CNC yn cyhoeddi cyngor newydd i ddiogelu Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy

Heddiw (17 Rhagfyr), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi pecyn tystiolaeth yn amlinellu lefelau ffosffad yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwy.

Darllenwch adroddiad cydymffurfio yr Afon Gwy.

Mae llygredd ffosfforws yn achosi'r broses o ewtroffigedd mewn afonydd, mater problemus iawn sy'n achosi twf gormodol mewn algâu, sy'n mygu ac yn rhwystro golau ar gyfer planhigion ac anifeiliaid dyfrol eraill.

Gan i dargedau newydd gael eu hymestyn, mae'r data'n dangos bod dros 60% o Afon Gwy a'i dalgylchoedd yn methu yn erbyn y targedau newydd a osodwyd.

Tynhawyd safonau cadwraeth fel ffordd o ddiogelu amgylchedd yr afon a mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Nod y targedau ar gyfer ACA Afon Gwy yw sicrhau gostyngiad pedwarplyg mewn rhai ardaloedd a llednentydd.

Daw'r pecyn tystiolaeth am lefelau ffosffad yn Afon Gwy yn dilyn pryderon am ordyfiant algâu yn Afon Gwy yn gynharach eleni.

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru gyda CNC:
"Mae CNC yn gwybod pa mor angerddol yw pobl am ddiogelu iechyd Afon Gwy. Rydym yn rhannu'r angerdd a'r cryfder teimlad hwnnw ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid ar hyd yr afon i wneud popeth o fewn ein gallu i wella iechyd yr afon.
"Roedd pryderon bod lefelau ffosffad yn gysylltiedig ag unedau dofednod, ond nid ydym wedi dod o hyd i gysylltiad uniongyrchol rhwng y ddwy elfen.
"Mae'r rhesymau dros fethiant afon Gwy a'i llednentydd yn debygol o fod o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan gynnwys prif garthffosydd a thanciau septig, camgysylltiadau ac arferion amaethyddol.
"Mae'r targedau newydd a osodwyd ar gyfer lefelau ffosfforws yn afon Gwy yn heriol – ond yn gwbl briodol.
"Drwy rannu'r wybodaeth hon, gallwn i gyd ddeall yn well sut mae lefelau maetholion yn effeithio ar ein hafonydd a gallwn gydweithio â busnesau, ffermwyr a thrigolion i ddiogelu'r afon a'r adnoddau naturiol y mae'n eu darparu i bobl leol."

Bydd CNC yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio yn nalgylch Gwy - Powys, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy i'w helpu i ddeall beth allai canfyddiadau'r ymchwiliad ei olygu ar gyfer eu prosesau cynllunio.

Y nod yn y pen draw fydd sicrhau nad yw unrhyw ddatblygiad newydd yn cael effaith andwyol ar lefelau ffosffad mewn afonydd. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i bob prosiect, cynllun neu drwydded ddangos eu bod yn cael effaith niwtral, neu well effaith ar leihau'r lefelau ffosffad yn afon Gwy a'i llednentydd.

Mae ffosffad yn digwydd yn naturiol, ac mae'n cael ei ryddhau'n araf, ar lefelau isel, o ffynonellau naturiol, o erydiad naturiol ar lannau afonydd er enghraifft. Fodd bynnag, gall ffosffadau hefyd fynd i mewn i afonydd o arferion rheoli tir, carthffosiaeth a dŵr budr sy'n gallu cynnwys glanedyddion a gwastraff bwyd.

Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau bod afonydd Cymru yn iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac rydym am weithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion arloesol.
"Efallai y bydd angen dulliau gwahanol ar bob afon a rhannau o afonydd a byddwn yn gweithio gyda phobl yn lleol i greu atebion lleol.
"Ond nid yw'r ateb yn ymwneud â sut rydym yn dylunio datblygiadau ac yn defnyddio tir yn unig. Gallwn wneud newidiadau i'n bywydau bob dydd a all wneud cyfraniad cadarnhaol at leihau lefelau ffosffad a llygredd arall yn ein hafonydd."

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig