Afon Dyfrdwy

Prosiect gwerth £6.8 miliwn yw Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy i drawsnewid afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd, yn benodol gwella niferoedd yr eogiaid, lampreiod a misglod perlog i'w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km2. Mae'n un o'r afonydd mwyaf rheoleiddiedig yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

O'i rhagnentydd yn ucheldiroedd Eryri, mae afon Dyfrdwy yn disgyn drwy Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ar ôl llifo drwy gwm eang i Gorwen, mae'n disgyn i'r dwyrain drwy fro odidog Llangollen, o dan Safle Treftadaeth y Byd enwog Dyfrbont Pontcysyllte, cyn torri trwy droedfryniau Cymru ger Bangor Is-coed, ac yna'n ymlwybro i'r gogledd drwy Wastadedd Sir Gaer i'w chyfyngiad llanwol ger Caer.

Prif ddefnyddiau afon Dyfrdwy yw ffermio, yn benodol pori gwartheg a defaid; echdynnu dŵr i gyflenwi dŵr i 2.5 miliwn o bobl; twristiaeth, gan gynnwys genweirio hamdden, canŵio a mordwyaeth; a chadwraeth natur.

Y camau gweithredu rydym yn eu cymryd

  • diddymu cyfyngiadau ar ymfudo pysgod a chysylltedd ecolegol ehangach

  • adfer neu wella prosesau, nodweddion a chynefinoedd ffisegol afonol naturiol yn o leiaf 55 km o afon

  • gwella arferion rheoli tir amaethyddol a choedwigaeth i leihau mewnbwn maethynnau a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig

  • cychwyn ar waith rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol

  • sefydlu a meithrin perthnasau cadarnhaol tymor hir gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod cyfnod y prosiect ac ar ôl hynny

Gwaith cadwraeth

Ymfudo pysgod

Byddwn yn diddymu pum cored yn llawn neu'n rhannol yn afon Dyfrdwy a’i hisafonydd ac yn gosod ysgolion pysgod mewn chwe chored arall. Bydd hyn yn cynyddu mynediad i'r pysgod ac yn gwella hydromorffoleg yn 33 km o afon, a fydd yn fanteisiol i'r holl gynefinoedd a rhywogaethau.

Adfer yr afon

Byddwn yn gwella cynefinoedd mewn rhan o’r afon dros 6 km o hyd, gan gynnwys ychwanegu mwy na 4,000 tunnell o raean, 4,500 tunnell o gerrig mawr, a 1,000 tunnell o ddeunydd pren.

Bydd o leiaf 35 km o dir ar hyd y glannau yn cael ei adfer drwy bori a reolir, ffensys a phlannu, a bydd 2 km o amddiffynfeydd glannau ac argloddiau artiffisial hanesyddol yn cael eu gwaredu neu eu torri.

Rheoli tir

Byddwn yn gwella seilwaith coedwigaeth drwy osod dwy groesfan afon a rhwystro 21 o gwlferi draeniau coedwigaeth, a fydd yn lleihau'r perygl o lygredd mewn 600 hectar o goedwigaeth yn nalgylch yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

Drwy weithio'n agos gyda ffermwyr, byddwn yn helpu i wella arferion amaethyddol i leihau mewnbwn maethynnau, cemegion a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig.

Rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol 

Gan ddefnyddio stoc misglod perlog afon Dyfrdwy, byddwn yn magu mewn caethiwed a rhyddhau misglod perlog ifanc i gynefin addas, gan felly gynyddu poblogaeth yr afon ddengwaith cymaint. Byddwn yn parhau gyda'r rhaglen hon ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau nes bod y boblogaeth yn cael ei hailsefydlu.

Gweithio gyda'n cymuned leol

Bydd y cymunedau sy'n byw ar hyd afon Dyfrdwy a Llyn Tegid wrth wraidd y prosiect. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phobl leol i sicrhau eu bod yn deall gwerth biolegol, cymdeithasol ac economaidd y cynefinoedd a rhywogaethau, yr afon a'r Ardal Cadwraeth Arbennig o safbwynt eu pwysigrwydd hanesyddol a phresennol. Ein gobaith yw y byddant yn teimlo mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb cymunedol dros afon Dyfrdwy ac yn sicrhau bod etifeddiaeth y prosiect yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan cymaint â phosib drwy gynnal dros hanner cant o ddigwyddiadau yn ystod oes y prosiect, gan gynnwys teithiau ar hyd yr afon a sgyrsiau amdani, gweithdai, diwrnodau agored, a gŵyl afon un diwrnod.

Canlyniadau'r prosiect

  • adfer prosesau a morffoleg afonol naturiol

  • cynefinoedd a rhywogaethau wedi’u symud tuag at statws cadwraeth ffafriol

  • gostyngiad mewn llygredd yn yr afon gyda manteision ar gyfer bioamrywiaeth a dŵr yfed

  • gwella poblogaethau eogiaid a physgod eraill

Dysgu mwy am ein prosiect

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

Chwiliwch @LIFEAfonDyfrdwy ar FacebookTwitter ac Instagram

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr chwarterol

Rhifyn 3, Haf 2021
Rhifyn 2, Gwanwyn 2021
Rhifyn 1, Gaeaf 2020

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

CNC yn lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy gwerth £6.8 miliwn
Tynnu’r gored fawr gyntaf fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Deorfa Bysgod Rithwir LIFE Afon Dyfrdwy

Gwyliwch ein fideos

Beth yw Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy?
Lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Tynnu cored Afon Tryweryn
Portffolio fideo

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, neu i gysylltu ag aelod o'r tîm, e-bostiwch lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyllid

Ariennir prosiect LIFE Afon Dyfrdwy (LIFE18 NAT/UK/000743) gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru a Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Medi 2019, yn cael ei gynnal tan fis Rhagfyr 2024.

Diweddarwyd ddiwethaf