Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Perygl Llifogydd

1. Nid yw Dinas Powys erioed wedi profi llifogydd. Pam rydych yn pryderu am leihau'r perygl o lifogydd?

Mae gan Afon Tregatwg hanes o lifogydd yn Ninas Powys.

Mae cofnodion yn dangos bod cartrefi ar St Cadoc's Avenue, Greenfield Avenue, Elm Grove Place a Heol Caerdydd wedi bod o dan ddŵr yn ystod llifogydd yn 1948, 1986, 1998, 1999 a 2008. Bu llawer o ddigwyddiadau eraill a osgowyd 'o drwch blewyn' hefyd, lle yr effeithiwyd ar dir a ffyrdd gan lifogydd ond nid eiddo, fel yn 1965, 1968, 1976, 1995, 2012 a 2013.

Rydym yn rhagfynegi bod gan 198 o gartrefi debygolrwydd o 1% o leiaf (neu un mewn 100) o brofi llifogydd o'r afon mewn unrhyw flwyddyn. Mae 95 o'r cartrefi hyn mewn perygl mawr, sy'n golygu bod ganddynt y tebygolrwydd mwyaf y byddant yn profi llifogydd.

Perygl llifogydd o afonydd

Nifer y cartrefi mewn perygl

Uchel

Tebygolrwydd o lifogydd yn uwch nag un mewn 30

(3.33%) bob blwyddyn

95

Canolig

Tebygolrwydd o lifogydd o rhwng un mewn 100 (1%) ac

un mewn 30 (3.33%) bob blwyddyn

198

Isel

Tebygolrwydd o lifogydd o rhwng un mewn 1,000 (0.1%)

ac un mewn 100 (1%) bob blwyddyn

495

 

2. Faint o gartrefi y gellid eu hamddiffyn yn well yn dilyn cwblhau cynllun?

Bydd y cynllun yn dileu'r perygl uchel o lifogydd i Ddinas Powys o'r afon yn gwbl gyfan, a'r rhan fwyaf o'r perygl canolig.

Perygl llifogydd o afonydd

Nifer y cartrefi mewn perygl

Uchel

Tebygolrwydd o lifogydd yn uwch nag un mewn 30

(3.33%) bob blwyddyn

0

Canolig

Tebygolrwydd o lifogydd o rhwng un mewn 100 (1%) ac 1 mewn 30 (3.33%) bob blwyddyn

4

Isel

Tebygolrwydd o lifogydd o rhwng un mewn 1,000 (0.1%) ac un mewn 100 (1%) bob blwyddyn

342

 

3. A yw Dinas Powys yn flaenoriaeth yng Nghymru? A fyddai'n well gwario'r arian yn rhywle arall, lle mae'r perygl yn uwch neu lle y bu llifogydd yn ddiweddar?

Rydym yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar risg ar gyfer ymchwilio i fuddsoddi mewn atal llifogydd ledled Cymru gyfan. Mae hyn yn cael ei lywio gan asesiadau cenedlaethol lefel uchel o berygl llifogydd a'r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl. Mae'r offerynnau hyn yn nodi'r cymunedau mwyaf agored i berygl llifogydd ledled Cymru, er mwyn inni ymchwilio iddynt yn fanylach. Ar hyn o bryd, mae Dinas Powys yn y 45ain safle o 2,210 o gymunedau yng Nghymru. Wedyn rydym yn cynnal prosiectau sy'n benodol i gymuned i ddeall y perygl o lifogydd yn gywir a nodi datrysiadau posibl. Rydym yn gwerthuso amrediad o opsiynau i nodi ffordd o reoli perygl llifogydd a ffefrir, gyda gwaith pellach yn cael ei gadarnhau drwy ddefnyddio cymhareb manteision i gost.

Pan fydd llifogydd yn digwydd, megis yn ystod Storm Callum ym mis Hydref 2018, rydym yn adolygu pam maent wedi digwydd a'r hyn y gallwn ei wneud yn eu cylch. Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar risg, felly byddai angen cymhareb manteision i gost i gyfiawnhau unrhyw waith.

4. A oes angen y cynllun oherwydd cartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu yn yr ardal yn ddiweddar (e.e. yng Ngwenfô)?

Nac oes. Dylai unrhyw ddatblygiad newydd gydymffurfio â Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) Llywodraeth Cymru. Mae’r nodyn hwn yn gwneud cyflwyno asesiad canlyniadau llifogydd yn ofynnol fel rhan o'r cais cynllunio ac mae'n rhaid iddo ddangos bod y datblygiad yn rheoli ei berygl llifogydd ei hun ac nad yw'n cynyddu'r perygl o lifogydd i eraill. Felly, ni ddylai tai newydd sydd wedi cael eu hadeiladu'n ddiweddar fod wedi cynyddu'r perygl o lifogydd i Ddinas Powys ac nid nhw yw'r rheswm dros y cynllun hwn.

