Adroddiad yn dod i’r casgliad bod cynllun amddiffyn rhag llifogydd yn Llanelwy wedi diogelu cartrefi
Heddiw (07 Mehefin 2021) cyhoeddwyd adroddiad manwl gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cofnodi effeithiau llifogydd Chwefror 2020 ar Afon Elwy.
Mae'r Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd (FIR) wedi archwilio'r sefyllfa yn nalgylch Afon Elwy cyn y glaw trwm a gafwyd yn ystod stormydd mis Chwefror, maint a graddfa’r glawiad ac effeithiau dilynol y cynnydd yn lefel y dŵr a arweiniodd at lifogydd mewn nifer o eiddo preswyl a masnachol.
Daeth Storm Ciara â gwyntoedd uchel a glaw trwm yn ystod y mis Chwefror gwlypaf a gofnodwyd erioed, gan arwain at y llifoedd uchaf erioed yng nghofnodion gorsaf fesur Pont y Gwyddel, sy'n uwch na'r rhai a welwyd yn ystod digwyddiad llifogydd 2012.
O ystyried y lefelau eithafol hyn, mae canfyddiadau'r adroddiad yn dangos bod cynllun rheoli perygl llifogydd CNC yn Llanelwy, a gwblhawyd yn 2018, wedi perfformio'n dda ac wedi diogelu'r mwyafrif helaeth o gartrefi y bwriadwyd iddo eu diogelu.
Heb y cynllun, byddai hyd at 370 eiddo wedi bod mewn perygl o ddioddef llifogydd difrifol fel a ddigwyddodd yn 2012.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod nifer o eiddo preswyl, eiddo masnachol a pharciau carafannau wedi dioddef llifogydd, yn anffodus. Roedd llawer o'r rhain y tu allan i'r ardal a amddiffynnwyd gan gynllun Llanelwy.
Mae CNC wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau rheoli perygl llifogydd partner i ddysgu gwersi o'r digwyddiad, er mwyn deall yn well y perygl o lifogydd yn yr ardal, gyda'r nod o wella ei weithdrefnau perygl llifogydd ymhellach a'i arferion gwaith er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd i Gymunedau Llanelwy ac Elwy yn y dyfodol.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae'r adroddiad yn dangos bod buddsoddiad CNC i wella cynllun llifogydd Llanelwy wedi helpu i ddiogelu cannoedd o gartrefi yn yr ardal, gan atal y llifogydd eang a ddioddefwyd yn 2012 rhag digwydd eto. Roedd y rhan fwyaf o argloddiau wedi llwyddo i rwystro’r afon rhag gorlifo ac wedi diogelu eiddo ar hyd y dalgylch.
"Wedi dweud hynny, roedd hwn yn ddigwyddiad dinistriol a gafodd effaith sylweddol ar lawer o eiddo yn Llanelwy ac Elwy. I'r cartrefi a'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt, roedd hon yn drasiedi bersonol iawn, ac rydym yn dal i gydymdeimlo â’r rhai sy'n parhau i adfer ac ailadeiladu.
"Bydd CNC nawr yn cymryd camau i weithio gyda'i bartneriaid proffesiynol ac Awdurdodau Rheoli Risg eraill yn ogystal â chymunedau lleol er mwyn deall a rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol yn well ar gyfer cymunedau yn yr ardal hon."
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd CNC ei adolygiadau o'i ymateb i lifogydd Chwefror 2020. Datgelodd y mewnwelediadau a'r data a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiadau fygythiad cynyddol a gwirioneddol yr argyfwng yn yr hinsawdd, y rhagwelir y bydd yn achosi gaeafau gwlypach, mwy stormus, glawiad mwy dwys yn yr haf a chynnydd parhaus yn lefel y môr.
Roeddent hefyd yn tanlinellu'r angen am ymyriadau brys pellach ac am ymgorffori cymysgedd o ddulliau rheoli perygl llifogydd er mwyn gwella gwydnwch Cymru yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Aeth Keith Ivens ymlaen i ddweud:
"Bydd buddsoddi mewn amddiffynfeydd caled a'u cynnal bob amser wrth wraidd dull Cymru o reoli perygl llifogydd. Ond er bod amddiffynfeydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i filoedd o gartrefi ledled y wlad, ni allant amddiffyn pawb drwy'r amser. Mae amlder a ffyrnigrwydd cynyddol stormydd, a ysgogir gan newid yn yr hinsawdd, yn golygu nad oes ateb sicr, ac mae angen inni ystyried amrywiaeth o opsiynau i reoli perygl llifogydd.
“Er enghraifft, edrych ar sut rydym yn gweithio'n well gyda pherchnogion tir a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i wneud lle i'r symiau enfawr o ddŵr rydym yn eu gweld yn ystod llifogydd a rheoli’r symiau hynny. Mae hyn yn cynnwys edrych i fyny’r afon am ffyrdd newydd o arafu’r llif a storio dŵr. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod pobl yn gwybod am y camau y gallant eu cymryd eu hunain i leihau effaith llifogydd pan fydd y dyfroedd yn dechrau codi.
"Rhaid i lywodraethau a chymdeithas gydnabod pwysigrwydd a brys mabwysiadu ymagwedd gyfannol at wydnwch a chynyddu lefel parodrwydd y wlad i reoli a brwydro’r risgiau llifogydd cynyddol a achosir gan yr argyfwng hinsawdd."
Mae'r Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd ar gyfer Cymunedau Llanelwy ac Elwy ar gael i'w weld yma: Adroddiad ymchwilio i lifogydd Llanelwy a chymunedau Elwy
Pryderu am lifogydd yn eich ardal? Os ydych yn byw yng Nghymru a bod eich cartref neu fusnes mewn perygl o lifogydd, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd dros y ffôn, drwy e-bost neu neges destun. Ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188.