Newidiadau bach i wneud gwelliannau mawr mewn ansawdd dŵr

Dywed gwr a gwraig sy'n ffermio yng ngogledd Cymru eu bod yn falch o fod yn gwneud gwahaniaeth, ar ôl ymuno â chynllun i wella ansawdd dŵr afon.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymwelodd staff Adnoddau Naturiol Cymru (CNC) â thua 200 o ffermydd yn ardal isaf Clwyd, gan ddarparu cyngor ar y ffordd orau i amddiffyn yr afon rhag llygredd amaethyddol a all niweidio bywyd afon ac effeithio ar draeth y Rhyl.
Mae fferm Gareth and Lowri Evans yn un o naw ar hyd yr afon Clwyd a fanteisiodd ar gynnig am gymorth gan CNC i atal gwartheg rhag cyrraedd yr afon a’i llygru.
Hyd yn hyn, mae tua 2000 metr (milltir a chwarter) o'r afon wedi'i ffensio a darparwyd cafnau i gyflenwi dŵr yfed amgen ar gyfer gwartheg.
At ei gilydd, mae mynediad i'r afon wedi'i atal ar gyfer hyd at 500 o wartheg.
Dywedodd Lowri Evans, o Fferm Bron Haul yn Henllan:
“Rydan ni, fel ffermwyr, yn llwyr werthfawrogi bod gennym gyfrifoldeb i helpu i wella ansawdd dŵr.
"Er mai prosiect bach yw hwn, rydyn ni'n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Bethan Beech, Arweinydd Tîm CNC ar gyfer Sir Ddinbych:
“Mae llawer mwy i’w wneud. Ond mae'r prosiect hwn yn dangos y gall newidiadau bach mewn arferion fferm wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd dŵr mewn nentydd, afonydd a dyfroedd arfordirol cyfagos.
“Mae Gogledd Cymru yn elwa o amgylchedd hardd ac mae miloedd o bobl leol ac ymwelwyr yn mwynhau ein harfordir.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y seilwaith draenio carthion yn rhan isaf Clwyd, gan gynnwys asedau Dŵr Cymru/Welsh Water, gollyngwyr preifat a draeniad trefol mewn ymgais i liniaru digwyddiadau llygredd ym mhob sector.
“Trwy wneud llawer o welliannau bach, unigol, gallwn fwynhau afonydd a dyfroedd ymdrochi glanach.”
Mae gan y cynlluniau fuddion amgylcheddol ehangach hefyd - bydd llai o wartheg mewn afonydd yn golygu llai o darfu ar wely'r afon a glannau afonydd - newyddion da i fywyd gwyllt.
Mae CNC bellach yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Clwyd, Conwy a Gwynedd yn gwneud gwaith tebyg yn rhan isaf Clwyd, a ariennir gan Dŵr Cymru Dŵr Cymru.
Dywedodd Gail Davies, Rheolwr Rhaglen yr Amgylchedd ar gyfer Dŵr Cymru Dŵr Cymru
“Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi prosiect partneriaeth yn rhan isaf Clwyd wrth i ni barhau ag ymchwiliadau i’n hasedau ein hunain.”
Cefnogir y fenter gan yr Undebau Ffermio yng Nghymru.
Dywedodd Mr Tudur Parry, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir FUW a chynrychiolydd ar Fforwm Rheoli Tir Cymru:
“Gwn fod yr Undeb wedi bod yn cydweithredu â rhanddeiliaid eraill yn yr is-grŵp ar lygredd amaethyddiaeth Fforwm Rheoli Tir Cymru, i archwilio ffyrdd o liniaru llygredd.
“Dydy’r un ffermwr eisiau llygru dyfroedd wyneb neu ddaear a byddwn yn parhau i archwilio ffyrdd o wella ansawdd dŵr yng Nghlwyd a ledled Cymru.”
Dywedodd Paul Williams, Cadeirydd Sir Clwyd yn NFU Cymru: ‘‘ Mae ffermwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau amgylchedd o ddifrif ac rydym yn falch o weithio gyda’r bartneriaeth o sefydliadau i gefnogi ffermwyr i weithredu i wella ansawdd dŵr lle mae angen hyn. ’’
Mae prosiectau eraill ar y gweill gan aelodau Fforwm Rheoli Tir Cymru hefyd.
Er enghraifft, mae CNC yn gweithio gyda Chyswllt Ffermio i roi mwy o gefnogaeth ac arweiniad i gynghori ffermwyr a chontractwyr, yn enwedig mewn cyrff dŵr wedi'u targedu a nodwyd trwy samplu fel blaenoriaeth uchel.
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal digwyddiadau Ffermio Cynaliadwy dros yr wythnosau nesaf i helpu i adnabod gwelliannau, cynnig cyngor ymarferol a dod o hyd i atebion syml, cost-effeithiol i broblemau gyda storio slyri a thail. Mwy ar eu gwefan https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/