5. A fydd y cynllun yn hwyluso adeiladu datblygiadau tai newydd yn ar ardal?

Na fydd. Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i leihau'r perygl o lifogydd i adeiladau yn Ninas Powys sydd eisoes yn bodoli. Manteision osgoi llifogydd i eiddo sydd eisoes yn bodoli yw'r prif gyfiawnhad dros y cyllid gan Lywodraeth Cymru.

6. Cafodd llawer o'r tai sy'n cael eu hamddiffyn eu hadeiladu ar y gorlifdir. Pam caniatawyd hyn?

Mae llawer o'r adeiladau sydd mewn perygl o lifogydd yn ddegawdau oed a chawsant eu hadeiladu cyn i gynllunio mwy trwyadl a mesurau rheoli perygl llifogydd fod yn gyffredin. Nid ydym yn credu ei bod yn briodol adleoli'r adeiladau sydd eisoes yn bodoli o'r ardal lle ceir perygl o lifogydd, felly rydym yn rheoli’r perygl o lifogydd iddynt drwy ddulliau eraill.

Opsiynau ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

7. Pa opsiynau rydych wedi'u hystyried i leihau'r perygl o lifogydd i Ddinas Powys?

  • Cael gwared ar Bont Cross Common Road – Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael gwared ar y bont, a bydd hyn yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd
  • Muriau llifogydd – Adeiladu 2.5km o furiau llifogydd newydd ar hyd dwy lan Afon Tregatwg ac East Brook i reoli perygl llifogydd yn Ninas Powys. Byddai’r muriau hyd at 1.5m o uchder ac fel arfer byddent dros 1m o uchder. Mae llawer o gymhlethdodau a risgiau i'r gwaith hwn, fel adeiladu drwy erddi amryw dirfeddianwyr a cheisio cysylltu â phontydd sydd eisoes yn bodoli
  • Ardal storio dŵr llifogydd i fyny'r afon – Adeiladu arglawdd o bridd glaswelltog ar draws y cwm, rhwng Cwm George Woods a Casehill Woods, gydag Afon Tregatwg yn pasio drwy gwlfer. Yn ystod storm, mae'r cwlfer yn rhwystro faint o ddŵr sy'n gallu llifo ar hyd yr afon ac i lawr yr afon i Ddinas Powys. Mae hyn yn peri i’r dŵr dros ben gronni a chael ei storio dros dro yn y cwm i fyny’r afon. Byddai'r arglawdd oddeutu 120m o hyd ar draws y cwm, 60m o led, a 3.5m o uchder uwchben lefel bresennol y cae. Byddai gan yr arglawdd gopa 4m o led gyda llethrau esmwyth i’w ymdoddi i'r cwm. Byddai'r arglawdd yn cael ei ddylunio i basio'r llwybr troed cyhoeddus cyfredol ato a throsto
  • Mur llifogydd ar St Cadoc's Avenue – Adeiladu mur yn 1.5m o uchder ar St Cadoc's Avenue, ond byddai'n amddiffyn chwe adeilad yn unig
  • Gwaith cynnal a chadw trwm ar sianeli – Cynyddu rhaglen cynnal a chadw sianel Afon Tregatwg o fewn Dinas Powys i wella’r gallu i gludo llifoedd llifogydd. Fodd bynnag, canfuwyd bod gwaith cynnal a chadw ar y sianel yn lleihau lefelau dŵr tua 4cm yn unig, ac felly nid yw'n lleihau maint y llifogydd na nifer yr adeiladau yr effeithir arnynt ond ychydig
  • Sianel lliniaru llifogydd ar East Brook – Adeiladu sianel afon ychwanegol newydd ar East Brook i ddarparu capasiti ychwanegol. Byddai'n anodd adeiladu drwy ganol y pentref a byddai’n lleihau'r perygl o lifogydd i adeiladau cyfagos yn unig
  • Mesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar East Brook – Ymchwiliwyd i amrediad o fesurau rheoli llifogydd yn naturiol ledled y dalgylch. Canfu'r ymchwiliad hwn mai'r opsiwn mwyaf effeithiol i reoli llifogydd yn naturiol oedd adeiladu cyfres o argaeau gollwng dŵr o fewn y sianeli gorfaint i fyny'r afon o East Brook ger Heol Caerdydd, a fyddai'n arafu'r llif er mwyn lleihau lefelau brig yr afon a llifogydd i lawr yr afon yn y pentref
  • Mesur rheoli llifogydd yn naturiol ar Afon Tregatwg – Mae gweithredu mesurau rheoli llifogydd yn naturiol, megis nodweddion gwanhau glawiad, plannu coed, a newid y ffordd y defnyddir tir i fyny'r afon o Ddinas Powys, yn lleihau'r perygl o lifogydd i'r pentref, ond nid i lefel dderbyniol. Gallai mesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar Afon Tregatwg leihau llifoedd brig tua 10–15%, ond ni fyddai hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd yn sylweddol ac nid yw'n cyd-fynd â'r cynnydd rhagweledig o 30% mewn llifoedd brig o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  • Gallu adeiladau i wrthsefyll llifogydd – Nid yw amddiffynfeydd eiddo unigol (fel rhwystrau llifogydd a gorchuddion awyrellau) yn briodol ar gyfer y nifer fawr o adeiladau sydd mewn perygl o lifogydd yn Ninas Powys. Mae perygl gweddilliol yn parhau i fod ac ni ellir osgoi'r holl ddifrod gan lifogydd. Nid yw'n lleihau dyfnder na chyflymder dŵr llifogydd yn y strydoedd drwy'r pentref, sy'n peri perygl i fywyd mewn rhai lleoliadau. Fel arfer, byddai angen newid mesurau gwrthsefyll llifogydd ar ôl 20 mlynedd ac mae eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar berchennog pob adeilad
  • Ardal storio dŵr llifogydd lai wedi'i chyfuno â muriau llifogydd drwy Ddinas Powys – Byddai'r opsiwn cyfunol o ardal storio dŵr llifogydd lai i fyny'r afon gyda muriau llifogydd is yn lleihau effaith yr ardal storio dŵr llifogydd ar y coetir hynafol, ond ni fyddai'n ei hosgoi. Ni fyddai'r muriau'n is nac yn fyrrach o lawer. Byddai'r opsiwn cyfunol hwn yn cynnwys y rhan fwyaf o gostau, risgiau ac aflonyddwch y ddau opsiwn unigol
  • Muriau llifogydd drwy Ddinas Powys wedi'u cyfuno â mesur rheoli llifogydd yn naturiol yn Nhregatwg – Ni fyddai mesur rheoli llifogydd yn naturiol yn lleihau llifoedd ond ychydig, felly byddai uchder a hyd y muriau a fyddai eu hangen yn parhau i fod yn sylweddol. Mae risgiau a chymhlethdodau'r ddau opsiwn, fel adeiladu muriau drwy erddi amryw dirfeddianwyr, yn parhau i fod
  • Ardal storio dŵr llifogydd wedi'i chyfuno â mesur rheoli llifogydd yn naturiol yn Nhregatwg – Byddai cyflwyno mesur rheoli llifogydd yn naturiol ar bwys ardal storio dŵr llifogydd yn lleihau manteision y mesur rheoli llifogydd yn naturiol. Mae hyn oherwydd bod y mesurau rheoli llifogydd yn naturiol sy'n bosibl yn y dalgylch hwn fel arfer yn arafu cyflymder y dŵr ffo am oriau yn unig, ac mae'r lle storio y maent yn ei ddarparu'n gymharol fach, felly nid ydynt yn lleihau cyfanswm cyfaint y dŵr sy'n cael ei gludo i lawr yr afon ond ychydig. Gan y byddai ardal storio dŵr llifogydd yn 'storio' llawer mwy dŵr llifogydd am gyfnod tebyg i'r mesurau rheoli llifogydd yn naturiol neu'n hwy, ni fyddai'r llif o'r ardal storio newid lawer

