw £120,000 i £125,000.
  • Cyflog cyfwerth â blwyddyn lawn Gareth O'Shea oedd £105,000 i £110,000. Yn ystod y flwyddyn, cafodd gynnydd cyflog wedi'i ôl-ddyddio a arweiniodd at dâl ychwanegol rhwng £15,000 a £20,000 mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 a 31 Mawrth 2020.
  • Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnir yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi'i luosi ag 20, ynghyd â'r cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad, llai cyfraniadau wedi'u gwneud gan yr unigolyn. Nid yw'r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys codiadau oherwydd chwyddiant neu unrhyw newidiadau o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn. Nid yw'r gwerth hwn yn cynrychioli swm a fydd yn cael ei dderbyn gan yr unigolyn. Bwriad y cyfrifiad yw cyfleu i ddarllenydd y cyfrifon amcangyfrif o'r budd y gallai bod yn aelod o'r cynllun pensiwn ei ddarparu. Mae'r tabl buddion pensiwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y buddion pensiwn sy'n cael eu cronni gan yr unigolyn.

Cyflog

Mae cyflog yn ymwneud â symiau pensiynadwy a symiau nad ydynt yn bensiynadwy ac mae'n cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfansau neu daliadau sy'n drethadwy yn y DU. Nid yw'n cynnwys symiau sy'n ad-daliad o dreuliau yr aethpwyd iddynt yn uniongyrchol wrth gyflawni dyletswyddau unigolyn.

Cyflog cysylltiedig â pherfformiad

Mae unrhyw gynnydd mewn cyflog yn amodol ar asesu perfformiad naill fel perfformiad 'Rhagorol' neu'n 'Cyflawni' gan y Prif Weithredwr a'i gymedroli gan y Pwyllgor Pobl a Thaliadau. Bydd y cynnydd sy'n cael ei ddyfarnu yn cael ei bennu gan y dyfarniad cyflog ar gyfer y rhai yn yr uned gydfargeinio. Ni fydd unrhyw godiad cyflog yn cael ei roi mewn achosion o danberfformio.

Buddion mewn nwyddau

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau'n cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan y cyflogwr ac sy’n cael eu trin fel enillion trethadwy gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r Tîm Gweithredol dderbyn buddion mewn nwyddau yn ystod 2021/22 a 2020/21.

Ni wnaeth yr un aelod o'r Bwrdd na'r uwch-staff dderbyn unrhyw daliadau eraill ar wahân i'r symiau a ddangosir uchod.

Buddion pensiwn

Aelod o'r Tîm Gweithredol Pensiwn Cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2022
£000
Cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2022
£000
Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn ar oed pensiwn £000 Cynnydd gwirioneddol yn y cyfandaliad cronnus ar oed pensiwn £000 Gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod ar 31 Mawrth 2022 £000 Gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod ar 31 Mawrth 2021 £000 Cynnydd gwirioneddol mewn gwerthoedd trosglwyddo sy'n gyfwerth ag arian parod £000
Clare Pillman (Prif Weithredwr) 60 i 65 135 i 14 0 i 2.5 0 1,261 1,187 3
Rachael Cunningham 35 i 40 0 2.5 i 5 0 513 436 48
Ceri Davies 50 i 55 70 i 75 0.2 i 5 0 i negyddol 2.5 1,017 958 Negyddol 4
Prys Davies 30 i 35 60 i 65 0.2 i 5 0 549 509 9
Sarah Jennings 0 i 5 0 2.5 i 5 0 60 21 29
Gareth O’Shea 55 ti 60 90 i 95 2.5 i 5 5 i 7.5 1,046 912 72


Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yw gwerth cyfalafol buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar bwynt penodol o amser fel y’i haseswyd gan actiwari. Y buddion a brisir yw'r buddion a gronnwyd gan yr aelod ac unrhyw bensiwn priod dibynnol sy'n daladwy o'r cynllun. Mae Gwerth Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn penderfynu trosglwyddo'r buddion y mae wedi'u cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddion y mae'r unigolyn wedi'u cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth o'r cynllun pensiwn, ac nid ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r datganiad yn ymwneud ag ef yn unig.

