Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig - Cylch gorchwyl penodol

Diben

Pwyllgor sefydlog Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig y cafodd ei sefydlu er mwyn cyflawni gwaith dirprwyedig fel pwyllgor statudol i ymdrin â chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â deddfwriaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur a thirweddau dynodedig. Yn arbennig, mae'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn ymdrin â hysbysu a dadhysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), datgan a dad-ddatgan Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, a'r ddyletswydd i adolygu harddwch naturiol Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn barhaus, a’u dynodi, eu hamrywio neu eu dirymu.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Diffiniad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yw ardal o dir a nodir gan gorff cadwraeth o dan adran 28 o’r Ddeddf honno fel un sydd

"o ddiddordeb arbennig oherwydd ei fflora, ffawna, neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol".

O dan adrannau 28(1) a 28(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), pan fydd Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn fod unrhyw ardal o dir o ddiddordeb arbennig, mae ganddo ddyletswydd i hysbysu'r ffaith honno ac, ar ôl hynny ac o fewn naw mis, naill ai roi rhybudd yn tynnu'r hysbysiad yn ôl neu'n cadarnhau'r hysbysiad (gyda diwygiadau neu hebddynt).

Yn ogystal, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau i amrywio hysbysiad, hysbysu tir ychwanegol, hysbysu ehangiad i SoDdGA a dad-hysbysu SoDdGA, a hynny drwy rinwedd adrannau 28A – 28D o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Diffiniad gwarchodfa natur yn adran 15 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yw tir a reolir er cadwraeth at ddiben

“darparu, dan amodau addas a dan reolaeth, gyfleoedd arbennig er mwyn astudio ac ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â fflora a ffawna Prydain Fawr a'r amodau ffisegol maent yn byw ynddynt ac er mwyn astudio nodweddion daearegol a ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig yn yr ardal, neu gynnal fflora, ffawna neu nodweddion geolegol neu ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig yn yr ardal".

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hawl i ddatgan a dad-ddatgan ardaloedd a fydd yn cael eu rheoli fel gwarchodfeydd natur – neu a fydd yn peidio â pharhau fel gwarchodfeydd natur – drwy rinwedd adran 19 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, a thrwy adran 35(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i ddatgan unrhyw warchodfa natur y mae'n ystyried ei bod o bwys cenedlaethol yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

O dan adran 35(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd), gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddatgan unrhyw dir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol os yw'n fodlon bod y tir o bwys cenedlaethol ac yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur dan gytundeb gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, bod y tir yn cael ei gadw gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn cael ei reoli fel gwarchodfa natur, neu ei fod yn cael ei gadw gan gorff cymeradwy ac yn cael ei reoli.

Harddwch naturiol

O dan adran 2(2), Swyddogaethau Cefn Gwlad, o Ddeddf Cefn Gwlad 1968, mae gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiadau parhaus o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • darpariaeth a gwelliant cyfleusterau er mwyn mwynhau cefn gwlad
  • cadwraeth a gwelliant harddwch ac amwynder naturiol cefn gwlad
  • yr angen i sicrhau mynediad cyhoeddus i gefn gwlad at ddibenion hamdden awyr agored

Yn gysylltiedig â hyn, o dan adran 85(b) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i ymchwilio i gwestiynau sy'n ymwneud â harddwch naturiol ac adrodd amdanynt.

Mae'r dyletswyddau cyffredinol hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y sail dystiolaeth i lywio penderfyniadau ar bwerau dynodi Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â Pharciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Parciau Cenedlaethol

Mae adran 5(2) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn rhoi'r pŵer i Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi rhanbarthau estynedig o gefn gwlad yng Nghymru fel Parc Cenedlaethol drwy rinwedd eu harddwch naturiol ac y cyfleoedd maent yn eu rhoi am hamdden awyr agored, gan ystyried eu nodweddion a'u lleoliad mewn perthynas â chanolfannau poblogaeth. Mae'n arbennig o ddymunol os ydynt yn cael eu dynodi'n Barciau Cenedlaethol at y dibenion canlynol:

  • cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dealltwriaeth a mwynhad o rinweddau arbennig yr ardaloedd hynny gan y cyhoedd

Mae adran 6(1) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 yn gwneud darpariaeth am ddyletswydd gyffredinol i Cyfoeth Naturiol Cymru o bryd i'w gilydd ystyried ardaloedd i'w dynodi, trefn y dynodiad a'r amserlen.

Oherwydd maint y goblygiadau sydd ynghlwm wrth ddynodi Parc Cenedlaethol newydd, mae angen i'r Bwrdd drafod a chymeradwyo asesiad cychwynnol o ran a yw ardal yn gymwys i gael ei hystyried i gael ei dynodi, a blaenoriaethau cynigion am ddynodi Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau. Caiff y dyletswyddau hyn eu dirprwyo i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau â'r broses dynodi statudol. Os bydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo unrhyw ymgynghoriad statudol o dan adran 7 o Ddeddf 1949, bydd yn cynnal ymgynghoriad o’r fath ac wedyn, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn penderfynu a ddylid cyflwyno gorchymyn dynodi i Weinidog Cymru ai peidio.

Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, dylai hysbysiad priodol gael ei roi fel sy'n ofynnol o dan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1949. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru geisio datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbyniwyd. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau, dylent gael eu hanfon gyda'r gorchymyn dynodi pan fo'n cael ei anfon at Weinidog Cymru. Gall Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ddewis dirprwyo'r swyddogaethau hyn i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.

Mae adran 11A o Ddeddf 1949 (fel y'i diwygiwyd) yn rhoi dyletswydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried dibenion cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardal gan y cyhoedd, wrth ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau sy'n effeithio ar y Parciau Cenedlaethol neu unrhyw dir mewn Parc Cenedlaethol.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Mae adran 82(2) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn rhoi'r pŵer i Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Dylai'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig drafod a chymeradwyo asesiad cychwynnol i ganfod a yw ardal yn gymwys i'w hystyried am ddynodiad AHNE newydd neu amrywiad ffin cyn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i fwrw ymlaen â'r broses dynodi statudol. Os bydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymeradwyo unrhyw ymgynghoriad statudol o dan adran 83 o Ddeddf 2000, bydd yn cynnal ymgynghoriad o’r fath ac wedyn, ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn penderfynu a fydd yn cyflwyno gorchymyn dynodi i Senedd Cymru ai peidio. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, dylai hysbysiad priodol fel sy'n ofynnol o dan adran 82(2) o Ddeddf 2000 gael ei roi. Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru geisio datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau a dderbyniwyd. Fodd bynnag, os nad oes modd datrys gwrthwynebiadau neu sylwadau, dylent gael eu hanfon ynghyd â'r gorchymyn dynodi pan gaiff ei anfon at Senedd Cymru. Gall Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ddewis dirprwyo'r swyddogaethau hyn i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.

Mae adran 85 o Ddeddf 2000 yn rhoi dyletswydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried diben cadw a gwella harddwch naturiol yr AHNE wrth ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â thir mewn AHNE neu sy'n effeithio arno.

O dan adran 86 a 91 o Ddeddf 2000, mae gofyn i Senedd Cymru ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru ar unrhyw orchymyn i sefydlu bwrdd cadwraeth ac ar swm unrhyw grantiau gan y Senedd i fwrdd cadwraeth.

Cwmpas

Gwneir penderfyniadau ar warchod tir ar sail y dystiolaeth a gyflwynir i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ac maent yn orfodadwy yn gyfreithiol.

Mae'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig hefyd yn cefnogi'r Bwrdd â'r Tîm Gweithredol drwy ddarparu cyngor ar waith achos strategol a materion ehangach sy’n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig. Yn benodol, mae'n darparu ffocws am drafodaethau'r Bwrdd ar faterion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys eu rôl wrth brif ffrydio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Cyfrifoldebau

Dyma gyfrifoldebau cyffredinol y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig:

  • Defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn unol ag egwyddorion arfer da a chanllawiau ar ddefnyddio cyngor gwyddonol.
  • Cefnogi'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol.
  • Cefnogi'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol drwy ddarparu ffocws am drafodaethau'r Bwrdd ar faterion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig, gan gynnwys eu rôl wrth brif ffrydio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Derbyn adroddiadau a sicrwydd ar y gwaith a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal y gofrestr ardaloedd gwarchodedig a sicrhau ei bod yn cael ei chyhoeddi a’i bod ar gael i'r cyhoedd ei gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Sicrhau bod aelodau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn cael eu briffio'n addas ac yn llawn ar unrhyw arweiniad cyfreithiol perthnasol o ran amgylchiadau pob safle.
  • Asesu unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol, gan fod yn ymwybodol fod penderfyniadau'n aml yn gofyn am asesiadau'n seiliedig ar y data neu dystiolaeth orau sydd ar gael, a allai fod yn gyfyngedig.
  • Derbyn adroddiadau a chyngor ar gyfraith achos sy'n berthnasol i gyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig.
  • Cynghori'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr ar bresenoldeb mewn achosion llys i amddiffyn penderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar warchod safleoedd drwy'r system gyfiawnder.
  • Ystyried Brexit a'r cyfnod pontio dilynol o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd i ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig a Chymru.

Caiff hyfforddiant ac arweiniad cyfreithiol priodol eu darparu i aelodau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig a'u diweddaru'n rheolaidd, a chedwir cofnod o hyn.

Dyma gyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau):

