Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Mae perygl mawr o lifogydd yn Ninas Powys oherwydd diffyg capasiti Afon Tregatwg ac East Brook i gario llifau uchel yn ystod stormydd glaw trwm.

Rydym wedi archwilio'r dalgylch cyfan er mwyn pennu'r perygl llifogydd presennol, wedi edrych yn ofalus ar yr achosion a'r datrysiadau posibl i'r broblem llifogydd, ac wedi asesu pob opsiwn o ran ei fuddion a'i risgiau, gan ystyried ffactorau technegol, amgylcheddol, cymdeithasol a chost pob un.

Rydym wedi ymgynghori â phartneriaid amrywiol ar hyd y ffordd, ond gwerthfawrogwn mai trigolion a busnesau Dinas Powys fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan y cynigion. Rydym eisiau eich barn ar yr opsiynau hyn er mwyn llywio ein penderfyniadau, felly mae'n bwysig eich bod yn dweud eich barn wrthym ac yn llenwi'r ffurflen adborth ac yn ei dychwelyd atom. Nid yw union fanylion pob opsiwn wedi'u datblygu'n llawn eto, ac mae lle i newid rhai elfennau o bob opsiwn er mwyn gwella ei swyddogaeth a lleihau ei effaith.

Dyma'r opsiynau yr ydym wedi'u hystyried.

​Waliau llifogydd trwy Ddinas Powys

Byddai'n rhaid i ni adeiladu waliau llifogydd ar y ddwy gefnen ar hyd 2.5km o'r afon drwy Ddinas Powys er mwyn cadw'r llifau i mewn a rheoli'r perygl llifogydd yn y pentref. Byddai'r waliau'n amddiffyn cartrefi rhag llifau uchel a fyddai ag 1% o siawns o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Byddai'r waliau llifogydd yn cael eu hadeiladu yng ngerddi tai ac ar hyd ymylon St Cadoc's Avenue. Byddai'r waliau wedi'u gwneud o goncrit a waliau pentyrru, cyn eu gorchuddio â brics. Byddent yn rhai uchel, fel arfer tua 1m o uchder, ond hyd at 1.5m o uchder mewn rhai mannau, a byddai'n rhaid iddynt gydweddu â nifer o strwythurau sy'n bodoli eisoes, fel pontydd ac argloddiau rheilffordd, a allai hefyd fod angen eu huwchraddio neu osod o leiaf pedair pont newydd. 

Buddion: Mae waliau'n effeithiol o ran atal llifogydd hyd at y safon amddiffyn (1% o siawns mewn unrhyw flwyddyn).

Risgiau: Byddai'r opsiwn hwn yn gofyn am waith adeiladu sylweddol, a byddai'n tarfu'n fawr ar lawer o gartrefi a chanol y pentref. Byddai hefyd effaith sylweddol ar sianel naturiol yr afon a'i chynefin. O'r opsiynau sy'n cael eu hystyried, hwn fyddai â'r ôl-troed carbon mwyaf i'w adeiladu.

Cynnal a chadw sianel yr afon drwy Ddinas Powys

Mae cynnal a chadw'r sianel yn ymwneud ag archwilio a chlirio sianel yr afon o rwystrau a chroniadau ar wely'r afon yn rheolaidd, gan gynnwys treillio. Byddai hyn yn gwella'r trawsgludiad er mwyn lleihau lefelau'r dŵr yn Ninas Powys oddeutu 4cm, ond ni fyddai hyn yn lleihau'r perygl llifogydd rhyw lawer.

Buddion: Byddai cynnal a chadw'r sianel yn cynyddu gallu'r afon i lifo ychydig.

Risgiau: Byddai cael gwared ar groniadau yn sianel yr afon yn rheolaidd yn effeithio ar gyflwr naturiol yr afon a'i hecoleg.

Gallu eiddo i wrthsefyll llifogydd

Ni chredir bod amddiffynfeydd eiddo unigol (fel llifddorau / rhwystrau llifogydd a gorchuddion twll awyr) yn briodol ar gyfer y nifer sylweddol o gartrefi sydd mewn perygl uchel o lifogydd. Mae dyfnder a chyflymder llifogydd yn peryglu bywydau, ac ni fyddai'r opsiwn hwn yn mynd i'r afael â'r broblem, oherwydd byddai dŵr llifogydd yn parhau i lifo trwy strydoedd y pentref. Yn nodweddiadol, mae gan fesurau i alluogi eiddo i wrthsefyll llifogydd oes gynllunio o 20 mlynedd, felly byddai angen eu newid mewn 20 mlynedd.

