Mae’r Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ffurfio’r Is-Bwyllgorau a’r Grwpiau Cynghori canlynol:
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Ansawdd (ARAC)
Un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chefnogi’r Swyddog Cyfrifyddu ar faterion risg, stiwardiaeth ariannol ac atebolrwydd, rheoli a llywodraethu.
Catherine Brown yw Cadeirydd ARAC.
Pwyllgor Pobl a Thaliadau (PaRC)
Mae’r Pwyllgor Pobl a Thaliadau yn un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd. Mae’n ystyried materion yn ymwneud â chyflog ac amodau gwaith ein haen uchaf o staff ynghyd â strategaeth gyflog gyffredinol yr holl staff a gyflogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Zoë Henderson yw Cadeirydd PaRC
Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig (PAC)
Mae’r Prif Fwrdd wedi dirprwyo ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â gwrthwynebiadau i hysbysu ac ail-hysbysu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i’r Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig. Bydd y Pwyllgor yn cefnogi’r Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd llawn drwy ddarparu cyngor ar faterion ehangach yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig a gwaith achos strategol; bydd hefyd yn ganolbwynt i drafodaethau’r Bwrdd ar faterion yn ymwneud ag ardaloedd gwarchodedig yn cynnwys eu swyddogaeth ym maes prif ffrydio dull rheoli ar lefel yr ecosystem.
Howard C Davies yw Cadeirydd PAC.
Grŵp Cynghori Rheoli Perygl Llifogydd
Er nad yw’r Grŵp Cynghori hwn yn un o bwyllgorau sefydlog y prif Fwrdd, mae’n cyflawni nifer o swyddogaethau rheoli perygl llifogydd statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol ag Adran 106 Deddf Adnoddau Dŵr 1991.
Penodir y Cadeirydd yn annibynnol gan Weinidogion Cymru a Dr Elizabeth Haywood sy’n cyflawni’r rôl hon ar hyn o bryd. Penodir aelodau’r Grŵp Cynghori naill ai gan Weinidogion Cymru neu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad (FPPC)
Pwyllgor sefydlog y Bwrdd yw FPP. Ei brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a chynorthwyo’r Swyddog Cyfrifo wrth adrodd ar reoli arian, cynllunio busnes ac adrodd ar berfformiad, cynllun taliadau a materion masnachol.
Cadeirydd FPP yw Chris Blake