Mae'r ffigurau yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei draul ei hun. Caiff Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod eu cyfrifo yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl mewn buddion a ddaw yn sgil Treth Lwfans Gydol Oes a allai fod yn ddyledus pan gaiff buddion pensiwn eu cymryd.

Cynnydd gwirioneddol mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod

Mae hyn yn dangos y cynnydd mewn Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod a ariennir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys cynnydd mewn pensiwn a gronnwyd oherwydd chwyddiant neu gyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad cyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Iawndal ar gyfer colli swydd

Ni chytunwyd ar iawndal ar gyfer colli swydd yn ystod yn ystod 2021/22.

Datgelu cyflog teg

Rhaid i CNC a chyrff tebyg ddatgelu'r berthynas rhwng cyflog y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf yn eu sefydliad a chyflog canolrifol gweithlu'r sefydliad. Mae’r cyfanswm cyflog yn cynnwys cyflog a buddion mewn nwyddau pan fo'n berthnasol. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr, na'r Gwerthoedd Trosglwyddo sy'n Gyfwerth ag Arian Parod.

Yn 2021/22, cafodd tri aelod o staff dan gontract (2020/21: 6) eu talu ar gyfradd uwch na'r cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf. Band cyflog y cyfarwyddwr ar y cyflog uchaf (fel y dangosir uchod) yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 oedd £140,000 i £145,000 (2020/21: £140,000 i 145,000). Roedd hyn 3.8 gwaith (2020/21 4 gwaith) yn fwy na chyflog canolrifol y gweithlu, gan gymharu â chyflogau chwartel uchaf, canolrif ac isaf fel a ganlyn:

Cymhareb cyflog y gweithlu

Cymhareb cyflog y gweithlu 2021/22 2020/21 Symudiad (canran)
Chwartel uchaf £ 42,885 42,044 2.0
Cymhareb Chwartel uchaf  3.3 3.3 n/a
Canolrif £ 37,119 35,288 5.2
Cymhareb Canolrif 3.8 4.0 n/a
Chwartel isaf £ 31,490 30,873 2.0
Cymhareb Chwartel isaf 4.4 4.5 n/a


Mae graddfeydd cyflog staff yn amrywio o £19,100 i £70,070.

Adroddiad staff

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad a chostau ein gweithlu. Mae'r tablau staff isod yn cynnwys cyflogeion parhaol, penodiadau cyfnod penodol a phrentisiaid yn ogystal â staff asiantaeth, contractwyr, a secondeion.
Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2022

Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2022

Gwryw

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 1,364 1,331
O'r rhain Tîm Arwain 11 10
O'r rhain Tîm Gweithredol 2 2

 

Benyw

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 1,102 1,028
O'r rhain Tîm Arwain 14 12.5
O'r rhain Tîm Gweithredol 4 4

 

Cyfanswm

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 2,466 2,359
O'r rhain Tîm Arwain 25 23
O'r rhain Tîm Gweithredol 6 6

 

Nifer y staff fesul pen a chyfwerth ag amser llawn fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2021

Gwryw

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 1,366 1,338
O'r rhain Tîm Arwain 10 10
O'r rhain Tîm Gweithredol 2 2

 

Benyw

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 1,086 1,009
O'r rhain Tîm Arwain 13 12.5
O'r rhain Tîm Gweithredol 4 4

 

Cyfanswm

Gweithwyr Fesul pen Cyfwerth ag amser llawn
Pob cyflogai 2,452 2,347
O'r rhain Tîm Arwain 23 22.5
O'r rhain Tîm Gweithredol 6 6

 

Nifer cyfartalog yr unigolion cyfwerth ag amser llawn a dalwyd yn ystod y flwyddyn oedd:

Personau cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu Staff parhaol Eraill Cyfanswm 2021/22 Cyfanswm 2020/21
Wedi'u cyflogi'n uniongyrchol 2,072 72 2,144 2,070
Staff asiantaeth a chontract 0 164 164 161
Cyfanswm 2,072 236 2,308 2,231


Nifer cyfartalog y staff cyfwerth ag amser llawn yn gweithio ar brosiectau cyfalaf oedd 232.2 (2020/21: 237.1).

