Llarwydd i gael eu cwympo yng Nghoed Moel Famau

Llarwydd wedi ei ladd gan Phytophthora ramorum

Bydd gwaith i gael gwared o goed llarwydd heintiedig o goedwig boblogaidd ym Mryniau Clwyd yn dechrau ym mis Ionawr 2021.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn amcangyfrif y bydd angen cwympo arwynebedd o10 hectar i gyd o goed llarwydd – sy’n cyfateb yn fras i 10 cae rygbi.

Mae’r coed wedi eu heintio â Phytophthora ramorum, sef clefyd coed llarwydd. Yn 2013 nododd arolygon fod y clefyd yn lledaenu’n gyflym drwy goedwigoedd Cymru, a symbylodd hyn strategaeth ledled y wlad i gael gwared o goed heintiedig i’w atal rhag lledaenu ymhellach.

Bydd y gwaith yn dechrau yng Nghoed Moel Famau a bydd contractwyr yn cwympo coed llarwydd Japan sydd wedi eu heintio â’r ffwng.

Bydd lorïau yn cludo’r pren yn ystod dyddiau’r wythnos gan ddefnyddio ffyrdd cludo preifat CNC a’r draffordd gyhoeddus.

Er mwyn caniatáu iddynt wneud hyn yn ddiogel ac yn effeithlon, bydd angen i CNC gau neu ddargyfeirio rhai o lwybrau’r goedwig dros dro i ymwelwyr. Bydd hyn er diogelwch y cyhoedd ac er mwyn lleihau’r risg fod y clefyd yn cael ei drosglwyddo ymhellach.

Meddai Aidan Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig CNC:

“Nid ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, gan ein bod yn gwybod i ba raddau y cânt eu gwerthfawrogi gan bobl leol, ond yn yr achos hwn dyma’r ateb gorau i gwblhau’r gwaith yn ddiogel a heb oedi.
“Byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau fod y gwaith yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl ar bethau, a phan fo’n ddiogel gwneud hynny byddwn yn ailagor rhannau o’r goedwig wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
“Mae clefyd y llarwydd wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigoedd yng Nghymru, a bydd hyn yn amlwg yn arbennig yng Nghoed Moel Famau.
"Mae'n anffodus fod yn rhaid cwympo coed, ond mae hyn yn rhoi cyfle inni ailgynllunio'r goedwig ar gyfer y dyfodol. Pan fydd y gwaith cwympo wedi’i gwblhau, rydym yn bwriadu plannu coed newydd, gan gynnwys cymysgedd o rywogaethau llydanddail brodorol, a fydd yn dechrau’r gwaith o adfywio ardaloedd o goetiroedd brodorol ac amrywiaeth ehangach o gonwydd, a fydd yn helpu'r goedwig i fod yn fwy cadarn er mwyn inni allu parhau i’w mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod."

Tra bydd y gwaith cwympo coed yn mynd rhagddo, mae CNC yn gofyn i bobl beidio â defnyddio llwybrau cerdded sydd wedi cau ac ufuddhau i arwyddion a gwyriadau er eu diogelwch eu hunain. Gallai peidio â gwneud hynny roi ymwelwyr mewn perygl ac achosi oediadau yn y gwaith ac yn y broses o ailagor y goedwig.