8. A yw Pont Cross Common yn cael ei symud?

Ydy, gan Gyngor Bro Morgannwg yn 2019. Mae'r perygl llai o lifogydd o ganlyniad i gael gwared ar y bont hon eisoes wedi caei ei ystyried yn ein hastudiaeth.

9. Oni fyddai clirio'r draeniau'n atal llifogydd?

Mae cynnal a chadw gylïau ffordd yn helpu i leihau llifogydd o ddŵr wyneb ond nid yw'n lleihau'r perygl o lifogydd o afonydd yr ydym yn ymdrin ag ef. Rydym yn ymdrin â dŵr sydd eisoes wedi mynd i'r sianeli afon yn y dalgylch i fyny'r afon ac yn llifo allan.

10. A ellid defnyddio amddiffynfeydd dros dro?

Oherwydd y dalgylch bach, serth, mae'r rhybuddion cywir rydym yn eu derbyn ymlaen llaw drwy ragfynegi llifogydd yn gyfyngedig, sy'n ei gwneud yn anodd inni reoli adnoddau a gosod amddiffynfeydd dros dro. Hefyd byddai hyd yr amddiffynfeydd dros dro a fyddai eu hangen (2.5km ar hyd y ddwy lan) yn gwneud eu gosod anodd, a byddai'n anodd iawn eu gosod drwy erddi pobl ac ar draws ffensys/waliau ffin.