Trosiant staff

Trosiant staff yn ystod 2021/22 oedd 6.75% heb gynnwys gweithwyr dros dro e.e. Asiantaeth (2020/21 3.79%).

Costau staff

Costau staff Staff parhaol 2021/22 £’000 Staff eraill 2021/22 £’000 Cyfanswm 2021/22 £’000 Cyfanswm 2020/21 £’000

Taliadau a chyflogau

78,250

14,873

93,123

87,338

Costau nawdd cymdeithasol a threthi eraill

8,346

625

8,971

8,089

Costau pensiwn eraill

19,804

611

20,415

13,900

Cyfanswm costau cyflogau net

106,400

16,109

122,509

109,327


Gwariant arall ar gyfer staff:

Gwariant arall ar gyfer staff Cyfanswm 2021/22 £’000 Cyfanswm 2020/21 £’000

Costau pecynnau ymadael

159

204

Tâl gwasanaeth Safon Cyfrifyddu Ryngwladol 19 (pensiynau)

16,353

9,191

Llai costau pensiwn ymddeoliadau cynnar

Negyddol 15

Negyddol 88

Llai cyfraniadau pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ystod y flwyddyn

Negyddol 6,894

Negyddol 1,948

Symudiad mewn cyflog gwyliau a gronnwyd

Negyddol 140

942

Cyfanswm gwariant arall ar gyfer staff

9,463

8,301

Llai symiau a godwyd ar brosiectau cyfalaf

Negyddol 12,757

Negyddol 11,130

Cyfanswm costau staff

119,215

106,498


Gellir gweld manylion rhwymedigaethau pensiwn CNC yn Nodyn 14.

Mae manylion cyflogau aelodau'r Bwrdd a chyfarwyddwyr yn yr adroddiad cyflogau. Mae'r gwasanaethau a brynwyd i mewn yn Nodyn 5 (gwariant arall) yn cynnwys £11.3 miliwn o wariant ar ymgynghorwyr (2020/21: £10.3 miliwn).

Cynlluniau pensiwn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelod o ddau gynllun pensiwn. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun agored ac mae'n cynnwys y cynllun buddion diffiniedig, Alpha yn ogystal â chynllun cyfraniadau diffiniedig partneriaeth rhanddeiliaid. Hefyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aelod caeedig o Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd o dan gytundeb derbyn cymunedol. Dangosir rhagor o fanylion am y cynlluniau pensiwn hyn isod.

Cyfraniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Cynlluniau buddion diffiniedig aml-gyflogwr na chânt eu hariannu yw PCSPS a'r Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill (CSOPS) – a elwir yn "Alpha". Ond nid yw'r cynlluniau yn nodi cyfran sefydliadau unigol o'r asedau a rhwymedigaethau sylfaenol. Gwnaeth actiwari'r cynllun brisio'r PCSPS fel ag yr oedd ar 31 Mawrth 2016. Gallwch weld y manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil

Ar gyfer 2021/22, roedd £13,204,000 o gyfraniadau cyflogwr yn ddyledus i'r PCSPS (2020/21: £11,846,000) ar un o bedair cyfradd rhwng 26.6% a 30.3% o enillion pensiynadwy (rhwng 26.6% a 30.3% ar gyfer 2020/21), yn seiliedig ar fandiau cyflog. Fel arfer, mae actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau cyflogwyr bob pedair blynedd yn dilyn prisiad o'r cynllun llawn. Mae'r cyfraddau cyfrannu wedi'u gosod er mwyn talu costau'r buddion a gronnwyd yn ystod 2021/22 sy’n daladwy pan fydd yr aelod yn ymddeol, ac nid y buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i bensiynwyr cyfredol.