Buddion: Ni fyddai cymaint o darfiad ar y cartrefi hynny mewn perygl llifogydd sy'n cael budd amddiffynfeydd llifogydd.

Risgiau: Nid yw mesurau o'r fath yn amddiffyn cartrefi yn llwyr, oherwydd gall difrod barhau i ddigwydd drwy gael eu hamgylchynu gan ddŵr llifogydd. Efallai na fydd pob eiddo eisiau mesurau o'r fath, nac yn eu cynnal a chadw a'u gweithredu'n briodol, a gallai hyn roi cartrefi teras cysylltiedig mewn perygl o ddifrod, felly mae perygl na fydd modd arbed pob eiddo rhag llifogydd. Fel arfer, nid yw adeiladau allanol, fel garejis a siediau, a'u cynnwys yn cael eu hamddiffyn. Byddai ffyrdd o dan ddŵr o hyd, gan beri tarfiad a pheryglu bywydau pobl.

 Llun o blaen ty gyda rhwystrau llifogydd wedi eu gosod ar y drws, garej a fent aer, gyda llifddwr hanner ffordd i fyny'r rhwystrau

Sianel lleihau llifogydd East Brook

Byddem yn adeiladu sianel ychwanegol newydd i'r afon neu gwlfer newydd ar yr East Brook er mwyn cynyddu'r llif ar gyfer llifogydd pan fo maint sianel bresennol yr afon yn rhy fach. Byddai'n sianel/cwlfer newydd yn dechrau'n syth i fyny'r afon o'r cwlfer rheilffordd presennol, gan ymestyn i Afon Tregatwg yn St Cadoc's Avenue.

Buddion: Llai o berygl llifogydd i ychydig o gartrefi lleol. Cyfle i gynnwys gwaith creu cynefin gwlyptir yn y dyluniad.

Risgiau: Cost uchel gan ystyried faint o gartrefi a fyddai'n cael eu hamddiffyn, nid yw'n lleihau'r perygl llifogydd i'r pentref ehangach o Afon Tregatwg, a byddai angen gwaith peirianyddol mawr.

Rheoli llifogydd yn naturiol

Ymchwiliwyd i amrywiaeth o fesurau rheoli llifogydd yn naturiol ledled y dalgylch. Canfu'r ymchwiliad hwn mai'r opsiwn mwyaf effeithiol i reoli llifogydd yn naturiol oedd adeiladu cyfres o argaeau gollwng dŵr o fewn y sianeli anarferol o fawr presennol i fyny'r afon o East Brook ger Heol Caerdydd, a fyddai'n arafu'r llif er mwyn lleihau lefelau uchaf yr afon a llifogydd i lawr yr afon yn y pentref.

Gallai rheoli llifogydd yn naturiol ar hyd dalgylch Afon Tregatwg, i'r gogledd o Ddinas Powys o gwmpas Llanfihangel-y-pwll yn bennaf, leihau'r llifau uchaf rhwng 10% a 15%. Byddai hyn dim ond yn darparu gostyngiad bychan yn y perygl llifogydd, ac nid yw'n cyd-fynd â'r cynnydd rhagweledig o 30% mewn llifau uchaf o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd.

Mae rheoli llifogydd yn naturiol yn East Brook, i fyny'r afon o Ddinas Powys, yn parhau i fod yn opsiwn.

Buddion: Llai o berygl llifogydd ac opsiwn naturiol a chynaliadwy sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol. Cyfle i wella cynefinoedd ac ansawdd y dŵr i fyny'r afon.

Risgiau: Gall mesurau rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn lleihau perygl llifogydd wyro o'r dyluniad gydag amser o ganlyniad i brosesau naturiol. Byddai angen cytundebau tirfeddianwyr hirdymor i adeiladu a gweithredu'r mesurau, ochr yn ochr â gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Map ddelwedd o Eastbrook yn dangos nant East Brook yn ystumio trwy caeau gyda lleoliadau bras y rhwystrau rhidyllog

Man storio llifogydd i fyny'r afon

Adeiladu arglawdd o dir glaswelltog ar draws y cwm, rhwng Coed Cwm George a Choed Case Hill, gydag Afon Tregatwg yn pasio trwy gwlfer, er mwyn storio dŵr dros dro i fyny'r afon o Ddinas Powys yn ystod storm. Byddai'r arglawdd oddeutu 120m o hyd ar draws y cwm, 60m o led, a 3.5m o uchder uwchben lefel bresennol y cae. Byddai gan yr arglawdd gopa 4m o led gyda llethrau bychain sy'n ymdoddi i mewn i'r cwm. Byddai'r arglawdd yn cael ei ddylunio i basio'r llwybr troed cyhoeddus presennol i fyny ato a throsto.