11. Nid yw'r sianeli afon (Afon Tregatwg ac East Brook) yn cael eu cynnal a'u cadw'n aml ac maent yn cael eu blocio'n aml. A fyddai gwaith cynnal a chadw sianeli megis treillio yn helpu i leihau'r perygl o lifogydd?

Rydym wedi ystyried cynyddu'r gwaith cynnal a chadw ar y sianeli afon drwy Ddinas Powys, trwy glirio coed a llystyfiant, symud malurion a threillio silt, i wella trawsgludiad. Ychydig iawn yw'r gollyngiad i berygl llifogydd y mae ein modelu yn ei ddangos o ganlyniad i weithgareddau o’r fath, gan na fyddai treillio yn cynyddu capasiti’r afon ond ychydig, ac nid yn ddigon i leihau'r perygl o lifogydd yn sylweddol, felly nid yw'r opsiwn hwn ar ei ben ei hun yn ddichonadwy. Byddwn yn parhau i dynnu rhwystrau o'r afon pan fyddant yn digwydd ac yn cyfrannu at y perygl o lifogydd, felly rydym yn croesawu sylwadau gan bobl leol.

12.  A allech chi gael gwared ar Bont Cross Common a chwblhau'r gwaith ar wella gollyngfeydd llanwol yn y Barri a'r gwaith ar fesurau rheoli llifogydd yn naturiol yn East Brook, ac wedyn adolygu'r perygl o lifogydd?

Bydd cael gwared ar Bont Cross Common yn caniatáu i lifoedd uwch basio ac yn lleihau lefelau dŵr i fyny'n afon, gan leihau'r perygl o lifogydd. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwneud y gwaith hwn ac rydym wedi ystyried y perygl llai o lifogydd o ganlyniad i gael gwared ar y bont hon yn ein hastudiaeth.

Bydd gwella gollyngfa lanwol Afon Tregatwg yn cynyddu capasiti hydrolig yr ollyngfa lanwol bresennol i leihau'r perygl o lifogydd i ardal Gweunydd Sili yn sylweddol. Bydd yn amddiffyn 92 o adeiladau hyd at debygolrwydd o lifogydd o un mewn 100 (1%) yn Ardal Ddiwydiannol y Barri. Fodd bynnag, mae ein modelu hydrolig yn dangos nad yw'r gwelliant hwn yn cael unrhyw effaith ymhellach i fyny'r afon yn Ninas Powys oherwydd serthrwydd yr afon.

Mae'n bosibl y byddai mesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar East Brook yn lleihau llifoedd hyd at 50%. Byddai hyn yn amddiffyn 32 adeilad preswyl hyd at debygolrwydd o lifogydd o un mewn 100 (1%) yn nwyrain Dinas Powys.

Ni fydd yr un o'r opsiynau uchod yn lleihau'r perygl o lifogydd ar hyd Afon Tregatwg yng ngweddill Dinas Powys. Rhagfynegir hyn gan ein model hydrolig, y mae gennym lawer o hyder ynddo, ac mae’n cael ei ategu gan ddigwyddiadau llifogydd yn y gorffennol. Pe baem yn cwblhau'r gwaith uchod, byddai ein modelu'n parhau i ragfynegi'r un lefel o berygl llifogydd i Ddinas Powys a byddai'r adeiladau hyn yn parhau i fod mewn perygl uchel.

Dim ond muriau llifogydd ar hyd Afon Tregatwg neu ardal storio dŵr llifogydd i fyny'r afon o Ddinas Powys a fyddai’n amddiffyn y rhan fwyaf o'r 198 o adeiladau sydd mewn perygl uchel neu ganolig o lifogydd.

13. A ellid defnyddio mesurau rheoli llifogydd yn naturiol ar Afon Tregatwg yn lle'r ardal storio dŵr llifogydd?

Rydym wedi ymchwilio i opsiynau ar gyfer mesurau rheoli llifogydd yn naturiol sy'n storio dŵr llifogydd a'i ryddhau'n raddol, megis coedwigo, gwella strwythur y pridd a nodweddion gwanhau dŵr ffo, ond nid ydynt yn lleihau'r perygl o lifogydd yn ddigonol.

Mae'n bosibl y bydd mesurau rheoli llifogydd yn naturiol yn gallu lleihau llifoedd brig drwy Ddinas Powys 10–15%, sy'n ollyngiad bach yn unig. I roi hyn mewn cyd-destun, ni fydd hyn yn cyd-fynd â'r newid yn yr hinsawdd (glawiad yn cynyddu dros 30% yn y 100 mlynedd nesaf), felly ni allai mesurau o'r fath ddarparu gollyngiad tymor hir i nifer yr adeiladau sydd mewn perygl llifogydd.

14.  A effeithir ar yswiriant cartref?

Mae gwybodaeth ynglŷn ag yswiriant cartref ar gael ar wefan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Flood Re (www.nationalfloodforum.org.uk ac www.floodre.co.uk). Gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu gwybodaeth drwy Gais yn Ymwneud ag Yswiriant (gweler https://naturalresources.wales/flooding/what-to-do-before-a-flood/?lang=cy) ar gyfer unrhyw adeilad sy'n cael ei amddiffyn gan y cynllun i ategu cais am yswiriant cartref. Fodd bynnag, pob cwmni yswiriant unigol a fydd yn penderfynu a ddylai dderbyn bod y cynllun yn lleihau'r perygl o lifogydd yn ddigonol iddynt ddarparu yswiriant.

15.  Sut byddai'r cynllun hwn yn effeithio ar fapiau perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru?

Byddem yn diweddaru ein mapiau perygl llifogydd ar ôl i'r cynllun gael ei adeiladu, a byddai'n bosibl i aelodau'r cyhoedd a chwmnïau yswiriant gael mynediad atynt wedyn. Byddai hyn yn dangos yr ardaloedd sy'n elwa ar y cynllun arfaethedig a'r adeiladau sydd mewn perygl llifogydd llai. Mae'r map llifogydd cyfredol ar gael ar ein gwefan:

https://naturalresources.wales/evidence-and-data/maps/long-term-flood-risk/?lang=cy

Ardal Storio Dŵr Llifogydd – Effaith Llifogydd

16. Pa mor aml ac am faint o amser y byddai'r ardal storio dŵr o dan ddŵr?

Mae'n debygol y byddai'r ardal storio o dan ddŵr unwaith neu ddwywaith y flwyddyn am hyd at wyth awr ar y tro. Byddai stormydd trwm a llai aml yn golygu dŵr llifogydd dyfnach yn y man storio am hyd at 24 awr ar y tro yn ystod digwyddiad llifogydd sylweddol.

17.  A fyddai'n bosibl gwneud yr arglawdd yn llai?

Byddai'r arglawdd o bridd glaswelltog yn cael ei adeiladu ar draws y cwm rhwng Cwm George Woods a Casehill Woods i storio dŵr dros dro i'r gogledd yn ystod storm. Yn dibynnu ar union leoliad yr arglawdd, byddai tua 120m o hyd, 60m o led a 3.5m o uchder uwchben lefelau cyfredol y tir. Byddai gan yr arglawdd gopa 4m o led gyda llethrau esmwyth i’w ymdoddi i'r cwm.

Byddai'r arglawdd yn cael ei wneud mor uchel ag y bo modd gyda chymaint o le storio ag y bo modd, i leihau'r perygl o lifogydd i lawr yr afon cymaint ag y bo modd heb gynyddu'r perygl o lifogydd i adeiladau i fyny'r afon. Byddai lleihau uchder yr arglawdd yn lleihau cyfaint y lle storio sydd ar gael, ac o ganlyniad yn lleihau'r amddiffyniad i gartrefi. Mae gostwng lefel yr arglawdd yn lleihau cyfaint y dŵr llifogydd y gellir ei storio'n sylweddol. Er enghraifft, byddai lleihau'r uchder 1m yn haneru cyfaint y lle storio. Oherwydd llethrau serth y cwm, ni fyddai hyn yn arwain at leihau'r effaith ar y coetiroedd ar bob ochr yr arglawdd ond ychydig iawn.

18. A fyddai'r ardal storio dŵr llifogydd yn effeithio ar Heol Cwrt-yr-ala i Lanfihangel-y-pwll, gan fod dau leoliad sy'n profi llifogydd yn rheolaidd ar hyn o bryd?

Na fyddai. Mae'r ardal storio dŵr llifogydd yn estyn yn agos i'r ffordd ond ni fyddai'n cynyddu'r llifogydd arni. Byddem yn cynllunio'r ardal storio dŵr llifogydd i osgoi unrhyw effeithiau ar adeiladau neu seilwaith i fyny'r afon.

Effeithiau Amgylcheddol Posibl Storio Dŵr Llifogydd

19. Ym mha ffordd mae effeithiau amgylcheddol wedi cael eu hystyried?

Mae asesiad o'r effaith amgylcheddol yn cael ei integreiddio i'r gwaith o ddatblygu’r cynllun.

Mae nodweddion y cynllun arfaethedig, sensitifrwydd amgylcheddol y lleoliad, a natur yr effeithiau posibl i gyd yn cael eu hystyried yn ystod y gwaith o ddatblygu'r opsiwn a ffefrir. Bydd proses asesu’r effeithiau amgylcheddol yn parhau yn ystod cyfnod dylunio manwl y cynllun, pan fydd ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i a oes modd osgoi neu leihau effeithiau posibl, neu os bydd angen cyflwyno mesurau cydadferol ar ôl hynny.

