Y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad - Cylch gorchwyl penodol
Dylai'r cylch gorchwyl hwn gael ei ddarllen ar y cyd â'r cylch gorchwyl cyffredinol i holl bwyllgorau Cyfoeth Naturiol Cymru
Diben
Pwyllgor sefydlog yw'r Pwyllgor Cyllid, Perfformiad a Chynllunio a’i brif rôl yw cynghori'r Bwrdd a chefnogi'r Prif Weithredwr / Swyddog Cyfrifyddu ar adrodd am reoli ariannol, cynllunio busnes ac adrodd am berfformiad, y cynllun codi tâl a materion masnachol.
Cwmpas
Bydd y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, cynlluniau codi tâl a materion masnachol. Wrth wneud ei rôl, bydd y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfeiriad a datblygiad strategol, ond bydd hefyd yn chwarae rôl wrth graffu ar berfformiad a chyflawniad.
Bydd angen i'r Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad sicrhau wrth wneud ei rôl nad yw'n dyblygu rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yw cynghori'r Bwrdd ar risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu.
Cyfrifoldebau
Dyma gyfrifoldebau'r Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad:
- Darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu cynlluniau busnes blynyddol, cynlluniau corfforaethol (4-5 mlynedd) a gweledigaeth tymor hir (hyd at 2015) Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Darparu cyngor a chymorth i sicrhau datblygiad strategaethau, adroddiadau rheoli a chynlluniau ariannol priodol.
- Darparu trosolwg a gwaith craffu ar berfformiad ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ddatganiadau ariannol rheoli misol a chwarterol.
- Adolygu a chraffu ar yr Adroddiad Perfformiad sy'n cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.
- Darparu trosolwg a gwaith craffu ar berfformiad busnes Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Darparu cyngor a chymorth i'r Rhaglen Codi Tâl Strategol mewn perthynas â newidiadau i gynlluniau codi tâl presennol ac wrth ddatblygu cynlluniau newydd.
- Darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau masnachol.
- Darparu trosolwg a gwaith craffu ar y gwaith o gyflawni cynlluniau a pherfformiad masnachol.
- Darparu trosolwg a chyngor mewn perthynas ag ariannu aelodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.
Bydd ffocws pob cyfarfod, boed yn gyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, codi tâl, materion masnachol neu gyfuniad ohonynt, yn amrywio gan ddibynnu ar y materion y mae angen gwaith craffu neu gyngor arnynt.
Cylch gorchwyl cytunedig: Mai 2020
Dyddiad adolygu nesaf: Mai 2021