Cylch gorchwyl penodol y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth

Diben

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC) yn bwyllgor sefydlog a’i brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a darparu cyngor, her ac adolygiad annibynnol i’r Adran Gwybodaeth a Thystiolaeth, mewn cysylltiad â’i gyfeiriad strategol, a swyddogaethau tystiolaeth ehangach CNC.

Cwmpas

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cynghori Bwrdd CNC ynglŷn â rhaglenni tystiolaeth cymeradwy CNC a’r broses o’u rhoi ar waith, yn enwedig yng nghyswllt y cydbwysedd rhwng tystiolaeth strategol a gweithredol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a dealltwriaeth defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau a blaenoriaethau tystiolaeth. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb yn CNC yn cadw at yr egwyddorion a’r canllawiau a osodwyd yng nghanllawiau’r llywodraeth ganolog ar gael a defnyddio cyngor gwyddonol a chodau ymarfer perthynol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn rhoi sylw i’r holl ddulliau tystiolaeth a ddefnyddir yn CNC a’r holl ddisgyblaethau academaidd sydd eu hangen i ddarparu tystiolaeth ar gyfer ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yw:

  • hybu, ysgogi ac annog gwreiddio prosesau tystiolaeth, sicrhau ansawdd a chyflawni;
  • gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer tystiolaeth strategol a gweithredol sy’n cael ei nodi neu sy’n cael ei chyflwyno gan CNC;
  • tynnu sylw at ddulliau newydd o gyflwyno tystiolaeth a dulliau gweithredu arloesol i CNC;
  • gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynglŷn â chydbwysedd yn y portffolio tystiolaeth rhwng materion gweithredol a pholisi, ymatebion adweithiol a chytundebau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer dyrannu adnoddau yn y dyfodol;
  • cyflwyno adroddiadau i Fwrdd CNC ar ansawdd ac addasrwydd y broses dystiolaeth a chyflawni yn CNC;
  • hyrwyddo ar lefel Bwrdd y defnydd o astudiaethau’r dyfodol yn CNC, gan gynnwys rhagfynegi datblygiadau ym maes technoleg ac arloesi.
  • Gall y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth wneud datganiadau cyhoeddus, os oes angen, ar ôl i Fwrdd CNC dderbyn ei gyngor. Gellir defnyddio cyfathrebiadau mewnol i gefnogi neu hybu egwyddorion defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau gweithredol, tynnu sylw at feysydd o ddiddordeb, grwpiau gorchwyl a gorffen, a chanlyniadau allweddol o bob cyfarfod. Dylid anfon hysbysiadau mewnol cyn pen pythefnos ar ôl y cyfarfod.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Aelodaeth

Caiff y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth ei gadeirio gan yr aelod o Fwrdd CNC sydd â chyfrifoldeb am Dystiolaeth ac Arloesedd.

Bydd aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys ail aelod o Fwrdd CNC a thua wyth aelod allanol annibynnol, sydd ym marn y Cadeirydd ac arweinwyr CNC yn cynnig arbenigedd priodol.

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Mai 2020

Dyddiad yr adolygiad nesaf: Mai 2022

Aelodau o'r EAC

Professor Peter Rigby FRS, FMedSci

Hyfforddwyd Peter Rigby, sy'n aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn fiolegydd moleciwlaidd yng Nghaergrawnt a Stanford, California. Rhwng 1999 a 2011, roedd yn Brif Weithredwr y Sefydliad Ymchwil Canser, lle mae'n parhau i fod yn Athro Emeritws Bioleg Ddatblygiadol.

Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr The Company of Biologists, mae'n gwasanaethu yn rôl Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Ymddiriedol Sefydliad Babraham. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac Academi'r Gwyddorau Meddygol, ac yn Aelod o Sefydliad Bioleg Foleciwlaidd Ewrop.

Roedd Peter yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr y Wellcome Trust ac yn un o Ymddiriedolwyr Marie Curie. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Professor Steve Ormerod FCIEEM, FLSW, FRSB, CEcol

Mae Steve Ormerod, sy'n aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn un o ecolegwyr dŵr croyw cymhwysol mwyaf blaenllaw'r byd, ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau newid byd-eang ar afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd. Yn ddiweddar, mae wedi bod yn Gadeirydd Panel Cynghori ar yr Amgylchedd yr RSPB a Dŵr Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n cadeirio'r elusen infertebratau, Buglife. Mae'n Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n cydgyfarwyddo Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol.