Pensiynau partneriaeth rhanddeiliaid

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn rhanddeiliaid gyda chyfraniad cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwr gwerth £152,000 (2020/21: £137,000) i'r darparwr pensiwn rhanddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn seiliedig ar oedran ac yn amrywio o 8% i 14.75%. Mae cyflogwyr hefyd yn gwneud cyfraniad cyfatebol i gyfraniadau cyflogeion hyd at 3% o enillion pensiynadwy. Yn ogystal, roedd cyfraniadau cyflogwr gwerth £5,000, sef 0.5% o gyflog pensiynadwy (2020/21: £5,000), yn daladwy i'r PCSPS i dalu costau darparu buddion cyfandaliad yn y dyfodol yn sgil marw yn y swydd neu ymddeoliad oherwydd salwch y cyflogeion hyn.

Nid oedd unrhyw gyfraniadau'n ddyledus i'r darparwyr pensiwn partneriaeth ar ddyddiad y fantolen, ac ni chafodd unrhyw gyfraniadau eu talu ymlaen llaw.

Cyfraniadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud taliadau i Gronfa Bensiwn Asiantaeth yr Amgylchedd (EAPF), fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), trwy Capita, gweinyddwyr y gronfa bensiwn.

Cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig statudol ac sy’n cael ei ariannu ar gyfer y gwasanaeth cyhoeddus statudol yw'r LGPS. Bob tair blynedd, mae'r EAPF yn prisio'r pensiwn ar y cyd ag actiwari'r cynllun. Yn dilyn yr asesiad prisio ar 31 Mawrth 2019, nodwyd bod sefyllfa ariannol yr EAPF ar lefel ariannu o 106% (2016: 103%). Prif ddiben y prisiad actiwaraidd yw adolygu sefyllfa ariannol y gronfa a phennu faint bydd cyflogwyr yn cyfrannu at y gronfa yn y dyfodol.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gytundeb derbyn cymunedol gyda'r EAPF i gymryd rhan yn yr LGPS, a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol mewn perthynas â staff blaenorol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a drosglwyddodd i CNC ar 1 Ebrill 2013. Cafodd y rhwymedigaethau ar gyfer cyn-aelodau a gyflogwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o ran swyddogaethau Cymru (pensiynau mewn taliad ac aelodau gohiriedig) eu trosglwyddo hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwarant gan yr EAPF i'w hindemnio am unrhyw rwymedigaethau a ddaw yn sgil cyfranogiad CNC yn yr EAPF.

Ar gyfer 2021/22 roedd cyfradd cyfraniadau'r cyflogwr yn 24.67% o fis Ebrill 2021 a 23.76 o fis Mehefin 2021 (2020/21: 23.08%). Yn 2021/22, talwyd cyfraniadau cyflogwr gwerth £6,894,000 i'r LGPS (2020/21: £1,948,000) sy'n lleihau'r balans yng nghronfa bensiwn IAS 19.

Pecynnau ymadael

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost: 2021/22 2020/21

O dan £10,000

2

1

£10,001 i £25,000

1

3

£25,001 i £50,000

0

0

£50,001 i £100,000

2

2

£100,001 i £150,000

0

0

Cyfanswm

5

6

Cost adnoddau

159,000

£204,000


Nid oedd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol yn 2021/22 nac yn 2020/21.

Mae costau ymadael gwirfoddol wedi'u talu yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sef cynllun statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Mae'r tabl uchod yn dangos cyfanswm cost y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac a gafodd eu cyfrif yn 2021/22. Mewn gwirionedd, talwyd costau ymadael o £226,000 yn 2021/22, sef y flwyddyn ymadael. Mae'r swm hwn yn cynnwys £7,000 o daliadau ychwanegol ar gyfer tri phecyn a ddatgelwyd yn 2020/21. Os yw CNC wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, caiff y costau ychwanegol eu talu gan CNC ac nid gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd salwch eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y tabl.

Absenoldeb oherwydd salwch (nad yw'n cael ei archwilio)

Dangosodd ein cyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer y flwyddyn dreigl (1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022) y collwyd 5.9 o ddiwrnodau am bob cyflogai ar gyfartaledd, sy'n cyfateb i 2.7%.

Polisïau anabledd (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Ar 26 Ebrill 2021, gwnaethom gwblhau'n llwyddiannus ein hymarferiad hunanasesu ac, o ganlyniad, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ail-achredu CNC fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd tan 22 Ebrill 2024.