Buddion: Datrysiad effeithiol i leihau perygl llifogydd yn Ninas Powys, gan ddefnyddio gorlifdir naturiol i storio dŵr. Ychydig iawn o darfiad fyddai i lwybrau trafnidiaeth yn ystod y gwaith adeiladu. Cyfle i gynnwys gwaith creu cynefin gwlyptir yn y dyluniad.

Risgiau: Yn anffodus, byddai adeiladu'r arglawdd yn arwain at golli coetir, yn enwedig lle bydd yr arglawdd yn cysylltu ag ochrau'r cwm. Byddai cyfran o hwn yn goetir hynafol (oddeutu 350m2), sy'n werthfawr dros ben ac yn unigryw.

Mae'r man storio'n debygol o fod o dan ddŵr llifogydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, a byddai llifogydd o'r fath yn cymryd oddeutu wyth awr i ddraenio ar ôl cyfnod o lifogydd. Byddai stormydd trwm a llai aml, nad ydynt yn debygol o ddigwydd yn ystod y mwyafrif o flynyddoedd, yn golygu dŵr llifogydd dyfnach, hyd at 3.5m, yn y man storio, a fyddai'n cymryd oddeutu 24 awr i ddraenio ar ôl cyfnod o lifogydd.

Mae'n bosibl y bydd y croniad hwn o ddŵr llifogydd yn effeithio ar y coetir ac ar gynefinoedd eraill. Rydym wrthi'n asesu'r mater hwn i bennu faint o effaith sy'n debygol ac a oes modd ei hosgoi neu ei lleihau. Mae pwyslais penodol yn cael ei roi ar amddiffyn coetir hynafol, yn ogystal â Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur Coed Clwyd-gwyn a Choed Case Hill. Mae hefyd angen ymchwilio ymhellach i'r effaith ar rywogaethau a allai fod yn bresennol neu'n defnyddio'r cynefinoedd hyn.

Ni fyddai'r ardal amwynder bwysig hon yn cael ei cholli drwy'r gwaith, oherwydd gellir rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod y llwybr troed cyhoeddus presennol yn parhau i fod yn hygyrch a bod modd ei ddefnyddio yn ystod y rhan helaeth o lifogydd. Bydd llwybrau troed ac ardaloedd mynediad agored penodol yn cael eu heffeithio yn ystod stormydd pan fydd yr ardal storio llifogydd dan ddŵr. Ni fyddai'r cwm dan ddŵr mor uchel i fyny'r afon â Llanfihangel-y-pwll, felly ni fyddai cartrefi a ffyrdd yma yn cael eu heffeithio.

Mae'r ardal yn enwog am ei phwysigrwydd hanesyddol a'i thirwedd. Byddai tirwedd ddeheuol y cwm yn cael ei newid drwy gyflwyno arglawdd. Gallai hyn gael effaith niweidiol ar y dirwedd gyfredol a lleoliad nodweddion hanesyddol pwysig. Byddai'r arglawdd yn cael ei gynllunio mewn modd a oedd yn sensitif i'r nodweddion hyn.

Mae hefyd yn bosibl y byddai prosesau naturiol yr afon yn cael eu heffeithio, oherwydd gallai'r cwlfer newid llif a phrosesau cludo gwaddod, a allai, o ganlyniad, effeithio ar bysgod, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, macroffytau a ffytobenthos. Mae angen astudiaethau pellach i bennu a fydd effaith niweidiol ar brosesau’r afon neu a ellir dylunio’r cwlfer mewn modd a fyddai’n eu hystyried neu’n eu gwella.  

Byddai adeiladu’r arglawdd yn gofyn am gytundeb tirfeddianwyr hirdymor, yn ogystal â chytundeb i foddi’r cwm i wahanol raddau yn ystod stormydd tebygol amrywiol.

