Mae gwaith wedi dechrau i gael gwared ar briddoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddiesel o safle damwain Llangennech

Nia Griffith MP, Lee Waters MS a Tonia Antoniazzi MP gyda Stuart Thomas o CNC a Owen Lecraw o Adler and Allan

Dri mis ar ôl tân ar drên cludo nwyddau yn Llangennech, mae gwaith adfer wedi dechrau i dynnu a newid 12,000 metr ciwbig o bridd sydd wedi’i halogi gan ddiesel o amgylch y safle.

Y contractwyr amgylcheddol arbenigol Adler and Allan a Jacobs sy’n cyflawni'r gwaith cymhleth hwn.

Byddant yn gweithio’n ddiwyd yn ystod yr wythnosau nesaf i gwblhau'r gwaith yn ddiogel, a chyn gynted â phosibl.

Mae'r cynllun adfer wedi rhannu'r safle halogedig yn gelloedd. Bydd pob cell yn cael ei chloddio'n ofalus, gan dynnu hyd at 30 metr ciwbig ar y tro o’r pridd sydd wedi’i effeithio. Caiff ei symud o'r safle mewn loriau a'i drin yn ddiogel mewn cyfleuster rheoli gwastraff trwyddedig ger Merthyr Tudful.

Yna, bydd y tir sydd wedi’i gloddio’n cael ei lenwi â deunyddiau cloddedig glân a ddewisir yn benodol i gyfateb i lefelau pH priddoedd yn yr ardal. Os bydd popeth yn gweithio yn ôl y disgwyl, disgwylir i'r rheilffordd newydd gael ei gosod yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Bydd ardal o goetir i'r gogledd-ddwyrain o safle'r digwyddiad ar dir yr Awdurdod Glo hefyd yn cael ei hadfer yn yr un modd.

Dywedodd Ioan Williams, Arweinydd Tîm Amgylchedd y De Orllewin gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae hon yn ymgyrch adfer hynod o gymhleth. Gwnaed ymdrech ofalus a phwyllog gan ystod eang o sefydliadau ac unigolion i lunio’r cynllun adfer, ac wedi cyfnod o waith cynllunio a pharatoi sylweddol, mae'n galonogol gweld y gwaith hwnnw'n dechrau o'r diwedd.
"Rydym wedi gorfod cynllunio ar gyfer y tarfu posibl ar y tir cyfagos y gallai’r gwaith cloddio ei achosi, a gwaredu'r pridd sydd wedi’i effeithio mewn modd diogel. Yn ogystal â hyn, rydym wedi sicrhau bod cynlluniau ar waith i barhau i reoli’r diesel ac i fonitro’r amgylchedd a physgodfeydd cyfagos.
"Rydym hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Glo i sefydlu'r ffordd fwyaf diogel posibl o gael gwared ar lygredd o'u tir heb effeithio ar y lagwnau trin dŵr mwyngloddio, neu beri i unrhyw ddŵr mwyngloddio ddianc o hen Lofa Morlais.
"Fel grŵp amlasiantaeth, rydym yn hyderus bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i helpu'r ardal hon i adfer yn ddiogel o'r llygredd."

Bydd rheilffordd Calon Cymru yn parhau ar gau hyd nes y bydd yr holl waith adfer wedi'i gwblhau, sy'n parhau i gael effaith ar y cyhoedd, busnesau a thwristiaeth. 

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Wales:

"Rydym yn deall bod cau'r rheilffordd dros dro yn Llangennech yn achosi anghyfleustra mawr i fusnesau lleol, teithio cyhoeddus a thwristiaeth, ond mae ein timau'n gweithio'n eithriadol o galed i roi'r rheilffordd yn ôl ar waith cyn gynted â phosibl.
"Credwn mai'r penderfyniad i gael gwared ar fwy o bridd, yn ddyfnach o dan y rheilffordd yw'r un cywir, gan y bydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae'r gwaith yn golygu bod mwy o gerbydau'n symud i'r safle ac oddi arno. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn digwydd yn ystod y dydd, ond rydym yn ceisio cadw lefelau’r sŵn i lawr cymaint ag y bo modd.
"Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i'r gymuned leol am ei hamynedd wrth i ni weithio i adfer y rheilffordd."

Mae grwpiau strategol a thactegol amlasiantaeth yn goruchwylio'r ymdrech adfer. Maent yn cynnwys cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, Dinas a Sir Abertawe, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Glo.

Maent yn cydweithio i leihau unrhyw effeithiau posibl y ddamwain ar y gymuned leol, yr amgylchedd a'r economi.

Mae Nia Griffith AS, Lee Waters AS a Tonia Antoniazzi AS wedi ymweld â'r safle i weld y cynnydd drostynt eu hunain.

Bydd gwaith monitro a samplu ar safle’r ddamwain a'r ardal gyfagos yn parhau. Mae hyn yn cynnwys samplu cocos yn fisol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg i iechyd y cyhoedd drwy golli rhagor o ddiesel i'r amgylchedd ehangach.

Arweinir yr ymchwiliad i achos damwain y trên cludo nwyddau gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd. Ceir mwy o fanylion ar wefan Network Rail.

Am fwy o wybodaeth a chyngor ewch i https://naturalresources.wales/Llangennech?lang=cy.