Cynllun Gwarantu Cyfweliad 'Tic Dwbl'

Yn ystod 2021/22, gwnaethom barhau i gydymffurfio 100% â'n cynllun gwarantu cyfweliad 'Tic Dwbl', lle mae ymgeiswyr sy'n datgan bod ganddynt anabledd, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, ac sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl y gwneir cais amdani, yn cael gwahoddiad i gyfweliad yn awtomatig.

Yn allanol, cawsom geisiadau gan 1629 o bobl, gyda 28 (1.72%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Yn fewnol, cafwyd ceisiadau gan 820 o bobl, gyda 4 (0.48%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig.

Rhwydweithiau Staff (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Mae'r Rhwydweithiau yn cael eu cynnal gan staff ar gyfer staff, ac maent yn dwyn ynghyd bobl o bob rhan o'r gweithle sy'n uniaethu ag eraill o gefndir neu grŵp tebyg.

Mae Rhwydweithiau Staff yn cyflawni swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio yn gymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid, a datblygiad personol. Hefyd, gall rhwydweithiau staff gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein polisïau a'n harferion gweithio.

Fel sefydliad rydym yn cydnabod gwerth grwpiau sy'n trefnu eu hunain o ran creu amgylchedd sy'n parchu amrywiaeth ymhlith staff ac sy'n eu galluogi i gael y budd a’r mwynhad gorau posibl o gymryd rhan yn y gweithle.

Rydym yn cefnogi'r rhwydweithiau drwy:

  • Annog rheolwyr i ryddhau gweithwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a gwaith wedi'i dargedu sy'n codi
  • Hyrwyddo'r rhwydweithiau i weithwyr hen a newydd
  • Gwrando, mewn ffordd gadarnhaol, ar unrhyw bryderon gan weithwyr a godir trwy'r rhwydweithiau staff
  • Cymryd rhan mewn mentrau a ddatblygir gan y rhwydweithiau staff
  • Adnewyddu aelodaeth o Employers for Carers ym mis Ionawr 2022
  • Adnewyddu ein haelodaeth o Stonewall ym mis Ebrill 2022

Mae gennym saith rhwydwaith staff ar hyn o bryd, fel a ganlyn:

  • Grwpiau Defnyddwyr a Gynorthwyir (TGCh a Theleffoni)
  • Rhwydwaith LHDTC+ Calon
  • Y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtch (Rhwydwaith Gofalwyr)
  • Cyfeillion Dementia
  • Rhwydwaith Mwslimiaid
  • Rhwydwaith Niwroamrywiaeth

Ym mis Awst 2021 cyfarfu ein Rhwydwaith LHDTC+ Calon â Rhwydwaith PRISM Llywodraeth Cymru i drafod dull gweithredu mewn perthynas â chyflwyniad Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle (WEI) Stonewall a rhannu ymarfer da ynglŷn â'r dulliau gorau o ymgysylltu â staff. Mae Calon yn gobeithio parhau i gydweithio â PRISM ar ymgyrchoedd yn y dyfodol.

Mae un aelod o bob Rhwydwaith yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf a rhagolwg o waith y Rhwydwaith. Mae sgyrsiau agored i sicrhau adborth adeiladol yn cael eu hannog mewn cyfarfodydd.

Mae pob Rhwydwaith yn rhoi cyflwyniad yn ystod y cwrs Sefydlu ar gyfer aelodau staff newydd er mwyn helpu i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'n Rhwydweithiau a'r cymorth sydd ar gael ganddynt yn gynnar yn eu gyrfa gyda ni yma.
Yn ystod y flwyddyn, mae calendr digwyddiadau wedi'i ddatblygu sy'n helpu i sicrhau bod ein rhwydweithiau staff yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a'i bod yn haws gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau.

Materion eraill yn ymwneud â chyflogeion (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Yn ystod 2020/21, gwnaethom gwblhau, mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur, y trefniadau cytundebol ar gyfer tua 1200 o swyddi ar sail rota.