Mae Steve hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd CNC.

Professor Gillian Bristow

Mae Gillian Bristow yn Athro Daearyddiaeth Economaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n Bennaeth newydd yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygiad economaidd a chydnerthedd sy'n seiliedig ar leoedd, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y modd y gall lleoedd ddatblygu cydnerthedd yn wyneb sioc economaidd a newid amgylcheddol. Mae wedi ysgrifennu'n eang ar faterion datblygu economaidd a chynaliadwyedd yng Nghymru, ac yn ddiweddar bu'n aelod o Gomisiwn UK2070, sef comisiwn annibynnol sy'n edrych ar y gwahaniaethau rhanbarthol mewn datblygiad economaidd ledled y DU. Mae'n gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Professor Gary R Carvalho, PhD FLS FRSB

Mae Gary Carvalho, ers tua thri degawd, wedi bod yn defnyddio marcwyr genetig i fynd i'r afael â chwestiynau ym meysydd ecoleg ac esblygiad. Gwneir ymdrech i ddangos gwerth offer moleciwlaidd ac amrywiaeth genetig fel cydrannau craidd rheolaeth amgylcheddol a chadwraeth bioamrywiaeth, yn enwedig ymhlith rhywogaethau sy'n cael eu hecsbloetio'n fasnachol. Ar ben hynny, mae wedi mynd ati trwy gydol ei yrfa i ymgysylltu â phrosesau llywodraethu a llunio polisïau er mwyn meithrin ymwybyddiaeth a chynnwys geneteg ym maes gwyddor yr amgylchedd. Y strategaeth sylfaenol fu esbonio'r sbardunau i newid genetig, ac yna gymhwyso dealltwriaeth o'r fath ym maes cadwraeth adnoddau genetig. Mae'n golygu erthyglau'r Evidence Synthesis ar gyfer y Gymdeithas Frenhinol, Llundain (PRSB). Mae wedi cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol yn genedlaethol (e.e. Pwyllgor Gwyddoniaeth Bioamrywiaeth y DU, y Panel Cynghori Gwyddonol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Paneli Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)), ac yn rhyngwladol (e.e. y Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO), y Comisiwn Ewropeaidd, y Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES)), ac, ar hyn o bryd, mae'n Athro Emeritws Ecoleg Foleciwlaidd, Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Cymdeithas Pysgodfeydd Ynysoedd Prydain.

Dr Hefin Jones

Mae cefndir academaidd Hefin mewn ecoleg gymunedol, yn enwedig entomoleg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ryngweithiadau rhywogaethau. Ar ôl astudio sŵoleg ac ecoleg ym Mhrifysgol Llundain, treuliodd dair blynedd yn Gymrawd Ymchwil Mentrau Newydd, gan weithio ar reoli plâu garddwriaethol mewn modd naturiol yn yr Orsaf Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Lysiau, fel y'i gelwid ar y pryd, yn Wellesbourne, Warwick. Ar ôl cyfnod byr yn datblygu systemau arbenigo cyfrifiadurol mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol (ADAS), dychwelodd i ymchwil maes, a hynny mewn ecoleg poblogaethau pryfed, cyn cael ei benodi'n Arweinydd Ymchwil i'r Prosiect Ecotron ym Mharc Silwood (y Coleg Imperial). Ac yntau wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn ymwneud ag ecoleg gymunedol coetiroedd a dŵr croyw. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Addysg Israddedig yr Ysgol.

Mae'n olygydd Global Change Biology a'r Agricultural and Forest Entomology, ac mae'n aelod o fyrddau'r Bulletin of Entomological Research, Population Ecology, Gwerddon a'r Traethodydd. Yn Ddeon cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hefyd ar hyn o bryd yn un o Gyfarwyddwyr y Coleg. Ac yntau'n Llywodraethwr Ysgolion yr Awdurdod Lleol ar gyfer dwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd, mae hefyd yn ymrwymedig i sicrhau bod y cyhoedd yn deall gwyddoniaeth, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cyfrannu'n aml at gyfryngau Cymru, ac yn 2018 dyfarnwyd iddo Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad. Mae hefyd yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Yr

Professor Susan Owens OBE, FBA

Mae Susan Owens yn Athro Emeritws yr Amgylchedd a Pholisi ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn Gymrawd Emerita o Goleg Newnham, ac yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig. Mae wedi ymchwilio a chyhoeddi'n eang ym maes llywodraethu amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar brosesau polisi mewn democratiaethau modern, cysylltiadau rhwng gwyddoniaeth a gwleidyddiaeth, a rôl gwybodaeth, tystiolaeth, syniadau ac arbenigedd ym maes ffurfio a newid polisi. Mae ei llyfr diweddaraf, Knowledge, Policy, and Expertise (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2015), yn darparu dadansoddiad manwl o arferion a dylanwad un o gyrff cynghori amgylcheddol hirsefydlog Prydain (sef y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol (RCEP), 1970–2011), ac yn mynd i’r afael â chwestiynau ehangach ynghylch rhyngweithiadau polisi-gwybodaeth. Mae ganddi brofiad helaeth o ymgysylltu â pholisi a chyngor: roedd yn aelod o'r RCEP (1998-2008) ac o Grŵp Cynghori ar Bolisi Gwyddoniaeth y Gymdeithas Frenhinol (2008-2013). Ar hyn o bryd, mae'n gwasanaethu ar Grŵp Arbenigol Gwyddorau Cymdeithasol Defra a'r Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Peryglus. Yn ddiweddar, roedd yn aelod o'r Panel ar gyfer yr adolygiad annibynnol a oedd yn cynghori Gweinidogion ynghylch a ddylid sefydlu Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn yn Lloegr, a sut (Adolygiad Benyon, Mehefin 2020), ac yn aelod o un o weithgorau SAPEA (Cyngor Gwyddoniaeth ar gyfer Polisi gan yr Academïau Ewropeaidd), sef Making Sense of Science. Mae'n cadeirio Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Sefydliad yr Amgylchedd Stockholm.

Professor Andrew Pullin

Yn 2007, cyd-sefydlodd Andrew y Cydweithrediad ar gyfer Tystiolaeth Amgylcheddol (CEE), ac roedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr tan ddiwedd 2017. Ar hyn o bryd mae'n Brif Swyddog Gweithredol. Hefyd, yn ei rôl o fod yn Athro Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth (rhan-amser) ym Mhrifysgol Bangor, mae Andrew wedi cyd-ddatblygu'r fethodoleg safonol ar gyfer synthesis tystiolaeth yn y sector amgylcheddol. Mae'n Brif Olygydd Cyfnodolyn y CEE, Environmental Evidence, ynghyd â Gwasanaeth Tystiolaeth CEEDER. Mae wedi gwasanaethu yn rôl Llywydd Adran Ewropeaidd y Gymdeithas Bioleg Cadwraeth ac ar y Bwrdd Llywodraethu byd-eang, yn ogystal ag yn rôl Is-lywydd Cymdeithas Ecolegol Prydain.

Professor Mark Whitehead - FRGS FHEA FISRF

Yn wreiddiol o'r Ardal Ddu, mae Mark wedi bod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ers dros 25 mlynedd bellach. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle bu’n archwilio polisïau datblygu trefol cynaliadwy yn y DU. Mae bellach yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil ddiweddaraf yn archwilio effeithiau'r gwyddorau ymddygiad a seicoleg ar bolisi cyhoeddus. Mae Mark yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Aberystwyth ar Ddeall Ymddygiad. Mae'n dysgu Cymraeg ac mae'n mwynhau rhedeg ym mynyddoedd Gorllewin Cymru.

Professor Lorraine Whitmarsh

Mae'r Athro Lorraine Whitmarsh yn seicolegydd amgylcheddol sy'n arbenigo mewn canfyddiadau ac ymddygiad mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, ynni a thrafnidiaeth, ac mae wedi'i lleoli yn Adran Seicoleg Prifysgol Caerfaddon. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol y DU (CAST), a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae'n cynghori sefydliadau llywodraethol a sefydliadau eraill yn rheolaidd ar newid ymddygiad carbon isel a chyfathrebu ar newid yn yr hinsawdd, ac mae'n Awdur Arweiniol ar gyfer Chweched Adroddiad Asesu Gweithgor II y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC). Mae ei phrosiectau ymchwil wedi cynnwys astudiaethau o ymddygiadau arbed ynni, lleihau gwastraff ac ailddefnyddio bagiau siopa, canfyddiadau o dechnolegau craff a cherbydau trydan, ffyrdd o fyw carbon isel, ac ymatebion i newid yn yr hinsawdd.

Diweddarwyd ddiwethaf