Mae hyn yn rhan o’n gwaith i reoleiddio Llyn Tegid dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 a’n rhan o raglen ehangach o waith parhaus sy’n ymwneud â diogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.
Mae Llyn Tegid yn cael ei archwilio’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ddiogel. Yn ystod yr archwiliad diwethaf, nodwyd rhai pwyntiau ynglŷn â pha mor ddigonol yw’r gwrthgloddiau i wrthsefyll digwyddiadau eithafol.
Er nad oes pryderon uniongyrchol, rydym yn ymchwilio ffyrdd o sicrhau fod y strwythurau yn gallu gwrthsefyll yn y tymor hir.
Efallai eich bod wedi sylwi ar arolygon tir, ecoleg, a thopograffeg yn cael eu cwblhau ers i ni gysylltu â chi ddiwethaf. Eu diben oedd ein helpu i benderfynu sut i barhau, a chawsant eu rheoli mewn modd sensitif fel nad oeddem yn tarfu’n ormodol ar eich mwynhad o Lyn Tegid a’r ardal gyfagos.
Rydym yn gwbl ymwybodol o natur amgylcheddol sensitif yr ardal a’i phwysigrwydd i’r gymuned leol, ar gyfer gweithgareddau hamdden, a thwristiaeth. Bydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu hystyried yn llawn, a bydd cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn cael eu harchwilio fel rhan o’n gwaith.
Bellach, rydym yn meddu ar ddealltwriaeth well o hyd a lled y gwaith sydd angen ei gwblhau, ac yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio er mwyn i bobl ddysgu rhagor am y gwaith ac i ystyried eich syniadau a’ch anghenion chi wrth inni gynllunio’r gwaith mewn mwy o fanylder. Mae’r manylion i’w cael isod:
- Dyddiad: Mercher 18 Gorffennaf 2018
- Amser: 2 yh-7.30 yh
- Lleoliad: Canolfan Hamdden Penllyn, Y Bala, LL23 7SR
Mae’n anodd cynnig amserlen ar gyfer y prosiect cyfan yn y cyfnod cynnar hwn, ond mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn haf 2019. Bydd hyn yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio ac unrhyw ganiatâd arall allai fod yn hanfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach yn y cyfnod hwn, gadewch inni wybod drwy e-bostio
llyntegid@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gallwch ddarganfod rhagor am y gwaith hwn drwy ddarllen ein atebion i gwestiynnau cyffredin neu edrychwch ar ein Posteri Ymgynghori
Mae’r Cynllun hwn yn rhoi syniad o ble y bydd angen inni gynnal gwaith.