Adroddiad yn amlygu sut y gwnaeth natur ein helpu i ymdopi â Covid-19

Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod ymgysylltu â natur wedi chwarae rhan allweddol wrth gynnal iechyd corfforol a meddyliol a lles cyffredinol pobl yn ystod pandemig Covid-19 a'r cyfnodau clo cysylltiedig.

Mae 'Why Society Needs Nature' yn adroddiad ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chydweithwyr o NatureScot, Natural England, Forest Research ac Asiantaeth yr Amgylchedd ac mae'n defnyddio arolygon cymdeithasol cenedlaethol, data ymwelwyr ar safleoedd ac astudiaethau achos ymarferol i roi cipolwg ar sut yr ymwelodd pobl â byd natur a'u profiadau o natur yn ystod y pandemig.

Dywedodd Dr Sue Williams, sy’n uwch wyddonydd cymdeithasol gyda CNC:

"Mae ymgysylltu â natur yn wych ar gyfer gwella ein hiechyd corfforol a'n lles meddyliol ac mae'r adroddiad hwn yn amlygu'r effeithiau cadarnhaol a negyddol y mae'r pandemig wedi'u cael ar hamdden awyr agored a'n perthynas â natur."
"Er y bu cyfyngiadau sylweddol yn ystod y pandemig,  ymwelwyd â mannau gwyrdd yn fynych, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo. Pan gafodd cyfyngiadau eu llacio, gwelodd safleoedd cefn gwlad ac arfordirol poblogaidd bron i ddwywaith nifer yr ymwelwyr, ac yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau mwy llac rydym hefyd wedi gallu mwynhau ymweld ag ardaloedd eraill ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys parciau cenedlaethol a gwarchodfeydd natur."

Mae pwysigrwydd y 'mannau gwyrdd a glas' hyn i iechyd meddwl a lles pobl yn ystod y pandemig wedi cael ei gydnabod fwyfwy fel rhywbeth hanfodol.

Canfuwyd bod ymgysylltu â natur, mynd am dro neu eistedd yn y parc, yn lleihau straen a phryder, tra gall ymarfer corff yn yr awyr agored leihau iselder a helpu i leihau’r ofn seicolegol sy’n gysylltiedig â’r pandemig.

Fodd bynnag, datgelodd yr ymchwil hefyd sut y symudodd ymgysylltiad â natur at ddau begwn, gyda rhai pobl yn rhyngweithio’n fwy, tra bod eraill yn ymweld â'r awyr agored yn llai aml nag o'r blaen.

Roedd cyfyngiadau symud a materion eraill yn ymwneud â Covid-19, fel ofn haint, yn golygu bod cyfran sylweddol o'r boblogaeth nad oedd yn ymweld â mannau naturiol o gwbl, neu'n llawer llai nag arfer.

Roedd rhai o'r rhwystrau'n cynnwys cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, gan arwain at orlenwi ac ofnau cysylltiedig o ran dal y feirws a phryder am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dangosodd yr ymchwil fod bod yn dlawd, bod yn llai addysgedig, byw mewn ardal ddifreintiedig, bod yn ddi-waith a bod o leiafrif ethnig i gyd yn cael effaith negyddol ar fynediad pobl at y manteision y gall natur eu darparu.

Mae CNC a'i asiantaethau partner yn gweithio gyda phartneriaid ymchwil i archwilio'r rhwystrau yma ymhellach a dod o hyd i atebion i'r materion hirdymor hyn.

Cododd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr nifer o faterion yng nghyswllt yr amgylchedd a rheoli tir, gan amlygu'r angen i ateb y galw am fannau hamdden awyr agored gan ddiogelu'r amgylchedd naturiol ar yr un pryd, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y dulliau a ddefnyddir i reoli'r effeithiau amgylcheddol negyddol mewn mannau hamdden poblogaidd.

Ychwanegodd Sue:

"Mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn dangos yn glir bod mwy o ymgysylltu â natur wedi helpu llawer o bobl i gynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol a'u lles seicolegol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'r dyfyniad hwn o un o astudiaethau achos CNC yn crynhoi sut mae natur wedi helpu llawer ohonom ni i ymdopi â'r pandemig:
"Roedd y gallu i gerdded mewn amgylchedd mor wych wedi helpu i leddfu rhywfaint ar ofn y pandemig. Mae'n anodd peidio â chredu y byddwch chi’n goroesi pan fyddwch chi’n cerdded yn y coedwigoedd hyn." (Arolwg Ymwelwyr Coetiroedd Gogledd Caerdydd 2020).
 "Wrth edrych i'r dyfodol, mynegodd llawer o bobl eu bwriad i gynyddu faint o amser maen nhw'n ei dreulio yn ymweld â'r awyr agored ar gyfer hamdden neu ymarfer corff a gwneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw pan fydd y cyfyngiadau symud ar ben."

Gallwch ddarllen ‘Why Society Needs Nature – Lessons from research during Covid-19’ yma: Why society needs nature - Lessons from research during Covid-19 - Forest Research