Gwaith yn dechrau ar safleoedd creu coetiroedd newydd yng Nghymru

Ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Y Coed, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y gwaith paratoi ar gyfer plannu coetiroedd newydd ar ddau safle ger coedwigoedd Hafren a Clocaenog wedi dechrau, fel rhan o brosiect i ehangu Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru (YCLlC).
Nod y gwaith, a fydd yn cael ei gynnal ar gyfanswm o 60 hectar o dir yn Hafren a Chlocaenog, fydd plannu cydadferol ar gyfer coetir sydd wedi ei golli o Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru, naill ai trwy ddatblygiadau ynni gwynt neu adfer cynefin nad ydynt yn goetir fel cors mawn.
Bydd hyn o gymorth i gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru – Coetiroedd i Gymru, a chyfrannu tuag at dargedau plannu coed yng Nghymru, yn ogystal â chadw gallu Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru i dyfu pren y gellir ei gynaeafu.
Mae coetiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gloi carbon, gall coetiroedd cymysg aeddfed storio tua 300-500 tunnell o CO2 cyfwerth fesul hectar, gyda'r union ffigur yn dibynnu ar gyfansoddiad oedran a rhywogaethau.
Mae budd ychwanegol yn ogystal sy’n cynnwys darparu cysgod ar gyfer da byw, lleihau llygredd sŵn, arafu llifogydd a gwella ansawdd aer, pridd a dŵr.
Mae CNC wedi ymrwymo i blannu o leiaf 350ha er mwyn digolledu coetir sydd wedi ei golli oherwydd datblygiadau ynni adnewyddadwy.
Bydd y tir sydd wedi ei brynu ger Hafren a Chlocaenog yn cael ei blannu yn ystod y gaeaf eleni, a bydd yn ffurfio rhan o’r targed hwn, gyda’r gweddill i’w blannu erbyn 2023.
Cynllunnir y coetiroedd gan roi ystyriaeth ar gyfer amodau penodol y safle, y dirwedd o’i chwmpas ac yn unol â Safonau Coedwigaeth y DU.
Bydd cymysgedd o elfennau coed conwydd wedi eu hintegreiddio gyda llydanddail brodorol er mwyn ychwanegu amrywiaeth o gynefinoedd a chysylltedd gyda choetiroedd brodorol a choed sy’n bodoli’n barod ar draws y dirwedd.
Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod y coetiroedd newydd yn fwy amrywiol o ran geneteg ac yn fwy gwydn i effeithiau plâu, afiechydon a newid hinsawdd.
Dechreuodd y gwaith o farcio cynllun y coetir newydd ger safle coedwig Hafren yng nghanol mis Tachwedd ar gyfer y gwaith paratoi’r ddaear fydd yn dechrau yr wythnos hon.
Unwaith y bydd y safleoedd wedi cael eu sefydlu, byddant yn cael eu rheoli gan CNC fel rhan o Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Miriam Jones – Walters, Ymgynghorydd Arbennig ar Stiwardiaeth Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae creu coetiroedd newydd a chynyddu’r nifer o goed sydd yn cael eu plannu yng Nghymru yn hynod o bwysig oherwydd y budd lluosog i’n heconomi, amgylchedd a phobl Cymru am flynyddoedd i ddod.
Mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymgais i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan ei fod yn help i gloi carbon a lleihau llygredd aer. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig trwy gynnal bioamrywiaeth a darparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau hamdden sy’n bwysig iawn ar gyfer iechyd a lles pobl.
Byddwn yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid lleol a’r sector coedwigaeth er mwyn sicrhau bod unrhyw effeithiau y gall coetir newydd ei gael ar yr ardal o amgylch yn cael eu hystyried ac i sicrhau ein bod yn cymryd mantais o’r dysgu a’r syniadau gorau o greu coetir llwyddiannus.
Yn ychwanegol at y tir yng Nghlocaenog a Hafren, mae CNC, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol eleni, yn gobeithio caffael o leiaf 150 ha ychwanegol ar gyfer creu coetiroedd newydd.
Ychwanegodd Miriam Jones-Walters:
Er mai rhan fechan o’n hymdrech i blannu coed yn genedlaethol yw Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru, mae’n gyffrous iawn i ni gael caffael tir a chreu coetiroedd newydd fel y bydd gennym Ystâd mwy o faint mewn 25 mlynedd nag sydd gennym ar hyn o bryd, fydd o gymorth i gefnogi’r gwaith parhaus o fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.