20. A fyddai'r ardal storio dŵr llifogydd yn arwain at golli coetir hynafol?

Yn anffodus, byddai adeiladu'r arglawdd storio dŵr llifogydd yn arwain at golli oddeutu 2,000m2 o goetir, yn enwedig lle bydd yr arglawdd yn cysylltu ag ochrau'r cwm.   Byddai 350m2 o'r golled hon yn goetir hynafol, sy'n werthfawr dros ben ac yn unigryw. Rydym yn cydnabod arwyddocâd yr effaith hon, ac rydym wrthi'n ystyried yr holl opsiynau a mesurau'n drwyadl i leihau effaith yr opsiwn hwn. Os bydd yn cael ei ddewis, byddem yn ceisio lleihau effaith yr opsiwn hwn drwy adolygu a datblygu'r dyluniad manwl, ond, yn anffodus, byddai colli ychydig o goetir hynafol yn anochel.

Mae hefyd yn bosibl y byddai'r dŵr a fyddai'n cronni yn y man storio llifogydd yn ystod stormydd yn effeithio ar y coetir hynafol a'r coetir ehangach. Rydym yn cynnal asesiad ar hyn o bryd i gael dealltwriaeth well o debygolrwydd a maint yr effaith hon.

Pan na ellir osgoi colli coetir hynafol, byddem yn cyflwyno mesurau cydadferol, ond ni fyddai'r rhain yn gallu ailsefydlu'r cynefin a gollwyd yn uniongyrchol. Gallai hyn gynnwys adfer mannau eraill o goetir hynafol neu greu coetiroedd newydd.    

21. A fyddai'n bosibl lleihau effaith weledol yr arglawdd storio dŵr llifogydd?

Lleolir Cwm George o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Cwrt-yr-ala, sy'n cael ei chydnabod am ei thirwedd hanesyddol bwysig. Byddai dyluniad yr arglawdd yn ystyried hyn ac yn sensitif i dirwedd werthfawr yr ardal.

Byddai mesurau'n cael eu cyflwyno i sicrhau bod yr arglawdd yn cyd-fynd â'r dirwedd gyfredol. Er enghraifft, byddai'n laswelltog i leihau ei effaith weledol a byddai ei ochrau'n llethru'n esmwyth. Er y byddai angen defnyddio rhywfaint o goncrit a metel, fel waliau byr ar bob pen yr arglawdd, cwlfer sianel afon a sgrin ddiogelwch, byddai'r rhain yn cael eu tirweddu cymaint ag y bo modd. Gellid gwneud hyn drwy ddefnyddio cerrig lleol i wella eu golwg neu drwy eu sgrinio drwy blannu llystyfiant – er enghraifft, i leihau eu heffaith weledol.  

Byddai asesiad o'r effaith ar y dirwedd ac asesiad o'r effaith weledol yn cael eu paratoi a'u cyflwyno fel rhan o gais cynllunio.

22. Mae gan yr ardal hanes cyfoethog – a fyddai'r cynllun yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol?

Byddem yn lleoli'r ardal storio dŵr llifogydd y tu allan i'r ardaloedd dynodedig canlynol: Heneb Gofrestredig Castell Dinas Powys, Heneb Gofrestredig Gwrthglawdd Tyn-y-coed, Heneb Gofrestredig Gwrthgloddiau Dinas Powys, Ardal Cadwraeth Dinas Powys, a Thirwedd Gofrestredig Cwrt-yr-ala, sydd ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd yr ardal storio dŵr llifogydd yn cael effaith ar leoliad yr henebion cofrestredig. Bydd asesu pellach yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru’ yn cael ei gynnal i benderfynu a fydd y prosiect yn cael effaith ar y lleoliadau hyn, ac, os felly, a ellir cyflwyno mesurau i osgoi neu leihau effaith o'r fath.  

Mae hen ffrwd melin yn mynd heibio i ffin orllewinol caeau Cwm George, ac er nad yw wedi cael ei dynodi, mae'n nodwedd hanesyddol bwysig. Yn anffodus, byddai rhaid adeiladu rhan o'r arglawdd pridd dros ddarn 60m o'r ffrwd melin. Rydym yn bwriadu cysylltu ymhellach ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent ynghylch y mater ac ymgymryd â briff gwylio archeolegol. Bydd hyn yn sicrhau bod cofnod hanesyddol o'r hen ffrwd melin yn cael ei wneud, gan hefyd sicrhau nad oes unrhyw nodweddion archeolegol na wyddys amdanynt ar hyn o bryd.    

