Ceisio barn trigolion ardal Coedwig Dyfnant ynglŷn â chynllun rheoli coedwig newydd

Llun panoramig o Goedwig Dyfnant

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i’r trigolion yn ardal Coedwig Dyfnant i leisio’u barn ynglŷn â chynllun newydd i reoli’r goedwig.

CNC sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ledled y wlad, ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn galluogi pobl i ddylanwadu ar y modd y rheolir y goedwig yn y deng mlynedd nesaf a thu hwnt.

Meddai Glyn Fletcher, Uwch Reolwr Tir ar ran CNC:
"Mae ein coedwigoedd yn gwneud lles i fyd natur a’n cymunedau mewn llawer o ffyrdd. Maen nhw’n ein helpu wrth inni frwydro yn erbyn argyfyngau’r hinsawdd a byd natur, yn rhoi pren gwerth chweil inni ei ddefnyddio, ac yn lleoedd bendigedig i bawb ohonom dreulio amser a mwynhau.
"Rydyn ni eisiau sicrhau fod gan drigolion ardal Coedwig Dyfnant gyfle i leisio’u barn ar y cynlluniau ar gyfer eu coedwig leol, a gwneud yn siŵr ein bod yn pennu’r targedau iawn ac yn eu cyflawni."

Gellir gweld crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer y goedwig a’r holl fapiau drafft ar wefan CNC.

Drwy roi ‘Cynllun Adnoddau Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru’ mewn unrhyw beiriant chwilio’r rhyngrwyd fe ddaw dolenni cyswllt sy’n arwain at y dudalen ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfnant.

Fel arall, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 a gofyn i gael siarad ag un o’r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Wedyn bydd modd gofyn am gopïau o’r dogfennau drwy’r post.

Gall trigolion sy’n dymuno cyflwyno sylwadau eu hanfon i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Powells Place, Y Trallwng, Powys, SY21 7JY.

Bydd yn rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau neu gwestiynau erbyn 22 Ionawr 2021 fan bellaf.