  • Sefydlu a mabwysiadu gweithdrefnau a safonau priodol yn ffurfiol i gwblhau’r gwaith a ddirprwyir gan y Bwrdd i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig o ran cyflawni cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cadarnhau, amrywio, ychwanegu at neu ehangu, a dadhysbysu SoDdGau wrth ystyried gwrthwynebiadau nad ydynt wedi cael eu datrys (gan gynnwys trefniadau ar gyfer ymgysylltu a chyfathrebu â pherchnogion, deiliaid a rhanddeiliaid perthnasol eraill o fewn yr amserlenni disgwyliedig ac yn unol â chyfraith achos).
  • Cynnal cyfarfodydd cyhoeddus sy'n ymwneud â safleoedd unigol yn unol â'r amserlen a nodir yn adran 28(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ar gyfer adolygu cynigion sy'n ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig.
  • Ystyried cynigion ar gyfer cadarnhau hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu SoDdGAau, gan gynnwys penderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw’r safle'n bodloni'r meini prawf, yn gymwys, ac yn briodol er mwyn hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu’r SoDdGA, gan ystyried gwrthwynebiadau heb eu datrys.
  • Ystyried cynigion ar gyfer cadarnhau dadhysbysu SoDdGAau, gan gynnwys asesu a phenderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw’r safle'n bodloni'r meini prawf sy’n golygu bod dadhysbysu’n briodol, gan ystyried gwrthwynebiadau sydd heb eu datrys.
  • Adolygu a phrofi unrhyw wrthwynebiad ar gyfer hysbysu, amrywio, ychwanegu at neu ehangu, neu dadhysbysu SoDdGA ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, gan achub ar y cyfle i gwestiynu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorwyr arbenigol a rhanddeiliaid fel y bo'n briodol.
  • Dod i farn ar a ddylai'r hysbysiad neu'r dadhysbysiad gael ei gadarnhau gyda diwygiadau neu hebddynt.

Wrth gymeradwyo cadarnhau unrhyw hysbysiad SoDdGA, gall y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig wneud y canlynol:

  • dileu agweddau ar y disgrifiad
  • dileu gweithrediadau o'r rhestr o weithrediadau sy'n debygol o ddifrodi diddordeb arbennig y safle, neu ddiwygio'r geiriad i'w wneud yn llai beichus
  • dileu ardaloedd o dir o'r SoDdGA lle nad ydynt bellach yn cefnogi unrhyw nodweddion o ddiddordeb arbennig

Wrth gymeradwyo cadarnhau unrhyw SoDdGA, ni all y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig ychwanegu'r canlynol:

  • unrhyw nodweddion arbennig
  • unrhyw weithrediadau sy'n debygol o ddifrodi diddordeb arbennig y safle
  • unrhyw agweddau newydd ar y datganiad rheoli
  • unrhyw dir i’r SoDdGA

Byddai unrhyw ychwanegiadau o'r fath yn gofyn am hysbysiad pellach ar gyfer y SoDdGA.

Mae cyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydlu a mabwysiadu gweithdrefnau a safonau priodol yn ffurfiol i gwblhau’r gwaith a ddirprwyir gan y Bwrdd i'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig o ran cyflawni cyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer datgan a dad-ddatgan Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
  • Ystyried cynigion ar gyfer datgan tir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol, gan gynnwys penderfynu, yn gyfan neu'n rhannol, a yw'r safle'n bodloni'r meini prawf, yn gymwys ac yn briodol i'w ddatgan.
  • Ystyried cynigion ar gyfer dad-ddatgan Gwarchodfa Natur Cenedlaethol gyfan neu ran ohoni a’i hailddatgan ar ôl hynny (er enghraifft, i alluogi'r gwaith o drosglwyddo swyddogaethau rheoli rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chorff cymeradwy presennol).
  • Ystyried cymeradwyo cynlluniau arfaethedig i ddad-ddatgan tir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Dyma gyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Barciau Cenedlaethol:

  • Cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru o ran ystyried dynodiad Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau Parc Cenedlaethol presennol.
  • Cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad statudol ar orchymyn dynodi drafft ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffin Parc Cenedlaethol presennol.
  • Os bydd gofyn, cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar a ddylid cymeradwyo cyflwyno gorchymyn dynodi a sylwadau ar gyfer dynodi Parc Cenedlaethol newydd neu amrywio ffiniau at Weinidogion Cymru er mwyn cael cadarnhad.

Dyma gyfrifoldebau'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig sy'n benodol i Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE):

  • Cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ystyried dynodi AHNE newydd neu amrywio ffiniau AHNE bresennol.
  • Cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar a ddylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad statudol ar orchymyn dynodi drafft ar gyfer AHNE newydd neu amrywio ffin AHNE bresennol.
  • Os bydd gofyn, cynghori Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar a ddylid cymeradwyo cyflwyno gorchymyn dynodi a sylwadau ar gyfer dynodi AHNE newydd neu amrywio ffiniau i Senedd Cymru er mwyn cael cadarnhad.

Cyfarfodydd

Fel arfer, mae'r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig yn cwrdd o leiaf tair gwaith y flwyddyn a byth yn llai nag unwaith y flwyddyn.

Aelodaeth

Caiff y canlynol eu gwahodd i ddod fel arfer:

  • cyfreithiwr ag arbenigedd priodol mewn cyfraith amgylcheddol i ddarparu arweiniad a chyngor cyfreithiol yn ystod y cyfarfod;
  • cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau
  • staff cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru ag arbenigedd ar y safleoedd penodol dan ystyriaeth yn y cyfarfod
  • eraill â gwybodaeth ac arbenigedd yn berthnasol i'r safleoedd penodol dan ystyriaeth yn y cyfarfod

Cylch gorchwyl cytunedig: Mai 2020

Dyddiad adolygu nesaf: Mai 2021

Diweddarwyd ddiwethaf