23. A yw'r effaith ar fywyd gwyllt wedi cael ei hystyried?

Mae Arolwg Cynefinoedd Cyfnod 1 Estynedig wedi cael ei gynnal. Cofnododd fod yr ardal yn cynnwys cynefinoedd coetir llydanddail, prysgwydd dwys a glaswelltir wedi'i led-wella. Mae'r coetir yn cynnwys Coed Clwyd-gwyn a Casehill Woods – y ddau ohonynt yn Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur. Amcangyfrifir y byddai ôl troed yr arglawdd yn arwain at golli 2,000m2 o goetir a 8,000m2 o laswelltir wedi'i led-wella. Mae asesu pellach yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i nodi'r effaith a fyddai'n codi yn sgil llifogydd dros dro yn ystod stormydd.   

Ystyrid bod gan y cynefinoedd a gofnodwyd yn yr Arolwg Cynefin Cyfnod 1 Estynedig y potensial i gynnal amrediad o rywogaethau gwarchodedig a nodedig. Mae'r rhain yn cynnwys ystlumod, pathewod, ymlusgiaid, adar, infertebratau daearol a dyfrgwn. Gwnaethom gynnal arolygon pathewod yn 2017, na wnaethant nodi unrhyw rai o fewn ardal yr astudiaeth (gosodwyd 94 tiwb samplu ar draws ardal fawr), er bod cofnodion yn nodi eu bod yn bresennol o fewn yr ardal ehangach.

Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn cynnal rhagor o arolygon i nodi a oes rhywogaethau gwarchodedig a nodedig eraill yn bresennol. Rhoddir sylw penodol i'r ardal o gynefin sy'n cael ei cholli o ganlyniad i adeiladu'r arglawdd. Yn unol â phroses asesu’r effeithiau amgylcheddol, os yw'r rhywogaethau hyn yn bresennol, byddem yn nodi mesurau lliniaru priodol a gwneud cais am y trwyddedau rhywogaethau perthnasol.

Mae'r afon hefyd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau pwysig o bysgod. Mae brithyllod, eogiaid yr Iwerydd, crethyll, llysywod, pennau lletwad, pilcod a gwrachennod barfog i gyd wedi cael eu cofnodi yn Afon Tregatwg. Yn ystod cyfnod dylunio manwl y cynllun, byddai'r cwlfer yn cael ei ddylunio i ganiatáu i bysgod barhau i fynd ar hyd Afon Tregatwg. Rydym hefyd yn cynnal gwaith ar yr ollyngfa lanwol yn y Barri i wella mynediad i'r afon ar gyfer pysgod mudol.

24. A fyddai'n bosibl defnyddio ardal Cwm George a'r llwybrau yn ystod y gwaith adeiladu?

Byddai mynediad cyfyngedig at ran o Gwm George yn ystod y gwaith adeiladu, gan y byddai'n safle adeiladu ac mae diogelwch y cyhoedd yn bwysig iawn inni. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod poblogrwydd a phwysigrwydd y llwybr hwn i bobl. Byddem yn cysylltu â swyddog hawliau tramwy cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg i nodi llwybrau dargyfeirio yn ystod y gwaith adeiladu, ac yn sicrhau bod y rhain mor fyr ag y bo modd a'u bod yn amharu ar bobl cyn lleied ag y bo modd.

25. A fyddai'n bosibl defnyddio ardal Cwm George ar ôl i'r arglawdd gael ei adeiladu a phan fydd yr ardal storio dŵr llifogydd yn weithredol?

Byddai'n bosibl defnyddio ardal Cwm George ar ôl i'r arglawdd gael ei adeiladu. Byddai'r arglawdd yn cael ei ddylunio i ganiatáu i’r llwybr troed sy’n hawl dramwy gyhoeddus basio drosto, gan sicrhau mynediad parhaus i'r cwm o'r pentref. Byddai llethr y llwybr troed cyhoeddus mor fas â phosibl a byddai’r arwyneb yn gadarn i annog mynediad i bawb.

Fodd bynnag, byddai rhywfaint o amharu yn ystod stormydd glaw trwm ac estynedig, pan fyddai’r man storio llifogydd yn dechrau storio dŵr llifogydd. Ni fyddai'n bosibl cael mynediad at lawr y cwm yn ystod y cyfnodau hyn, ond y tebygolrwydd o hyn yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn yw un mewn dau (50%), a byddai'n parhau am lai na 24 awr. Wrth inni ddatblygu'r prosiect, byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o leihau'r effaith hon ar hawliau tramwy cyhoeddus. Ymgysylltir â swyddog hawliau tramwy cyhoeddus Cyngor Bro Morgannwg ymhellach mewn perthynas â’r mater hwn, a byddwn hefyd yn ceisio cyfleoedd i wneud gwelliannau i’r llwybr yn ei gyfanrwydd.

26. Pa welliannau y byddech yn eu gwneud yn yr ardal?

Ynghyd â lleihau’r perygl o lifogydd, rydym hefyd yn ymchwilio i fesurau i wella llesiant pobl a’r amgylchedd. Mae rhai syniadau cychwynnol yn cynnwys creu cynefinoedd newydd i wella cysylltedd bioamrywiaeth, annog amffibiaid i gytrefu, a gwella cynefinoedd rhywogaethau a warchodir eraill, megis ystlumod, dyfrgwn, pathewod a llygod y dŵr.