 Delwedd Artist o'r arglawdd yn y ardal storfa llifddwr

Opsiynau cyfunol

Ardal storio llifogydd llai o faint a waliau llifogydd trwy Ddinas Powys

Y dewis o ardal storio llifogydd llai o faint i fyny’r afon o Ddinas Powys, ynghyd â waliau llifogydd is drwy’r pentref. Rydym yn edrych ar y cyfuniad hwn ymhellach i weld a ellir ei optimeiddio i leihau effeithiau’r ddau opsiwn, felly byddwn yn darparu rhagor o fanylion maes o law.

Buddion: Bydd waliau yn llai ymwthgar o bosibl mewn rhannau o’r pentref. Parhau i ddefnyddio gorlifdir naturiol i storio dŵr.

Risgiau: Byddai’r waliau’n ddrud a byddai’r gwaith adeiladu yn tarfu ar gartrefi ac ar y pentref. Byddai’r ardal storio llifogydd yn effeithio ar goetir, gan gynnwys coetir hynafol, fel yr amlinellwyd yn yr opsiwn storio llifogydd annibynnol. Gellid lleihau’r effaith o bosibl o’i chymharu ag ardal storio llifogydd mwy o faint.

Waliau llifogydd drwy Ddinas Powys, ynghyd â rheoli llifogydd yn naturiol Afon Tregatwg

Yr opsiynau o waliau llifogydd drwy’r pentref, ynghyd â rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch Afon Tregatwg i fyny’r afon, megis gydag argaeau gollwng dŵr.

Buddion: Bydd waliau’n llai ymwthgar mewn rhannau o’r pentref a byddant yn parhau i fod yn effeithiol o ran atal llifogydd hyd at y safon amddiffyn y bwriadwyd. Defnyddio prosesau naturiol i reoli perygl llifogydd yn y dalgylch uchaf. Cyfle i gynnwys gwaith creu cynefinoedd.

Risgiau: Nid yw’r mesurau rheoli llifogydd naturiol yn lleihau’r llifau uchaf i fyny’r afon ddigon i leihau hydoedd ac uchderau’r waliau y byddai eu hangen yn sylweddol. Er enghraifft, nid yw mesurau o’r fath yn ddigon i ymdrin â’r cynnydd mewn llifau uchaf a ragwelir yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Byddai’r waliau’n ddrud a’r gwaith o’u hadeiladu’n tarfu ar gartrefi ac ar y pentref. Byddai angen cytundeb tirfeddianwyr hirdymor ar y mesurau rheoli llifogydd yn naturiol er mwyn adeiladu a gweithredu, ochr yn ochr â gwaith cynnal a chadw rheolaidd.

Man storio llifogydd a rheoli llifogydd yn naturiol Afon Tregatwg

Man storio i fyny’r afon rhwng Coed Cwm George a Choed Case Hill, gan reoli llifogydd yn naturiol i fyny’r afon yn nalgylch Afon Tregatwg.

Buddion: Mae’n ddatrysiad effeithiol i leihau’r perygl llifogydd yn Ninas Powys ac mae’n creu cynllun sy’n gweithio gyda phrosesau naturiol.   Cyfle i amrywio cynefinoedd ac ansawdd y dŵr i fyny’r afon. Cyfle i gynnwys gwaith creu cynefinoedd.

Risgiau: Ni fyddai rheoli llifogydd yn naturiol yn lleihau’r perygl llifogydd yn sylweddol ar Afon Tregatwg pan fyddai’n cael ei roi ar waith ochr yn ochr â man storio llifogydd. Y rheswm dros hyn yw bod mesurau o’r fath fel arfer dim ond yn darparu lle storio cymharol fach, lle y byddai man storio llifogydd yn storio llawer mwy o ddŵr llifogydd, felly ychydig iawn o wahaniaeth fyddai rheoli llifogydd yn naturiol yn ei wneud i gyfanswm cyfaint y dŵr a fyddai’n cael ei gludo i lawr yr afon o’r man storio llifogydd yn y pen draw.  

Byddai coetir, gan gynnwys coetir hynafol, yn parhau i gael ei golli er mwyn adeiladu’r arglawdd storio llifogydd.   Mae’r ardal storio’n debygol o gael ei foddi gan ddŵr llifogydd bas unwaith neu ddwywaith y flwyddyn am hyd at wyth awr ar y tro. Byddai stormydd trwm a llai aml yn golygu dŵr llifogydd dyfnach yn y man storio am hyd at 24 awr ar y tro. 

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.