Swyddi oddi ar y gyflogres (nad ydynt yn cael eu harchwilio)

Mae gofyn i CNC gyhoeddi gwybodaeth am benodiadau ymgynghorwyr neu aelodau staff sy'n para'n hwy na chwe mis a lle mae unigolion yn ennill mwy na £245 y dydd, lle'r ydym yn talu drwy anfoneb ac nid y gyflogres. Cynlluniwyd y rheolau gweithio oddi ar y gyflogres i sicrhau os bydd rhywun yn gweithio drwy gyfryngwr a byddai, at ddibenion cyfraniadau treth incwm ac yswiriant gwladol, wedi cael ei ystyried yn gyflogai pe bai'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan y cleient (CNC), ei fod yn talu tua'r un cyfraniadau treth incwm ac yswiriant gwladol fel petai wedi'i gyflogi. Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i bobl sy'n wirioneddol hunangyflogedig.

Cyfrifoldeb y cleient (CNC) yw cynnal yr asesiad at ddibenion treth yn hytrach na'r cyfryngwr. Os yw’r asesydd yn penderfynu bod y rôl o fewn cwmpas IR35, bydd y cyfryngwr yn talu’r un dreth cyflogai a fyddai cyflogai ar y gyflogres.

Mae'r tablau canlynol yn dangos ein sefyllfa mewn perthynas â'r gofynion hyn:

Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2022, am fwy na £245 y dydd ac sy'n para'n hwy na chwe mis

Nifer y swyddi presennol ar 31 Mawrth 2022 sydd wedi bodoli am: Nifer y contractwyr

lai na blwyddyn

17

rhwng un a dwy flynedd

22

rhwng dwy a tair blynedd

21

rhwng tair a phedair blynedd

17

pedair blynedd neu fwy

19

Cyfanswm

96


Mae mwyafrif y contractwyr yn cefnogi'r tîm Trawsnewid wrth ddatblygu a thrawsnewid ein systemau TGCh.

Swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, am fwy na £245 y dydd ac sy'n para'n hwy na chwe mis:

Swyddi newydd Nifer y contractwyr

Nifer y swyddi newydd, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022

24

o'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai sy'n dod o dan drefniadau IR35

0

o'r rhain y nifer a aseswyd fel rhai nad ydynt yn dod o dan drefniadau IR35

24

o'r rhain y nifer a gyflogwyd yn uniongyrchol ac sydd ar gyflogres CNC

0

o'r rhain nifer y swyddi a gafodd eu hailasesu at ddibenion cysondeb/sicrwydd yn ystod y flwyddyn.

8

o'r rhain nifer y swyddi a welodd newid i'w statws IR35 ar ôl yr adolygiad cysondeb.

0


Adroddiad Seneddol ac Archwilio (wedi'i archwilio)

Colledion a thaliadau arbennig

Mae rheolau Rheoli Arian Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ddatgelu colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori, math a gwerth pan fydd eu cyfanswm yn fwy na £300,000 ac ar gyfer unrhyw eitemau unigol sy'n werth £300,000 neu ragor.

Colledion unigol o £300,000 neu fwy

Yn ystod y flwyddyn, cofnodwyd bod swm o £1,336,000 wedi'i ddileu. Cafodd gwerth ased anniriaethol sy'n cael ei datblygu mewn perthynas â system feddalwedd ar gyfer y labordai ei lleihau gan y swm hwn oherwydd nad oedd cyflenwr y feddalwedd yn gallu cyflawni yn unol â'r contract mwyach. Mae adolygiad annibynnol wedi'i gynnal er mwyn dysgu gwersi ar gyfer prosiectau o'r math hwn yn y dyfodol.

Hefyd, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru daliad arbennig yn ymwneud ag ad-dalu ffioedd gwerth £687,000 i Horizon Nuclear Power ar ôl i weithgareddau datblygu ddod i ben ar safle Wylfa Newydd.

Nid oedd unrhyw golledion na thaliadau arbennig gwerth £300,000 neu fwy yn ystod 2020/21.

Colledion a thaliadau arbennig yn ôl categori

Mae'r tabl isod yn nodi nifer y ceisiadau i ddileu symiau a cheisiadau am daliadau arbennig a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn.