Gallem hefyd wella mynediad ar gyfer y cyhoedd o fewn yr ardal drwy uwchraddio llwybrau troed a darparu gwybodaeth.

27. O beth fyddai’r arglawdd storio dŵr llifogydd yn cael ei wneud?

Byddai’r arglawdd yn cael ei wneud o bridd gludiol sy’n debyg i glai i atal dŵr rhag tryddiferu drwyddo. Byddai hwn yn cael ei orchuddio ag uwchbridd a glaswellt.

28. Pe bai deunyddiau ar gyfer yr arglawdd yn cael eu mewnfudo, sawl taith lori y byddai hyn yn eu cynnwys?

Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif y byddai lorïau yn gwneud hyd at 1,200 o deithiau i ddod â deunyddiau i adeiladu’r arglawdd.

29. Pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar draffig yn yr ardal?

Byddai hynny’n dibynnu ar o ble rydym yn cael y deunyddiau ar gyfer yr arglawdd. Pe baem yn eu mewnfudo o chwarel, byddai rhagor o lorïau yn gyrru i’r safle ac i ffwrdd yn ystod y gwaith adeiladu. Byddem yn ystyried amlder y teithiau lori hyn yn ystod y cyfod dylunio manwl, a byddem yn cyflwyno cynllun rheoli traffig gyda’n cais cynllunio. Byddai’r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddem yn rheoli’r mater hwn i leihau’r amharu ar drigolion. Fel arall, mae’n bosibl y byddem yn gallu palu pridd ar gyfer yr arglawdd yn y cwm, a byddai hyn yn lleihau nifer y teithiau lori.

30. Pa opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer mynediad at ddibenion gwaith adeiladu a chynnal a chadw?

Byddai mynediad at ddibenion gwaith adeiladu a chynnal a chadw yn dibynnu ar y cynllun terfynol a ffynhonnell y deunyddiau sydd eu hangen i adeiladu’r arglawdd. Ni fyddai gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol yn cael ei wneud yn aml ac, o’r herwydd, ni fyddai unrhyw amharu gweithredol yn sylweddol.

31. Pa oriau gwaith a fyddai’n cael eu caniatáu yn ystod y gwaith adeiladu?

Byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith adeiladau, felly byddai’r oriau gwaith yn cael eu pennu gan Gyngor Bro Morgannwg drwy’r broses gynllunio. Fel arfer, byddent rhwng 8am a 6pm ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cyswllt

32. Pa ymgynghori â’r cyhoedd sydd wedi cael ei gynnal?

Rydym am i’r gymuned leol, busnesau a rhanddeiliaid fod yn rhan o’r prosiect a’i gefnogi, i sicrhau ei fod yn llwyddo.

Gwnaethom gynnal digwyddiad galw heibio ym mis Tachwedd 2017 yn Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys i siarad â phobl am y perygl o lifogydd, yr opsiynau rydym yn eu hystyried i leihau’r perygl hwn, a manteision ac anfanteision pob opsiwn, ac i wrando ar eu safbwyntiau. Gwnaethom hefyd ofyn i bobl gwblhau ffurflenni adborth i adael inni wybod a oeddent wedi profi llifogydd a’r hyn roeddent yn ei feddwl am ein cynlluniau. Dywedodd rhai pobl a oedd yn byw yn yr ardal eu bod wedi profi llifogydd a’u bod yn cefnogi’r cynllun, tra oedd eraill yn pryderu am yr effaith ar yr amgylchedd, golygfeydd a mwynderau y gallai rhai o’r opsiynau ei chael.

Rydym yn bwriadu ymgysylltu â’r gymuned ymhellach drwy gydol y prosiect a byddwn yn defnyddio’r adborth rydym yn ei dderbyn i lywio’r opsiwn rydym yn ei ffafrio a llunio’r dyluniad manwl cyn cyflwyno cais cynllunio.

33. Â phwy y gallaf gysylltu os oes gennyf gwestiynau am y cynllun?

Cysylltwch â thîm Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Cynllun Llifogydd Dinas Powys i ofyn unrhyw gwestiynau:

dinas.powys@cyfoethnaturiol.cymru

neu drwy’r post yn:

Cynllun Llifogydd Dinas Powys, Llawr 1, Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

34.  Lle y gallaf gael mynediad at wybodaeth a diweddariadau?

Ewch i’n gwefan ar gyfer y prosiect: www.cyfoethnaturiol.cymru/dinaspowys

A ymunwch Grŵp Facebook Cynllun Llifogydd Dinas Powys:

Gallwch hefyd ddilyn Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @natreswales, Facebook: @natreswales

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.