Ewch i dudalennau newydd Cynllun Llifogydd Dinas Powys
Mae llawer o gartrefi a busnesau yn Ninas Powys a Sully Moors mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Tregatwg a East Brook.
Mae llifogydd wedi digwydd o’r blaen, yn fwyaf diweddar yn 2012, lle cafodd nifer o eiddo yn ardal dociau’r Barri eu heffeithio gan lifogydd.
Perygl Llifogydd
Mae dalgylch yr afon, er yn fach o ran natur, yn gymhleth gyda nifer o bethau yn achosi llifogydd. Er enghraifft, yn Ninas Powys, mae’r prif berygl o lifogydd yn cael ei achosi gan sianel yr afon sy’n medru cynnal llif uchel o ddŵr. Mae llifogydd yn cael ei achosi ar Sully Moors Road a’r ystâd ddiwydiannol gyfagos, gan rwystrau o fewn y sianel, sy’n cyfyngu’r llif.
Asesiad Llif
Rydym wedi cynnal astudiaeth modelu llifogydd i asesu perygl llifogydd o’r afon. Rydym yn rhagweld y bydd mwy na 300 o eiddo yn cael ei effeithio gan lifogydd gyda 1% siawns (1 mewn 100) y bydd hyn yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn. Dyna pam rydym wedi ystyried ystod eang o opsiynau i leihau’r perygl o lifogydd, ac asesu dichonoldeb pob opsiwn yn erbyn cyfyngiadau, megis technegol, amgylcheddol, cymdeithasol, cost a manteision.
Fe ddiystyrwyd nifer o opsiynau gan eu bod yn anaddas i leihau perygl llifogydd, tra bod eraill wedi cael eu hystyried yn addas a’u gosod ar restr fer. Mae gwaith ar y gweill i weld beth fyddai ymarferoldeb cyffredinol pob dewis ar y rhestr fer.
Pryd fydd y rhestr yn cael ei gyhoeddi?
Byddwn yn darparu crynodeb o’n hastudiaeth mewn cyfarfod cyhoeddus yn Hydref 2017, ac yn cyflwyno’r opsiynau a ystyriwyd a’r dewisiadau credwn i fod y mwyaf ymarferol i leihau perygl llifogydd.
Byddwn yn adolygu unrhyw adborth a gafwyd yn y sesiwn hon i ddiweddaru ymarferoldeb yr opsiynau. Yna bwriadwn gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru yng Ngaeaf 2017 ar gyfer nawdd i ddatblygu’r prosiect ymhellach.
Ymgynghoriad
Rydym am i'r gymuned leol, busnesau a rhandaliadau fod yn rhan o'r broses hon. Byddwn yn hysbysu diweddariadau yn rheolaidd ac yn gwrando ar eich barn mewn cyfarfodydd a digwyddiadau galw heibio.
Digwyddiad Galw heibio, Tachwedd 8, 2017, 2:00 yh - 7:30 yh yn Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys
Yn ein digwyddiad galw heibio cyntaf, rhoddwyd drosolwg ichi o'r risg llifogydd a'r opsiynau amddiffynnol. Eglurom ni fanteision ac anfanteision pob opsiwn, atebom ni eich cwestiynau a gwrando ar eich barn.
I gael mwy o fanylion am y cynllun, gweler y byrddau gwybodaeth a ddefnyddiwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 8 Tachwedd.
Adborth
Os hoffech roi eich barn ar y cynllun, cwblhewch y ffurflen adborth a'i anfon atom.
Cysylltwch â ni
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio cadoxton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.