Mae’n amser am ychydig o Firi Mes!

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i grwpiau addysg a dysgu fynd allan i’r awyr agored i gasglu mes.
Mae prosiect Miri Mes, a gynhelir bob blwyddyn, yn cynorthwyo CNC i blannu mwy o goed sydd wedi’u tyfu o hadau lleol.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am, a chysylltu â’r amgylchedd naturiol yng Nghymru.
Dywedodd Ffion Hughes, Cynghorydd Arbenigol: Addysg, Dysgu a Sgiliau, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ailblannu coed yn yr ardaloedd lle cawsant eu casglu fel mes yn golygu eu bod yn gweddu’n well i’r amodau lleol ac yn rhoi’r budd mwyaf i’r bywyd gwyllt lleol.
“Mae’r prosiect hefyd yn rhoi cyfle i bobl fynd allan i’r awyr agored a dysgu am ein hamgylchedd naturiol, a helpu i’w warchod ar yr un pryd.
“Unwaith eto, rydym yn ymuno ag ysgolion a grwpiau addysg i ddatblygu gweithgareddau sy’n gallu dysgu unigolion am yr amgylchedd wrth iddynt gasglu mes.”
Gall pob math o grwpiau addysg a dysgu drefnu casglu hadau, er enghraifft ysgolion, Brownis, Sgowtiaid neu Ffermwyr Ifanc.
Gall pobl hefyd ddod yn rhan o’r prosiect trwy gyfrannu mes i’w grwpiau lleol, neu eu gwahodd i gasglu mes ar eu tir.
Ychwanegodd Ffion:
“Mae coed derw yn rhoi cartref i fywyd gwyllt ac yn helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer. Maen nhw hefyd yn helpu i leihau perygl llifogydd ac yn creu llefydd gwych i bobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored.
“Rydym yn gobeithio y bydd llawer o grwpiau yn awyddus i fynd allan, codi arian, a helpu i sicrhau y bydd digonedd o goed derw yng Nghymru yn y dyfodol.”
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym Miri Mes e-bostio
education@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk er mwyn cofrestru eu diddordeb cyn trefnu’r casglu.
Bydd angen mynd â’r mes i un o swyddfeydd penodol CNC erbyn 23 Hydref 2019.
Bydd CNC yn talu hyd at £4.40 y cilogram, yn ddibynnol ar ansawdd y mes.
Byddant yn cael eu hanfon i blanhigfa’r Comisiwn Coedwigaeth yn Swydd Gaer, lle byddant yn tyfu’n goed ifanc cyn i CNC eu hailblannu yng nghoetiroedd a choedwigoedd Cymru.
Mae CNC yn rheoli 126,000 hectar o goetir yng Nghymru ac yn darparu tua 770,000 tunnell o bren i’r diwydiant bob blwyddyn.
Bydd prosiect Miri Mes yn cyfrannu at raglen gyffredinol CNC o blannu tua tair miliwn o goed, sy’n cynnwys 35 rhywogaeth o goed conwydd a llydanddail, yng Nghymru eleni.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac adnoddau addysgiadol, ewch i wefan CNC:
www.cyfoethnaturiol.cymru/mirimes
Gall pobl rannu eu lluniau #MiriMes gyda @NatResWales ar Twitter.