Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Taclo'r Tywi - Beth rydym yn ei wneud

Dewch i gael gwybod am y prosiectau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, ar y cyd â’n partneriaid, er mwyn gwella Afon Tywi

Rhywogaethau ymledol anfrodorol 

Gwyddom fod nifer o rywogaethau anfrodorol, ymwthiol sy'n effeithio ar gynefin ac ansawdd dŵr ar hyd Afon Tywi. Mae'r planhigion hyn yn tra-arglwyddiaethu ar gynefinoedd, ac yn cario’r dydd ar ein rhywogaethau planhigion brodorol. Darllenwch fwy am y gwahanol fathau o rywogaethau sy'n effeithio ar Afon Tywi, a'r hyn rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â nhw.

Y Ffromlys Chwarennog (Jac y Neidiwr) - Himalayan Balsam

Mae rhywogaethau fel y Ffromlys Chwarennog yn broblem arwyddocaol ar hyd Afon Tywi, gan eu bod yn lledaenu'n gyflym ac yn ennill lle blaenllaw ar hyd glannau afonydd.

Yn y gaeaf pan fydd yn marw yn ôl, mae'n gadael glannau moel afonydd yn agored i erydiad pridd, sy'n cyfrannu at ansawdd dŵr gwael, a gall orchuddio tiroedd pysgota pwysig.

Mae’r Ffromlys Chwarennog hefyd yn hynod effeithiol ac yn atgynhyrchu, gyda phob planhigyn yn gallu tanio hyd at 2000 o hadau hyd at saith metr o bellter o'r planhigyn trwy eu podiau hadau ffrwydrol. O ganlyniad, caiff yr hadau (sy'n gallu goroesi am dair blynedd) eu cario i lawr yr afon, gan ymosod ar ardaloedd newydd ar lannau afonydd.

Ar ddechrau 2017, buom yn gweithio gyda Ffederasiwn Pysgotwyr Sir Gaerfyrddin er mwyn dechrau mapio'r dalgylch uchaf yn achos y Ffromlys Chwarennog. Y nod oedd dechrau mynd i'r afael â'r broblem ar ddechrau'r dalgylch, gan weithio ein ffordd i lawr. Yn ystod haf 2017, dechreuwyd ar raglen ‘tynnu a strimio’ ar hyd isafon Afon Tywi a elwir Afon Brân ger Llanymddyfri. Rydym yn gobeithio gallu rheoli’r Ffromlys Chwarennog yn fwy effeithiol a’i atal rhag ymledu ymhellach.

 

Ddechrau mis Awst treuliodd tîm Rheoli Adnoddau Naturiol Sir Gaerfyrddin, ynghyd â rhai o aelodau Ffederasiwn Pysgotwyr Sir Gaerfyrddin, ddiwrnod yn clirio Jac y Neidiwr ar hyd Afon Brân yn Llanymddyfri. Roeddem wedi bod yno o’r blaen ar 20 Mehefin, felly ymweliad dilynol oedd ddoe i dynnu’r planhigion a oedd ar ôl ynghyd ag unrhyw blanhigion newydd a oedd wedi tyfu. Rydym yn gobeithio cynnal diwrnod arall o’r fath cyn bo hir.

Treial Llwydni

Mae Afon Tywi yn un o bedair ardal yng Nghymru lle rydym yn rhoi prawf ar reolaeth fiolegol mewn perthynas â’r Ffromlys Chwarennog. Mae hyn yn golygu cyflwyno math o ffwng a elwir yn 'Llwydni/Ffwng y Gawod' sy'n targedu'r planhigyn yn weithredol ac yn ei ddinistrio. Nod y prosiect, pan fydd wedi ei gwblhau, yw defnyddio llwydni/ffwng y gawod i helpu rheoli lledaeniad y Ffromlys Chwarennog yn naturiol a lleihau'r angen am dynnu a strimio, sy'n gallu bod yn gostus ac yn mynd ag amser. Rydym yn gobeithio cael mwy o ganlyniadau'r treial yn 2018.

Efwr Enfawr - Giant Hogweed

Mae elfen annymunol yn perthyn i’r Efwr Enfawr (Heracleummantegazzianum), gan fod sudd y planhigyn yn ffototocsig; pan fydd croen sydd wedi dod i gyswllt â’r planhigyn yn agored i olau’r haul neu i belydrau uwchfioled, gall achosi llid y croen sy’n gallu bod yn boenus iawn. Mae CNC wedi bod yn cynnal rhaglen o drin a chael gwared â'r planhigyn hwn mewn rhannau o ddyffryn Tywi lle cadarnhawyd presenoldeb yr Efwr Enfawr.

Llysiau’r Dial/Canclwm Japan - Japanese Knotweed

Mae Canclwm Japan (Fallopia japonica) wedi ei adnabod yn bennaf i lawr yr afon o Gaerfyrddin a gall fod yn helaeth mewn rhai mannau.

Mae'r rhywogaeth yn ddrud i'w ddifa.Mae Adolygiad Defra o Bolisi Rhywogaethau Anfrodorol yn datgan y byddai rhaglen ddileu genedlaethol £1.56 biliwn yn waharddol o ddrud.Mae'n drosedd dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i "blannu” Canclwm Japan “neu fel arall achosi iddo dyfu yn y gwyllt". Fe'i dosbarthir hefyd fel "gwastraff a reolir" ym Mhrydain, dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n golygu ei bod yn ofynnol ei waredu mewn safleoedd tirlenwi trwyddedig.

Mae treialon diweddar wedi cychwyn ledled y DU (mewn 6 lleoliad nas datgelwyd) lle mae AphalaraItadori yn cael ei gyflwyno a’i ddefnyddio i frwydro yn erbyn lledaeniad Canclwm Japan.

Menter PestSmart

Mae ein partneriaid, Dŵr Cymru, wedi lansio menter i leihau nifer y maetholion sy'n mynd i mewn i'r dalgylch â thechnolegau arloesol. Mae'r cynllun ‘Sychwr Chwyn/Weed Wiper’ yn caniatáu taenu plaladdwyr yn fwy effeithlon na chwistrellu, drwy ddefnyddio darn o offer arferol i sychu'r plaladdwyr ar hyd y planhigyn. Mae'r dull hwn yn lleihau lefel y goferiad cemegol i Afon Tywi. Yn ogystal, mae hefyd yn fwy cost-effeithiol i'r ffermwyr gan fod angen defnyddio llai o gemegau. Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn cynnig y cyfle i ffermwyr oddi mewn i ddalgylch Afon Tywi ddefnyddio'r sychwyr chwyn, a hynny’n rhad ac am ddim yn ystod y tymor tyfu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dŵr Cymru PestSmart.

Prosiect Slyri

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, Coleg Sir Gâr, Power and Water a'r diwydiant amaethyddol er mwyn datblygu ffordd newydd arloesol o drin slyri fferm, un o'r sialensiau mwyaf i ansawdd dŵr yn nalgylch Afon Tywi.

Mae hwn yn dal yn y cyfnod datblygu cynnyrch ar hyn o bryd. Gobeithir y gellir datblygu'r dechnoleg newydd i'w ddefnyddio ar ffermydd unigol er mwyn gwahanu dŵr o'r slyri, fel mai’r unig sgil-gynnyrch yw dŵr wedi’i buro a gwrtaith organig sy'n debyg i ddail iard fferm o ran ansawdd.

Y gobaith yw y gellir datblygu'r dechnoleg newydd i'w defnyddio ar ffermydd unigol, a gallai hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i nifer y digwyddiadau o lygredd slyri sy'n effeithio ar Afon Tywi yn y dyfodol.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.