Categori neu fath o golled 2021/22 Nifer 2021/22 £'000 2020/21 Nifer 2020/21 £’000

Dileu dyledion na ellir eu hadennill

45

114

0

0

Asedau a gollwyd

11

1,441

15

18

Colledion eraill (colledion ariannol, taliadau ofer, hawliadau na ellir eu gorfodi, neu anrhegion)

20

9

34

104

Taliadau arbennig

4

1,145

5

17

Cyfanswm

80

2,709

54

139


Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu - 13 Gorffennaf 2022

 

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Ardystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022 o dan baragraff 23 o'r Atodlen i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012. Mae'r rhain yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o'r Sefyllfa Ariannol, Datganiad o Lifoedd Arian Parod, Datganiad o Newidiadau mewn Ecwiti Trethdalwyr a nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu sylweddol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth eu paratoi yw cyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol sydd wedi’u mabwysiadau gan y DU fel y'u dehonglwyd ac a addaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM.

Yn fy marn i, mae'r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa Cyfoeth Naturiol Cymru ar 31 Mawrth 2022 ac o'i gostau gweithredu net am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y'u dehonglwyd ac a addaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EM; a
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae'r gwariant a'r incwm yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Sail barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Archwilio Rhyngwladol yn y DU (ISAs (UK)) a Nodyn Ymarfer 10 'Audit of Financial Statements of Public Sector Entities in the United Kingdom'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd i archwilio adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy'n annibynnol ar y corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio a gefais yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod defnyddio'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i gyflawni, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeg mis o leiaf o'r adeg y mae'r datganiadau ariannol wedi'u hawdurdodi i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ac eithrio'r datganiadau ariannol a rhannau eraill o'r adroddiad a archwilir a’m hadroddiad archwilydd arnynt. Nid yw deddfwriaeth a chyfarwyddiadau a roddir i Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi cynnwys a ffurf y wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau y nodir fel arall yn benodol yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arni. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r datganiadau ariannol neu'r wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu a yw'n ymddangos fel arall ei bod wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os byddaf yn nodi anghysondebau perthnasol o'r fath neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi'i gyflawni, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad sylweddol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i'w adrodd yn hyn o beth.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw deddfwriaeth a chyfarwyddiadau a roddir i Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi cynnwys a ffurf yr wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol wedi'i baratoi yn unol â'r canllawiau.

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad Blynyddol yn gyson â'r datganiadau ariannol.

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol am Adroddiad ar Gyflogau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi paratoi adroddiad o'r fath ac, yn fy marn i, mae'r rhan honno y mae'n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi'i pharatoi'n briodol yn unol â chanllawiau Trysorlys EM.

Materion yr wyf yn adrodd arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a dealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Blynyddol na'r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf ddim i'w adrodd mewn perthynas â'r materion canlynol yr wyf yn adrodd i chi amdanynt os, yn fy marn i:

  • nad yw cofnodion cyfrifyddu priodol wedi'u cadw neu nad yw'r ffurflenni sy'n ddigonol ar gyfer fy archwiliad wedi dod i law gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â nhw;
  • nad yw'r datganiadau ariannol a'r rhan a archwilir o'r Adroddiad ar Gyflogau yn cyd-fynd â'r cofnodion cyfrifyddu a'r ffurflenni;
  • na ddatgelir gwybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflogau a thrafodion eraill; neu
  • nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a'r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed oddi tano, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi darlun cywir a theg ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu'r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio cyfrifyddu ar sail busnes gweithredol oni bernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd dros archwilio'r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau godi o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Achos o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau yw afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll. Rwy'n cynllunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau'n cynnwys y canlynol:

  • Holi rheolwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol am bolisïau a gweithdrefnau Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymwneud â:
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i risgiau twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; ac
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl.
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • adolygu datgeliadau datganiadau ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi'r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a'r Bwrdd;
  • wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll drwy reoli rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wneir wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a
  • gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Fe wnes i hefyd gyfleu cyfreithiau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i'r holl dîm archwilio ac roeddwn yn parhau i fod yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ganfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a natur, amseriad a graddau'r gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o’m hadroddiad archwilydd.

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol.

Rwy'n cael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.


Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol

24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

Yn ôl at yr Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2021/22

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf