Cymru'n cynnal cynhadledd adfer mwyngloddiau metel â thema ryngwladol
Bydd cynhadledd ryngwladol i ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu canolfan ragoriaeth yng Nghymru ar gyfer adfer mwyngloddiau metel yn digwydd yn Aberystwyth y mis nesaf.
Bydd Cynhadledd MineXchange, sy'n cael ei threfnu gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Glo, yn denu arbenigwyr adfer mwyngloddiau metel a thrin dŵr mwyngloddio o fyd diwydiant, academyddion a'r sector cyhoeddus.
Bydd arbenigwyr a chynrychiolwyr y gynhadledd yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad wrth ddatblygu atebion cynaliadwy i gynorthwyo i adfer ac adfer amgylcheddau mwyngloddiau metel sydd wedi'u difrodi yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Peter Stanley, Peiriannydd Geotechnegol Arbenigol Arweiniol, ar ran CNC:
“Mae cynhadledd MineXchange yn chwarae rhan bwysig wrth yrru rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru ac mae wedi arwain at ddatblygiad llwyddiannus treialon adfer mwyngloddiau metel arloesol yn Fron-goch, Cwm Rheidol, Cwmystwyth, Nant-y-mwyn a Bwlch-glas.
“Mae’r treialon yng Nghwm Rheidol a Fron-goch yn cynnwys defnyddio electrocemeg i dynnu llygryddion o ddyfroedd mwyngloddiau a mynd i’r afael â’r etifeddiaeth ddigroeso hon o orffennol diwydiannol Cymru. Credir mai'r cymwysiadau sy'n cael eu defnyddio yw'r cyntaf o'u math.
“Byddwn yn rhannu darganfyddiadau mewn triniaeth Phyto (yn seiliedig ar blanhigion) o rwbel mwyngloddio, gan ddarparu diweddariadau ar drin amgylcheddau mwyngloddiau metel yng Nghymru yn llwyddiannus gyda threialon plannu gan Brifysgol Aberystwyth a chymwysiadau bio-olosg.
“Bydd Arolwg Daearegol Prydain hefyd yn cyflwyno techneg ymchwilio safle newydd gyffrous ar gyfer tir halogedig.”
Bydd y gynhadledd yn cynnwys taith i Fron-goch a Chwm Rheidol i arsylwi ar y systemau triniaeth electrocemegol.
Eleni bydd y gynhadledd yn croesawu’r Athro Jose Miguel Nieto o Brifysgol Huelva yn Sbaen, a fydd yn rhannu ei brofiad arloesol wrth gyflwyno adferiad goddefol o ddŵr mwyngloddiau ym Masn Odiel, un o'r systemau afonydd sydd wedi eu heffeithio waethaf yn y byd, sydd wedi’u halogi gan fwyngloddiau Ardal Pyrit Iberia.
Ychwanegodd Nick Cox o'r Awdurdod Glo:
“Mae cynhadledd MineXchange yn edrych yn ddiddorol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at rannu canlyniadau ein gwaith ar y rhaglen mwyngloddiau metel yng Nghymru a blas ar ein prosiectau ymchwil a datblygu iach dan arweiniad academaidd.”