Creu llwybrau coedwig newydd diolch i elusen leol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno â Chanolfan Awyr Agored Daerwynno er mwyn sefydlu llwybrau newydd yng nghoetir Llanwynno ger Ynysybwl.

Bydd y llwybrau newydd, sydd ar dir ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (WGWE), yn cynnwys llwybrau ar gyfer ceffylau, rhedwyr a beicwyr.

Mae'r prosiect yn rhan o gytundeb rheoli cymunedol rhwng CNC a Phartneriaeth Adfywio Ynysybwl. Bydd Canolfan Awyr Agored Daerwynno yn rhoi benthyg eu profiad i'r cynllun ac yn defnyddio'u gwybodaeth helaeth o'r ardal i helpu i greu'r llwybrau.

Mae Daerwynno yn elusen gofrestredig sy'n cynnig nifer o weithgareddau awyr agored a chyrsiau addysgol yng nghoedwig Llanwynno, gan gynnwys cyfeiriannu, adeiladu tîm ac astudiaethau bywyd gwyllt.

Mae'r elusen yn cael ei rhedeg gan y gwirfoddolwyr Jill a Wynford Price, sydd wedi helpu i gynnal y goedwig ers blynyddoedd.

Meddai Jill Price:

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bawb sy'n rhan o’r prosiect. Mae'r syniadau a'r cymhelliant wedi dod o'r gymuned ac rydym yn ffodus i fod mewn sefyllfa i helpu i ddatblygu'r llwybrau hyn i annog pobl i fwynhau ased mor anhygoel. "

Ychwanegodd Rhianon Bevan, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC:

"Mae coetiroedd Llanwynno yn un o nifer o safleoedd hardd yng Nghymru a bydd y llwybrau newydd hyn yn golygu y bydd y safle yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen.
"Bydd y llwybrau newydd hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu mwynhau'r manteision o fod yng nghanol byd natur a byddant hefyd yn rhoi hwb, gobeithio, i'r economi leol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr.
"Rydyn ni wrth ein boddau'n cael gweithio gyda Daerwynno ar y prosiect hwn ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu hamser a'u hymdrech wrth iddynt ein helpu i gynnal y goedwig dros y blynyddoedd."

Disgwylir i waith ar y llwybrau ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf.