Ceisio barn ar gynlluniau rheoli coedwigoedd hirdymor yn ne Cymru

Gwahoddir pobl sy'n mwynhau defnyddio'r coetiroedd ar draws Caerffili, Casnewydd a Thorfaen i ddweud eu dweud ar gynllun rheoli tymor hir a ddatblygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae CNC - sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar draws Cymru - wedi datblygu cynllun rheoli 25 mlynedd ar gyfer yr 11 coetir yn ardal goedwig De Ebwy. Mae hyn yn ymestyn o goedwigoedd Caerffili, trwy Gasnewydd a chyn belled â choetiroedd Coed Garw yn Nhorfaen.

Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion tymor hir ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed sydd ynddyn nhw yn y dyfodol. Mae'n cynnwys strategaethau mewn perthynas â sut y bydd CNC yn parhau i fynd i'r afael â 138 hectar o goed llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Gall pobl ddarllen y cynlluniau yn fanwl a gadael adborth trwy ymgynghoriad ar-lein CNC.

Dyma ddywedodd Peter Cloke, Arweinydd Tîm Rheoli Tir, CNC:

“Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fuddion i'r byd naturiol ac i'n cymunedau. Maen nhw'n ein helpu yn y frwydr yn erbyn argyfyngau’r hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni wneud defnydd ohono, a lleoedd hyfryd i ni i gyd dreulio amser ynddyn nhw a'u mwynhau.
"Dros y naw mis diwethaf yn ystod y pandemig, mae'r lleoedd hyn wedi bod yn bwysicach nag erioed, gan ddarparu cyfleoedd mawr eu hangen ar gyfer ymarfer corff, ar gyfer amser gyda’r teulu ac i gael cyfnodau o dawelwch.
“Rydym ni'n gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael y cyfle i roi adborth ar y cynlluniau. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau y gall y mannau hyn barhau i ddiwallu anghenion y cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.”

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 13 Ionawr 2021.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan ond sy’n methu gweld y cynigion ar ymgynghoriad ar-lein CNC gysylltu â 03000 65 3000 a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy'n dymuno anfon adborth trwy'r post ei anfon i un o ddau gyfeiriad. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 13 Ionawr 2021.

Cynllun Adnoddau Coedwig De Ebwy

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffordd Hadnock

Trefynwy

NP25 3NG

Bydd angen dychwelyd yr holl adborth a chwestiynau erbyn 13 Ionawr fan bellaf.